Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.
Toriadau papur newydd
Mae cyfrolau sy’n cynnwys toriadau papur newydd yn ffordd ragorol o gael cipolwg ar fywyd yn y maes glo. Er bod llawer o ddeunydd papurau newydd nawr ar gael ar-lein, mantais y mathau hyn o gyfrolau yw eu bod yn dwyn deunyddiau ar yr un thema ynghyd – arf defnyddiol i unrhyw ymchwilydd!
Mae un gyfrol benodol yng nghasgliad y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn ymwneud â’r ddarpariaeth ar gyfer lles cymdeithasol, gan gynnwys agor sefydliadau gweithwyr a baddonau pen pwll, grantiau ar gyfer cynlluniau lles, a gweithgareddau hamdden. Gan ddyddio o 1926-1934, gellir defnyddio’r gyfrol hon i roi ymdeimlad o’r gweithgareddau lles a oedd yn mynd rhagddynt ar y pryd.

Cyfrol toriadau papur newydd yn cynnwys toriadau yn ymwneud â lles yn y diwydiant glo (DNCB/15/6/17)
Mae un deg pedwar o’r cyfrolau toriadau papur newydd yn y casgliad yn ymwneud â streiciau ac atal gwaith, yn bennaf Terfysgoedd Tonypandy ym 1910-1911.

Cyfrolau toriadau papur newydd yn cynnwys toriadau yn ymwneud â therfysgoedd Tonypandy (DNCB/15/6/6)
Law yn llaw â thoriadau papur newydd, mae crynodebau’r wasg hefyd i’w cael yn y casgliad. Mae’r rhain yn cynnig barn letach o ran cynrychioli’r diwydiant glo yn y cyfryngau, ac yn gyffredinol mae a wnelon nhw â’r cyfnodau 1943-1958 a 1988-1991. O fewn casgliad y Bwrdd Glo Cenedlaethol ceir hefyd set o doriadau papur newydd lleol a chenedlaethol a datganiadau i’r wasg yn ymwneud â thrychineb Aberfan.

Tudalen flaen y Sunday Citizen, un o’r toriadau papur newydd yng nghasgliad y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn ymwneud â thrychineb Aberfan (DNCB/4/1/12/1)