Davies yr ‘Ocean’: 130 o flynyddoedd ers ymgorfforiad yr Ocean Coal Company Ltd.

Roedd David Davies, y cyfeirir ato’n aml fel y miliwnydd Cymreig cyntaf, yn gyfrifol am ddatblygiad rheilffyrdd yng Nghymru ac ef hefyd oedd y dyn fu’n gyfrifol am greu dociau’r Barri. Law yn llaw â’r mentrau hyn, canfu lwyddiant hefyd fel perchennog gwaith glo, gan ennill y llysenw “Davies the Ocean” yn sgil ei ddatblygu ar yr Ocean Coal Co. Ltd. a ymgorfforwyd 130 o flynyddoedd yn ôl yn Ebrill 1887.

1. DCOMC-30-3-78 David Davies_compressed

David Davies [DCOMC/30/3/78]

Aeth Davies i’r busnes gwaith glo yn y 1860au, gan daro ar wythïen lo yn Ebrill 1886, 15 mis wedi suddo’i bwll cyntaf, Glofa’r Maendy yn Nhon Pentre, y Rhondda. Ym 1867 ffurfiwyd David Davies & Company ac aed ati i suddo pyllau yn y Rhondda am y deng mlynedd nesaf. Llwyddodd Davies i ennill marchnad fyd eang â’i Lo Ager y Cefnfor a pharhaodd llwyddiant ei lofeydd.  Daethpwyd i adnabod yr holl fenter fel yr Ocean Coal Co. Ltd, a ymgorfforwyd ym 1887, gyda Davies yn rheoli cyfran fwyaf y cyfalaf.

2. D1400-2-2-1, Annual return_compressed

Detholiad o ddatganiad blynyddol Park Colliery ar gyfer y flwyddyn 1889 [D1400/2/2/1]

Mae cofnodion yr Ocean Coal Co. Ltd wedi goroesi yn Archifau Morgannwg ac maent wedi eu catalogio’n ddiweddar fel rhan o broject Gwaed Morgannwg a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Mae’r cofnodion yn cwmpasu’r ystod blynyddoedd 1889-1944 a gellir eu defnyddio i roi cipolwg ar y modd y rhedid ochr ariannol y busnes trwy gyfrwng cofnodion megis y cofnodion blynyddol a llyfrau taliadau, ac ochr ymarferol y busnes trwy’r cyfrolau darluniadol yn darlunio adrannau’r ffas lo. Gellir defnyddio cofnodion hefyd i roi cipolwg ar yr amodau gwaith, gyda chofnodion damweiniau ac iawndal yn rhoi cyfrif o lygad y ffynnon o beryglon y diwydiant glo ar sail y cofnodion pyllau glo Ocean Coal serf Maendy, Park, Dare, Western, Eastern, Garw, Lady Windsor, Deep Navigation a’r Avon.

3. D1400-4-2-1, Geological Section_compressed

Trawstoriad daearegol yn dangos y talcen glo yn Park Pits [D1400/4/2/1]

Mae llyfrau talu, a chofnodion damweiniau ac iawndal yn rhoi cipolwg ar fywydau’r rheiny oedd yn gweithio ar y ffas lo, ond hefyd mae dealltwriaeth well i’w chael o’r bobl oedd yn ymwneud â lefelau uwch y diwydiant glo o gyfrol ar freindaliadau a thaliadau fforddfraint a geir yn y casgliad. Breindaliadau a thaliadau fforddfraint oedd y taliadau a wnaed i berchennog y tir lle’r oedd y pwll ar waith gan gwmni’r lofa ac mae’r gyfrol yn rhoi syniad i ni o faint o arian a dderbyniodd unigolion yn syml am gael defnyddio’u tir. Mae cymharu’r gyfrol hon a llyfrau talu a chofnodion damweiniau ac iawndal y glowyr yn tanlinellu’r gwahaniaeth a fodolai’r naill ben a’r llall i’r gyfradd gyflogau.

Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys Rheolau Arbennig a roddwyd i’r Ocean Collieries Coal Co. Ltd. dan Ddeddf Rheoli Glofeydd 1887, sy’n dangos sut oedd y llywodraeth yn deddfu ar y diwydiant glo ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r dogfennau hyn yn dangos y berthynas rhwng glofeydd unigol yr Ocean ac Arolygydd Pyllau Ei Mawrhydi, ac maent hefyd yn dweud rhywbeth wrthym am weithlu’r Ocean Coal. Mae’r dogfennau wedi eu hysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan awgrymu fod cyfran o’r gweithlu yn uniaith Gymraeg. Mae’r ffaith i’r cwmni gyhoeddi’r dogfennau yn ddwyieithog yn dangos eu bod yn deall hyn ac yn awyddus i’r gweithlu cyfan lynu at y rheolau.

4. D1400-4-3-2, Special rules_compressed

Tudalen o’r Rheolau Arbennig cyflwynwyd i Ocean Collieries Coal Co Ltd dan y Ddeddf Rheoli Glofeydd 1887 yn dangos cynnwys dwyieithog [D1400/4/3/2]

Mae cofnodion yr Ocean Coal Co. Ltd. yn adnodd pwysig i weld llwyddiant David Davies fel un o wŷr mawr y diwydiant glo ac fel ffynhonnell sylfaenol i ddeall y diwydiant glo ar ddiwedd y G19 a dechrau’r G20.  Mae cofnodion yr Ocean Coal Co. Ltd., a rhai ei ragflaenydd y David Davies Company, bellach ar gael i’w gweld ar ein catalog, Canfod. Gw. y cyfeiriadau D1400, D1402 a DX316 am fanylion manwl o’r cofnodion sydd ym meddiant yr Archifau.