Cefnogi’r Ymgyrch Ryfel

Wrth i’r Rhyfel Byd Cyntaf fynd rhagddo, roedd awdurdodau lleol ar draws Prydain yn cydlynu eu hymdrechion i gefnogi’r ymgyrch ryfel.

Ar ddechrau’r rhyfel, un opsiwn a drafodwyd gan yr awdurdodau oedd defnyddio ysgolion cynradd fel ysbytai maes ar gyfer y sawl a anafwyd ar faes y gad. Sefydlwyd Didoliadau Cymorth Gwirfoddol i helpu nyrsys proffesiynol ar flaen y gad (er y cafwyd gwrthwynebiad i hynny ar y dechrau) ac yn yr ysbytai gartref. Testun trafod arall oedd ble y byddai recriwtiaid newydd yn aros cyn eu hanfon dramor neu i rywle arall ym Mhrydain. Yng Nghaerdydd, penderfynwyd defnyddio adeiladau cyhoeddus fel llety mewn argyfwng (RD/C/1/9).

Cafodd llawer o weithwyr a barhaodd i weithio i’r awdurdodau lleol gynnig Tâl Rhyfel Ychwanegol. Tâl i’w hannog nhw i weithio oriau hirach oedd hwn, yn aml i wneud yn iawn am golli gwyliau neu am gostau cynyddol hanfodion bywyd. Roedd y sawl nad oedden nhw yn y fyddin, gartref neu dramor, yn cael eu hannog i weithio mewn ffatrïoedd a oedd yn cynhyrchu arfau rhyfel neu ddeunydd arall ar gyfer awyrennau, llongau a thanciau. Byddai gwŷr hŷn neu ferched yn cymryd lle’r gwŷr a oedd yn rhyfela. Pan ddaeth y bygythiad y byddai awyrennau bomio a Sepelinau’r Almaen yn ymosod o’r awyr, cafodd yr awdurdodau lleol orchymyn i bylu neu ddiffodd goleuadau stryd a threfnu seirenau rhybudd.

Sefydlwyd elusennau i gefnogi’r sawl a oedd yn ymladd, eu teuluoedd a’u hanwyliaid. Yn Aberdâr, awgrymodd y Gronfa Genedlaethol ar gyfer Cysuro’r Lluoedd y dylid dynodi Dydd Gŵyl Dewi yn Ddiwrnod Fflagiau, ac y dylid casglu arian yn y stryd er mwyn y Gronfa (UDAB/C/1/9).

Aberdare UD flag day

Yn ogystal ag elusennau, roedd awdurdodau lleol yn annog rhai cyfleusterau megis ysgolion i roi arian tuag at gyfrif Cynilion Rhyfel. Tuag at ddiwedd y rhyfel, byddai tanciau a oedd wedi eu defnyddio ar faes y gad yn mynd o amgylch Prydain, a byddai’r cyhoedd yn cael taith mewn tanc weithiau am gyfraniad tuag at y Cynilion Rhyfel. Ar yr un pryd, roedd y llywodraeth yn cynnig Benthyciadau Rhyfel, yn annog pobl i fuddsoddi arian yn yr ymgyrch ryfel.

Yn ystod blynyddoedd diweddar y rhyfel, roedd rhai deunyddiau ar ddogn, un ai oherwydd ei bod yn anoddach cael gafael arnyn nhw, neu oherwydd bod eu hangen at ddibenion milwrol. Yn y Bari, penderfynodd yr awdurdodau beidio â defnyddio tar crai er mwyn cynnal ffyrdd oherwydd bod rhai o’r isgynhyrchion yn rhan o’r broses o gynhyrchu ffrwydron (BB/C/1/20). Wrth iddi ddod yn anoddach mewnforio neu gynhyrchu bwyd, dechreuodd yr awdurdodau annog pobl i dyfu bwyd mewn rhandiroedd. Yn ogystal â phobl ac adeiladau, cymerai’r lluoedd arfog gerbydau dinasyddion er mwyn eu defnyddio yn bennaf fel cerbydau trafnidiaeth. Yng Nghaerffili, rhoddodd Cwmni Trafnidiaeth De Cymru wybod i’r awdurdodau lleol bod eu cerbydau wedi eu cymryd gan Swyddfa’r Rhyfel, ond roedden nhw’n dal i obeithio cychwyn gwasanaethau yn ardal y dref (UDCAE/C/1/18). Yng Ngelligaer, trafodwyd llogi injan ffordd (UDG/C/1/11), ond ymddengys na weithredwyd ar y syniad.

Mae cofnodion yr Awdurdod Lleol yn Archifau Morgannwg yn dangos pa mor eang oedd gwaith y cynghorau lleol wrth gefnogi’r rhyfel ar y ffrynt cartref.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros Dro

Hostel Sant Dunstan i Filwyr a Morwyr a Ddallwyd

Wrth i’r Rhyfel Mawr fynd rhagddo, cafodd De Cymru nifer gynyddol o filwyr wedi’u hanafu, yn bennaf o Ffrainc a Gwlad Belg ond, weithiau, o gyn belled â’r Dardanelles. Deliwyd â’r achosion mwyaf brys a difrifol mewn ysbytai milwrol mawr a sefydlwyd mewn canolfannau fel Caerdydd. Hefyd, sefydlodd y Groes Goch dros 40 o ysbytai ledled Morgannwg, yn aml mewn tai gwledig a ddefnyddiwyd yn bennaf fel mannau i filwyr orffwys a gwella cyn dychwelyd i’r gad.

Sefydlodd ysgolion ledled Morgannwg gysylltiadau â’u hysbytai lleol gan helpu mewn ffyrdd ymarferol iawn fel casglu ffrwythau a llysiau ar gyfer yr ysbytai. Daethai’r cysylltiadau ag ysbytai lleol nifer o blant ifanc i gysylltiad â milwyr a anafwyd, ac felly â realiti tywyll y lladdfa a berodd ymladd cyfoes yn Ffrainc a thu hwnt:

This afternoon four wounded soldiers from Caerphilly Hospital visited the school from 3.20 to 4pm. They visited the various classes in pairs and showed much interest in a Welsh school. The pupils were equally delighted with the visitors who hailed from Liverpool, Norfolk, Cornwall and London respectively.  The soldiers were the guests of the Red Cross Nurses for the afternoon [Ysgol Ferched Cwmaber, 27 Gorff 1918, ECG18/2 t.133]

Permission has been granted by the Local Managers to take the Scholars to the Palace Theatre, this afternoon, when an interesting programme has been prepared to celebrate Empire Day. An invitation has been tendered to the wounded soldiers, now at Caerphilly Red Cross Hospital [Ysgol Ferched Caerffili, 24 Mai 1917, ECG13/3 t.99]

Defnyddiwyd nwy mwstard ar faes y gad o 1916 ymlaen, gan ddallu miloedd o ŵyr ifanc dros dro – ac yn aml, yn barhaol. Mae cofnodlyfr yr ysgol yn sôn am yr ymweliadau gan filwyr dall ag ysgolion lleol, a’r ymdrechion a wnaeth yr ysgolion i gynnig cyfleusterau i helpu’r milwyr i wella. Roedd cofnod Ysgol Ferched Cwmaber ar gyfer Gorffennaf 1917 yn un arferol i’r cyfnod:

Two visitors came here this afternoon to hear the girls singing – two blind soldiers who were on a visit to Abertridwr – one from London and one from Australia. They expressed great pleasure at the singing, especially the Welsh songs. The children keenly felt the presence of the visitors and their sacrifice appealed to them greatly.  Needless to say they received a very hearty welcome [Ysgol Ferched Cwmaber, 27 Gorff 1917, ECG18/2, t.118]

Cawsai’r ymweliadau argraff ddofn ar y staff a’r disgyblion. O ganlyniad, rhoddodd ysgolion sylw penodol i elusennau a weithiai â’r milwyr a ddallwyd. Y fwyaf adnabyddus oedd Hostel Sant Dunstand yn Regents Park Lodge, Llundain. Roedd yn elusen a gefnogwyd gan Sefydliad Cenedlaethol y Deillion, Cymdeithas y Groes Goch ac Urdd Sant Ioan, Jerwsalem. Yr unigolyn a greodd yr hostel oedd Arthur Pearson, y perchennog papurau newydd, a ymrwymodd ei hun i weithio i Sefydliad Cenedlaethol y Deillion ar ôl colli ei olwg.  Cydnabu’r angen a oedd ar gynifer o filwyr a ddallwyd yn ystod y rhyfel am ofal arbenigol, a sefydlodd Hostel Sant Dunstan ym mis Chwefror 1915 fel canolfan lle gellid addysgu crefft i ddynion, a’u helpu i ddychwelyd i fywyd bob dydd. Ymhlith y sgiliau a addysgwyd oedd teipio, teleffoni, gwaith saer a garddio’n fasnachol. Anogai’r hostel i’r dynion wneud pob math o bethau, o chwaraeon i ddysgu offeryn cerddorol.

Roedd Sant Dunstan yn symbol o drasiedi rhyfel, ond hefyd yr hyn y gellid ei wneud i helpu milwyr i ailadeiladu eu bywydau.  Roedd felly’n elusen boblogaidd a gafodd llawer o gymorth, a gwnaeth ysgolion De Cymru, ynghyd ag eraill ledled y wlad, ymdrech arbennig i’w chefnogi.

Un o’r prif ffyrdd y codai Sant Dunstan arian oedd drwy gyngherddau cerddorol. Aeth y ‘Blind Musicians’ ar deithiau cenedlaethol. Ym mis Mehefin 1917, daethent i Dde Cymru. O adroddiadau papur newydd gwyddom i gyngherddau gael eu cynnal yn Neuadd y Dref, Pen-y-bont ar Ogwr, lle codwyd £50. Roeddent hefyd yn westeion i Gôr Meibion Rhymni yn Neuadd Blwyf Dewi Sant, Rhymni, yn ystod yr un mis.  Ar 15 Mehefin 1917, adroddodd y papur newydd lleol:

The true patriotism of the public of Rhymney and its readiness to appreciate first class music were again strikingly demonstrated on Wednesday evening when a grand concert was given at St David’s Parish Hall… by the Blind Musicians of the National Institute for the Blind, London, the proceeds being devoted to the St Dunstan’s Hostel for our Blinded Soldiers and Sailors, Regents Park, London.

The artistic efforts of the performers revealed the fact that there are amongst the blind some splendid musicians and encores were quite numerous during the evening.

During the interval Mr Avalon Collard the representative of the National Institute for the Blind delivered a most interesting address on the splendid work of our Blinded Soldiers and Sailors at St Dunstan’s.

St Dunstan’s could be described as a workshop of darkness, a training ground for those who living in a world entirely different from ours must get their living in competition with us for whom the sun still shines and night is a visible beauty [Bargoed and Caerphilly Observer, 15 Meh 1917]

Erbyn mis Mehefin 1917, roedd yr hostel wedi helpu dros 200 o ddynion, gyda 380 ymhellach yn cael eu hyfforddi a’u cynorthwyo. Fodd bynnag, nod y daith oedd codi arian i’r 110 o ddynion mewn ysbytai milwrol a oedd yn aros i ddod i Sant Dunstan. Gallwn weld pa mor boblogaidd oedd Sant Dunstan ymhlith yr ysgolion gyda’r penderfyniad a wnaed ar 7 Mehefin i gau ysgolion Caerffili fel y gallai’r disgyblion gyfrannu at gefnogi’r cyngherddau gan ‘The Blind Musicians’ yng Nghastell Caerffili:

ECG12_3 p51

Received instruction to close school this afternoon as there is a great function in the Castle on behalf of the Blinded Soldiers from St. Dunstan’s. The Blind men will give two Concerts [Ysgol Bechgyn Caerffili, 7 Gorff 1917, ECG12/3 t.51]

Byddai ysgolion hefyd yn trefnu eu digwyddiadau eu hunain i godi arian i Hostel Sant Dunstan. Yn ystod yr un mis, nododd Pennaeth Ysgol Fechgyn Mardy hyn yng nghofnodlyfr yr ysgol:

ER23_5 p125

A charity concert, organised chiefly by the teachers, was held on the 9th June at the Workmen’s Hall, Ferndale, the proceeds being devoted to the St Dunstan’s Hostel for Blinded Soldiers and Sailors. Mardy’s contribution towards this was £28.11.0 [Ysgol Bechgyn Y Maerdy, 20 Meh 1917, ER23/5 t.125]

Cydnabuwyd hefyd fod teuluoedd milwyr a oedd wedi colli’u golwg yn wynebu anawsterau ariannol difrifol. Ym 1917, penderfynodd awdurdod addysg y Rhondda gefnogi apêl genedlaethol i godi arian ar gyfer Cronfa’r Plant i Filwyr a Ddallwyd. Ym mis Tachwedd 1917, cafodd Prifathro Ysgol Fechgyn Trealaw y cylchlythyr canlynol gan yr Awdurdod Addysg:

I write to ask for the benefit of your co-operation in my Xmas appeal to the British Isles on behalf of the children of our Blinded Soldiers and Sailors. Briefly the aim is to collect a sum of not less than £250,000 to provide a weekly payment of 5/- for each child of every blind soldier and sailor until such child reaches the age of 16. At present the married men and children receive from the Government a weekly allowance for each child they may have and for every child born nine months after their discharge, but there is no allowance for children born after the blinded man has left the army nor any allowance for the children of men who marry after their disablement. Christmas envelopes containing an appeal will be given to each child and these will be collected after the vacation [Ysgol Bechgyn Trealaw, 9 Tach 1917, ER41/2 tt.294-5]

Er bod dogni wedi cael ei gyflwyno, a’i fod yn gyfnod anodd i deuluoedd ledled De Cymru, tarodd yr apêl dant â’r plant.  Ym mis Ionawr, adroddodd Trealaw fod £12 5 swllt wedi’i godi a gwnaethai ysgolion eraill yn yr ardal gyfraniadau tebyg. Er enghraifft, cododd Ysgol Fabanod Pen-y-graig £3 8 swllt a 6 dimai. I gydnabod ei chyfraniad, cafodd Ysgol Trealaw lythyr o ddiolch gan Arthur Pearson:

ER41_2 p307

Will you please convey to your scholars my sincere thanks for their subscription to the Blinded Soldiers’ Children Fund – £12 5s. 1d. I need not tell you how keenly I appreciate this evidence of their sympathy and interest and in the effort to make as happy as possible the home lives of the men who have made so great a sacrifice for their country and whose bravery has been shown not only while they were serving in the Army, but in a most remarkable manner since. In thanking in my own name all who have so kindly assisted in this collection, I am thanking them on behalf of those blinded soldiers for whom the fund is being raised [Ysgol Bechgyn Trealaw, 11 Maw 1918, ER41/2 t.307]

Erbyn llofnodi’r Cadoediad ym mis Tachwedd 1918, roedd Sant Dunstan wedi helpu dros 600 o gyn-filwyr, ond megis dechrau oedd y gwaith. Roedd o hyd 900 o ddynion yn dysgu sgiliau newydd yn Regent’s Park ac agorodd canolfannau eraill ledled y wlad. A, chwarae teg, bedwar mis yn ddiweddarach roedd yr ysgolion yn dal i gasglu arian ar gyfer Sant Dunstan.

ECG13_3 p131

Celebrations of St David’s Day. Programme – A Welsh drama composed by Mrs John CA now a member on the staff and previously Head Mistress of Senghenydd Infants’ School – ‘Plant y Pentre’. As usual the entertainment will be held in the Palace kindly lent for the occasion. A nominal charge will be made for adults, the proceeds to be handed over to St Dunstan’s Institute for our blinded heroes of the war [Ysgol Ferched Caerffili, 28 Chwe 1919, ECG13/3 t.131]

Er i Arthur Pearson farw ym 1921, daliodd Sant Dunstan i gynorthwyo cyn-filwyr dall ar ôl y rhyfel ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Blind Veterans UK yw enw’r elusen heddiw, ac mae’n dathlu ei chanmlwyddiant. Mae ei gweledigaeth wreiddiol yr un fath â’r weledigaeth a ysbrydolodd plant De Cymru ledled Prydain ym 1915 – ni ddylai neb sydd wedi gwasanaethu’r wlad frwydr dallineb eu hunain.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Mwg Coffa’r Rhyfel Mawr

Ar 18 Gorffennaf 1919, cyflwynwyd mygiau coffaol i 455 o ddisgyblion yn Ysgol Ferched Caerffili i nodi diwedd y Rhyfel Mawr pan lofnodwyd y Cytundeb Heddwch yn Versailles.  Roedd y mygiau hefyd yn ddiolch am y gwaith rhagorol a wnaeth y staff a’r disgyblion yn yr ysgol dros y 5 mlynedd flaenorol i gefnogi’r ymdrech ryfel.

Yn ystod wythnosau cyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf edrychai ysgolion ledled Cymru am ffyrdd o gefnogi’r ymdrech ryfel. Yn aml, ysgolion merched ymatebodd yn gyntaf, gyda chynigion ymarferol iawn i ddarparu dillad ychwanegol i’r milwyr yn Ffrainc. Roedd Ysgol Ferched Caerffili yn un o’r rhai cyntaf i ddeall sut y gallai helpu. Bedair wythnos ar ôl dechrau’r rhyfel nododd y Brifathrawes, Miss Morgan, y canlynol yng nghofnodlyfr yr ysgol:

ECG13_3 p35

ECG13_3 p35 part 2

In consequence of a great European War in which our country is engaged as Protector of Belgium, a Neutral State, & eventually to carry out her obligations to France, as per agreement against Prussian Militarism, the girls in the three upper classes have been anxious to do something for our gallant soldiers. In order to minister somewhat to their comfort, they have decided each, to knit a pair of socks or comforter. They have therefore undertaken to collect the money to pay for the wool, and as a result of their efforts, the sum realised is £7-14-0 [Ysgol Ferched Caerffili, 4 Medi 1914, ECG13/3 t.35]

Ym mis Hydref roedd y swmp cyntaf o hosanau a myfflers gwlân yn barod ac ar ei ffordd i Lundain:

ECG13_3 p38

The first parcel of socks and mufflers knitted by the girls, viz:- 32 pairs of socks and 23 mufflers were sent to-day to the Lady-in- Waiting to the Queen, Devonshire House. They had been washed and pressed, gratis, at the local laundries [Ysgol Ferched Caerffili, 29 Hyd 1914, ECG13/3 t.38]

Cyfraniad bach, ond cyfraniad pwysig, i les y milwyr. Dair blynedd yn ddiweddarach, gyda’r rhyfel bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, roedd merched Caerffili yn dal i gael ac ymateb i geisiadau am fwy o ddillad gan filwyr a morwyr:

ECG13_3 p106

We have been asked to begin work afresh for the soldiers & sailors again. The Hon. Sec. of the Cardiff Branch, Women’s Advisory Com. War Work Mrs J. Price Williams has sent on 24lbs of wool to make up, & the senior class has commenced in earnest this afternoon [Ysgol Ferched Caerffili, 21 Medi 1917, ECG13/3 t.106]

Mae’n bosibl, drwy ofyn am wlân ym 1917, y cydnabuwyd wrth i’r rhyfel barhau ei bod yn anos i deuluoedd lleol gyfrannu arian at yr amryw apeliadau a wnaed ar ran y milwyr, y morwyr a’u dibynyddion. Amlygodd cofnodlyfr Miss Morgan yr anawsterau a wynebai pobl leol yng Nghaerffili wrth i’r rhyfel arwain at brinder bwyd a thanwydd, a gwneud i bris nifer o nwyddau sylfaenol godi. Dywedodd y Brifathrawes ym mis Rhagfyr 1916:

ECG13_3 p89_90

The weather is still very miserable and there is much sickness, many girls being very badly shod owing to the great increase in the price of boots, and other commodities which are the dire results of disastrous war which has raged during the past twenty –nine months [Ysgol Ferched Caerffili, 15 Rhag 1916, ECG13/3 tt.89-90]

Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, ni newidiodd fawr ddim:

ECG13_3 p108

The attendance is still going down, sickness the chief reason. Owing to the strenuous circumstances arising out of the war, many are unable to attend owing to bad boots etc. [Ysgol Ferched Caerffili, 16 Tach 1917, ECG13/3 t.108]

ECG13_3 p109

Owing to the shortage of butter etc. a large number of girls are kept at home for the purpose of taking their turns at the local grocers [Ysgol Ferched Caerffili, 13 Rhag 1917, ECG13/3 t.109]

ECG13_3 p110

The attendance for the week is exceptionally poor, bad weather, sickness, together with the difficulty to procure the bare necessaries; consequence on the war conditions is responsible for this…. [Ysgol Ferched Caerffili, 21 Rhag 1917, ECG13/3 t.110]

Ond er gwaetha’r anawsterau ni fethodd yr ysgol fyth ag achub ar y cyfle i helpu’r ymdrech ryfel. Er enghraifft, bob Dydd Gŵyl Dewi, cyflwynodd y staff a’r disgyblion ‘adloniant’ yn y Castle Cinema, gyda’r perchennog, Mr Gibbon, yn cynnig iddynt ddefnyddio’r lle am ddim. Gwahoddwyd rhieni a theuluoedd i fynychu, a chafwyd casgliad. Ym 1916, ysgrifennodd Miss Morgan:

In addition to a short address on the Patron Saint, Welsh Airs and Recitations, short playlets illustrative of early periods in the history of our people have been got up in character by the various standards a) A Pageant of Welsh heroes, 2) A Legend of the Leek, 3) A Scene from Henry V after the Battle of Agincourt, 4) The opening Episode of the Welsh National Pageant.

The school will line up at 9.30 and they will march in procession to the above named hall. Mr Barker ex schoolmaster and famous harpist has promised to be present to give some selections on the harp and the members of the 2nd and 3rd Std on their own request are presenting him with a bouquet of spring flowers this being his birthday [Ysgol Ferched Caerffili, 1 Maw 1916, ECG13/3 tt.71-72]

ECG13_3 p72

A silver collection was taken from the balcony which amounted to 26s which is to be sent on to Brigadier General Owen Thomas in aid of the Welsh Fund for Disabled Soldiers after the War [Ysgol Ferched Caerffili, 2 Maw 1916, ECG13/3 t.72]

Y flwyddyn ganlynol, nododd:

ECG13_3 p93

St. David’s Day celebration at Castle Cinema. A collection, which amounted to 13/2d was made in the audience, and this will be duly handed over to Hon. Mrs Lloyd George, wife of the Prime Minister, towards the National Fund for Welsh Troops [Ysgol Ferched Caerffili, 1 Maw 1917, ECG13/3 t.93]

Ymddengys iddynt fanteisio ar bob cyfle i godi arian. Wythnos cyn gwyliau’r haf, ysgrifennodd Miss Morgan eto yn ei chofnodlyfr:

An entertainment has been arranged….Each class contributes one or more items for the programme and the senior girls are ready with a small play -The Sleeping Beauty. It has been suggested that where possible the scholars will bring a copper, and the full amount expended on wool, that the senior girls can be set on comforts for our brave soldiers and sailors, upon the opening of school after the recess [Ysgol Ferched Caerffili, 15 Rhag 1916, ECG13/3 tt.89-90]

ECG13_3 p90

The entertainment mentioned above was carried out and was heartily enjoyed by the scholars and staff. Sum Collected £3-2-7.The wool will be purchased and the record of work handed in to the Education Committee [Ysgol Ferched Caerffili, 22 Rhag 1916, ECG13/3 t.90]

Mae’n bosibl y cafodd y merched eu hysbrydoli gan un o’u hathrawesau eu hunain, Miss Hughes, a wnaeth ym 1915 hyfforddi a gwirfoddoli i wasanaethu dramor fel nyrs:

Miss Hughes has taken the St. John’s Nursing course as a preparation for hospital work, and has got her certificate. The Education Committee has sanctioned her application, that of allowing her to take the month’s probation course on the understanding that the War Office appoint her afterwards for the duration of the “War” or at least for 12 months [Ysgol Ferched Caerffili, 2 Meh 1915, ECG13/3 t.53]

Noda cofnodlyfr yr ysgol iddi adael porthladd Gravesend ym mis Medi 1915 am yr Aifft. Nid oes cofnod bod Miss Hughes wedi dychwelyd i ymweld ag Ysgol Ferched Caerffili ond mae’n rhaid ei bod wedi achosi cryn gynnwrf wrth iddi adael i wasanaethu dramor. Hefyd, gyda’r penderfyniad i ganiatáu athrawesau priod i gadw eu swyddi tan ddiwedd y rhyfel, roedd gan nifer ohonynt ŵyr yn gwasanaethu ar y ffrynt. Cafodd o leiaf un o athrawesau Caerffili, Mrs Foxall, y newyddion trist bod ei gŵr wedi marw ar faes y gad yn Ffrainc.

Erbyn 1917, cydnabu’r Llywodraeth y potensial i godi arian i’r rhyfel drwy fanteisio ar frwdfrydedd ac adnoddau ysgolion. Gofynnwyd i’r holl ysgolion sefydlu systemau i werthu Bondiau Rhyfel:

ECG13_3 p97_98

Received notification from the Chief Education Official that the Caerphilly Group of schools will be closed on Tuesday 22nd inst, in order that head teachers and their staff may attend a meeting, convened by the Secretary of the National War Savings Committee, Salisbury Square EC4…

The dire need of enlisting the full sympathy of the parents through the scholars in straining to the uttermost, the means of saving methodically & taking the advantage of the facilities now offered by the Government for small investors, & thereby helping to bring this gruesome war to an honourable end, is the object of calling the teachers together [Ysgol Ferched Caerffili, 15 Mai 1917, ECG13/3 tt.97-98]

Pan ymwelodd y tanciau â Chaerffili a threfi eraill De Cymru ym Mehefin 1918, fel rhan o ymgyrch genedlaethol i annog pobl i brynu Tystysgrifau Cynilion Rhyfel, atebodd yr ysgol yr her drachefn:

ECG13_3 p117

Visit of the tank Egbert to Caerphilly with the object of raising £100,000 for the purposes of the Great World War. The schools of the town were closed yesterday afternoon to celebrate the event [Ysgol Ferched Caerffili, 22 Meh 1918, ECG13/3 t.117]

ECG13_3 p117 part 2

…As a result of special effort mentioned above 104 War Savings Certificates 15/6 each were purchased at the Tank on Saturday 22nd in connection with this department [Ysgol Ferched Caerffili, 26 Meh 1918, ECG13/3 t.117]

Ni ddaeth gwaith yr ysgol i ben ar ôl llofnodi’r Cadoediad ym mis Tachwedd 1918. Mae’r cofnodlyfr yn nodi bod plant wedi dal i werthu Bondiau Rhyfel a chynnal perfformiadau i godi arian i elusennau rhyfel ymhell i’r flwyddyn ganlynol. Roedd y mygiau a gyflwynwyd i’r holl ddisgyblion ar 18 Gorffennaf 1919 felly’n rhai haeddiannol. O gofnodion y Brifathrawes nid oes amheuaeth bod disgyblion Ysgol Ferched Caerffili – y 455 ohonynt – yn benderfynol o ddathlu diwedd swyddogol y rhyfel a’u cyfraniad ato:

ECG13_3 p141 cropped

Children of school age are entertained today to tea at their respective school and when this is over the three departments of the school will march in procession through the town to the several fields kindly lent for their occasion where an interesting programme of events – sportive, will take place. The school that is, the class rooms are very tastefully decorated and all is now ready to make the happy event, forever remembered by the scholars. Number catered for 455 [Ysgol Ferched Caerffili, 18 Gorff 1919, ECG13/3 t.141]

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

“Milwr dewr a siriol”: Yr athro cyntaf o Forgannwg i farw ar faes y gad yn Ffrainc

Ymunodd dros 15,000 o athrawon â’r lluoedd arfog i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn rhaid i Benaethiaid gadw dyddlyfr o weithgarwch yr ysgol ac mae dyddlyfrau ysgolion Caerffili, sy’n cael eu cadw yn Archifau Morgannwg, yn adrodd straeon llawer o’r athrawon a fu’n ymladd yn y rhyfel.  Mae dyddlyfr Ysgol y Bechgyn Cwmaber yn cynnwys stori arbennig o deimladwy sy’n cofnodi marwolaeth yr athro cyntaf o ardal Morgannwg i farw wrth wasanaethu yn y fyddin, William Clifford Harris.

Agorodd Ysgol y Bechgyn Cwmaber, gyda’r arwyddair ‘Gwell ymennydd na nerth bôn braich’, ym 1909 gan gynnig addysg i hyd at 250 o fechgyn o ardaloedd Abertridwr a Senghennydd. O hydref 1914 cyfeiriodd dyddlyfr yr ysgol, a gadwyd gan y Pennaeth George Davies, yn rheolaidd at staff yn gadael i ymuno â’r Lluoedd Arfog.

ECG18_1 p94

During the holidays Mr W C Harris (U.T) joined the New Army and the staff is therefore short of one teacher [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 4 Ion 1915, ECG18/1 t.94]

Mr John A Roberts terminated his duties as Certificated Assistant here today. He has enlisted in the Royal Flying Corps and proceeds to Farnborough tomorrow [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 27 Medi 1915, ECG18/1 t.109]

Mr W S Trigg left school today. He has been granted a Commission in the 23rd Pioneer Batt’ and will commence his new duties tomorrow [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 31 Hyd 1915, ECG18/1 t.111]

Mr Jno Ellis Williams returned to school today. He terminates his engagement at this school today and enters an O.T.C on 16th inst, after which he is taking a Commission offered him in the Welsh Guards [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 14 Rhag 1915, ECG18/1 t.112]

Mr Haydn P Williams terminated his duties as Student Teacher at this school having been today called up for military service [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 14 Ion 1916, ECG18/1 t.130]

Mr Herbert H Beddow (Student teacher) left on Military Service this morning [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 5 Maw 1917, ECG18/1 t.133]

O’r dyddlyfr a chofnodion eraill yn Archifau Morgannwg gallwn adeiladu darlun o William Clifford Harris. Yn ogystal â Chwmaber, bu’n ddisgybl yn Ysgol Lewis i Fechgyn, Pengam, ac mae gan Archifau Morgannwg gofnodion manwl ar gyfer yr ysgol ar gyfer y cyfnod hwn.

Roedd William Clifford Harris yn grwt lleol a aned yn Rhydri ym mis Ionawr 1895. Enw ei dad oedd William Harris ac felly, er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau, galwyd y plentyn wrth ei enw canol, Clifford. Bu’n byw yn Swyddfa’r Post, 16 Garth Place, Rhydri am y rhan fwyaf o’i oes. Groser a aned yn Rhydri oedd ei dad, ac roedd ei fam Ida o Stoke St Mary yng Ngwlad yr Haf. Roedd ganddo frawd, Harold, a 4 chwaer, a chafodd ei addysgu yn Ysgol Gyngor Rhydri i ddechrau. Ym mis Hydref 1907 cafodd ei dderbyn i Ysgol Lewis i Fechgyn. Gorffennodd ei addysg yn yr ysgol cyn cael lle fel athro-fyfyriwr yn Ysgol Gyngor Rhydri ym mis Hydref 1912, ac yntau’n 17 oed. Ar ôl hynny symudodd i Ysgol Fechgyn Cwmaber fel Athro Cynorthwyol Di-dystysgrif ar 17 Medi 1913.

Bedwar mis ar ôl dechrau’r rhyfel, ar 31 Rhagfyr 1914, ymrestrodd gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghaerffili. Ni chyflwynwyd gorfodaeth filwrol tan 1916, felly roedd Clifford, a oedd yn 19 oed ar y pryd, yn un o’r llawer o wŷr ifanc o dde Cymru a wirfoddolodd i wasanaethu. Ynghyd â recriwtiaid eraill 16eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, cwblhaodd Clifford ei hyfforddiant cychwynnol yng ngogledd Cymru, yn Llandudno fwy na thebyg, cyn symud gyda’r Bataliwn i Gaer-wynt ym mis Medi 1915 i gwblhau ei hyfforddiant cyn ei throi hi am Ffrainc. Mae dyddlyfrau’r ysgol yn nodi, cyn iddo adael am Gaer-wynt, ei fod wedi dychwelyd i dde Cymru ar wyliau a galw yn yr ysgol am glonc gyda’i gydweithwyr a’r disgyblion [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 26 Gorff 1915, ECG18/1 t.107].

ECG18_1 p107

Yn drist iawn, chwe mis yn ddiweddarach, ychydig ddiwrnodau ar ôl pen-blwydd Clifford yn 21 oed, cofnododd George Davies yn y dyddlyfr:

ECG18_1 p114

News reached the school today that one of our staff, Pte W C Harris, 16th Batt’ Royal Welsh Fusiliers, had been killed in action on Sunday, Jan 30th 1916.  He was shot by a German sniper in the chest, but continued firing until he was again shot in the head [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 7 Chwe 1916, ECG18/1 t.114]

Roedd 16eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, rhan o Fyddin Newydd Kitchener, wedi glanio yn Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915 a symud i’r rheng flaen ger Neuve Chapelle ar 6 Ionawr. Yna symudodd y Bataliwn i ardal St Vaast ar 27 Ionawr a bu farw Clifford dridiau’n ddiweddarach. Ar 16 Chwefror, rhoddwyd y toriad canlynol o bapur newydd yn y dyddlyfr:

ECG18_1 p115

Caerphilly Teacher Killed

At a meeting of the Caerphilly school managers yesterday (Councillor Joseph Howells presiding) a letter was read from Dr J. James, Chief Education official, stating that he had been informed that a teacher in the Caerphilly group – Mr W C Harris – had been killed in action. He was attached to the 16th Royal Welsh Fusiliers.  The Headmaster of the school had sought permission to affix a brass tablet to the wall in the school, on which would be engraved the names of any old scholars and teachers who gave their lives for their country.  The letter also stated that Mr Harris was the first teacher under the Glamorgan Authority who had made the great sacrifice in defence of his country. Votes of sympathy were passed with the relatives of both families, and it was decided to recommend that permission be given for the tablet to be placed in the school as requested [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 16 Chwe 1916, ECG18/1 t.115]

Nid oes rhagor o sôn am y llechen efydd yn nyddlyfr Ysgol Cwmaber, ac mae’n bosibl iddi gael ei cholli pan gaeodd yr ysgol ym 1973. Nid Clifford Harris oedd yr unig athro o Ysgol Cwmaber i golli ei fywyd yn y rhyfel. Ar 4 Mehefin 1917, cofnododd y dyddlyfr:

News has been received that L Corp JJ Wibley (a former teacher at this school) has died from the effect of wounds received in action in France [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 4 Meh 1917, ECG18/1 t.136]

Fodd bynnag, mae’n siŵr y bu marwolaeth Clifford, y cyntaf o lawer o athrawon ifanc o ardal Morgannwg a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn sioc fawr, ac mae cofeb iddo ef a 12 o wŷr lleol eraill yn Eglwys Sant Iago, Rhydri. Ceir cofeb arall yng Nghapel Cynulleidfaol Ebeneser.

Sacred to the memory of Pte W Clifford Harris (16th Battalion, Royal Welsh Fusiliers). Aged 21 years who was killed in action at St Vaast, France, January 30 1916. He died as he had lived. A brave and cheerful soldier.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Cofebau Rhyfel Caerffili

Yn y blynyddoedd ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn rhaid i nifer fawr o’r bobl ymdopi â cholli anwyliaid a laddwyd. Roedd y galar yn hynod ddwys o ystyried bod y rhan fwyaf o’r rhai a fu farw yn ddynion ifanc â’u bywydau cyfan o’u blaen. Yn sgil y nifer enfawr o filwyr a laddwyd, lladdwyd bron miliwn o Brydain Fawr, daeth y llywodraeth a’r awdurdodau milwrol i’r penderfyniad bod dychwelyd cyrff y meirw yn anymarferol. Roedd y dynion a laddwyd yn y rhyfel felly’n cael eu cofio ar gofebau rhyfel ledled y wlad.

Roedd cofebau rhyfel o bob math; rhai cenedlaethol, fel y rhai yn Whitehall yn Llundain a Pharc Cathays yng Nghaerdydd; a chofebau lleol a gysegrwyd i’r sawl a fu farw o ddinasoedd, trefi a phentrefi ledled y wlad.  Roedd cofebau hefyd i grwpiau penodol, gan gynnwys timau chwaraeon unigol, cynulleidfaoedd eglwysi, cyn-ddisgyblion mewn ysgolion unigol a llawer o grwpiau eraill.

Yma yn Archifau Morgannwg, mae gennym gofnodion mewn perthynas â chodi nifer o gofebau yn y sir. Bydd y darn byr hwn yn trafod y gofeb yng Nghaerffili, a hefyd yn cyfeirio at y rhai lai na thair milltir i ffwrdd yn Senghennydd a Llanbradach.

Fel yn achos codi sawl cofeb, roedd y pwyllgor trefnu yn adlewyrchu strwythur y gymdeithas leol, sef pleidiau gwleidyddol lleol, grwpiau eglwys, undebau llafur, cyn-filwyr a gwragedd gweddw dibynnol. Yn achos Caerffili, roedd amrywiaeth y rhai â diddordeb yn gallu arwain at rywfaint o wrthdaro. Roedd sefydliadau sifil yn tueddu i ffafrio cofeb a oedd hefyd yn gyfleuster i’r gymuned ehangach, gydag amrywiaeth o drefi yng Nghymru’n cynnig neuaddau coffa cyhoeddus, llyfrgelloedd a phyllau nofio.  Yn Senghennydd, roedd y gofeb yn dŵr cloc yn y prif sgwâr.

Yn wahanol i gynigion sefydliadau sifil, roedd sefydliadau milwrol yn dadlau y dylai cofebau adlewyrchu’r aberth a wnaed gan filwyr, a bod naill ai’n glybiau i gyn-filwyr gwrdd â’i gilydd, neu’n gofeb barhaol fel yr un a godwyd yng Nghaerffili yn y pen draw.

Gellir gweld cipolwg o’r ddadl ynghylch math y gofeb dylid ei chael yng Nghaerffili yng nghofnodion yr awdurdod lleol ac erthyglau papur newydd (cyf: D163/U/4).

John Arnold, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Cofnodion Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni

Y 75fed eitem a dderbyniodd Archifau Morgannwg ym 1976 oedd Cofnodion Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni. Sefydlwyd y Bwrdd ym 1921, yn dilyn sawl blwyddyn o ymgyrchu ac arweiniodd at basio Bil Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni.

Roedd y Bwrdd yn cynnwys cynghorwyr o Gelligaer, Bedwellte, Bedwas a Machen, Mynyddislwyn, Rhymni a Chaerffili.   Roedd ganddo’r grym i gaffael rhai gweithiau a gweithgareddau dŵr ac i adeiladu gwaith dŵr newydd, yn ogystal â chyflenwi dŵr.  Daeth y dŵr ei hun gan Fwrdd Cyflenwi Dŵr Taf Fechan ac mae cofnodion y Bwrdd hwnnw gennym hefyd yn Archifau Morgannwg.

Cofnodion Bwrdd Dwr Cwm Rhymni

Cofnodion Bwrdd Dwr Cwm Rhymni

Er mai ym 1921 y sefydlwyd y Bwrdd, mae’r cofnodion yn dyddio o 1916; mae’r eitemau hyn yn cynnwys toriadau papur newydd yn olrhain adroddiadau ar yr ymgyrch i greu’r Bwrdd.  Mae’r cofnodion yn parhau hyd at 1966.  

Mae Cofnodion Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni yn cynnwys 45 cyfrol o lyfrau cofnodion,  cyfrifon, adroddiadau peirianwyr a thoriadau papur newydd.

Mae cofnodion byrddau bwrdeistrefol fel Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth ar gyfer unrhyw un sy’n astudio datblygiad llywodraeth leol a gwleidyddiaeth leol yng Nghymru.