Priordy Ewenni – Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

I’r rhai sy’n ymddiddori yn hanes de Cymru, ymweliad na ddylid ei golli yw Priordy Ewenni. Fe’i disgrifiwyd gan Cadw fel yr… enghraifft orau o bensaernïaeth Romanésg Normanaidd yn y rhan hon o Gymru, sefydlwyd eglwys wreiddiol Sant Mihangel gan William de Londres o bosibl ar safle eglwys Geltaidd a gysegrwyd i’r sant Cymreig, Eguenni. Rhoddwyd yr eglwys wedyn gan ei fab, Maurice, ym 1141, i abaty Benedictaidd Sant Pedr, Caerloyw fel … y gellid ffurfio cwfaint o fynachod. Erbyn y 1500au, fodd bynnag, roedd y deuddeg mynach gwreiddiol a’r Prior bellach yn dri a diddymwyd y Priordy maes o law gan Harri VIII ym 1536.

M252

Mae’r ffotograffau a dynnwyd gan Edwin Miles yn negawdau cynnar yr 20ed ganrif yn dangos tair elfen allweddol y priordy. Yn gyntaf, yr em yn y goron, Eglwys y Priordy gyda’i bwâu Normanaidd crynion a’i fowtiau baril gwreiddiol. Mae’r ffotograff yn dangos corff yr eglwys, y bydd ymwelwyr diweddar â’r eglwys yn gwybod nawr ers 2006 fod yno sgrin pulpitum a ddyluniwyd gan Alexander Beleschenko. Y tu hwnt i gorff yr eglwys gellir gweld y Seintwar, gyda’r hyn y credir ei fod yr unig baentiad murlun Romanésg (12fed ganrif) sydd wedi goroesi yng Nghymru. Ar y llaw dde mae Transept y De sy’n orffwysfa i feddrodau William a Maurice de Londres. Paentiwyd y tu mewn gan JMW Turner ym 1797 pan oedd yn amlwg wedi dadfeilio. Ond erbyn hyn ar ôl ei adfer mae’r corff yn parhau i gael ei ddefnyddio fel eglwys y plwyf leol ac mae mannau eraill yng ngofal Cadw.

M254

Mae’r ail lun o Dŵr y Gogledd; dim ond un elfen o gasgliad trawiadol o ddau borthdy, tri thŵr amddiffynnol a chysylltfuriau a oedd yn amgylchynu’r Priordy. Credir bod Ewenni yn rhan o linell amddiffynnol a godwyd gan y Normaniaid i sicrhau eu tiroedd yn ne Cymru, ynghyd â’r cestyll yn Ogwr, Coety a Chastellnewydd (Pen-y-bont ar Ogwr). Mae’r amddiffynfeydd hyd heddiw yn drawiadol, er bod dadansoddiadau diweddar wedi awgrymu y gallent fod wedi bod yn fwy o ddatganiad o bŵer a chyfoeth yn hytrach nag amddiffynfeydd go iawn.

M255

Daw’r trydydd llun o Dŷ Priordy Ewenni.  Yn dilyn ymadawiad y mynachod, prynwyd y priordy a’r ystâd gysylltiedig gan Syr Edward Carne ac, wedi hynny, ei basio drwy briodas i deulu’r Turbervill. Codwyd y tŷ a ddangosir yn y llun gan Richard Turbervill Picton ym 1803 i ddisodli’r tŷ Elisabethaidd a safai ar yr un safle. Mae’n dal i fod yn eiddo i deulu’r Turbervill.

Mae casgliad Miles yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1901 a 1929.  Yn anffodus, mae bron yn amhosib nodi dyddiad ar gyfer y ffotograffau o ystyried mai ychydig iawn o gliwiau a geir ynddynt. Os gall unrhyw un helpu gyda hyn, cysylltwch ag Archifau Morgannwg.

Tynnodd Edwin Miles naw ffotograff o Briordy Ewenni i gyd, ac maent ar gael yn Archifau Morgannwg o dan gyfeirnodau D261/M252 i M261. I’r rhai sy’n dymuno ymchwilio ymhellach i hanes y safle, mae’r Archifau hefyd yn cadw cofnodion Ystâd Ewenni sydd i’w cael dan gyfeirnod DE. Yn ogystal, mae paentiad JMW Turner o Dransept Priordy Ewenni i’w weld yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.

Rydym yn bwriadu cynnwys mwy o ffotograffau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf.  Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein yn y catalog yn http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg