Brigâd Dân Pen-y-bont ar Ogwr: Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Y llun a ddewiswyd yr wythnos hon yw un o’r eitemau mwy anarferol yng nghasgliad Edwin Miles – llun o Frigâd Dân Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr.  

UDBR_F_1

Seren y sioe yw injan Tân Leyland gyda’i ysgol 35 troedfedd, a gyflwynwyd i’r frigâd ym mis Awst 1924.  Roedd Brigâd Dân Pen-y-bont ar Ogwr dim ond yn cynnwys gwirfoddolwyr a chyn 1914 byddant wedi dibynnu ar offer a dynnwyd gan geffylau. Roedd caffael injan newydd Leyland, felly, yn welliant sylweddol ar gyfer brigâd a oedd yn darparu cymorth i Ben-y-bont a’r trefi a’r pentrefi cyfagos.

Wrth ddyddio’r llun mae’n ddigon posib iddo gael ei dynnu ar 11 Gorffennaf 1925, pan ddaeth pedwar deg pedwar o frigadau a thros wyth cant o ddynion o bob rhan o dde Cymru ynghyd yn Aberdâr i arddangos technegau ymladd tân. Mae’r tŷ yn y cefndir yn edrych yn debyg iawn i Dŷ Glanogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gafodd ei gaffael gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod yma, ac a fyddai wedi darparu man addas i’r frigâd cwrdd. Maen nhw’n sicr yn edrych yn dda iawn ac mae cofnodion y frigâd yn cadarnhau bod gwisgoedd newydd wedi eu rhoi i’r dynion ar gyfer digwyddiad Aberdâr.  

Y dyn yn y cap, ar ochr dde’r grŵp, yw Henry Percival Williams, Prif Swyddog y Frigâd.   Yn ddilledydd lleol o Nolton Street, Pen-y-bont ar Ogwr, roedd H.P Williams yn ffigwr allweddol yn y gwaith o redeg y frigâd am flynyddoedd lawer. Rhoddodd wasanaeth gwych hefyd i’r CDT Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys gwasanaethu fel cadeirydd y cyngor ar dri achlysur.

Dros y blynyddoedd rhoddodd y Frigâd wasanaeth amhrisiadwy i’r gymuned leol.  Ym mis Mai 1926 bu tân yn eiddo Cwmni Melysion Avona yn Meadow Street, a achoswyd o bosibl gan foeler siwgr, yn bygwth dinistrio cartrefi ac eiddo lleol pan ddarganfuwyd bod tancer petrol a cheir yn cael eu storio yn yr un adeilad. Fel y dywedodd y papurau lleol “a wave of relief went up from the thousands of onlookers” wrth i weithredu prydlon gan y frigâd fynd i’r afael â’r tân a thynnu’r cerbydau o’r adeilad.

Ar nodyn ysgafnach, ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn, torrodd dynion tân i mewn i dŷ ar Stryd y Parc ym Mhen-y-bont pan welwyd mwg yn dod allan o ffenest i fyny’r grisiau. Y tro hwn daeth y dyn tân wyneb yn wyneb â’r perchennog yn eistedd yn y bath gyda stêm yn mynd allan o’r ffenestr agored. Gan ei bod ychydig yn fyddar doedd hi ddim wedi clywed y curo ar y drws ffrynt.  Ni wnaed unrhyw niwed ac roedd yn stori wych i’w hadrodd yn siopau a thafarndai Pen-y-bont ar Ogwr dros Nadolig 1926. 

Mae’r pwnc yn anarferol i Edwin Miles, a oedd yn arbenigo mewn ffotograffau o lefydd ac adeiladau lleol adnabyddus.  Fodd bynnag, roedd Miles yn ymwneud â rhedeg y grwpiau sgowtiaid lleol, a darparodd brigâd Pen-y-bont ar Ogwr hyfforddiant mewn diogelwch tân i’r sgowtiaid ifanc. Mae’n ddigon posib mai ymwneud Miles â’r frigâd a arweiniodd ato’n tynnu’r llun. Beth bynnag yw’r rheswm, mae’n darparu cofnod gwych o’r Frigâd bryd hynny.

Mae’r ffotograff o Frigâd Dân Pen-y-bont ar Ogwr i’w gweld  yn Archifau Morgannwg dan y cyfeirnod UD/BR/F/1. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Busnes Llawn Ansicrwydd: Gyrfa William Morgan o Ben-y-bont ar Ogwr

Actwari yw person sydd â’r dasg o werthuso a rheoli risg ariannol, swydd y gellir ei holrhain dros ddau gan mlynedd yn ôl at William Morgan o Ben-y-bont ar Ogwr, sy’n cael ei gydnabod gan lawer fel tad y proffesiwn.

Ganwyd William Morgan ym 1750, yn fab i feddyg.   Ar y dechrau ei fwriad oedd dilyn ôl traed ei dad, ond ym 1774 newidiodd ei yrfa ac fe’i penodwyd yn Gynorthwy-ydd Actwari i’r Equitable Assurance Society. Cafodd ei benodi’n Brif Actwari flwyddyn yn ddiweddarach.  Yn ystod gyrfa a barodd am hanner can mlynedd bu’n gyfrifol am sawl datblygiad allweddol ym maes yswiriant bywyd a chyhoeddodd sawl darn o waith am ystadegau a blwydd-daliadau.

Roedd yn wyddonydd medrus a dywedir mai ef ddyfeisiodd y tiwb pelydr-X cyntaf.    Roedd yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol ac roedd hefyd yn radicalydd gwleidyddol, yn cael ei annog gan ei ewythr, yr athronydd radical Dr Richard Price.

Mae gan Archifau Morgannwg gasgliad o lythyrau a anfonwyd at William Morgan (cyf: D945). Derbyniodd ohebiaeth oddi wrth clerigwyr ac arglwyddi’r deyrnas ac mae’n amlwg o’r cofnodion hyn ei fod yn uchel ei barch gyda sawl un yn crybwyll cymaint roeddynt yn ymddiried yn ei gyngor ariannol.

Mae’r llythyrau hefyd yn datgelu perthynas bersonol glos rhwng Mr Morgan a’r rhai oedd yn gohebu ag ef. Derbyniodd sawl ymholiad ynghylch ei iechyd, gwahoddiadau i swper, cynnig anrhegion ac ambell nodyn doniol a oedd yn dangos yr hoffter oedd tuag ato.

d945-1-13

Yn ystod mis Rhagfyr 1823 nododd Esgob Henffordd ei fod yn gobeithio bod Mr Morgan ‘mewn cystal iechyd nawr ag yr oedd ef  y mis Rhagfyr blaenorol’ (D945/1/13). Mae gohebiaeth gan F Burdett (mwy na thebyg y gwleidydd radical, Francis Burdett) yn nodi y byddai’n ‘hapus’ i gael pryd o fwyd gydag ef a’i fod yn edrych ymlaen at bleser cwmni Mr Morgan. Ar yr achlysur hwn fodd bynnag, dim ond ‘pryd sâl iawn’ y gall Mr Burdett addo (D945/1/21).

d945-1-5

d945-1-21

Mae darn o ohebiaeth arall yn datgelu y cafodd Mr Morgan gynnig anrheg anarferol gan yr Arglwydd Vernon, a oedd erbyn mis Awst 1813 wedi ‘etifeddu Parc Ceirw sylweddol a llawn’. O ganlyniad i ‘natur gyfeillgar’ William Morgan, mae’r Arglwydd Morgan yn cynnig rhodd flynyddol o ‘Hanner Bwch’ (D945/1/6).

d945-1-6

Mae sawl llythyr a ysgrifennwyd gan William Morgan wedi goroesi hefyd. Mewn neges ym mis Hydref 1770 mae’n ceryddu ei chwiorydd am beidio ag ysgrifennu ato am ‘amser rhy hir  o lawer’ sef pum wythnos gan awgrymu bod rhywbeth arall wedi dwyn eu sylw ac yn gyfrifol am y fath ‘dawelwch hir, hir’ (D945/2/2).

D945-3-4 p1 edited

Ymddeolodd William Morgan ym mis Rhagfyr 1830 a’i olynydd fel actwari’r Equitable Assurance Society oedd ei fab ieuengaf, Arthur. Derbyniodd Arthur neges deimladwy yn fuan wedi marwolaeth ei dad ym mis Mai 1833. Ysgrifennodd ei gefnder, Walter, o Landaf drannoeth wedi marwolaeth William, fod ‘tristwch mawr’ yn dilyn ‘y newydd digalon am ymadawiad fy ewythr druan o’r byd hwn’ (D945/3/4).

“Dewch allan, dewch allan, ble bynnag ‘ych chi”: Dihangfa Fawr 10 Mawrth 1945

Ar 10 Mawrth bydd yn 75 o flynyddoedd ers y ‘Great Escape’. Mae esgyrn sychion y stori yn hysbys iawn. Y lleoliad yw gwersyll sydd wedi’i sefydlu yn yr Ail Ryfel Byd i ddal carcharorion rhyfel mewn cyfres o gytiau wedi’u hamgylchynu gan ffens weiren bigog, a’i warchod yn y nos gan chwiloleuadau a’u patrolio gan gardiau gyda chŵn. O fewn y gwersyll mae grŵp o garcharorion, sy’n benderfynol o ddianc, yn dechrau cloddio twnnel. Mae meinciau yn cael eu torri a choesau gwelyau yn cael eu cwtogi o ran maint er mwyn darparu pren i gynnal y twnnel. Mae hen ganiau o laeth tew yn cael eu rhoi at ei gilydd i wneud pibell aer i ddarparu awyr iach. Mae carcharorion yn cael gwared ar y pridd trwy ei wasgaru dros ardd lysiau’r gwersyll, pit naid hir chwaraeon ac o fewn wal ffug a adeiladwyd y tu mewn i un o’r cytiau. Ar ôl pedwar mis mae’r twnnel wedi’i gwblhau. Mae goleuadau trydan ganddo hyd yn oed. Er bod eu cydweithwyr yn tynnu sylw’r gwarchodwyr gyda chanu a bod powdwr cyri yn cael ei daflu ar hyd y ffens derfyn i ddrysu’r cŵn, mae grŵp mawr o garcharorion yn brigo’r wyneb y tu hwnt i’r ffens derfyn. Mae un yn cael ei saethu gan y gwarchodwyr ond mae eraill, dan gêl cotiau hir a mapiau cartref, cwmpawd a phapurau adnabod, yn dianc i’r tywyllwch.

Mae’r stori’n adleisio’r modd y llwyddodd 77 o filwyr i ddianc o Stalag Luft III yng Ngwlad Pwyl, a roes sail i’r ffilm The Great Escape gyda Steve McQueen yn y brif ran. Mewn gwirionedd, roedd y ddihangfa ar noson 10 Mawrth 1945 yn llawer nes at adref, gyda swyddogion byddin yr Almaen yn mynd drwy’r twnnel ac yn ffoi i’r nos o wersyll carcharorion rhyfel Island Farm ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Adeiladwyd gwersyll Island Farm ym 1939 i’w ddefnyddio gan hyd at 2000 o fenywod a oedd yn gweithio yn ffatri arfau Pen-y-bont ar Ogwr. Er ei fod wedi’i adeiladu’n bwrpasol, gyda mynediad hawdd i’r ffatri, nid oedd yn llwyddiant, gyda’r rhan fwyaf o weithwyr yn ffafrio lletya’n lleol neu deithio bob dydd i’r ffatri. Yn hytrach na chefnu ar y cyfleusterau, defnyddiwyd Island Farm yn ddiweddarach gan yr 28ain Adran Troedfilwyr yr Americanwyr yn y paratoadau ar gyfer glaniadau D-Day. Yn ystod eu harhosiad, cafodd y gwersyll nifer o ymwelwyr adnabyddus, yn cynnwys Goruchaf-gapten Cyrch Overlord, y Cadfridog Eisenhower, a anerchodd y dynion ym mis Ebrill 1944.

Gydag agor yr ail ffrynt yn Ffrainc, roedd angen dybryd am lety i garcharorion rhyfel.  Roedd y gwersyll a fu’n dyst i araith rymus Eisenhower ychydig fisoedd ynghynt i gael ei ddefnyddio eto ar gyfer carcharorion rhyfel o’r Almaen a’r Eidal. Y dasg gyntaf i lawer oedd cwblhau’r ffensys allanol tra bod eraill yn gweithio ar ffyrdd ac ar ffermydd lleol. Penderfynwyd yn fuan, fodd bynnag, mai swyddogion o’r Almaen yn unig fyddai’n ei ddefnyddio. O ganlyniad cyrhaeddodd 1600 o swyddogion byddin yr Almaen ym mis Tachwedd 1944. Y grŵp hwn a ddaeth ag Island Farm, a ailenwyd yn Wersyll 198, i benawdau’r newyddion.  Ar ôl y ddihangfa ar noson 10 Mawrth cafodd llawer eu dal drachefn o fewn oriau ac yn yr wythnos ganlynol cafwyd hyd i lawer mwy mewn caeau, ysguboriau a gerddi ar draws de Cymru. Fodd bynnag, fe wnaeth un grŵp ddwyn car meddyg a theithio mewn car a thrên cyn belled â Castle Bromwich ger Birmingham. Cafodd ail grŵp, gan ddefnyddio trenau nwyddau, ei ddal yn y pen draw yn Southampton. Esgorodd y ddihangfa ar nifer o hanesion, gan gynnwys yr awgrym eu bod yn bwriadu cwrdd â bad U oddi ar arfordir Cymru. Roedd y rhan fwyaf o’r straeon am sut y cawsant eu dal yn ddoniol ac, bron yn sicr yn cynnwys llawer o or-ddweud.

O fewn wythnosau caewyd y gwersyll, ond roedd i gael ailymgorfforiad pellach fel gwersyll carcharorion rhyfel. Ym mis Tachwedd 1945, fe’i ailagorwyd fel Gwersyll Arbennig 11 yn darparu ar gyfer uwch swyddogion yr Almaen, oll ar lefel Cadridogion neu’n uwch. Roedd y rhai a ddaliwyd yn gaeth yn y gwersyll yn cynnwys 4 Cadlywydd, sef von Rundstedt, Von Brauchitsch, Von Kleist a Von Manstein. Roedd llawer yn aros eu prawf ac arhosodd rhai yn Island Farm nes iddo gau ym 1948.  Roedd Gwersyll Arbennig 11 yn drefn wahanol iawn. Gyda’r rhyfel wedi dod i ben rhoddwyd cryn dipyn o ryddid i’r swyddogion. Mae llythyrau’r teulu Verity a gedwir yn Archifau Morgannwg yn cynnwys dau gan swyddog Almaenig yn diolch i’r teulu am eu croeso ac am eu gwahodd i dreulio dydd Nadolig 1947 yng nghartref y teulu.

Letter 1

Letter 2

Roedd y ddihangfa o Island Farm yn embaras mawr i Lywodraeth Prydain. Ond profodd yr ofnau cychwynnol bod y ddihangfa yn rhan o gynllun ehangach i ymosod ac amharu ar ffatri arfau Pen-y-bont ar Ogwr a phorthladdoedd lleol i fod yn ddi-sail. Serch hynny, roedd y Llywodraeth yn awyddus i gadarnhau bod y cyrch a lansiwyd i ganfod y swyddogion ar ffo ledled Cymru a Lloegr wedi bod yn llwyddiannus o fewn 5 diwrnod. Mae’r rhan fwyaf o ffynonellau’n cytuno bod 70 o garcharorion wedi dianc er bod peth dadlau wedi bod ynglŷn â’r union nifer. Roedd rhaglen ddogfen gan y BBC a ddangoswyd yn 1976, Come Out, Come Out, Wherever You Are, wedi mynd gyda ffigwr o 67. Dadleuodd astudiaeth fwy diweddar y gallai’r nifer fod cyn uched ag 84 gan haeru y gallai sawl un fod wedi dianc drwy borthladdoedd Caint.

Am flynyddoedd lawer gadawyd y gwersyll i fynd â’i ben iddo. Mae’r ffotograffau a gedwir yn Archifau Morgannwg ac a dynnwyd cyn ei ddymchwel yn 1993 yn dangos, er bod llawer o’r darluniau a wnaed gan y POWs ar y waliau gwersylla wedi goroesi, bod y gwersyll ei hun mewn cyflwr gwael.

Hut

Wall 12-14

Wall drawing

Gyda llaw nid oedd y darluniau yn gwbl ddiniwed o ystyried bod nifer wedi eu lleoli yn agos at fynedfa’r twnnel er mwyn tynnu sylw’r gwarchodwyr. Yn ffodus, achubwyd Cwt 9 ac yn 2003 cafwyd bod y twnnel yn gyfan hefyd. Mae’r hyn sy’n weddill o’r gwersyll a’r Cwt 9 bellach yng ngofal Grŵp Cadwraeth Cwt 9 ac mae’n agored i’r cyhoedd ar nifer o ddyddiau yn ystod y flwyddyn.

Gellir gweld llythyrau teulu’r Verity yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod DXCB/4/2/33. Mae lluniau Island Farm yn D1051/1/7/3/1-9. Ceir hefyd ffotograffau o’r Americanwyr yn Island Farm yn 1944 yn D1532/1-10.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Neuadd Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Pan oedd tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ymestyn yn y 1840au, credid y byddai’n ddymunol adeiladu adeilad mawr newydd a fyddai’n ddigon mawr i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus a llysoedd, yn lle hen neuadd y dref, a oedd yn sefyll ar fwâu dros y farchnad.  Cafodd yr adeilad, a ddyluniwyd gan bensaer o Abertawe o’r enw Rayner, ei godi ar dir a roddwyd gan Iarll Dwnrhefn, a dywedir iddo gostio £1,450. Cyfrannodd Ynadon Heddwch Sir Morgannwg £300 fel y gellid troi’r llawr isaf yn Orsaf Heddlu, a chodwyd gweddill yr arian drwy roddion gwirfoddol.  Gosodwyd carreg sylfaen ar 13 Medi 1843 gan y Gwir Anrh. John Nicholl, AS dros Gaerdydd, a Barnwr Eiriolwr Cyffredinol EM, a throsglwyddwyd yr adeilad gorffenedig i’r tanysgrifwyr ar 1 Mai 1845. Roedd y brif ardal fewnol yn neuadd 65 x 38 troedfedd.

d1093-2- 001_compressed

d1093-2- 002_compressed

Defnyddiwyd yr adeilad at amryw ddibenion – gwrandawiadau llys, gwleddoedd, cyngherddau, perfformiadau dramatig, cyfarfodydd gwleidyddol a chyfarfodydd i bobl y dref.  Pan sefydlwyd Cyngor Sir Morgannwg yn 1889, lleoliad swyddfa Syrfëwr y Sir oedd yno i gychwyn.  O ganlyniad i newid mewn arferion cymdeithasol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ni chafodd yr adeilad lawer o ddefnydd.  Arweiniodd hyn at adfeiliad yr adeilad.  Er gwaethaf ymgyrch ‘Achub Neuadd y Dref’, cafodd ei ddymchwel yn 1971.

d1093-2- 006_compressed

Mae ‘Cronfa Neuadd y Dref’ yn parhau i fod yn weithredol fel ymddiriedolaeth elusennol.  Mae’n gweinyddu incwm o enillion gwerthiant Neuadd y Dref, y gellid ei ddefnyddio at ddibenion elusennol er budd cyffredinol trigolion Pen-y-bont ar Ogwr.  Yn ystod y pum mlynedd rhwng 2009 – 2013, cynhyrchodd incwm blynyddol o tua £570 ar gyfartaledd.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/1-2; D1093/2/6]
  • Pwyllgor Rheoli Neuadd Tref Pen-y-bont ar Ogwr, llyfr cofnodion, 1845-1941 [DXS1]
  • Pwyllgor Rheoli Neuadd Tref Pen-y-bont ar Ogwr, cytundeb i adeiladu Neuadd Tref gan gynnwys rhagfanylion a chynlluniau, 1843 [DXS4]
  • Old Bridgend in Photographs (Sylwadau gan D. Glyn Williams) Cyh. Stewart Williams, 1978
  • blogspot.co.uk/2013/02/how-are-mighty-fallen-bridgend-town-hall.html
  • bridgend-town-hall-trust.org.uk
  • bridgendtowncouncil.gov.uk/bridgend-origins/some-historical-facts.aspx

 

‘Werth pob ceiniog’: Adeiladu Gorsaf yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1845

Pan sefydlwyd Heddlu Bro Morgannwg ym 1841, bu galw mawr ledled y sir am orsafoedd addas ar gyfer y plismyn newydd. Yn ei adroddiad cyntaf ar gyfer Sesiynau Chwarter Cyffredinol dros Heddwch y Sir, pwysleisiodd y Prif Gwnstabl Capten Charles Frederick Napier ar 30 Awst 1841, fod angen un ai disodli’r cyfleusterau presennol yn gyfan gwbl neu eu hailwampio. Mewn trefi megis Merthyr, roedd carcharorion dan oruchwyliaeth cwnstabliaid yn y ddalfa mewn tafarndai lleol, oherwydd barn Napier bod y celloedd, pan fônt ar gael, yn:

…totally unfit for the reception of such prisoners.

Nododd Napier bod angen gorsaf gyda chelloedd cloi ym mhob prif dref yn y sir. O ran Pen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn Ardal Ogwr, dywedodd:

I propose making Bridgend the Station House for this District and the residence of the Superintendent…  Bridgend being the central point it is highly desirable that a good station house should be erected, I would suggest that the building should contain a residence for the Constable, with offices for the Superintendent, and four cells  [Cofnod Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg, yn y Pyle Inn ar Ddydd Llun 30 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].

Er y cytunwyd y byddai Ffi Heddlu o £800 yn cael ei godi’n benodol ar gyfer ariannu Gorsaf yr Heddlu, cydnabuwyd y byddai’n cymryd amser i adeiladu eiddo addas ym mhob ardal.  Ni aethpwyd i’r afael â’r sefyllfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr tan 1845. Yn Archifau Morgannwg, ceir y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer gorsaf newydd yr heddlu a adeiladwyd yn y cyfnod, a llawer o’r ohebiaeth a oedd yn ymwneud â negodi’r gwaith adeiladu.

Roedd y newyddion yn 1843 bod cynlluniau ar waith i adeiladu, drwy gontract preifat, neuadd dref newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar dir Iarll Dwnrhefn yn gyfle i ymgorffori gorsaf heddlu, celloedd a llys yn yr adeilad.

Sefydlwyd Pwyllgor Ynadon i oruchwylio’r gwaith o adeiladu gorsafoedd yr heddlu. Pan aeth y grŵp a oedd yn gyfrifol am adeiladu Neuadd Dref Pen-y-bont ar Ogwr at y pwyllgor hwn yn 1843, cytunwyd y byddai modd cynnal cyfleusterau ar gyfer yr heddlu a’r ynadon lleol yn llawr isaf Neuadd y Dref. Caiff manylion y cytundeb a sefydlwyd ar y pryd eu nodi yng Nghofnodion y Sesiynau Chwarter Cyffredinol dros Heddwch a gynhaliwyd yng Nghastell Nedd 27 Mehefin 1843, ac sydd ar gael i’w gweld yn Archifau Morgannwg.

… the Inhabitants of Bridgend (having previously determined to erect a Town Hall in that Town by private subscription) offered the Magistrates to provide on the basement story of the proposed Hall the necessary accommodation for the Police upon being paid by the County as much as a Police Station House, including the price of the Land, would have cost in any other situation in the Town.

A Meeting of the Committee of Magistrates was immediately afterwards held and they agreed to pay the subscribers to the Town Hall the sum of Three hundred and fifty pounds for providing such accommodation according to such plan and upon having a Lease of the Station House for a Thousand years at a Pepper Corn rent, granted to the County, the whole arrangement being subject to the approbation of the Secretary of State.

It is intended to set apart in the basement story two rooms viz ‘the Magistrates Room’ and the ‘Waiting Room’ adjoining, for the use of the Magistrates of the District they having at present no room in which to hold their Petty Sessions.

The Upper Story is intended to be used as a Public Hall with Judge’s and Jury Rooms.

That, save such as may be included under the head of ‘County Meetings and duly convened’, it shall not be used for any meeting of a political party, polemical, or controversial character or complexion  [Cofnod Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yng Nghastell Nedd ar 27 Mehefin 1843, cyf.: DMM/CO75/2].

Roedd y ddarpariaeth olaf ynghylch defnyddio’r Neuadd at ddibenion gwleidyddol, yn weithredol am 40 mlynedd. Cafodd ei ddiddymu yn ôl penderfyniad y pwyllgor rheoli ym mis Mai 1885 [Llyfr Cofnodion Neuadd Dref Penybont-ar-Ogwr, 1845-1941, cyf.: DXS/1, t103].

