New Baltic House, Caerdydd, yn cael ei adeiladu

Datblygwyd y New Baltic House, bloc swyddfa chwe llawr sydd hefyd wedi cael ei adnabod fel ‘Plas Glyndŵr’, ar ddiwedd y 1980au gan y grŵp buddsoddi mewn eiddo, Helical Bar. 

D1093-1-5 p33

Mae’n sefyll ar safle a feddiannwyd cyn hynny gan fusnes garej E R Forse – a hyd yn oed yn cyn hynny, gan Gamlas Morgannwg.  Tenant cyntaf yr adeilad oedd Banc Cymru, sef cartref ei brif swyddfa yma o 1989 tan 2001.  Wedi hynny, daeth yn bencadlys Awdurdod Datblygu Cymru.   Yn 2006, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Awdurdod i Lywodraeth Cynulliad Cymru, a arhosodd ym Mhlas Glyndŵr tan 2011.

Yn 2014, adroddwyd bod y buddiant rhydd-ddaliadol yn New Baltic House wedi’i gaffael gan gwmni Ardstone Capital.  Adnewyddwyd yr adeilad ganddynt hwy, a’i ailenwi yn ‘2 Ffordd y Brenin’.

Yn wreiddiol, roedd yr adeilad yn cynnwys cyfleusterau cyhoeddus ar y lefel islawr.  Aed i mewn iddynt ar hyd ramp a grisiau yn arwain at isffordd i gerddwyr (y gamlas gynt) o dan Ffordd y Brenin.  Fodd bynnag, caewyd y toiledau sawl blwyddyn yn ôl.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Nazareth House, Caerdydd

Wedi’i sefydlu yn 1861 i ofalu am yr henoed tlawd ac ar gyfer plant amddifad ac anghenus, mae’r Chwiorydd Nazareth yn urdd o leianod Catholig Rhufeinig.  Wedi eu lleoli ar hyd a lled y byd Saesneg ei iaith, enwir eu hadeiladau fel rheol yn ‘Nazareth House’.  Cyrhaeddodd yr urdd Gaerdydd tua 1870, a’i leoli i ddechrau yn 36 Stryd Tyndall.  Yn fuan, fodd bynnag, cynigiodd trydydd Ardalydd Bute safle iddynt ar Heol y Gogledd, yn ogystal â chyfraniad tuag at gostau adeiladu.

D1093-1-2 p27

Yn 1874, rhoddwyd caniatâd i godi cwfaint newydd.  Fe’i dyluniwyd gan John Prichard, Pensaer Esgobaethol Llandaf, ac roedd yn cynnig darpariaeth ar wahân (ystafelloedd eistedd ac ystafelloedd cysgu) ar gyfer merched, bechgyn, hen fenywod a hen ddynion, yn ogystal â llety ar gyfer y chwiorydd.  Yn ymarferol, ymddengys mai lletya merched yn unig a wnaeth y cartref plant yn ystod y rhan fwyaf o’i hanes.

Mae’r ffurflen cyfrifiad 1901 ar gyfer Nazareth House yn rhestru’r Uwch-Fam a’r 16 chwaer cynorthwyol, ynghyd â 196 o fenywod a 16 o ddynion.  Roedd yr 16 dyn rhwng 54 a 95 oed, gyda’r rhan fwyaf yn eu 60au neu 70au.   Roedd oedrannau’r menywod yn amrywio o 2 i 85.  Roedd dros 160 o’r rhain o dan 20 oed, a’r rhan fwyaf o’r gweddill dros 60.

Ehangwyd Nazareth House yn aml i letya niferoedd mwy ac estyniad o 1907 sydd i’w weld ym mraslun Mary Traynor.  Fe’i cynlluniwyd gan Edwin Wortley Montague Corbett, a chan redeg yn gyfochrog â Heol y Gogledd, fe’i hadeiladwyd fel ysgol, gydag ystafelloedd dosbarth ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf yn ogystal â rhagor o ystafelloedd cysgu ar yr ail lawr.  Gan fod Ffermdy Blackweir (Y Gored Ddu) yn ymddangos yn y blaendir, roedd yr artist yn amlwg yn edrych draw o Barc Bute ar ochr arall Heol y Gogledd.

Gyda’r galw’n lleihau o’r 1950au ymlaen, lleihaodd Nazareth House ei darpariaeth i blant ond mae’n parhau i ddarparu gofal preswyl i’r henoed.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

 

Lightship 2000 (Helwick), Cei Britannia, Bae Caerdydd

Lansiwyd Goleulong Trinity House 14 (LV14) ar 22 Medi 1953.  Gan bwyso 550 tunnell a chyda hyd cyffredinol o 137 troedfedd, roedd angen criw o 11 ar y llong gyda saith ar ei bwrdd ar unrhyw un adeg.  Yn ystod y degawdau dilynol, bu’n gwasanaethu mewn nifer o orsafoedd gwahanol ar hyd dyfroedd arfordirol y DG, y tro diwethaf ar fanc tywod Helwick Bank, tua chwe milltir i’r de-orllewin o Rosili ar Benrhyn Gŵyr.

D1093-1-6 p28

Wedi’i datgomisiynu yn 1991, prynwyd yr oleulong wedyn gan elusen a, gyda chymorth Corfforaeth Ddatblygu Bae Caerdydd, cafodd ei hadfer i greu Canolfan Gristnogol arnofiol yn hen fasn Doc y Rhath.  Fe’i bedyddiwyd yn ‘Goleulong (neu Lightship) 2000 ‘, a daeth yn ganolfan i gaplaniaid Bae Caerdydd, yn ogystal â gweithredu caffi gali a darparu ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd neu fyfyrdod tawel.

Yn 2013, tynnwyd cyllid gan eglwysi lleol yn ôl a chaeodd y ganolfan.  Maes o law fe werthwyd y llong a’i thywys i Newnham, ar Aber Afon Hafren yn swydd Gaerloyw, yn y gobaith o’i sefydlu fel amgueddfa arnofiol.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Dros Donnau Amser: Datgelu Hanes Bae Caerdydd

Mae’r prosiect catalogio presennol ‘Dros Donnau Amser: Datgelu Hanes Bae Caerdydd’ wedi’i wneud yn bosibl drwy grant gan y rhaglen ‘Datgelu Archifau’, a ariennir gan yr Archifau Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Pilgrim, a Sefydliad Wolfson. Nod y prosiect yw sicrhau bod cofnodion Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (CBDC) ac Associated British Ports (ABP) De Cymru ar gael. Mae catalogio cofnodion CBDC bellach wedi’i gwblhau ac mae’r catalog ar gael i’w weld yn http://calmview.cardiff.gov.uk/ dan y cyfeirnod DCBDC. Yn yr erthygl hon mae’r Archifydd Prosiect, Katie Finn, yn trafod y casgliad a’r hyn sydd i’w ganfod ynddo.

Roedd gwaith CBDC yn rhan aruthrol o ailddatblygu Caerdydd i’r ddinas rydym yn gyfarwydd â hi heddiw. Sefydlwyd y Gorfforaeth ar 3 Ebrill 1987 gan Orchymyn Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (Ardal a Chyfansoddiad) 1987.  Dynodwyd arwynebedd o dros 1000 hectar yn Ne Caerdydd a Phenarth i’w ddatblygu i annog buddsoddiad preifat yn yr ardal.  Ystyriwyd bod yr ardaloedd a gwmpesid gan y gorchymyn yn ardaloedd o bydredd trefol a than-gyflogaeth, a welwyd fel problemau cynyddol ledled y Deyrnas Gyfunol.  Sefydlwyd Corfforaethau Datblygu Trefol mewn amryw o drefi a dinasoedd gan Lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher i wella’r ardaloedd hyn. Eu nod, fel yng Nghaerdydd, oedd defnyddio pwerau cynllunio a phrynu gorfodol pellgyrhaeddol i ailddatblygu ardaloedd adfeiliedig trefol. Roedd ardaloedd eraill y CDT yn cynnwys Docklands Llundain, Bryste, Glannau Mersi, a Teesside. Gan fod y corfforaethau’n gyrff anllywodraethol, roedd ganddynt fyrddau a oedd yn cynnwys aelodau o fyd diwydiant preifat. Roedd hyn yn cynnwys Syr Geoffrey Inkin, Cadeirydd CBDC.

DCBDC-12-1-085

Bae Caerdydd cyn creu’r Morglawdd ac ailddatblygu (DCBDC/12/1/85)

Roedd gan CBDC gylch gwaith eang i ddatblygu hen ardaloedd diwydiannol Caerdydd. Ymhlith y prosiectau allweddol roedd creu bae mewndirol drwy adeiladu morglawdd; cysylltu canol y ddinas â’r glannau; creu swyddi i bobl leol; a chreu ardal ddeniadol i bobl weithio, byw a chymdeithasu. Nod Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd oedd rheoli’r gwaith o ailddatblygu’r ardal er mwyn sicrhau ei bod o ansawdd uchel ac o safon gyffredinol ledled y bae ac mewn datblygiadau masnachol a datblygiadau tai. O’r herwydd, mae casgliad mawr o gofnodion a phapurau pwyllgor yng nghofnodion CBDC. Sefydlwyd nifer o bwyllgorau i wneud penderfyniadau a chynghori ar wahanol agweddau ar eu gwaith.  Roedd y pwyllgorau hyn yn amrywio o’r Bwrdd, y Tîm Rheolwyr, y Grŵp Arfarnu Prosiectau a Chyfarwyddwyr a drafodai yr holl brosiectau, polisïau ac adroddiadau, i’r Grŵp Cyswllt Staff, y Grŵp Arfarnu Grantiau a’r Pwyllgor Cynllunio, oedd â’u cylch gwaith yn gyfyngedig. Mae’r papurau hyn yn cynnwys pob penderfyniad gyda manylion y trafodaethau.  Maent hefyd yn darparu gwybodaeth am bob prosiect a ariannwyd gan y Gorfforaeth, yn fawr neu’n fach.

DCBDC-1-2

Rhai o bapurau cyfarfodydd Bwrdd CBDC (DCBDC/1/2)

Mae’r amrywiaeth eang o bwyllgorau yn adlewyrchu dibyniaeth y sefydliad ar ymgynghorwyr.  Fe wnaethon nhw gynghori ar bob agwedd ar waith CBDC. Roedd hyn yn cynnwys creu briffiau datblygu i roi arweiniad i fuddsoddwyr a chontractwyr ar safonau dylunio trefol ac estheteg datblygiadau. Cynhaliwyd astudiaethau gwyddonol hefyd ar lefelau dŵr daear, samplau tir a phridd halog o ardaloedd datblygu arfaethedig. Yn ogystal, cyflogodd y Gorfforaeth ymgynghorwyr i brisio tir ac eiddo i roi ffigyrau iawndal ar gyfer y gorchmynion prynu gorfodol a chwynion. Mae adroddiadau’r ymgynghorwyr hefyd yn cynnig gwybodaeth werthfawr am bobl a demograffeg ardal Bae Caerdydd. Y rheswm dros hyn yw ymchwil marchnad a gynhaliwyd i lywio penderfyniadau marchnata a datblygu. Yn ogystal, comisiynodd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd adroddiadau ar y cymunedau ym Mae Caerdydd i ddeall a gwella cysylltiadau cymunedol.  Cynhyrchodd yr ymgynghorwyr hefyd amrywiaeth o gynlluniau yn dangos ardal ddatblygu Bae Caerdydd, cynlluniau tirlunio, a chynlluniau manwl o brosiectau gan gynnwys Morglawdd Bae Caerdydd.

DCBDC-11-21

Un o’r eitemau mwyaf y daeth Katie ar ei draws wrth gatalogio’r casgliad – swmp o gynlluniau a gyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin (DCBDC/11/21)

Nid fu mater ailddatblygu Bae Caerdydd heb rywfaint o ddadlau. Ni chafodd un o’r prosiectau amlycaf, Morglawdd Bae Caerdydd, gefnogaeth gyffredinol.  Mae cyfres Mesur Morglawdd Bae Caerdydd ac Adroddiadau’r Morglawdd yn cynnwys tystiolaeth o’r problemau yn ymwneud â’r morglawdd, ynghyd â’r ymdrechion lluosog i basio Mesur y Morglawdd drwy’r Senedd. Mae’n cynnwys adroddiadau ar faterion amgylcheddol gan gynnwys yr effeithiau ar adar y glannau a lefelau dŵr daear.  Dadl arall yr eir i’r afael â hi yn y casgliad yw gwrthod cynllun buddugol Zaha Hadid ar gyfer Tŷ Opera Bae Caerdydd.  Ceir cyfres hefyd ar ymwneud CDBC ag adeilad y Gyfnewidfa, Sgwâr Mount Stuart, a’r awgrymiadau ailddatblygu.

Yn ogystal â’r gwaith adeiladu ac ailddatblygu a wnaed gan Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, hyrwyddodd y sefydliad Fae Caerdydd hefyd fel ardal i ymlacio a chymdeithasu. Roedd y tîm marchnata yn ymwneud yn helaeth â’r gwaith hwn ac mae eu papurau hwy’n cynnwys gwybodaeth gefndir am amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Regatta, Pencampwriaeth Cychod Modur Cyflym, a chyfraniad CBDC i Ŵyl Arddio Cymru. Yn ogystal â hyn, mae’r casgliad ffotograffig yn cynnwys amrywiaeth o ddelweddau sy’n amlygu digwyddiadau a gynhaliwyd yn y Bae. Gellir gweld ffotograffau o berfformwyr stryd, mynychwyr a Charnifal Butetown ochr yn ochr â ffotograffau o’r awyr a ffotograffau o waith adeiladu.

P’un a yw datblygiad Bae Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos yn cael ei ystyried yn llwyddiant neu’n fethiant yn y pen draw, ni ellir diystyru’r effaith enfawr a wnaed ar Gaerdydd gan Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd.  Mae’r casgliad hwn yn cynnwys gwybodaeth am bob agwedd ar ailddatblygu Bae Caerdydd drwy sbectol Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, yn ogystal â darparu gwybodaeth am amrywiaeth o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol a oedd yn effeithio ar Gaerdydd ar y pryd.

Nid yw’r prosiect Dros Donnau Amser wedi’i orffen eto.  Mae Katie bellach wedi symud ymlaen i fynd i’r afael â chofnodion ABP.  Bydd gwaith hefyd yn parhau ar gasgliad CBDC wrth i’n Hyfforddai Rasheed fwrw ymlaen â’r gwaith o ddigideiddio’r casgliad ffotograffig fel y gellir sicrhau bod y delweddau ar gael ar-lein.

Katie Finn, Archifydd Prosiect Datgelu Archifau

Baddonau Cilgant Guildford, Caerdydd

Yn ystod blynyddoedd canol y 19eg ganrif gwelwyd gwell dealltwriaeth o fanteision hylendid personol da o ran iechyd.   Rhoddodd Deddf Baddonau a Thai Ymolchi Cyhoeddus 1846 y grym i awdurdodau lleol godi arian drwy gyfrwng arrethi i adeiladu baddonau cyhoeddus.  Fodd bynnag, roedd cynghorwyr Caerdydd yn gyndyn o weithredu’r swyddogaeth hon a bu’n rhaid i griw o unigolion preifat cyhoeddus fynd â materion yn eu blaenau yn y dref.  Wedi dweud hynny, un o’r prif ysgogwyr – a phensaer yr adeilad – oedd Syrfëwr y Cyngor ei hun, sef Thomas Waring.

Yn 1861, cyhoeddodd y Cardiff Baths Company Limited ei fwriad i adeiladu baddonau cyhoeddus ar ddarn o dir gwag ar waelod Stryd Edward, rhwng arglawdd Rheilffordd Dyffryn Taf a’r gamlas a oedd yn bwydo Doc Bute.  Disgrifiodd adroddiad papur newydd y cynnig ar y pryd fel un a oedd yn cynnwys pyllau nofio dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth, ystafelloedd gwisgo a cyfleusterau eraill, Baddon Twrcaidd, a baddonau poeth a chawodydd dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth hefyd.

D1093-1-2 p30

Agorwyd yr hyn a adnabuwyd yn ddiweddarach fel Baddondai Cilgant Guildford ar 22 Ebrill 1862.  Roedd y tâl mynediad yn chwe cheiniog ar gyfer y pwll dosbarth cyntaf a thri cheiniog (wedi’i ostwng i ddwy geiniog ar ddydd Sadwrn) ar gyfer pwll yr ail ddosbarth.  Roedd y Baddon Twrcaidd yn costio dau swllt.  Fodd bynnag, cynigiwyd cymhellion i gyflogwyr, a allai brynu tocynnau mewn swmp, ar gyfradd ostyngol, i’w dosbarthu i’w gweithwyr.

Roedd cyfranddalwyr y Cwmni Baddonau wedi gweithredu allan o ymdeimlad o ysbryd cyhoeddus, felly nid oeddent yn ceisio gwneud elw, ond daeth yn amlwg bod y Baddonau yn cael trafferth i glirio eu costau.  Yn unol â hynny, gofynnwyd i’r Cyngor Bwrdeistref ystyried ymgymryd â’r cyfleuster.   Cafodd ymgais cyntaf y cwmni, yn 1871, ei wrthod.  Ym mis Chwefror 1873, fodd bynnag, derbyniodd y Cyngor gynnig y cwmni i werthu’r safle am £2,200.

Er y gallai agor pwll nofio’r Wales Empire Pool yn 1958 fod wedi cael ei weld fel diwedd y gân i Gilgant Guildford, arhosodd y lle ar agor tan 1984.   Dymchwelwyd yr adeilad wedi hynny ac erbyn hyn mae’r safle wedi ei feddiannu gan Westy’r Ibis.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: