Ym mis Mehefin 1942, bron i dair blynedd ers dechrau’r Ail Ryfel Byd, cyrhaeddodd y newyddion fechgyn Ysgol Gladstone yng Nghaerdydd y byddai sebon yn cael ei ychwanegu at y rhestr o eitemau i’w dogni mewn ysgolion.

Ysgol Stacey Road, 21 Mai 1942, t302 (EC31/2)
Mae’n siŵr bod y rhai yn iard yr ysgol a oedd yn gefnogwyr i fachgen ysgol “eternally scruffy” Richmal Crompton, sef William Brown, a’i fand o “outlaws” neu ‘alltudion’ 11 oed wedi derbyn y newyddion yn llawen. Ychydig a wyddent, fodd bynnag, mai byrhoedlog fyddai’r ddihangfa honno.
Roedd cyrchoedd awyr rheolaidd dros y dinasoedd mawrion wedi cymryd gadael eu hôl, gyda llawer o gartrefi’n cael eu dinistrio a theuluoedd mewn llety dros dro. Mewn ymateb, roedd Lever Brothers, cynhyrchwyr sebon enwog Lifebuoy yn eu ffatri ym Mhort Sunlight, wedi dyfeisio cynllun i ddarparu cymorth ymarferol i deuluoedd yn y dinasoedd a gafodd eu taro’n ddrwg gan y cyrchoedd. Ar ei gost ei hun, dyma’r cwmni yn gosod Unedau Bath Cawod symudol ar fflyd o bump ar hugain o faniau. Roedd pob cerbyd, a adwaenid fel y Lifebuoy Emergency Bath Service, yn cynnwys boeler stêm olew, tanc dŵr, wyth ciwbicl cawod y gellid eu datgymalu a chyflenwad digonol o sebon a thywelion. Roedd tri gofalwr benywaidd yn staffio’r faniau a oedd yn gyfrifol am symud yr offer o safle i safle a goruchwylio’r cawodydd.
Ni phetrusodd yr awdurdod lleol yng Nghaerdydd wrth dderbyn cael cynnig un o’r faniau gyda’r penderfyniad y byddai’n cael ei ddefnyddio, yn bennaf, mewn ysgolion. Fel mae’n digwydd, Ysgol Gladstone oedd un o’r ysgolion cyntaf yng Nghaerdydd i gael ymweliad, pan ymddangosodd y fan, gyda’i logo Lifebuoy, ar iard yr ysgol, Ddydd Mercher 17 Mehefin 1942. Roedd yn dipyn o achlysur gyda’r Maer, Alderman James Hellyer, ac aelodau eraill o’r cyngor hefyd yn bresennol i archwilio’r unedau cawod newydd.
Ar gyfer darpar ‘alltudion’ dim ond un ffordd o ddianc oedd. Roedd yn rhaid sicrhau cymeradwyaeth rhieni ar gyfer cawod a rhoddwyd blaenoriaeth i’r rhai nad oedd ag ystafell ymolchi ganddynt gartref. Fodd bynnag, mae’r cofnodion yn dangos bod 126 o fechgyn wedi cael cawod y prynhawn hwnnw o dan oruchwyliaeth nyrs yr ysgol a staff Lever Brothers. I rai, dyma fyddai’r tro cyntaf iddynt weld cawod, yn hytrach na bath traddodiadol, a disgrifiwyd y ciwbiclau a osodwyd ar iard yr ysgol fel cael “bath yn y glaw”.
Dros y misoedd nesaf, byddai’r fan Lifebuoy yn dod yn olygfa gyfarwydd ar fuarthau ysgol ar draws y ddinas gan ddarparu gwasanaeth yr oedd mawr ei angen ar blant ysgol Caerdydd.

Ysgol Ninian Park, 19 Mehefin 1942, t283 (EC42/3/2)

Ysgol Babanod Splott Road, 26 Mehefin 1942, t340 (EC30/1)
Gallwch ddarllen mwy am ymweliad y “bath yn y glaw” ag Ysgol Gladstone yn y Western Mail & South Wales News, Dydd Iau 18 Mehefin 1942, t4.
Dyma un o gyfres fer o erthyglau ar Gaerdydd ym mlynyddoedd y rhyfel yn tynnu ar rai o’r cofnodion a gafodd eu cadw gan Brifathrawon ar y pryd. Am fanylion y llyfrau log ysgol sydd ar gof a chadw ar gyfer 1939-45 cysylltwch ag Archifau Morgannwg www.archifaumorgannwg.gov.uk
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg