Yn y 1990au daeth datblygiad o bwysigrwydd rhyngwladol sy’n parhau hyd at heddiw. Dechreuodd ym 1984 sylwodd Mr Iorwerth Rees, un o wirfoddolwyr pybyr cynnar yr Archifau, ar gofnod bedydd mewn cofrestr blwyf yn Nhon-du yn enw Alice Jane (10 mlwydd oed) a Sarah Ann (8 mlwydd oed) merched George Floyd, ffitiwr peiriannau. Cyfeiriad George Floyd oedd Husoffka, Rwsia. Yn ymweld â Thon-du ar hyn o bryd.
Y cofnod hwn oedd dechrau ymrwymiad i olrhain a hyrwyddo’r cysylltiad Cymreig â’r ddinas ddiwylliannol hon, bellach Donetsk yn nwyrain yn yr Wcráin. Cafodd John Hughes, dyfeisiwr ac entrepreneur o Ferthyr Tudful yn wreiddiol, ei wahodd gan lywodraeth Rwsia i ddatblygu dulliau cynhyrchu haearn yn y Donbas.
Prynodd dir ac ym 1869 sefydlodd gwmni o’r enw The New Russia, Novorossuskoe Obshchestvo, i gloddio glo a mwyn haearn, a chynhyrchu rheiliau, rhannau o bontydd, llongau, arfau, a beth bynnag arall oedd ei angen. Aeth ati i recriwtio gweithwyr o drefi haearn de Cymru a, gyda’i feibion, adeiladodd anheddiad diwydiannol ar y steppe gwag.
Roedd y busnes yn llwyddiannus, yn dilyn ychydig o anawsterau ar y dechrau, a bu yn nwylo’r teulu tan y Chwyldro ym 1917. Er bod y gwaith yn denu gweithwyr o bob rhan o Ymerodraeth Rwsia roedd yno griw o gyflogeion Prydeinig drwy gydol yr adeg, gan gynnwys llawer o Gymru.
Mae ffotograffau a phapurau’r teulu wedi’u cyflwyno gan ddisgynyddion John Hughes a’i weithwyr Prydeinig i Archif Ymchwil Hughesovka yn Archifau Morgannwg. Mae’r archif yn cynnwys copïau o ddeunydd cysylltiedig a gedwir mewn mannau eraill, sy’n esbonio’r teitl, ac yn eu plith mae rhai eitemau o Archif Ranbarthol Donetsk, ac Archif Gwladwriaeth Rwsia yn St Petersburg a gasglwyd ar deithiau ymchwil yn y 1990s yn sgil y gwaith cyfnewid academaidd a anogwyd yn y cyfnod ôl-gomiwnyddol. Teithiais i Donetsk ddwywaith. Roedd yr ymweliad cyntaf ym 1990, dan nawdd Y Cyngor Prydeinig, yng nghwmni disgynyddion John Hughes a rhai o’i weithwyr Prydeinig. Roedd hon yn daith fythgofiadwy, gan i ni gyrraedd yno yn union yn yr un modd â’n rhagflaenwyr, yn y brif orsaf reilffordd yn Donetsk dim ond i gerdded i freichiau’r Athro Gwyn Alf Williams a’i griw oedd yn ffilmio dwy raglen am stori Hughesovka. Dychwelais gyda grŵp llai yn 1992 fel buddiolwr Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill, yn teithio rhan o’r ffordd gyda’r daith efeillio olaf o Gaerdydd i Luhansk, hefyd yn yr Wcráin, tua 128 km i’r dwyrain.
Roeddwn yn cludo arddangosfa, a luniwyd gydag Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, a fu ar daith yn ne Cymru ac a oedd nawr yn cael ei chyflwyno i’r Amgueddfa yn Donetsk. Roedd y byrddau yn fwy na mi ond roeddent wedi’u pacio’n gelfydd gan ein gwarchodwr gan gyrraedd yn gyflawn yn dilyn taith ar fws, awyren, tacsi a thrên. Pan aeth fy ngrŵp adref arhosais yn St Petersburg i wneud gwaith ymchwil i ohebiaeth Hughes yn yr Archifau ac Amgueddfa, gan letya gyda theulu lleol, ac ategu fy ngwybodaeth sylfaenol o Rwsieg gyda Ffrangeg Lefel O go rydlyd. Roedd y cofnodion yn Saesneg.
Mae llyfryn darluniadol ar stori’r Cymry yn yr Wcrain dal ar gael ac mae’r catalog o’r casgliad ar gael ar ein gwefan. Dros y blynyddoedd bu llawer o gyfnodau o gydweithio i fanteisio ar y casgliad a’i hyrwyddo. Ar hyn o bryd rydym yn cynorthwyo Amgueddfa Donetsk gyda chopïau digidol o rai o’r delweddau ffotograffig i adfer rhan o’u casgliad a gafodd ei difrodi gan ffrwydron yn ystod y gwrthdaro milwrol sy’n mynd rhagddo yn y rhanbarth.
Susan Edwards, Archifydd Morgannwg