Newyddion o’r Ffrynt

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymrestrodd nifer o ddynion i wasanaethu eu gwlad, naill ai’n wirfoddol neu am fod y fyddin wedi galw arnynt. Effeithiwyd ar awdurdodau lleol gan hyn cymaint ag unrhyw un. Yn naturiol, roedd y rhai a arhosodd ar ôl gan ddal ati i weithio gyda’r awdurdodau lleol yn awyddus i gael y newyddion o’r Ffrynt.

Cafwyd newyddion da ar ffurf gwobrau a roddwyd i filwyr am yr hyn a wnaethant ar faes y gad. Ym mis Medi 1915, nododd Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer fod James Green wedi’i argymell i gael Medal Ymddygiad Neilltuol. Ym mis Rhagfyr 1917, cafodd y Preifat Tudor Lewis Fedal Filwrol. Ac ar Ddydd Calan 1918, cyhoeddwyd bod y Sarsiant Ivor Jones wedi ennill y ddau fedal.

Ivor Jones

Cydnabuwyd nifer o gyflogeion eraill am eu gwasanaeth a’u dewrder.

Ym mis Ionawr 1917, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Porthcawl longyfarchiadau gwresog i’r Lefftenant Tamblyn a’r Corporal Nicholls, y cafodd y ddau eu gwobrwyo am ddewrder neilltuol. Ac ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Maesteg longyfarchiadau i’r Sarsiant Fred Davies ar ôl iddo ennill Medal Ymddygiad Neilltuol.

Ym mis Mehefin 1917, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr longyfarchiadau i rieni Oscar Powell a Frank Howell – dyfarnwyd y Fedal Filwrol i’r ddau. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, dyfarnwyd y Fedal Filwrol i’r Ail Lefftenant Steve Jenkins, a oedd yn fab i un o aelodau’r cyngor. Ym mis Ionawr 1918, adroddodd Cyngor Dosbarth Trefol Ogwr a Garw fod Mr King, gyn-Gapten brigâd dân Nant-y-moel, wedi cael Medal Ymddygiad Neilltuol.

Ar ddiwedd y Rhyfel ym mis Tachwedd 1918, datgelodd Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr fod yr Uwch-gapten R D Williams, a oedd yn fab i gynghorydd, wedi dod yn aelod o’r Urdd Gwasanaeth Neilltuol.

Un ffynhonnell arall o newyddion da oedd pryd y cawsai milwyr eu dyrchafu. Ym mis Mehefin 1916, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr longyfarchiadau i’r Lefftenant Gyrnol F W Smith ar gael ei ddyrchafu’n Gomander i 16eg Bataliwn Cymru (Dinas Caerdydd). Ym mis Mai 1917, trafododd Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer ddyrchafiadau cyflym Mr Emlyn Evans. Gan ddechrau fel Preifat ym mis Medi 1915, daeth yn Is-gorporal ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, ac yn Gorporal llawn fis yn ddiweddarach. Chwe mis yn ddiweddarach fe’i enwyd yn Sarsiant cyn iddo ddod yn Uwch-Sarsiant Cwmni ym mis Rhagfyr 1916. Fis yn ddiweddarach, symudodd i’r Corfflu Awyr Brenhinol a daeth yn Sarsiant Hedfan ac yna ym mis Ebrill 1917 daeth yn Uwch-Sarsiant.

Weithiau, byddai clywed newyddion fod rhywun ar y Ffrynt yn fyw ac iach yn achos dathlu. Ym mis Medi 1914, rhoddodd Cyngor Dosbarth Gwledig Pen-y-bont longyfarchiadau i’r Cyrnol Turbervill ar glywed fod ei fab, y Capten Turberville, yn iach. Ond yn anffodus, ym mis Mai 1915, lladdwyd ŵyr y Cyrnol Turbervill ar faes y gad.

Ynghyd â’r llawenydd o glywed am gydweithwyr yn ennill gwobrau am eu dewrder, roedd hefyd ofid a galar wrth glywed am farwolaeth neu anafiadau i’r rhai a oedd ar y Ffrynt. Ym mis Medi 1914, collodd Iarll ac Iarlles Plymouth berthynas, Archer Windsor Clive. Pleidleisiodd sawl awdurdod lleol i gyfleu eu cydymdeimlad, a enynnodd ddiolch gan Ystâd Plymouth.

Ym mis Tachwedd 1914, cyfleodd Cyngor Dosbarth Gwledig Pen-y-bont eu cydymdeimlad i’r Cyrnol Nicholl ar farwolaeth ei fab, y Lefftenant Nicholl. Ym mis Rhagfyr, mynegodd Cyngor Dosbarth Trefol Aberpennar eu cydymdeimlad i deulu Arglwydd Aberdâr, pan laddwyd ei fab hynaf. Ym mis Hydref 1915, cynigiodd Cyngor Dosbarth Trefol Porthcawl bleidlais i fynegi cydymdeimlad i deuluoedd y Lefftenant Sydney Randall Jenkins a’r Sarsiant Evan Rogers.

Ym mis Tachwedd 1916, cafodd Dr M J Rees, a fu’n Swyddog Meddygol Iechyd ers blynyddoedd i Gyngor Dosbarth Gwledig Aberdâr, ei ladd wrth ymladd. Ym mis Gorffennaf 1917, cafodd tri chyn-gyflogai, y gyrwyr Amos ac E Wiltshire a’r tocynnwr AC Sims, eu lladd ar faes y gad.

Ym mis Rhagfyr 1917, cafodd Cyngor Dosbarth Trefol Maesteg golled driphlyg wrth i’r Ail Lefftenant Hugh Grande, y Preifat Harold Edwards a’r Preifat Charles Corbett gael eu lladd. Cafwyd colled driphlyg arall ar ddiwedd y rhyfel, gyda marwolaethau’r Milwyr Ivor Evans, A Meldrum a Hillman.

Ni ddigwyddai pob colled ar y ‘Ffrynt’, yn bennaf yn Ffrainc ac yng Ngwlad Belg. Roedd rhai mewn rhannau eraill o’r byd. Yn ystod ymgyrch Gallipoli ym 1915, gwasanaethai milwyr yr Ymerodraeth Brydeinig yn Nhwrci ein dyddiau ni, ac roedd ymgyrchoedd yn Affrica a’r Dwyrain Canol. Mae hefyd yn werth nodi nad oedd pob colled ar y tir. Roedd colledion yn yr awyr yn y Corfflu Awyr Brenhinol (y Llu Awyr Brenhinol heddiw) a’r Gwasanaeth Awyr Morol Brenhinol (Awyrlu’r Llynges), ac ymhlith y rhai a wasanaethai gyda’r Môr-filwyr neu’r Llynges. Roedd un golled ar y môr ym mis Hydref 1914 pan adroddodd Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer farwolaeth y Lefftenant Gomander McGregor pan suddwyd HMS Hawke gan long danfor Almaenaidd ym mis Hydref 1914.

McGregor

Dengys cofnodion yr awdurdod lleol yn Archifau Morgannwg fod y newyddion o’r ffrynt yn rhywbeth yr oedd cynghorwyr a chyflogeion yn eiddgar i’w gael. Ac er eu bod yn gobeithio am newydd da, newyddion drwg yn aml a ddaeth i’w rhan.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros Dro

Cefnogi’r Ymgyrch Ryfel

Wrth i’r Rhyfel Byd Cyntaf fynd rhagddo, roedd awdurdodau lleol ar draws Prydain yn cydlynu eu hymdrechion i gefnogi’r ymgyrch ryfel.

Ar ddechrau’r rhyfel, un opsiwn a drafodwyd gan yr awdurdodau oedd defnyddio ysgolion cynradd fel ysbytai maes ar gyfer y sawl a anafwyd ar faes y gad. Sefydlwyd Didoliadau Cymorth Gwirfoddol i helpu nyrsys proffesiynol ar flaen y gad (er y cafwyd gwrthwynebiad i hynny ar y dechrau) ac yn yr ysbytai gartref. Testun trafod arall oedd ble y byddai recriwtiaid newydd yn aros cyn eu hanfon dramor neu i rywle arall ym Mhrydain. Yng Nghaerdydd, penderfynwyd defnyddio adeiladau cyhoeddus fel llety mewn argyfwng (RD/C/1/9).

Cafodd llawer o weithwyr a barhaodd i weithio i’r awdurdodau lleol gynnig Tâl Rhyfel Ychwanegol. Tâl i’w hannog nhw i weithio oriau hirach oedd hwn, yn aml i wneud yn iawn am golli gwyliau neu am gostau cynyddol hanfodion bywyd. Roedd y sawl nad oedden nhw yn y fyddin, gartref neu dramor, yn cael eu hannog i weithio mewn ffatrïoedd a oedd yn cynhyrchu arfau rhyfel neu ddeunydd arall ar gyfer awyrennau, llongau a thanciau. Byddai gwŷr hŷn neu ferched yn cymryd lle’r gwŷr a oedd yn rhyfela. Pan ddaeth y bygythiad y byddai awyrennau bomio a Sepelinau’r Almaen yn ymosod o’r awyr, cafodd yr awdurdodau lleol orchymyn i bylu neu ddiffodd goleuadau stryd a threfnu seirenau rhybudd.

Sefydlwyd elusennau i gefnogi’r sawl a oedd yn ymladd, eu teuluoedd a’u hanwyliaid. Yn Aberdâr, awgrymodd y Gronfa Genedlaethol ar gyfer Cysuro’r Lluoedd y dylid dynodi Dydd Gŵyl Dewi yn Ddiwrnod Fflagiau, ac y dylid casglu arian yn y stryd er mwyn y Gronfa (UDAB/C/1/9).

Aberdare UD flag day

Yn ogystal ag elusennau, roedd awdurdodau lleol yn annog rhai cyfleusterau megis ysgolion i roi arian tuag at gyfrif Cynilion Rhyfel. Tuag at ddiwedd y rhyfel, byddai tanciau a oedd wedi eu defnyddio ar faes y gad yn mynd o amgylch Prydain, a byddai’r cyhoedd yn cael taith mewn tanc weithiau am gyfraniad tuag at y Cynilion Rhyfel. Ar yr un pryd, roedd y llywodraeth yn cynnig Benthyciadau Rhyfel, yn annog pobl i fuddsoddi arian yn yr ymgyrch ryfel.

Yn ystod blynyddoedd diweddar y rhyfel, roedd rhai deunyddiau ar ddogn, un ai oherwydd ei bod yn anoddach cael gafael arnyn nhw, neu oherwydd bod eu hangen at ddibenion milwrol. Yn y Bari, penderfynodd yr awdurdodau beidio â defnyddio tar crai er mwyn cynnal ffyrdd oherwydd bod rhai o’r isgynhyrchion yn rhan o’r broses o gynhyrchu ffrwydron (BB/C/1/20). Wrth iddi ddod yn anoddach mewnforio neu gynhyrchu bwyd, dechreuodd yr awdurdodau annog pobl i dyfu bwyd mewn rhandiroedd. Yn ogystal â phobl ac adeiladau, cymerai’r lluoedd arfog gerbydau dinasyddion er mwyn eu defnyddio yn bennaf fel cerbydau trafnidiaeth. Yng Nghaerffili, rhoddodd Cwmni Trafnidiaeth De Cymru wybod i’r awdurdodau lleol bod eu cerbydau wedi eu cymryd gan Swyddfa’r Rhyfel, ond roedden nhw’n dal i obeithio cychwyn gwasanaethau yn ardal y dref (UDCAE/C/1/18). Yng Ngelligaer, trafodwyd llogi injan ffordd (UDG/C/1/11), ond ymddengys na weithredwyd ar y syniad.

