Newyddion o’r Ffrynt

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymrestrodd nifer o ddynion i wasanaethu eu gwlad, naill ai’n wirfoddol neu am fod y fyddin wedi galw arnynt. Effeithiwyd ar awdurdodau lleol gan hyn cymaint ag unrhyw un. Yn naturiol, roedd y rhai a arhosodd ar ôl gan ddal ati i weithio gyda’r awdurdodau lleol yn awyddus i gael y newyddion o’r Ffrynt.

Cafwyd newyddion da ar ffurf gwobrau a roddwyd i filwyr am yr hyn a wnaethant ar faes y gad. Ym mis Medi 1915, nododd Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer fod James Green wedi’i argymell i gael Medal Ymddygiad Neilltuol. Ym mis Rhagfyr 1917, cafodd y Preifat Tudor Lewis Fedal Filwrol. Ac ar Ddydd Calan 1918, cyhoeddwyd bod y Sarsiant Ivor Jones wedi ennill y ddau fedal.

Ivor Jones

Cydnabuwyd nifer o gyflogeion eraill am eu gwasanaeth a’u dewrder.

Ym mis Ionawr 1917, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Porthcawl longyfarchiadau gwresog i’r Lefftenant Tamblyn a’r Corporal Nicholls, y cafodd y ddau eu gwobrwyo am ddewrder neilltuol. Ac ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Maesteg longyfarchiadau i’r Sarsiant Fred Davies ar ôl iddo ennill Medal Ymddygiad Neilltuol.

Ym mis Mehefin 1917, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr longyfarchiadau i rieni Oscar Powell a Frank Howell – dyfarnwyd y Fedal Filwrol i’r ddau. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, dyfarnwyd y Fedal Filwrol i’r Ail Lefftenant Steve Jenkins, a oedd yn fab i un o aelodau’r cyngor. Ym mis Ionawr 1918, adroddodd Cyngor Dosbarth Trefol Ogwr a Garw fod Mr King, gyn-Gapten brigâd dân Nant-y-moel, wedi cael Medal Ymddygiad Neilltuol.

Ar ddiwedd y Rhyfel ym mis Tachwedd 1918, datgelodd Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr fod yr Uwch-gapten R D Williams, a oedd yn fab i gynghorydd, wedi dod yn aelod o’r Urdd Gwasanaeth Neilltuol.

Un ffynhonnell arall o newyddion da oedd pryd y cawsai milwyr eu dyrchafu. Ym mis Mehefin 1916, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr longyfarchiadau i’r Lefftenant Gyrnol F W Smith ar gael ei ddyrchafu’n Gomander i 16eg Bataliwn Cymru (Dinas Caerdydd). Ym mis Mai 1917, trafododd Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer ddyrchafiadau cyflym Mr Emlyn Evans. Gan ddechrau fel Preifat ym mis Medi 1915, daeth yn Is-gorporal ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, ac yn Gorporal llawn fis yn ddiweddarach. Chwe mis yn ddiweddarach fe’i enwyd yn Sarsiant cyn iddo ddod yn Uwch-Sarsiant Cwmni ym mis Rhagfyr 1916. Fis yn ddiweddarach, symudodd i’r Corfflu Awyr Brenhinol a daeth yn Sarsiant Hedfan ac yna ym mis Ebrill 1917 daeth yn Uwch-Sarsiant.

Weithiau, byddai clywed newyddion fod rhywun ar y Ffrynt yn fyw ac iach yn achos dathlu. Ym mis Medi 1914, rhoddodd Cyngor Dosbarth Gwledig Pen-y-bont longyfarchiadau i’r Cyrnol Turbervill ar glywed fod ei fab, y Capten Turberville, yn iach. Ond yn anffodus, ym mis Mai 1915, lladdwyd ŵyr y Cyrnol Turbervill ar faes y gad.

Ynghyd â’r llawenydd o glywed am gydweithwyr yn ennill gwobrau am eu dewrder, roedd hefyd ofid a galar wrth glywed am farwolaeth neu anafiadau i’r rhai a oedd ar y Ffrynt. Ym mis Medi 1914, collodd Iarll ac Iarlles Plymouth berthynas, Archer Windsor Clive. Pleidleisiodd sawl awdurdod lleol i gyfleu eu cydymdeimlad, a enynnodd ddiolch gan Ystâd Plymouth.

Ym mis Tachwedd 1914, cyfleodd Cyngor Dosbarth Gwledig Pen-y-bont eu cydymdeimlad i’r Cyrnol Nicholl ar farwolaeth ei fab, y Lefftenant Nicholl. Ym mis Rhagfyr, mynegodd Cyngor Dosbarth Trefol Aberpennar eu cydymdeimlad i deulu Arglwydd Aberdâr, pan laddwyd ei fab hynaf. Ym mis Hydref 1915, cynigiodd Cyngor Dosbarth Trefol Porthcawl bleidlais i fynegi cydymdeimlad i deuluoedd y Lefftenant Sydney Randall Jenkins a’r Sarsiant Evan Rogers.

Ym mis Tachwedd 1916, cafodd Dr M J Rees, a fu’n Swyddog Meddygol Iechyd ers blynyddoedd i Gyngor Dosbarth Gwledig Aberdâr, ei ladd wrth ymladd. Ym mis Gorffennaf 1917, cafodd tri chyn-gyflogai, y gyrwyr Amos ac E Wiltshire a’r tocynnwr AC Sims, eu lladd ar faes y gad.

Ym mis Rhagfyr 1917, cafodd Cyngor Dosbarth Trefol Maesteg golled driphlyg wrth i’r Ail Lefftenant Hugh Grande, y Preifat Harold Edwards a’r Preifat Charles Corbett gael eu lladd. Cafwyd colled driphlyg arall ar ddiwedd y rhyfel, gyda marwolaethau’r Milwyr Ivor Evans, A Meldrum a Hillman.

Ni ddigwyddai pob colled ar y ‘Ffrynt’, yn bennaf yn Ffrainc ac yng Ngwlad Belg. Roedd rhai mewn rhannau eraill o’r byd. Yn ystod ymgyrch Gallipoli ym 1915, gwasanaethai milwyr yr Ymerodraeth Brydeinig yn Nhwrci ein dyddiau ni, ac roedd ymgyrchoedd yn Affrica a’r Dwyrain Canol. Mae hefyd yn werth nodi nad oedd pob colled ar y tir. Roedd colledion yn yr awyr yn y Corfflu Awyr Brenhinol (y Llu Awyr Brenhinol heddiw) a’r Gwasanaeth Awyr Morol Brenhinol (Awyrlu’r Llynges), ac ymhlith y rhai a wasanaethai gyda’r Môr-filwyr neu’r Llynges. Roedd un golled ar y môr ym mis Hydref 1914 pan adroddodd Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer farwolaeth y Lefftenant Gomander McGregor pan suddwyd HMS Hawke gan long danfor Almaenaidd ym mis Hydref 1914.

McGregor

Dengys cofnodion yr awdurdod lleol yn Archifau Morgannwg fod y newyddion o’r ffrynt yn rhywbeth yr oedd cynghorwyr a chyflogeion yn eiddgar i’w gael. Ac er eu bod yn gobeithio am newydd da, newyddion drwg yn aml a ddaeth i’w rhan.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros Dro