
Sefydlwyd Cyngor Sir Morgannwg o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888 gan ysgwyddo ei gyfrifoldebau llawn ar 1 Ebrill 1889. I ddechrau, roedd y Cyngor yn ymgymryd ag ystod gyfyngedig o swyddogaethau gweinyddol a ysgwyddwyd cyn hynny gan Ynadon Heddwch. Fe wnaeth y cyngor hefyd etifeddu staff a swyddfa’r Ynadon. Daeth y Clerc Heddwch, Thomas Mansel Franklen, yn Glerc y Cyngor Sir, yr arhosodd ei bencadlys yn Swyddfeydd y Sir, Heol y Porth, Caerdydd – er bod nifer o adrannau wedi’u lleoli yn rhywle arall. Er y gellid cynnal rhai cyfarfodydd pwyllgor yn Swyddfeydd y Sir, nid oedd yr adeilad yn ddigon mawr ar gyfer cyfarfodydd chwarterol y cyngor llawn ac, am dros ugain mlynedd, cynhaliwyd y rhain am yn ail rhwng Neuadd Gwyn, Castell-nedd a Neuadd y Dref, Pontypridd.
Gyda threigl amser, a thwf mewn swyddogaethau a staff, dechreuodd y cyngor gydnabod yr angen am swyddfeydd canolog mwy addas, ynghyd â siambr barhaol ar gyfer ei gyfarfodydd ei hun. Sefydlwyd Pwyllgor ganddynt yn gyntaf i archwilio opsiynau yn 1896 ond aeth dros ddegawd heibio cyn i’r Cyngor ddod i benderfyniad terfynol.
Roedd y penderfyniad a benododd bwyllgor 1896 yn pennu y dylai’r safle a ddewisid fod o fewn terfynau’r sir weinyddol. Roedd hyn i bob pwrpas yn eithrio Caerdydd gan ei bod, fel Bwrdeistref Sirol, y tu allan i awdurdodaeth y Cyngor Sir. Ystyriwyd safleoedd yn Nhrelái a Llandaf (nid oedd yr un ohonynt yn dod o fewn ffiniau Caerdydd ar y pryd), Pen-y-bont ar Ogwr, Llansawel, Castell-nedd, Pontypridd, a Phort Talbot. Fodd bynnag, derbyniodd y Cyngor Sir gynrychiolaethau hefyd gan Gorfforaeth Caerdydd a oedd yn ‘awyddus i’r swyddfeydd hyn gael eu lleoli ym Mwrdeistref Sirol Caerdydd lle y cynhaliwyd gwaith Sir Forgannwg ers blynyddoedd lawer’. Roedd y Gorfforaeth yn y broses o brynu Parc Cathays oddi wrth Ardalydd Bute a chynigiodd drafod darparu safle ar gyfer swyddfeydd sirol o fewn y Parc.
Roedd y Pwyllgor yn amlwg yn ffafrio Pontypridd, lle y gellid cael safle gan Ymddiriedolwyr Arglwyddes Llanofer yn yr hyn sydd bellach yn Barc Ynysangharad. Fodd bynnag, gwrthwynebwyd hyn gan fwyafrif bychan o aelodau’r cyngor. Ymddengys wedyn fod yr holl fater wedi’i roi o’r neilltu, gan godi o bryd i’w gilydd yng nghyfarfodydd y cyngor ond heb ddod i unrhyw gasgliad o bwys.
Yn 1903, penodwyd pwyllgor newydd i ystyried anghenion llety’r cyngor. Daeth y canfyddiad o addasrwydd Pontypridd i’r amlwg unwaith eto pan wnaethpwyd ymdrech i gyfyngu ystyriaeth y Pwyllgor i safleoedd yn y dref honno, ond gwrthodwyd hynny. Yn hytrach, penderfynwyd gohirio lleoli swyddfeydd y sir hyd nes bod adroddiad y pwyllgor wedi dod i law
Fel y digwyddodd, argymhellodd y pwyllgor y dylai’r Cyngor Sir benderfynu rhwng safle Llanofer ym Mhontypridd (os gellid cael telerau boddhaol), a safle un erw ym Mharc Cathays, yr oedd Corfforaeth Caerdydd yn barod i’w werthu am £3,000. Ystyriodd y Cyngor Sir adroddiad y pwyllgor ar 25 Ebrill 1907 a phenderfynwyd bwrw ymlaen â’r safle yng Nghaerdydd. Nid yw’n syndod i hyn ddigio Cyngor Dosbarth Trefol Pontypridd, a benderfynodd drefnu cynhadledd o Gynghorau Dosbarth Trefol a Gwledig Morgannwg a Bwrdeistrefi nad oeddent yn rhai sirol, er mwyn protestio yn erbyn codi’r swyddfeydd y tu allan i’r sir weinyddol. Ond mae’n amlwg mai ofer y bu hynny.
Denodd cystadleuaeth ddylunio 190 o geisiadau ac, ym mis Rhagfyr 1908, cyhoeddwyd mai’r enillwyr oedd Vincent Harris a Thomas Anderson Moodie o Lundain. Ar 30 Hydref 1909, dyfarnwyd y contract adeiladu i Turner & Sons o Gaerdydd.
Cynhaliodd y Cyngor Sir ei gyfarfod cyntaf yn siambr newydd y cyngor ar 14 Mawrth 1912. Nododd yr aelodau ei nodweddion acwstig diffygiol. Tynnont sylw hefyd at absenoldeb arwyddluniau Cymreig yn yr adeilad a gofynnwyd i’r ddau fater gael eu cywiro. Roedd ei Fawrhydi’r Brenin Siôr V i fod i ymweld â Chaerdydd cyn hir ac roedd y Cyngor wedi gobeithio y byddai’n agor yr adeilad. Ond ymddengys na fu hyn yn bosibl. Yn hytrach, mae cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir ar 19 Medi 1912 yn cofnodi’n gryno i’r ‘Cadeirydd ddatgan yn ffurfiol bod y Neuadd ar agor ac yna iddo gymryd y Gadair’.
Gyda chynnydd pellach yn swyddogaethau awdurdodau lleol, roedd angen mwy o le ac agorwyd estyniad, a ddyluniwyd gan Ivor Jones a Percy Thomas, ymn 1932; Nid yw hyn yn ymddangos ym mraslun Mary Traynor. Arweiniodd yr ad-drefnu ar lywodraeth leol ym 19734 at weld Neuadd y Sir yn cael ei hetifeddu gan Gynor Sir Morgannwg Ganol – gan barhau â’r drefn afreolaidd o bencadlys cyngor y tu allan i ardal ei awdurdodaeth. Ond, wedi ail-strwythuro pellach yn 1996 nid oedd angen yr adeilad mwyach o ran gofynion yr awdurdodau unedol newydd. Caffaelwyd Neuadd y Sir gan Brifysgol Caerdydd, a’i ail-enwi yn Adeilad Morgannwg.
O 1939, bu Neuadd y Sir yn gartref i Archifdy Morgannwg, a arhosodd yno – hyd yn oed ar ôl iddo ddod i ddwylo’r brifysgol – nes i adeilad newydd Archifau Morgannwg, yn Lecwydd, agor yn 2010.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/6)
- Cyngor Sir Morgannwg, cofnodion cyngor a phwyllgorau (cyf.: GC/CC/1/1-23)
- Cyngor Sir Morgannwg, ffeiliau am ystyried safleoedd ar gyfer Neuadd y Sir (cyf.: GD/C/BU/3-4)
- Cyngor Dosbarth Trefol Pontypridd, cofnodion (cyf.: UDPP/C/1/18)
- Matthews, John Hobson (Ed): Records of the County Borough of Cardiff, Vol V, t 236
- Jiwbilî y Cynghorau Sir 1889-1939 – Morgannwg (cyf.: lib/R/25)
- South Wales Daily News, 29 Mai 1896
- Evening Express, 14 Medi, 16 Hydref ac 17 Rhagfyr 1896
- Weekly Mail, 6 Mawrth 1897
- Evening Express, 18 Tach 1903
- Evening Express, 19 Mehefin 1907
- https://en.wikipedia.org/wiki/Glamorgan_Building