Mae cofnodion yr Awdurdod Lleol yn Archifau Morgannwg yn dangos pa mor eang oedd gwaith y cynghorau lleol wrth gefnogi’r rhyfel ar y ffrynt cartref.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros Dro

Rheoli Bwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Roedd prinder bwyd yn beth cyffredin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda cheidwaid siopau’n rhwym wrth nifer o reoliadau a’r boblogaeth gyfan yn gorfod dechrau dod i delerau â dogni.  Gwnaed yr ymgais gyntaf i ddogni gyda gorchymyn yn cyfyngu ar brydau bwyd mewn gwestai a bwytai ym mis Rhagfyr 1916, ac erbyn 1917 roedd prisiau bwyd wedi dyblu, gyda dim ond digon o fwyd am ddau neu dri mis yn y wlad gyfan. Ym mis Ionawr y flwyddyn honno, rhoddwyd pwerau newydd i’r Arglwydd Rhondda, y Rheolwr Bwyd, a ddechreuodd drwy apelio at wladgarwch gan ofyn i bobl ddogni bara, cig a siwgr o’u gwirfodd.

Daeth dogni llym i rym yn araf deg, ac ym mis Medi 1917 ysgrifennodd yr Arglwydd Rhondda yn rhifyn cyntaf y Dyddlyfr Bwyd Cenedlaethol, a ryddhawyd bob pythefnos, y byddai’r “Weinyddiaeth Fwyd yn rhoi gwybodaeth fanwl a swyddogol am y camau i’w cymryd”.

Cover

Mae sawl tudalen yn llawn rheolau a rheoliadau statudol, gweithdrefnau seneddol a rhestrau o’r prisiau uchaf swyddogol, ond mae hefyd yn rhoi cipolwg ar yr anawsterau a brofodd cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr.

Gwnaeth y bwytai eu gorau i osgoi’r Gorchymyn Cacennau a Phasteiod, a oedd yn gwahardd defnyddio siwgr mewn sgons. Roedd hyn i atal cwsmeriaid mewn siopau te rhag casglu cacennau o’r siop gacennau, a oedd yn aml yn gysylltiedig â’r siopau te hyn.  Cymerwyd camau i erlyn yn sgîl hyn.

Roedd cyfyngiadau ar fwydydd anifeiliaid hefyd. Dyma ddyfyniad o’r Dyddlyfr Bwyd Cenedlaethol ar Ddognau Ceffylau:

Horses allowed hunting rations will in reality be part of the Army Remount Establishment, kept and fed at the expense of the present owners but liable to be called up at any time.

Er syndod, ymysg yr holl wybodaeth swyddogol mae nifer o ryseitiau, gan gynnwys rhai ar gyfer caws barlys, pwdin India corn, marmalêd moron, bara cartref gyda thatws a bisgedi tatws siocled (wedi’u gwneud gyda menyn coco).  Roedd rhestr o giniawau Nadolig yn ystod y rhyfel yn cynnwys:

  1. Potage Parmentier, ysgwydd cig dafad wedi’i stwffio, seleri wedi’i frwysio, tatws pob, pei ffrwythau a chwstard. Cost 4s 5d.
  2. Sŵp hufen seleri, cig eidion wedi’i frwysio a la bourgeoise, sbrowts, tatws y dduges, pwdin oren. Cost 5s 9¾d.
  3. Penwaig a la juive, ffowlyn wedi’i frwysio mewn caserol, tomatos wedi’u stwffio, mins peis oren ac afal. Cost 9s 3¾d.

Gorchmynnwyd i bartïon Nadolig osgoi bwyd lle y bo’n bosibl, a lle mai’r nod oedd cynnig ‘pryd da o fwyd i’r tlawd’ dylid rhoi bwydydd anhanfodol lle y bo’n bosibl.

Mae’r Dyddlyfr hefyd yn cynnwys rhestr o erlyniadau, ac yn y rhifyn cyntaf:

Cowley 1

Cowley 2

At Cardiff, Henry Cowley, greengrocer, 36 Union Street, was fined £100 for selling potatoes at a price above the fixed maximum, and £5 for using an unjust scale

Roedd erlyniadau diweddarach yn cynnwys:

Merthyr Tydfil – Fines amounting to £175 were imposed on grocers and their assistants for overcharging on jam, butter, tea and other commodities.  The magistrate threatened drastic measures against future offenders.

Ernest Jenkins, grocer, Crwys Road, was fined £10 for refusing to sell a tin of condensed milk ‘by itself’.

Cardiff – Joseph Edward Townsend, Corporation Road, 40s or 1 months imprisonment for selling bread less than 12 hours old.

Cardiff – Domingos Gavincho, master of a Brazilian steamer, was fined £100 and Virgilio dos Santos, steward, £50, while a donkeyman and fireman, Antonio dos Santos and Joas de Campos, were sentenced to six months hard labour.  Too much bread being supplied to the crew, 28 loaves had been thrown into the furnaces.

Roedd y rhan fwyaf o’r erlyniadau yng Nghymru yn rhai eithaf bach, ac nid oedd diffyg gwybodaeth yn cael ei dderbyn fel esgus.

Nid oedd y Dyddlyfr yn hollol fewnblyg – roedd yn cynnwys erthyglau ar bropaganda yn yr Eidal, cyfyngiadau bwyd yn Ffrainc, rheoliadau bwyd Canada, dogni gorfodol yn yr Almaen a’r dulliau a ddefnyddiwyd yng ngwledydd y cynghreiriaid a gwledydd niwtral.

Nid oedd hynt y rhyfel yn mynd yn angof chwaith. Mae erthygl ar ‘Y Dinesydd a’r Llong Danfor’ yn nodi:

It is long since Germany gave up the idea of winning the war….the most that the Germans are now asked to do is to ‘hold on’… The powers now build their hopes not upon the army but upon two new services.

Yna mae’n cynnwys manylion am y llu awyr, ac yn nodi’r canlynol am longau tanfor:

People are to be starved and the nation reduced to conditions of famine by indiscriminate murder at sea and the sinking of valuable cargoes of food.

Mae’r erthygl yn mynd ‘mlaen i amlinellu anawsterau o ran y cyflenwad bwyd a dosbarthu.  Tynnwyd sylw at y prinderau difrifol yn yr Almaen ac, er bod Prydain yn dioddef, nodwyd bod yr Almaenwyr yn newynu:

What greedy grousers in this country speak of as famine the hungry German would look upon as luxury.

Aeth dirprwyaeth o Lowyr De Cymru i weld yr Arglwydd Rhondda am y sefyllfa fwyd ac ym mis Chwefror 1918 gofynnwyd cwestiwn seneddol – a oedd yr Ysgrifennydd Seneddol yn ymwybodol o’r newyn yn ardaloedd pyllau glo De Cymru, neu’r ffaith nad oedd bwyd ar gael i’r glowyr a gweithwyr eraill yn ystod eu horiau gwaith, ac a ellid rhoi system ddogni well ar waith ar unwaith? Yn yr ymateb nodwyd bod y Rheolwr Bwyd yn ymwybodol o’r prinder diweddar difrifol o fwydydd penodol yn ardaloedd pyllau glo De Cymru.  Roedd y manylion llawn wedi’u cyflwyno iddo gan ddirprwyaeth o Ffederasiwn Glowyr De Cymru, ac roedd yn cymryd camau i gyflymu cyflwyniad cynllun dogni lleol gyda’r gobaith y byddai’n datrys yr anawsterau dan sylw.

Ymddangosodd Ceginau Cenedlaethol erbyn 1918 ac awgrymwyd tai coginio ‘pen pwll’:

…where the meal or ‘tommy’ boxes of the men could be filled with good substantial food, prepared by expert cooks and suited to the conditions under which miners have to work.  These boxes of could be easily handed out to the workmen when they go down the pit as are the safety lamps.

Byddai’r bwyd yn cael ei brynu mewn swmp a byddai’r gost yn debyg i goginio yn y cartref.

Parhaodd y Dyddlyfr i mewn i’r 1920au, gan gofnodi’r broses araf o ddileu cyfyngiadau, ond parhaodd erlyniadau am brisiau uchel, a daeth yn drosedd ddiannod i wastraffu unrhyw fwyd. Mae problemau gwastraff yn parhau hyd heddiw.

Ann Konsbruck, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Hostel Sant Dunstan i Filwyr a Morwyr a Ddallwyd

Wrth i’r Rhyfel Mawr fynd rhagddo, cafodd De Cymru nifer gynyddol o filwyr wedi’u hanafu, yn bennaf o Ffrainc a Gwlad Belg ond, weithiau, o gyn belled â’r Dardanelles. Deliwyd â’r achosion mwyaf brys a difrifol mewn ysbytai milwrol mawr a sefydlwyd mewn canolfannau fel Caerdydd. Hefyd, sefydlodd y Groes Goch dros 40 o ysbytai ledled Morgannwg, yn aml mewn tai gwledig a ddefnyddiwyd yn bennaf fel mannau i filwyr orffwys a gwella cyn dychwelyd i’r gad.

Sefydlodd ysgolion ledled Morgannwg gysylltiadau â’u hysbytai lleol gan helpu mewn ffyrdd ymarferol iawn fel casglu ffrwythau a llysiau ar gyfer yr ysbytai. Daethai’r cysylltiadau ag ysbytai lleol nifer o blant ifanc i gysylltiad â milwyr a anafwyd, ac felly â realiti tywyll y lladdfa a berodd ymladd cyfoes yn Ffrainc a thu hwnt:

This afternoon four wounded soldiers from Caerphilly Hospital visited the school from 3.20 to 4pm. They visited the various classes in pairs and showed much interest in a Welsh school. The pupils were equally delighted with the visitors who hailed from Liverpool, Norfolk, Cornwall and London respectively.  The soldiers were the guests of the Red Cross Nurses for the afternoon [Ysgol Ferched Cwmaber, 27 Gorff 1918, ECG18/2 t.133]

Permission has been granted by the Local Managers to take the Scholars to the Palace Theatre, this afternoon, when an interesting programme has been prepared to celebrate Empire Day. An invitation has been tendered to the wounded soldiers, now at Caerphilly Red Cross Hospital [Ysgol Ferched Caerffili, 24 Mai 1917, ECG13/3 t.99]

Defnyddiwyd nwy mwstard ar faes y gad o 1916 ymlaen, gan ddallu miloedd o ŵyr ifanc dros dro – ac yn aml, yn barhaol. Mae cofnodlyfr yr ysgol yn sôn am yr ymweliadau gan filwyr dall ag ysgolion lleol, a’r ymdrechion a wnaeth yr ysgolion i gynnig cyfleusterau i helpu’r milwyr i wella. Roedd cofnod Ysgol Ferched Cwmaber ar gyfer Gorffennaf 1917 yn un arferol i’r cyfnod:

Two visitors came here this afternoon to hear the girls singing – two blind soldiers who were on a visit to Abertridwr – one from London and one from Australia. They expressed great pleasure at the singing, especially the Welsh songs. The children keenly felt the presence of the visitors and their sacrifice appealed to them greatly.  Needless to say they received a very hearty welcome [Ysgol Ferched Cwmaber, 27 Gorff 1917, ECG18/2, t.118]

Cawsai’r ymweliadau argraff ddofn ar y staff a’r disgyblion. O ganlyniad, rhoddodd ysgolion sylw penodol i elusennau a weithiai â’r milwyr a ddallwyd. Y fwyaf adnabyddus oedd Hostel Sant Dunstand yn Regents Park Lodge, Llundain. Roedd yn elusen a gefnogwyd gan Sefydliad Cenedlaethol y Deillion, Cymdeithas y Groes Goch ac Urdd Sant Ioan, Jerwsalem. Yr unigolyn a greodd yr hostel oedd Arthur Pearson, y perchennog papurau newydd, a ymrwymodd ei hun i weithio i Sefydliad Cenedlaethol y Deillion ar ôl colli ei olwg.  Cydnabu’r angen a oedd ar gynifer o filwyr a ddallwyd yn ystod y rhyfel am ofal arbenigol, a sefydlodd Hostel Sant Dunstan ym mis Chwefror 1915 fel canolfan lle gellid addysgu crefft i ddynion, a’u helpu i ddychwelyd i fywyd bob dydd. Ymhlith y sgiliau a addysgwyd oedd teipio, teleffoni, gwaith saer a garddio’n fasnachol. Anogai’r hostel i’r dynion wneud pob math o bethau, o chwaraeon i ddysgu offeryn cerddorol.

Roedd Sant Dunstan yn symbol o drasiedi rhyfel, ond hefyd yr hyn y gellid ei wneud i helpu milwyr i ailadeiladu eu bywydau.  Roedd felly’n elusen boblogaidd a gafodd llawer o gymorth, a gwnaeth ysgolion De Cymru, ynghyd ag eraill ledled y wlad, ymdrech arbennig i’w chefnogi.

Un o’r prif ffyrdd y codai Sant Dunstan arian oedd drwy gyngherddau cerddorol. Aeth y ‘Blind Musicians’ ar deithiau cenedlaethol. Ym mis Mehefin 1917, daethent i Dde Cymru. O adroddiadau papur newydd gwyddom i gyngherddau gael eu cynnal yn Neuadd y Dref, Pen-y-bont ar Ogwr, lle codwyd £50. Roeddent hefyd yn westeion i Gôr Meibion Rhymni yn Neuadd Blwyf Dewi Sant, Rhymni, yn ystod yr un mis.  Ar 15 Mehefin 1917, adroddodd y papur newydd lleol:

The true patriotism of the public of Rhymney and its readiness to appreciate first class music were again strikingly demonstrated on Wednesday evening when a grand concert was given at St David’s Parish Hall… by the Blind Musicians of the National Institute for the Blind, London, the proceeds being devoted to the St Dunstan’s Hostel for our Blinded Soldiers and Sailors, Regents Park, London.

The artistic efforts of the performers revealed the fact that there are amongst the blind some splendid musicians and encores were quite numerous during the evening.

During the interval Mr Avalon Collard the representative of the National Institute for the Blind delivered a most interesting address on the splendid work of our Blinded Soldiers and Sailors at St Dunstan’s.

St Dunstan’s could be described as a workshop of darkness, a training ground for those who living in a world entirely different from ours must get their living in competition with us for whom the sun still shines and night is a visible beauty [Bargoed and Caerphilly Observer, 15 Meh 1917]

Erbyn mis Mehefin 1917, roedd yr hostel wedi helpu dros 200 o ddynion, gyda 380 ymhellach yn cael eu hyfforddi a’u cynorthwyo. Fodd bynnag, nod y daith oedd codi arian i’r 110 o ddynion mewn ysbytai milwrol a oedd yn aros i ddod i Sant Dunstan. Gallwn weld pa mor boblogaidd oedd Sant Dunstan ymhlith yr ysgolion gyda’r penderfyniad a wnaed ar 7 Mehefin i gau ysgolion Caerffili fel y gallai’r disgyblion gyfrannu at gefnogi’r cyngherddau gan ‘The Blind Musicians’ yng Nghastell Caerffili:

ECG12_3 p51

Received instruction to close school this afternoon as there is a great function in the Castle on behalf of the Blinded Soldiers from St. Dunstan’s. The Blind men will give two Concerts [Ysgol Bechgyn Caerffili, 7 Gorff 1917, ECG12/3 t.51]

Byddai ysgolion hefyd yn trefnu eu digwyddiadau eu hunain i godi arian i Hostel Sant Dunstan. Yn ystod yr un mis, nododd Pennaeth Ysgol Fechgyn Mardy hyn yng nghofnodlyfr yr ysgol:

ER23_5 p125

A charity concert, organised chiefly by the teachers, was held on the 9th June at the Workmen’s Hall, Ferndale, the proceeds being devoted to the St Dunstan’s Hostel for Blinded Soldiers and Sailors. Mardy’s contribution towards this was £28.11.0 [Ysgol Bechgyn Y Maerdy, 20 Meh 1917, ER23/5 t.125]

Cydnabuwyd hefyd fod teuluoedd milwyr a oedd wedi colli’u golwg yn wynebu anawsterau ariannol difrifol. Ym 1917, penderfynodd awdurdod addysg y Rhondda gefnogi apêl genedlaethol i godi arian ar gyfer Cronfa’r Plant i Filwyr a Ddallwyd. Ym mis Tachwedd 1917, cafodd Prifathro Ysgol Fechgyn Trealaw y cylchlythyr canlynol gan yr Awdurdod Addysg:

I write to ask for the benefit of your co-operation in my Xmas appeal to the British Isles on behalf of the children of our Blinded Soldiers and Sailors. Briefly the aim is to collect a sum of not less than £250,000 to provide a weekly payment of 5/- for each child of every blind soldier and sailor until such child reaches the age of 16. At present the married men and children receive from the Government a weekly allowance for each child they may have and for every child born nine months after their discharge, but there is no allowance for children born after the blinded man has left the army nor any allowance for the children of men who marry after their disablement. Christmas envelopes containing an appeal will be given to each child and these will be collected after the vacation [Ysgol Bechgyn Trealaw, 9 Tach 1917, ER41/2 tt.294-5]

Er bod dogni wedi cael ei gyflwyno, a’i fod yn gyfnod anodd i deuluoedd ledled De Cymru, tarodd yr apêl dant â’r plant.  Ym mis Ionawr, adroddodd Trealaw fod £12 5 swllt wedi’i godi a gwnaethai ysgolion eraill yn yr ardal gyfraniadau tebyg. Er enghraifft, cododd Ysgol Fabanod Pen-y-graig £3 8 swllt a 6 dimai. I gydnabod ei chyfraniad, cafodd Ysgol Trealaw lythyr o ddiolch gan Arthur Pearson:

ER41_2 p307

Will you please convey to your scholars my sincere thanks for their subscription to the Blinded Soldiers’ Children Fund – £12 5s. 1d. I need not tell you how keenly I appreciate this evidence of their sympathy and interest and in the effort to make as happy as possible the home lives of the men who have made so great a sacrifice for their country and whose bravery has been shown not only while they were serving in the Army, but in a most remarkable manner since. In thanking in my own name all who have so kindly assisted in this collection, I am thanking them on behalf of those blinded soldiers for whom the fund is being raised [Ysgol Bechgyn Trealaw, 11 Maw 1918, ER41/2 t.307]

Erbyn llofnodi’r Cadoediad ym mis Tachwedd 1918, roedd Sant Dunstan wedi helpu dros 600 o gyn-filwyr, ond megis dechrau oedd y gwaith. Roedd o hyd 900 o ddynion yn dysgu sgiliau newydd yn Regent’s Park ac agorodd canolfannau eraill ledled y wlad. A, chwarae teg, bedwar mis yn ddiweddarach roedd yr ysgolion yn dal i gasglu arian ar gyfer Sant Dunstan.

ECG13_3 p131

Celebrations of St David’s Day. Programme – A Welsh drama composed by Mrs John CA now a member on the staff and previously Head Mistress of Senghenydd Infants’ School – ‘Plant y Pentre’. As usual the entertainment will be held in the Palace kindly lent for the occasion. A nominal charge will be made for adults, the proceeds to be handed over to St Dunstan’s Institute for our blinded heroes of the war [Ysgol Ferched Caerffili, 28 Chwe 1919, ECG13/3 t.131]

Er i Arthur Pearson farw ym 1921, daliodd Sant Dunstan i gynorthwyo cyn-filwyr dall ar ôl y rhyfel ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Blind Veterans UK yw enw’r elusen heddiw, ac mae’n dathlu ei chanmlwyddiant. Mae ei gweledigaeth wreiddiol yr un fath â’r weledigaeth a ysbrydolodd plant De Cymru ledled Prydain ym 1915 – ni ddylai neb sydd wedi gwasanaethu’r wlad frwydr dallineb eu hunain.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg