Grym y dylech ei barchu: Heddlu De Cymru 21-12 Caerdydd, Parc Waterton Cross, 8 Hydref 1969

Un o isgynhyrchion sefydlu Cwnstabliaeth De Cymru hanner can mlynedd yn ôl oedd cychwyn tîm rygbi a ddaeth â chwaraewyr talentog ynghyd o’r pedwar heddlu a gyfunodd ar 1 Mehefin 1969. Yn yr argraffiad llawn cyntaf o gylchgrawn Heddlu De Cymru cydnabuwyd y cyfle i sefydlu tîm fyddai’n gwneud ei farc ar rygbi Cymru.

Amalgamation brought with it the possibility of a Police side creating a real impact on Welsh football. The range of talent available could, it was thought, produce a South Wales Police Team capable of providing a surprise for many of the established Welsh Clubs.  (Cylchgrawn Heddlu De Cymru, cyf.: DSWP/50/1)

DSWP-PH-SPO 76_compressed

Carfan rygbi Heddlu De Cymru, 1969-70

Ac nid oeddynt yn anghywir ychwaith.  Cafodd yr Heddlu fuddugoliaeth dynn wrth fynd i’r cae chwarae am y tro cyntaf yn erbyn Pontypridd ym Mharc Ynys Angharad tuag at ddiwedd yr haf ym 1969. Parhaodd y buddugoliaethau wrth iddynt ennill gan 15 pwynt i 14 yn erbyn Abertawe yn St Helens, gan 15 pwynt i 11 yn erbyn Penarth a chan 32 pwynt i 8 yn erbyn Sir Benfro yn Neyland. Erbyn hyn, roedd grym y cyfuniad newydd wedi dod i’r amlwg a chafodd 9 aelod o’r tîm eu dewis i chwarae i dîm Heddlu Prydain ar daith i dde-orllewin Lloegr.

DSWP-PH-SPO 198a_edited

Clawr y rhaglen, 8 Hydref 1969

DSWP-PH-SPO 198b_edited

Nodiadau’r rhaglen, 8 Hydref 1969

Gellir dadlau mai’r prawf mwyaf i’r tîm oedd y tîm cyntaf i ymweld â’r cae chwarae yn Waterton Cross, sef y Clwb Rygbi a Phêl-droed Caerdydd o fri, nos Fercher 8 Hydref. Gyda haid o swyddogion Undeb Rygbi Cymru’n gwylio, gan gynnwys Llywydd yr Undeb, Ysgrifennydd a Chadeirydd y Pwyllgor Dethol, trefnwyd y gêm i nodi sefydliad Cwnstabliaeth De Cymru ac i gydnabod y gefnogaeth yr oedd y clwb o Gaerdydd wedi’i rhoi i Ymddiriedolaeth Dibynyddion yr Heddlu. Roedd elfen ddadleuol i’r gêm o’r cychwyn cyntaf. Yn y dyddiau cyn rygbi’r gynghrair, roedd nifer o swyddogion yr heddlu wedi chwarae i glybiau hŷn ledled Cymru. Fodd bynnag, roedd disgwyl iddynt flaenoriaethu gemau lle’r oedd gofyn iddynt gynrychioli Heddlu De Cymru.

DSWP-PH-SPO 75_compressed

Tîm Heddlu De Cymru, 8 Hydref 1969

Felly roedd tîm yr Heddlu ar 8 Hydref yn cynnwys chwaraewyr o amrywiaeth o glybiau gan gynnwys Abertawe, Aberafan, Castell-nedd, Llanelli, Pen-y-bont Ar Ogwr a Maesteg. Roedd hefyd yn cynnwys chwaraewyr oedd wedi cael eu dewis i chwarae i Gaerdydd y diwrnod hwnnw. Roedd Pennawd y Western Mail y diwrnod hwnnw’n crynhoi’r cyfan: Yr Heddlu’n bachu Finlayson. Er siom mawr iddynt, roedd ochr hanner gwan Caerdydd, a oedd eisoes yn brin o sawl seren, yn wynebu dau o’i brif chwaraewyr, y canolwr Alex Finlayson a’r prop Mike Knill, mewn crysau coch y gwrthwynebwyr.         

DSWP-PH-SPO 198c_edited

Rhestr timoedd, 8 Hydref 1969

O flaen torf o 2,000 o bobl, rhoddodd yr Heddlu ddechreuad cyflym i’r gêm pan groesodd Ian Hall, canolwr â chap dros Gymru, y llinell am gais cynnar. Fodd bynnag, roedd yn rhaid bod Caerdydd wedi gweld goleuni o obaith pan fu rhaid i Huw Jenkins, mewnwr yr Heddlu, adael y cae ar ôl rhwygo cartilag. Yn y cyfnod cyn y bu modd i chwaraewyr ddod oddi ar y fainc, bu rhaid i dîm yr Heddlu chwarae’r 65 munud oedd yn weddill gyda 14 chwaraewr. Arwr y gêm oedd y blaenasgellwr Omri Jones a symudodd i safle’r mewnwr, gan adael y 7 blaenwr oedd yn weddill i barhau i frwydro yn erbyn pac Caerdydd. Yn dyst i gryfder a dyfalbarhad tîm Heddlu De Cymru, dan arweiniad Ron Evans, cynyddodd y tîm ei sgôr i ennill gan 21 pwynt i 12. Daeth y ceisiadau eraill gan Terry Stephenson, a oedd hefyd yn chwarae i Gaerdydd pan nad oedd ar ddyletswydd i’r Heddlu, a’r bachwr Alan Mages. O’r cefnwr Jerrard Protheroe y daeth y pwyntiau eraill. Fel yr adroddwyd yn y Western Mail y diwrnod canlynol, nid lwc oedd y fuddugoliaeth o bell ffordd.

Cardiff in the second half attacked solidly for 15 minutes but were never able to cross the Police line and but for the accurate kicking of Ray Cheney with four penalty goals in six attempts the final score could have been an embarrassment to the renowned club. (Western Mail, 9 Hydref 1969)

Dathlodd yr Heddlu’r fuddugoliaeth mewn steil, yn ôl yr hyn a gofnodwyd gan gylchgrawn Heddlu De Cymru:

Members of the force will reflect on this victory with justifiable pride, while Cardiff, accepting this defeat in the true spirit of sportsmanship exemplified by this great Club will not, I am sure, ever again underestimate the strength and quality of the Force Team. (Cylchgrawn Heddlu De Cymru, Hydref 1970, t.87, cyf.: DSWP/50/1)

Roedd rhaid bod y tîm wedi gwneud argraff wych ar Lywydd Undeb Rygbi Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Dethol. Roedd Ian Hall eisoes wedi cael ei gap dros Gymru ac aeth dau aelod arall o dîm Heddlu De Cymru a wynebodd Caerdydd ymlaen i chwarae dros Gymru – Alex Finlayson a Mike Knill. Dilynodd llawer mwy yn yr un modd flynyddoedd yn ddiweddarach, gan gynnwys Bleddyn Bowen, Richie Collins, Steve Sutton a Rowland Phillips. Ar ôl 8 Hydref 1969 doedd dim amheuaeth yr oedd tîm Heddlu De Cymru yn rym y dylech ei barchu.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Mae Archifau Morgannwg yn cadw rhaglen y gêm (DSWP/PH/SPO/198) ynghyd ag adroddiad ar y gêm o fewn Cylchgrawn Heddlu De Cymru ar gyfer Hydref 1970 (DSWP/50/1). Ceir hefyd lluniau o dîm Heddlu De Cymru cyn y gêm yn erbyn Caerdydd (DSWP/PH/SPO/75) a’r garfan lawn ar gyfer tymor 1969-70 (DSWP/PH/SPO/76).

 

One thought on “Grym y dylech ei barchu: Heddlu De Cymru 21-12 Caerdydd, Parc Waterton Cross, 8 Hydref 1969

  1. Grym y dylech ei barchu: Heddlu De Cymru 21-12 Caerdydd, Parc Waterton Cross, 8 Hydref 1969 - Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s