Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y gweithlu, mae’r gyfres gylchgrawn hon yn cynnwys amrywiaeth eang o erthyglau ar y diwydiant glo a’i hanes, gan gynnwys cysylltiadau diwydiannol, gweithwyr, technoleg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Mae Andrew Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi cwblhau mynegeio’r casgliad gwych hwn. Dyma’r seithfed mewn cyfres o erthyglau blog lle mae Andrew yn tynnu sylw at storïau o gylchgronau’r ‘Ocean and National Magazine’.
**********
Roedd 1934 20 mlynedd wedi cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac ar gyfer rhifyn mis Tachwedd Cylchgrawn Ocean and National Coal, neilltuwyd adran fawr i drafod barn ar y rhyfel hwnnw a’r tebygrwydd y byddai rhyfel yn y dyfodol.
Egyr y cylchgrawn gyda gair y golygydd gan yr Arglwydd Davies o Landinam, perchennog y cylchgrawn (fel arfer ni fyddai ond yn ysgrifennu erthygl olygyddol yn rhifyn y Nadolig). Cychwynna’r darn gydag atgofion Davies o sut yr ymdrinnid â’r rhyfel ar y pryd. Mae’r Arglwydd Davies yn tebygu mynd i ryfel â chyfnod pan arferai pobl ateb anghydfod trwy ymladd, trwy ornest neu frwydr. Yna, dywed fod y rhain wedi eu disodli gan egwyddorion o gyfraith a threfn, ond nad oedd trefn o’r math ar gyfer anghydfod rhwng cenhedloedd cyn creu Cynghrair y Cenhedloedd wedi’r rhyfel. Fodd bynnag, nid oedd y sefydliad hwnnw y tu hwnt i feirniadaeth yr Arglwydd Davies, a honnai:
…we have helped to turn it into a debating society.
Daroganai ryfel arall yn Ewrop, a ddeuai heb rybudd ac na allasid ei atal ond trwy Dribiwnlys a grym heddlu.
Dros y tudalennau nesaf, ceir atgofion cyflogeion pyllau glo Ocean and National o’r rhyfel, a’r nod oedd dwyn perswâd ar y darllenwyr bod heddwch yn ddewis gwell na rhyfel. Mae rhai ffotograffau hefyd, a dau yn dangos adeiladau yn Llundain wedi eu bomio. Dengys un ffotograff teimladwy griw o filwyr meirw dan deitl ‘Diwedd yr Argyfwng!’ (‘Crisis Over!’) Yn ogystal â’r ffotograffau, cyfeiria dwy erthygl bapur newydd, a ail-argraffwyd o’r Daily Express a Le Matin, at ddigwyddiadau brawychus yn ystod y rhyfel.
Neilltuwyd rhan olaf y cyflwyniad hwn i’r rhyfel yn cychwyn gyda chartŵn yn dangos cawr o ddyn yn dwyn yr enw ‘Rhyfel’ yn cael ei saethu gan long awyr yn perthyn i’r Heddlu Rhyngwladol. Teitl y cartŵn yw Taro’r Targed! (‘A Direct Hit!’) a cheir sylwad gan y cartwnydd, Mr Dick Rees, yn dweud gorau po gyntaf!
Teitl yr erthygl olaf yn y rhifyn gwrthryfel yw’r Twrw Hynaf (‘The Oldest Racket’) a’r is-deitl Yn Eisiau: Heddlu Newydd (‘Wanted: A New Police Force!’) – ac ynddi, cyflwynir yr achos dros ffurfio Heddlu Rhyngwladol, naill ai i ddisodli Cynghrair y Cenhedloedd neu:
…or its effective reinforcement by the addition of the power which enables the Council to enforce its decisions.
Trafodid yr Heddlu newydd hwn yn fanwl yn rhifyn mis Rhagfyr 1934.
O’r rhifyn hwn tan rifyn olaf y casgliad yn niwedd 1936, dygai’r cylchgrawn air gwrthryfel. Er nad oedd yr Ail Ryfel Byd wedi cychwyn eto, ym 1936 cychwynnodd Rhyfel Cartref Sbaen a chyn hynny ymosododd yr Eidal ar Abysinia (Ethiopia) ym 1935 a Siapan ar ardal Manshwria yn Tsieina ym 1931.
Andrew Booth, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg