Y Ferch o Gefn Ydfa: Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae’r ffotograffau a ddewiswyd yr wythnos hon o gasgliad Edwin Miles yn cynnwys Eglwys Blwyf Llangynwyd, ychydig i’r de o Faesteg, y credir ei fod yn dyddio o’r 6ed ganrif. Tynnodd Edwin Miles ffotograffau o sawl eglwys ledled Morgannwg.  Ond mae’n debyg fod ganddo reswm arbennig dros dynnu’r pedwar llun o Langynwyd oherwydd, yn anarferol, fe ychwanegodd brint o baentiad o “Y Ferch o Gefn Ydfa”.

M301

Bydd y rhai sy’n gwybod eu hanes lleol yn gyfarwydd â stori’r “Ferch”. Roedd Ann Thomas mewn cariad â’r töwr a bardd Wil Hopcyn. Yn anffodus roedd ei theulu eisoes wedi cytuno y byddai’n priodi Anthony Maddox, mab i deulu lleol, ac ni chafodd Ann yr hawl i gyfarfod na chysylltu â Wil.  Yn groes i’w rhieni, ysgrifennodd yn gyfrinachol i Wil ac mae’r print yn darlunio Ann yn cuddio llythyr mewn boncyff coeden. Ond mynnodd ei theulu hi’r briodas a gadawodd Wil Llangynwyd yn y pen draw.  Ddwy flynedd yn ddiweddarach aeth Ann, dim ond 23 oed, yn sâl, meddai rhai oherwydd yr oedd ei chalon wedi torri. Er i Wil ddychwelyd i fod wrth ei hochr, bu farw yn ei freichiau.

Ychydig a wyddys am Wil Hopcyn ond credir mai ef oedd awdur y gân Bugeilio’r Gwenith Gwyn a’i bod wedi ei hysgrifennu ar gyfer Ann.  Claddwyd Ann yn y gangell yn Eglwys Llangynwyd ym mis Mehefin 1727.  Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd Wil ei gladdu ar dir yr eglwys.

M303

Mae hanes “Y Ferch o Gefn Ydfa” wedi parhau’n boblogaidd ac fe gafodd ei ail-adrodd yn aml gan grwpiau theatr teithiol. Ym 1913 gwnaed ffilm o’r stori gan William Haggar ac fe ddenodd dorfeydd enfawr pan gafodd ei dangos mewn lleoliadau ar draws De Cymru.  Ym mis Hydref 1914, roedd y balconi yn y Gnoll Picturedome yn llawn dop y tu hwnt i gapasiti, a dymchwelodd yn ystod y sioe. Adroddwyd, yn wyrthiol, na chafodd neb eu hanafu’n ddifrifol a bod y ffilm wedi ei hailddechrau a’i chwblhau.

Mae’n debyg bod y ffotograffau wedi cael eu tynnu gan Edwin Miles ar gyfer digwyddiad a gynhaliwyd yn Llangynwyd ddydd Mercher 20 Mehefin 1928 pan ddadorchuddiwyd croes goffa i Wil yn y pentref a gosod carreg fedd newydd ym mynwent yr eglwys. Cymaint oedd y diddordeb yn Wil Hopcyn a’r “Ferch o Gefn Ydfa”, gorlifwyd y pentref gan filoedd o ymwelwyr o bob rhan o Gymru, a oedd yn awyddus i fod yn dyst i’r digwyddiad. Os edrychwch yn ofalus mae Miles wedi marcio dau o’r ffotograffau i nodi mai’r eglwys yw man gorffwys y Ferch, ac mae’n ddigon posibl eu bod wedi gwerthu’r ffotograffau i’r rhai a oedd wedi mynychu ym mis Mehefin 1928.

Tynnodd Edwin Miles luniau o lawer o drefi a phentrefi ar draws Morgannwg rhwng 1905 a 1929.  Mae’r ffotograffau o Eglwys Blwyf Llangynwyd, adnabyddir fel Sant Cynwyd, i’w gweld dan y cyfeirnod D261/M301-M306. Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Yr Ham, Llanilltud Fawr:  Diwedd Oes 

Mae’r ffotograffau a ddewiswyd yr wythnos hon o gasgliad Edwin Miles yn rhoi cipolwg ar un o “blastai coll” Bro Morgannwg, yr Ham yn Llanilltud Fawr.

Adeiladwyd cartref y teulu Nicholl, y plasty, yn y 1860au ac roedd yn waith y pensaer a’r hanesydd celf, Matthew Digby Wyatt, a gyfrannodd hefyd at gynllun Gorsaf Paddington, Swyddfa India a’r Crystal Palace.

Er ei fod ar raddfa llawer llai, roedd yr Ham, a adeiladwyd yn yr hyn y cyfeirir ato weithiau fel yr arddull Gothig, yn adeilad trawiadol, gyda’i dŵr cornel addurnedig a thu mewn a oedd yn cynnwys saith ystafell dderbyn a 17 ystafell wely.  Roedd wedi’i leoli mewn 23 erw o dir a oedd yn cynnwys pedair erw o erddi.

Tynnodd Edwin Miles luniau o nifer o’r tai mawr yn y Fro, gyda nifer o’r ffotograffau’n cael eu defnyddio fel cardiau post.  Mae’n debyg fod ei luniau o’r Ham, fodd bynnag, wedi eu tynnu at bwrpas gwahanol.  Tynnodd gyfanswm o 54 llun, hanner ohonynt o du allan y tŷ a’r gerddi a’r hanner arall o brif ystafelloedd y plasty.

Mae’r cliw i’w pwrpas i’w weld yn y dyddiad, Ebrill 1912.  Yng ngwanwyn 1912, roedd teulu Nicholl wedi dewis gwerthu neu osod y tŷ. Fel cam cyntaf, cafodd Stephenson and Alexander, Arwerthwyr a Syrfewyr ar Stryd Fawr, Caerdydd, eu comisiynu i werthu llawer o’r dodrefn a’r ffitiadau dros ddeuddydd ym mis Mehefin 1912.

Mae copi o’r llyfryn a gafodd ei lunio ar gyfer yr arwerthiant wedi’i gadw yn Archifau Morgannwg hefyd. Mae’n cadarnhau pa mor fawreddog oedd y tu mewn, er enghraifft, bwrdd crwn yn y llyfrgell a gwely yn ystafell wely 15 wedi’i fewnosod gydag ifori a phren ac yn wreiddiol o “The Summer Place in Peking”. Mae’n bosibl bod y ffotograffau wedi cael eu tynnu ar gyfer gwerthu’r tŷ neu, yn fwy tebygol, i roi cofnod i’r teulu o’r Ham ar ei anterth.  Beth bynnag oedd eu pwrpas, roedden nhw’n nodi diwedd oes.

Cafodd yr Ham ei osod am y saith mlynedd nesaf ac yna ei werthu gan deulu Nicholl i Lewis Turnbull o’r teulu llongau, Turnbull Brothers, Steamship Brokers and Owners.  Yn anffodus, fe’i dinistriwyd gan dân yn 1947.

Tynnodd Edwin Miles luniau o lawer o drefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg rhwng 1905 a 1929.  Mae’r ffotograffau o’r Ham a ddefnyddir yn yr erthygl hon i’w gweld dan y cyfeirnod DXGC55/1-54. Mae’r llyfryn arwerthiant a gyhoeddwyd gan Stephenson & Alexander dan gyfeirnod DRA/21/464. Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg