Bu Noswyl y Nadolig yn ddiwrnod arbennig iawn erioed yn Ysbyty Morgannwg a Sir Fynwy ond roedd 24 Rhagfyr 1883 yn anarferol iawn. Hwn oedd Nadolig cyntaf un yr ysbyty newydd yn Heol Casnewydd, Caerdydd, sef Ysbyty Brenhinol Caerdydd heddiw. Daw’r rhestr isod o Adroddiad Blynyddol yr Ysbyty ar gyfer 1883 ac mae’n nodi rhai o’r anrhegion Nadolig a gafwyd gan bobl leol ar gyfer y cleifion.

Toys for children, knitted cuffs, three cases of oranges, crackers, fruits, nuts, biscuits, fancy goods, warm clothing, scrap books, illustrated papers, a pair of shoes, a parcel of Christmas books, handkerchiefs, Christmas letters and basket of fruit. [Detholiad o Adroddiad Blynyddol Rhif 47 Ysbyty a Fferyllfa Morgannwg a Sir Fynwy, t.11 (DHC/50)]
Ym mhob achos, printiwyd enw’r rhoddwr yn yr adroddiad blynyddol achos roedd yr ysbyty’n dibynnu’n gyfan gwbl ar roddion. Roedd nifer y cleifion Noswyl Nadolig yn eithaf isel, sef 46 yn yr ysbyty lle roedd digon o le i 120 ar unrhyw adeg. Byddai polisi o ostwng niferoedd yn ystod y cyfnod hwn erioed er mwyn i gymaint o bobl â phosibl allu mwynhau’r Ŵyl gyda’u teuluoedd ac i leihau’r pwysau ar staff yr ysbyty. Roedd y nifer y Nadolig hwn yn is nag arfer oherwydd er bod yr ysbyty wedi agor ar 20 Medi 1883, roedd gwaith adeiladu yn dal i fynd rhagddo ac yn benodol, roedd y llety staff yn dal heb ei godi. O ganlyniad, am dros dri mis, roedd y staff a’r cleifion gyda’i gilydd mewn blociau dau lawr wedi eu codi fel wardiau. Serch hynny, byddai staff yr ysbyty bob tro yn gwneud ymdrech i sicrhau bod y diwrnod yn un arbennig. Yn ganolbwynt, roedd coeden Nadolig fawr wedi ei haddurno a thwmpath o anrhegion o’i hamgylch. Yn ogystal, roedd y staff nyrsio wedi rhoi addurniadau ar hyd waliau’r wardiau ac ar hyd y grisiau a’r coridorau a oedd yn eu cysylltu.
Ar Noswyl y Nadolig, daeth y cleifion a’r staff at ei gilydd yn Ward Tredegar i gael croeso gan Faer Caerdydd, Mr R Bird, ac aelodau pwyllgor rheoli’r ysbyty. Cafwyd adloniant gan Miss Anita Strina, merch siopwr o Gaerdydd, a ganodd a chanu’r delyn. Cafwyd rhagor o ganeuon gan P Rhys Griffiths, llawfeddyg yr ysbyty a Mr Coleman, ysgrifennydd yr ysbyty. Yna, dan oruchwyliaeth y Matron, Miss Pratt, gwahoddwyd y cleifion i dynnu raffl ar gyfer yr anrhegion o amgylch y goeden. Daeth y noson i ben gyda gair o ddiolch gan y Matron, i bawb a roddodd anrhegion a chyfraniadau tuag at y goeden. Yn ei dro, diolchodd Mr Griffiths yntau i Miss Pratt a’r nyrsys am eu gwaith yn cynnal noson a fu’n achlysur mor arbennig. Drannoeth, ddiwrnod y Nadolig, wedi gwasanaeth boreol gan glerigwr lleol, cafwyd cinio o gig eidion rhost a phwdin eirion, ac eithrio i’r rhai a fu’n ddigon anffodus i orfod cadw at ‘ymborth arbennig’ oherwydd eu triniaeth!
Gan mai hwn fu’r Nadolig cyntaf yn yr adeilad newydd, roedd yn achlysur arbennig iawn er gwaethaf yr anawsterau oherwydd y gwaith adeiladu. Efallai’n wir mai’r angen am ysbyty newydd a mwy fu’r rheswm am symud i’r adeiladau newydd yn fuan ym mis Medi. Fodd bynnag, does dim os y bu’r incwm o £400 y flwyddyn a ddeuai o rentu’r hen adeilad ysbyty i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy o dymor yr hydref 1883 yn ffactor! Fyddai hi ddim yr adeg fwyaf cyfforddus, a byddai pum mis eto erbyn y câi’r adeilad ei gwblhau ym mis Mai 1884, gyda’i wyneb blaen crand ar Glossop Road a thiroedd ar gynllun prif arddwr Arglwydd Bute, Andrew Pettigrew.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg