Adeiladwyd y Penarth Railway Hotel ym 1860 ar ‘y ffordd o’r Grange i Fferi Penarth’ (Heol y Fferi yn ddiweddarach), rhwng aberoedd Taf ac Elái. Ei drwyddedai cyntaf oedd Philip Williams a oedd, mor gynnar â 1862, yng nghanol anghydfod cyfreithiol gyda’i denant.

Darlun Mary Traynor o’r Ty Coch
Mewn hysbyseb ym 1868, dwedodd y perchennog ar y pryd, Richard Cook, wrth ymwelwyr ei fod wedi ‘gosod pob cyfleuster yn y gwesty, ac y gellir cael llety ar delerau cymedrol’. Aeth ymlaen i ddisgrifio’r lleoliad fel un ‘mewn llecyn hyfryd ar fryn gyda golygfa hardd o Fôr Hafren a llongau’.
Mewn gwirionedd, mae’n ymddangos bod y dafarn yn denu morwyr a gweithwyr dociau. Oherwydd ei lleoliad amlwg a’i lliw nodedig, cafodd ei hailenwi’n ‘Y Tŷ Coch’. Mae un adroddiad yn awgrymu y newidiwyd yr enw ym 1926. Fodd bynnag, nid yw’n glir a gafodd hyn ei gydnabod yn swyddogol gan fod y lle’n cael ei drwyddedu o hyd fel y Penarth Railway Hotel ym 1972.
Dymchwelwyd y Tŷ Coch tua 2005. Mae ei leoliad bras bellach ar safle bloc fflatiau Watermark.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/4)
- Cofnodion Sesiwn Fach Bwrdeistref Caerdydd, Lys Trwyddedi: llyfr cofnodion, 8 Chwe 1972 (cyf.: PSCBO/27)
- Monmouthshire Merlin, 26 Gorffennaf 1862
- Cardiff & Merthyr Guardian, 17 Hydref 1868
- South Wales Daily News, 17 Tachwedd 1877
- http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_east/3995731.stm
Druan o beth i’w golli, na?