Y 75ed casgliad a dderbyniwyd yn 2005 oedd papurau Thomas Harry o Batagonia (cyf: D376).
Roedd Thomas Harry yn fab i David Harry o’r Transh, ger Trelales, Pen-y-bont ar Ogwr. Bu’n byw yn Aberpennar am gyfnod byr cyn ymfudo i Batagonia tua 1865.
Sefydlwyd Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ganol y 19eg ganrif. Hwyliodd y 153 o wladychwyr Cymreig i Batagonia ym 1865 ar fwrdd llong y Mimosa. Heddiw mae tua 50,000 o bobl o dras Cymreig ym Mhatagonia, ac mae nifer fach ohonynt yn dal i siarad Cymraeg.
Erbyn 1876 roedd Thomas Harry wedi sefydlu bywyd newydd ym Mhatagonia yn ffermio 200 erw yn nhalaith Chubut. Dim ond un llythyr a geir yn ei gasgliad o bapurau. Yn y llythyr mae’n gofyn am newyddion am ei deulu yng Nghymru. Dywedodd yn ei lythyr at Anne Jenkins, ‘nid wyf wedi clywed gair gan fy nhylwyth ers i mi ddod i’r lle hwn tua 11 mlynedd yn ôl’.
Mae’r llythyr hefyd yn cynnwys manylion bywyd newydd Thomas Harry ym Mhatagonia, lle roedd yn byw yn Nhan y Castell, yn ŵr di-briod, yn berchen ar 30 o wartheg – yr oedd 9 ohonynt yn wartheg godro, 6 cheffyl, a 40 erw o ŷd. Er gwaethaf ei lwyddiant ymddangosiadol, dywed ‘bûm yn byw yma ers pedair blynedd ac nid yw fy llafur wedi dwyn ffrwyth hyd yma…’ gan ychwanegu, ‘Os yw fy mrodyr yn ystyried ymfudo, fy nghyngor i fyddai iddynt beidio â dod…’
Ymddengys fod bywyd yn anodd ym Mhatagonia i’r gwladychwyr Cymreig cynnar hynny. Nid oes gennym ragor o fanylion am Thomas Harry yma yn Archifau Morgannwg; ni wyddem os oedd wedi aros a ffynnu yn ei wlad fabwysiedig neu ddychwelyd i Gymru. Os oes unrhyw un arall yn gwybod ei hanes, hoffem wybod amdano.