
20 Hydref 1914
Roeddem i fod i gael ein rhyddhau gyda’r wawr, ond drwy gamgymeriad daeth 2 sgwadron o’r 18fed yn hwyr. Lladdwyd ac anafwyd rhai ohonynt oherwydd y camgymeriad hwnnw. Mae trympedwr gan sgwadron A. Tarwyd y rhengoedd ac nid oeddwn yn gallu gadael y ffosydd tan yn hwyr yn y dydd oherwydd tanio gan ynnau peiriant ac ati.
Dychwelyd i Bois de Ploegstrut o’r diwedd.
Bu bron i ffrwydryn fy nharo, glaniodd yng nghanol rhai o geffylau’r Pencadlys Adrannol. Roedd hi fel nyth cacwn y tu mewn. Glaniodd ffrwydron ar y lawnt a’r tŷ drwy’r dydd.
Gwrandewais ar sŵn y Magnelwyr Brenhinol a’r gynnau 60 pwys. Ar gefn fy ngheffyl ar frys gyda’r nos i gynorthwyo’r 2il Frigâd a Goffy, er mai ni oedd Catrawd wrth gefn yr Adran.
Ar fryn 63, drwy’r niwl gwelais marchfilwyr ar hyd y ffordd gyda ffrwydron yn glanio y tu ôl iddynt ac yn eu canol.
Yn cael ein hanfon ar frys i Messines i’w hamddiffyn hyd y diwedd.
Chwilio am safleoedd gynnau peiriant yn y tywyllwch, gyda’r sgwadronau’n ceisio palu ffosydd y tu ôl i’r gwrthgloddiau gyda’r nos.
Cefais ginio gyda B mewn tŷ braf iawn, gan drafod y sefyllfa leol, sy’n anodd iawn. Yn wir, nid oeddwn yn edrych ymlaen at yfory o gwbl.
Collodd y 18fed wythdeg o ddynion ar ôl dod atom ni yn Le Ghies.
Collodd y ‘Tins’ lawer o ddynion hefyd. Daeth un o’u milwyr colledig heb ei arfau ataf yn Messimes.
Cysgais mewn gwely cyfforddus iawn. Mae dydd y farn wedi cyrraedd y ddinas hon.

21 Hydref 1914
Allan awr cyn y wawr, gan guddio ceffylau’r gynnau peiriant mewn bragdy. Anfonwyd ceffylau eraill y gatrawd yn ôl i safle cymharol ddiogel ymhell y tu ôl i’r rheng flaen. Euthum allan i ddod o hyd i leoliadau ffosydd gyda’r wawr.
Symudodd sgwadron A 4 gwaith cyn dod o hyd i safle.
Daeth yr Wlaniaid yn gynnar, ond nid oedd yn hawdd tanio atynt drwy’r niwl.
Drwy lwc roeddem wedi gallu palu ffosydd cyn i’r bomio go iawn ddechrau. Yna dechreuodd y gelyn danio at y ddinas. Daeth cannoedd o ffrwydron yn ystod y dydd, gan ffrwydro ym mhob man a chwalu popeth.
Roedd hi waethaf yn ystod yr awr cyn iddi nosi. Daethom o hyd i seler. Tarwyd ein tŷ gan ffrwydryn. Chwalwyd y tŷ yr oedd Johnson ynddo, ond roedd ef o dan ddaear.
Cefais ddihangfa lwcus wrth fynd o wn i wn.
Dim ond 6 o filwyr y gatrawd a anafwyd erbyn diwedd y dydd, ond bu’n ddiwrnod anodd iawn.
Cefais ginio da, ac yn y nos daeth hanner Brigâd o filwyr traed i’n hatgyfnerthu.
Dyna ddiwedd diwrnod gwael iawn, ond roeddwn wedi meddwl y byddai’n waeth o lawer.
Clywsom fod yr Almaenwyr wedi cipio Le Ghies. Gwnaethom ei hailgipio, gan achub ein carcharorion ni, a oedd wedi eu dal tra roeddent yn cysgu, a daliwyd 300 o Almaenwyr!
Cawsom ein rhyddhau gan filwyr traed yn hwyr yn y nos, ac yna i’r gwely. Bu’n rhaid i’r gynnau ailddechrau am 2am.

22 Hydref 1914
Cryn dipyn o danio cyn y wawr, yn ddiau roedd yr ymosodiad go iawn ymhellach i’r De.
Gwisgais amdanaf ar frys a mynd i’r gynnau peiriant. Yn anffodus tarwyd yr Is-gyrnol Spendly yn ei geg.
Fe’i darwyd wrth symud ar draws y ffenest. Yr unig ergyd a ddaeth drwy’r ffenest.
Prin oedd y bomio i ddechrau, bu Kavanagh a minnau’n chwilota drwy’r lleiandy gwag. Bu bron i mi gael fy nharo gan ffrwydryn wrth gerdded yn yr ardd.
Gyda map graddfa fawr deuthum o hyd i brif swyddog y gynwyr a bu bron i mi gael fy nharo gan ffrwydryn arall. Yna ar ôl cinio bu’n rhaid ffoi i’r seler i osgoi’r ffrwydron.
Rwyf nawr yn ysgrifennu yn y seler, yn aros am ddyddiau gwell!
Roeddwn wedi rhybuddio Black ynghylch safle sgwadron A. Gwrthododd symud, a glaniodd ffrwydryn yn eu canol, gan ladd Rich ac anafu Black a 15 o filwyr eraill.
Felly fi yw prif swyddog y sgwadron eto, ac mae’n ddrwg gennyf am hynny mewn ffordd gan fod Archie a Bouverie wedi’u taro’n sâl. Mae’r ‘Tins’ wedi dioddef colledion trwm.

24 Hydref 1914
Lindenhoch
Difethwyd ein diwrnod o orffwys gan awyrennwr a ddywedodd fod corfflu o farchfilwyr yn ymdeithio tuag atom.
Aethom ar gefn ein ceffylau, ac yna i ffwrdd â ni.
Roedd pob math o sïon ar led am fuddugoliaeth fawr i Rwsia, fod yr Eidal wedi ymuno â’r rhyfel, Haigh, llwyddiant mawr yn y gogledd ac ati ac ati.

25 Hydref 1914
Ymdeithio allan yn y tywyllwch fel arfer yn ôl i Messines. Rydym wrth gefn ger melin wynt, ac yn palu ffosydd. Cesglais offer o bob man, rwy’n siŵr mai dyma un o wersi pwysig y rhyfel.
Llety yn y dref ar ôl iddi nosi, dim ond ychydig o ffrwydron, rwyf mewn tŷ mawr gyferbyn â lleiandy.

26 Hydref 1914
Ar ddyletswydd gyda Sgwadron A ac yn rhyddhau’r 11eg Hwsariaid cyn y wawr. Mae’n rhaid eu bod wedi cael amser gwael iawn dros nos wrth iddi arllwys y glaw, gan eistedd mewn ffos ddiflas sy’n hanner llawn dŵr.
Rydw i mewn rhyw fath o ogof fach.
Saethais at Wlaniaid amrywiol, yna newidiodd y sefyllfa yn gyflym iawn, fel arfer. Mae ymosodiad mawr o’r tu blaen ar y gweill, tynnwyd yr holl filwyr traed yn ôl, mae’r marchfilwyr yn gyfrifol am linell hir iawn. Roeddwn mewn ffos ger lleiandy.
Mae’r lleiandy a’r eglwys ar dân, felly rwy’n gynnes yn y nos, bron yn rhy gynnes. Mae’r 2il Frigâd wedi mynd. Yn gallu clywed brwydr fawr.