Mae cynlluniau gwreiddiol y llawr isaf, a ddyluniwyd gan y pensaer, D Vaughan, i’w gweld yn Archifau Morgannwg.

plan-of-police-station

Mae gan y cynlluniau sêl cŵyr ac maent wedi’u llofnodi sy’n cadarnhau eu bod wedi’u cymeradwyo gan Ysgrifennydd Gwladol y Swyddfa Gartref, Syr James Graham, ar 8 Awst 1843. O ystyried mai dim ond un heddwas oedd yn gyfrifol am dref Pen-y-bont ar Ogwr, nid oedd Gorsaf Heddlu Bro Morgannwg yn fawr ddim o ran maint, gan gynnwys un ystafell wely 12 troedfedd x 12 troedfedd, ystafell storio o faint tebyg ac ystafell fyw gyda storfa danwydd, 14 troedfedd x 17 troedfedd. Yn ychwanegol i hyn, roedd tair cell a phob un ohonynt yn 10 troedfedd x 6 troedfedd. Nododd Napier pan fo celloedd ar gael yn y sir, roeddent yn aml yn oer iawn ac yn anaddas ar gyfer eu defnyddio yn ystod y gaeaf. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, trefnwyd bod y celloedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gwresogi gan simneiau tanau mewn ystafelloedd cyfagos. Roedd gan bob cell doiled hefyd. Dyrannwyd llawer iawn o weddill y llawr isaf at ddibenion Ynadon Cannoedd Casnewydd ag Ogwr, gydag Ystafell Ynadon ac Ystafell Lys. Mae’n debyg y byddai lampau olew wedi’u cynnau gyda’r nos er mwyn goleuo’r llawr isaf, oherwydd nid oedd unrhyw oleuadau nwy yn Neuadd y Dref tan 1847 [Neuadd Dref Pen-y-bont ar Ogwr, cyf.: DXAG].

Mae copïau o’r datganiad Ymddiriedolaeth a’r les ar gyfer yr orsaf o fis Awst a Hydref 1844 hefyd ar gael i’w gweld yn Archifau Morgannwg. Maen nhw’n cadarnhau bod y gwaith adeiladu wedi cymryd ychydig dros flwyddyn i’w gwblhau.

The foundation stone of the building which was erected by public subscription, was laid on the thirteenth day of September 1843, by the Rt Honorable John Nicholl, MP. Her Majesty’s Judge Advocate General and the Hall, having been completed, was delivered up to the subscribers by Mr John Rayner of Swansea, the Architect, on the first day of May 1845  [Llyfr Cofnodion Neuadd Dref Penybont-ar-Ogwr, 1845-1941, cyf.: DXS/1].

Roedd y cyfleusterau fwy neu lai yn unol ag argymhellion Napier, gyda llety i’r cwnstabl lleol. Byddai’r rhent ar gyfer y llety hwn yn dod allan o’i gyflog. Fodd bynnag, dim ond tair cell a adeiladwyd, yn hytrach na phedair.  Cymrodd yr Ymddiriedolwyr gyfrifoldeb dros y Neuadd y Dref newydd yn swyddogol ym mis Mai 1845, a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar ddechrau mis Mehefin. Gwnaethpwyd mân ddiwygiad i ddyluniad yr orsaf ym 1848, sef adeiladu grisiau o’r orsaf i ddoc y carcharorion yn y neuadd. Mae modd gweld y cynlluniau ar gyfer hyn yn Archifau Morgannwg hefyd, ynghyd â chadarnhad eu bod wedi’u cymeradwyo gan Syr George Grey, yr Ysgrifennydd Cartref, ar 2 Medi 1848 [Cofnodion Heddlu Morgannwg, Neuadd Dref Penybont-ar-Ogwr, 2 Medi 1848, cyf.: DCON236/1].

Mynegwyd barn ar y cyfleusterau newydd ar gyfer yr heddlu a’r ynadon yng nghyfarfod yr Ynadon, a gynhaliwyd mis yn ddiweddarach yn ystod Gorffennaf 1845. Adroddwyd am hyn yn y Cardiff and Merthyr Guardian. Ar un llaw, roedd hi’n amlwg bod sawl mân broblem:

Bridgend Station House. It was stated that the rooms of this station smoked very badly – that the chimneys did not draw well…  After a short conversation upon the subject… it was ordered that steps should immediately be taken for the purpose of lessening, if not entirely removing the evil complained of by the inmates of the Bridgend Station House  [Cardiff and Merthyr Guardian, 5 Gorffennaf 1845].

Ond ar y llaw arall, yn gyffredinol roedd yr Ynadon yn fodlon eu bod wedi taro bargen dda ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Wrth drafod eu bodlonrwydd ar y cyfleusterau newydd, dywedodd un Ynad, Robert Knight:

At all events he thought the county had received a good shilling’s worth for a shilling in having a station house which cost £500 for £300. (Hear).  [Cardiff and Merthyr Guardian, 5 Gorffennaf 1845].

Ni chofnodwyd unrhyw wybodaeth ynghylch bodlonrwydd trigolion Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Pwdin a Pharsel: Codi arian Nadolig yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae’r Nadolig yn draddodiadol yn adeg pan fyddwn ni’n meddwl am eraill a phan fydd elusennau yn lansio ymgyrchoedd arbennig i godi arian.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hyn yn bwysicach fyth gyda chymaint o filwyr a morwyr yn gwasanaethu dros y dŵr, ymhell o’u teuluoedd a chysuron y cartref.

Mae llyfrau log ysgolion yn cofnodi ymgyrchoedd codi arian y disgyblion.  Yn Ysgol Gellidawel yn Nhonyrefail ym mis Hydref 1914, cofnododd y Pennaeth iddo yrru archeb bost am £1 at y Dywysoges Mary ar gyfer ei chronfa hi i baratoi anrhegion Nadolig ar gyfer y lluoedd.  Roedd yr athrawon wedi darparu’r gwobrau ac roedd raffl ar gyfer y disgyblion a dalodd geiniog yr un am docyn [ELL26/2].

Ysgrifennodd un Pennaeth yn Ysgol Pen-y-bont ym Mhen-y-bont ar Ogwr [EM10/11] yn ofidus ym mis Hydref 1914, na fyddai ganddo’r ‘wyneb (y flwyddyn honno) i ofyn am gyfraniadau’ i’r Gronfa Wobrau Nadolig yn sgil y rhyfel a’r pwysau mawr ar goffrau pobl. Fodd bynnag, codwyd arian ar gyfer y milwyr a gyrrwyd swm sylweddol o £7 at Gronfa tywysog Cymru.  Fe’i defnyddiwyd i brynu sigarennau, mwffleri gwlân a siocled a’u gyrru at yr Old Boys a oedd wedi eu lleoli yn yr Alban.  Mae’n cofnodi iddo dderbyn cydnabyddiaeth gan yr Uwch Ringyll Miles yn diolch i’r bechgyn am ‘eu Blwch Nadolig Llawen’ [EM10/11].

 

dx486-1_edited

Nid aeth y ffoaduriaid o Wlad Belg yn angof dros y Nadolig.  Cofnododd Pennaeth Ysgol Gymysg Y Dyffryn yng Nglyn-rhedynog, fod arian wedi ei godi i’r ffoaduriaid gan ddisgyblion a fu’n casglu ar Ddydd Nadolig 1916 [ER15/1]. Mae llyfr cofnod Cartref Gofal Rest ym Mhorthcawl hefyd yn cofnodi’r cymorth a roddwyd i ffoaduriaid o Wlad Belg:

…that the matter of providing extra diet etc. for the refugees and staff at xmas be left to matrons and chairman… [DXEL/3/5].

Trefnwyd cyngherddau i godi arian.  Gwnaeth Mr Leon Vint gais am drwydded gan Gyngor y Barri i agor ‘Vint’s Place’, Thompson Street, y Barri ar Ddydd Nadolig ym 1914 a 1915, gyda’r elw’r perfformiadau yn mynd at Ysbyty’r Groes Goch yn y Barri.  Roedd caniatâd hefyd i Neuadd Romilly gael agor ar Ddydd Nadolig i’r un diben [BB/C/1/20,21].  Yn ogystal â chodi arian, roedd agor lleoliadau ar Ddydd Nadolig yn golygu y gellid diddanu’r milwyr.  Rhoes Cyngor Bwrdeistref Caerdydd ganiatâd i agor y Central Cinema ar Yr Aes i gael ei ddefnyddio ar Ddydd Nadolig rhwng 5.30 ac 8pm at ddibenion ‘adloniant am ddim i’r milwyr’ [BC/C/6/54].  Cynigiodd Cyngor Ardal Drefol Aberpennar gynnal Cyngerdd Sul yn yr Abercynon Palace ar 29 Tachwedd 1914:

…the proceeds to be devoted to the making of, and sending a huge Christmas box of cigarettes, tobacco, socks etc to the soldiers at the front [UDMA/C/4/12].

Ym 1916 gofynnodd y Swyddfa Ryfel i’r Daily Telegraph a’r Daily News godi arian er mwyn anfon pwdinau Nadolig at filwyr yn y ffrynt, a chododd cynghorau lleol arian i’w anfon i’r elusen.  Anfonodd Cyngor Trefol Porthcawl dros £7 i’r ‘gronfa bwdin’ ym 1916 [UDPC/C/1/10].

Anfonwyd parseli i godi calonnau’r dynion dramor gan gynghorau plwyf lleol, eglwysi, capeli a sefydliadau eraill.

 

dce-1-5-p1_edited

dce-1-5-p3_edited

Ymhlith cofnodion Treflan Prifysgol Caerdydd mae llythyrau o ddiolch gan filwyr am barseli a dderbyniont dros y Nadolig.  Ar 19eg o Ragfyr 1916, mae’r Gynnwr C Upcott yn ysgrifennu at Edward Lewis:

I beg to thank you and all the members of the University Settlement for their kindness in sending me the parcel and I do not know how much to thank you for your kindness.  It is something terrible out here with the rain and one thing and another but I hope the end won’t be long so as we can all meet once again [DCE/1/64].

 

dce-1-64-p1_edited

Ysgrifennodd y Preifat William Slocombe o Gaerdydd, a dderbyniodd y Fedal Filwrol yn ystod y Rhyfel, o’r ffrynt at ei fam ar 9 Rhagfyr 1916. Mae’n gofyn iddi brynu ‘dyddiadur milwr’ iddo, a oedd yn cynnwys ‘llawer o wybodaeth filwrol ddefnyddiol a geiriadur Ffrangeg bychan yn y blaen’. …  ‘Carwn i chi anfon un ataf i os yw hynny’n bosibl. Nid yw’n costio mwy nag ambell swllt ar y mwyaf.’  Mae hefyd yn meddwl am anrhegion Nadolig i’w deulu adref ac yn anfon archeb bost am 10 swllt:

It is for the kids and yourself… If you can get some chocolates for the girls so much the better.  I should like to give Pa some tobacco too.

Yn deimladwy mae’n ysgrifennu:

…the circumstances are very different to last year aren’t they?  Your affectionate Son… [D895/1/3].

Mae’r cofnodion hyn, a llawer mwy sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ar gael i’w gweld yn Archifau Morgannwg.

 

Rhaid cadw’r gwasanaethau hanfodol. Ydych chi’n barod i wasanaethu? – Hanes Edward Loveluck

Cafodd cymdeithas Prydain ei hysgwyd gan Streic Cyffredinol a barodd naw diwrnod ym mis Mai 1926 wrth i 1.5 miliwn o weithwyr ledled y wlad wneud safiad. I lawer yn yr undebau llafur, roedd yn weithred syml o gadernid gyda’r glowyr a oedd wedi gweld eu cyflogau a’u telerau ac amodau gwaith yn gwaethygu’n gyson dros y blynyddoedd yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn wir, roedd cyflog y glowyr wedi gostwng bron i draean erbyn 1926 o gymharu â 1919. Arweiniodd cynigion i leihau cyflogau a chynyddu oriau gwaith ymhellach at ymateb enwog Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr: ‘Not a penny off the wages and not a minute on the day’. Cafwyd ymateb unfrydol gadarnhaol ymysg yr undebau a’u haelodau i benderfyniad y TUC ym mis Mai 1926 i annog y gweithwyr trafnidiaeth, yr argraffwyr a’r gweithwyr haearn a dur i sefyll ochr yn ochr â’u cyfoedion yn y pyllau glo.

I eraill, roedd penderfyniad y TUC yn cynrychioli Streic Cyffredinol, ac yn her i lywodraeth gyfansoddiadol. Gyda syfrdandod y gwrthryfel Bolsieficaidd yn Rwsia yn fyw yn y cof, galwodd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, y streic yn ‘her i San Steffan’ ac yn ‘llwybr at anarchiaeth ac adfail’ [The British Gazette, 6 Mai 1926]. Cyn i’r streic gael ei gyhoeddi, roedd y Llywodraeth wedi paratoi i sicrhau parhad gwasanaethau allweddol ledled y wlad, i’w rhedeg ym mhob ardal gan Gomisiynydd Sifil a benodwyd yn ganolog. Yn Ne Cymru, penodwyd Iarll Clarendon ar 2 Mai 1926 yn Adeilad Dominions yng Nghaerdydd i weithio gyda’r awdurdodau lleol i gynnal cyfraith a threfn, trafnidiaeth a chyflenwadau bwyd. Cafodd hefyd fanteisio ar gangen leol y Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol i recriwtio dynion a menywod lleol i gadw’r dociau a’r gwasanaethau trafnidiaeth lleol i weithredu ac, yn ôl yr angen, i roi hwb i’r heddlu. I gyd, recriwtiodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol dros 12,000 o wirfoddolwyr yn Ne Cymru. Defnyddiwyd nifer fach o ddynion i gynnig gwasanaeth sylfaenol ar y rheilffyrdd ac yn y dociau. Roedd effaith y gwirfoddolwyr yn fwyaf amlwg yn yr ardaloedd trefol, yn arbennig yng Nghaerdydd, lle cawsant eu defnyddio i redeg gwasanaethau tram a bws. Er bod y TUC wedi annog aelodau i osgoi gwrthdaro, roedd y Llywodraeth yn benderfynol o sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael, a gosododd filwyr yn y rhan fwyaf o ddinasoedd a threfi a llongau’r llynges mewn porthladdoedd allweddol.

Mae gan Archifau Morgannwg ddeunydd sy’n adrodd stori’r Streic Cyffredinol yn Ne Cymru o safbwynt yr undebau, gwirfoddolwyr lleol a’r rheini a redodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwrifoddol. Mae pethau fel cofnodlyfrau ysgolion hefyd yn adrodd yr effaith ar gymunedau lleol.

Yr wythnos ddiwethaf, astudiom hanes y Streic drwy lygaid Trevor Vaughan, gweithiwr rheilffordd a swyddog undeb llafur yn Aberdâr ym 1926 [DX196/2]. Ceir trafodaeth o ddigwyddiadau mis Mai 1926 o safbwynt gwahanol iawn ym mhapurau Edward Loveluck, sydd yn Archifau Morgannwg [DLOV/148-149]. Er gwaetha’r cydymdeimlad cyffredinol tuag at y glowyr, roedd pryder mewn llawer o ardaloedd mai streic Cyngres yr Undebau Llafur oedd y cam cyntaf tuag at golli cyfraith a threfn. Gweithredodd y Llywodraeth yn sydyn er mwyn gwrthwneud streic y gweithwyr print a chynhyrchu ei phapur newydd ei hun, The British Gazelle, a chyhoeddwyd rhifyn cyntaf y papur ddydd Mercher 5 Mai. O’r dechrau, defnyddiodd Llywodraeth Stanley Baldwin ddulliau digyfaddawd wrth ymdrin â’r streic. Dan y pennawd: ‘No Flinching. The Constitution or a Soviet’, dywedodd y British Gazette:

The strike is intended as a direct hold up of the nation to ransom. It is for the nation to stand firm in its determination not to flinch. ‘This moment’ as the Prime Minister pointed out in the House of Commons, ‘has been chosen to challenge the existing constitution of the country and to substitute the reign of force for that which now exists….’

Mr Churchill pointed that either the nation must be mistress in its own house, or suffer the existing Constitution to be fatally injured, and endure the erection of a Soviet of Trade Unions with the real effective control of our economic and political life. The Chancellor, however, foresees the nation’s triumph in the struggle. ‘No one’, he declared, ‘can doubt what the end will be, but from every point of view, including our duty in the interests of the working classes of this country, we are bound to face this present challenge unflinchingly, rigorously, rigidly, and resolutely to the end’. [The British Gazette, Rhif 1, Dydd Mercher 5 Mai 1926, DX24]

Roedd y Llywodraeth wedi llunio cynlluniau wrth gefn manwl ar gyfer cynnal gwasanaethau hanfodol mewn achos streic. Roedd rhifyn cyntaf y British Gazette yn cynnwys manylion y Comisiynwyr Sifil a benodwyd ar lefel ranbarthol ar draws y wlad, gyda’r Iarll Clarendon yn gyfrifol am dde Cymru. Roedd yn gweithio o Dominions House, Heol-y-Frenhines, Caerdydd a’i gyfrifoldeb oedd gweithio gyda’r awdurdodau lleol i gynnal cyfraith a threfn a’r gwasanaethau hanfodol, yn enwedig trafnidiaeth a chyflenwi glo a bwyd.

Roedd y Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol lleol hefyd ar gael i helpu’r Comisiynwyr Sifil, wedi ei gadeirio gan enwebai o’r Llywodraeth ac wedi ei sefydlu’n benodol er mwyn recriwtio gwirfoddolwyr i gynnal gwasanaethau hanfodol. Mewn rhai achosion, roedd llu o wirfoddolwyr eisoes ar gael drwy gorff a elwid y Sefydliad Cynnal Cyflenwadau. Crëwyd y Sefydliad yn wreiddiol mewn ymateb i ymgyrch gan y Times ym 1925 dros sefydlu corff gwirfoddol â changhennau ar hyd y wlad yn barod i recriwtio gwirfoddolwyr petai streic gyffredinol. Er nad oedd Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol yn asiantaethau Llywodraethol swyddogol roeddent, yn aml gyda chefnogaeth y Sefydliad Cynnal Cyflenwadau, yn chwarae rôl bwysig wrth helpu’r Comisiynwyr Sifil i gynnal y gwasanaethau hanfodol.

Pensaer lleol o Ben-y-bont ar Ogwr oedd Edward Loveluck, a oedd yn gweithio i’r Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol ym mis Mai 1926. Mae ei bapurau’n dangos i ba raddau yr oedd y Llywodraeth yn benderfynol o dorri’r streic ac wedi cymryd camau i roi cynlluniau manwl ar waith er mwyn lliniaru effeithiau’r streic yn arwain at fis Mai 1926. Ar 22 Ebrill, bythefnos cyn galw’r streic, ysgrifennodd Illtyd Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol Ardal Caerdydd, at Loveluck ‘yn Gyfrinachol’, yn gofyn iddo fod yn Is-gadeirydd gyda chyfrifoldeb dros Gylch Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd llythyr Thomas yn cadarnhau bod cynlluniau ar gyfer cynnig y gwasanaethau petai Streic Gyffredinol lawn.

As you have probably gathered from information which has appeared in the Public Press, preparations are being made for the maintenance of Public Supplies should an emergency arise.

I have been requested by the Government to provide a Volunteer Service Committee which will comprise a deputy appointed by me and nominated official Representatives, namely a Food Officer, Road Officer, Railway Officer, Postal Officer, Coal Emergency Officer and Finance Officer, representing the essential services.

Gofynnwyd i Loveluck arwain ymgyrch i recriwtio dynion a merched yng nghylch Pen-y-bont ar Ogwr a fyddai’n barod i weithio:

…national service to assist to produce, handle or transport necessary food, fuel, light and power or such other duties essential for the maintenance and well being of the community, but not for the purposes of acting as strike breakers.

Byddai’r llinell olaf yn destun llawer o ddadlau gan fod y gwahaniaeth rhwng torri’r streic a defnyddio gwirfoddolwyr i gynnig gwasanaethau pan oedd aelodau’r undebau ar streic yn fychan iawn. Roedd yn amlwg bod pobl yn gweld Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol fel rhan annatod o roi peiriannau ar waith yn lleol er mwyn lleihau effeithiau’r streic. Mewn ail lythyr, wedi ei ddyddio 3 Mai, rhoddodd Thomas gopi o Femorandwm cyfrinachol gan y Llywodraeth yn nodi sut y byddai’r Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol yn cefnogi’r Comisiynwyr Sifil a’u gweithwyr. Roedd hefyd yn cynnwys manylion y codau a ddefnyddid yn ystod y streic er mwyn cychwyn, gohirio a dod â’r gweithredu i ben. Roedd y memorandwm yn cynnwys atodiad o gynllun poster recriwtio a thempled Cerdyn Cofrestru er mwyn cofnodi manylion y gwirfoddolwyr. Er na ddylid defnyddio’r Arfbais Frenhinol na’r llythrennau’n nodi ‘Ar Wasanaeth Ei Mawrhydi’ ar y posteri, roedd hi’n amlwg yr ystyriwyd y pwyllgorau yn brif asiantaeth er mwyn ennyn cefnogaeth gyhoeddus i’r Llywodraeth wrth ymateb i’r streic.

Volunteers urgently required. Men, women and children must be fed. Essential services must be maintained. For these purposes volunteers are urgently needed. Are you prepared to serve?

Mae’r cofnodion a gynhyrchwyd gan Loveluck ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn dangos iddo allu recriwtio dros 180 o wirfoddolwyr o fewn dyddiau. Ystyrir yn aml mai o swyddogaethau dosbarth canol, coler wen y daeth y gwirfoddolwyr, a phrin oedd eu cydymdeimlad nhw at yr undebau. Mae’r cofnodion yn cadarnhau hyn, gyda nifer o gyfreithwyr, cyfrifwyr ac archwilwyr ymhlith y gwirfoddolwyr. Fodd bynnag, roedd y gwirfoddolwyr hefyd yn cynnwys nifer fawr o lafurwyr, gyrwyr, gofaint a garddwyr. O ystyried tarddiad y streic, mae’n syndod bod llawer wedi nodi mai eu swyddi oedd glöwr, llafurwr glo, gyrrwr tram a gyrrwr locomotif. Roedd eu hoedrannau’n amrywio o docynnwr bws 16 oed i ŵr 72 oed o Southerndown a oedd yn fodlon helpu i gludo bwyd a glo. Mae’r cofnodion yn awgrymu, er y gefnogaeth eang yn yr ardaloedd cloddio, fod y boblogaeth wedi ei rhannu’n amlwg yn y trefi a’r dinasoedd. Yn sicr nid oedd diffyg gwirfoddolwyr, a hwythau’n ddynion ac yn ferched, a oedd yn barod i helpu â’r gwaith clercaidd, anfon nwyddau ar y ffyrdd a gweithio yn y dociau ac ar y rheilffyrdd hyd yn oed. Wedi asesu’r gwirfoddolwyr, cynhyrchodd Loveluck grynodeb o’r sgiliau y gellid eu cynnig erbyn ail wythnos y streic.

DLOV149_compressed

Special constables – 9

Railwaymen drivers – 2

Drivers – motor car 32, lorry 47, bus/tram 2

Motor cyclists – 11

Electricians/engineers – 13

Horse duties – 2

Dock workers – 1

Labourer – 23

Clerical – 29

Lady workers 13  [DLOV149]

Efallai ei bod yn syndod i gyn lleied gynnig gweithio fel heddlu gwirfoddol o ystyried bod ymgyrch fawr i gynyddu niferoedd yr heddlu yn ardal Caerdydd. Fodd bynnag, mae’n bosib nad oedd cymaint o angen am heddlu ychwanegol mewn ardaloedd megis Pen-y-bont ar Ogwr, Southerndown a Phorthcawl. Roedd y gwirfoddolwyr yn cynnwys 13 menyw, gyda gwraig Edward Loveluck yn un ohonynt. Roedd y rhan fwyaf yn cynnig gwneud gwaith clercaidd neu ffreutur ond roedd rhai yn fodlon helpu i gludo bwyd a nwyddau. Yn ei lythyr at Illtyd Thomas ar 14 Mai, cadarnhaodd Loveluck fod y mesurau a gyflwynwyd yn gweithio’n ddiffwdan wrth i’r streic fynd ymlaen i’w hail wythnos.

DLOV148 14May1926_compressed

I telephoned the qualifications of the Locomotive Drivers on my list to you this morning and I enclose herewith the enrolment cards of same.

The lorry drivers canteen here has been open each night and has done excellent service and it will continue until further orders.

I understand tonight that a settlement has been reached with the Railway men, so probably the week end will see an end of the emergency. All is quiet and orderly in the Town and District, there is no shortage of anything except coal and this is strictly rationed.

There is nothing calling for special mention  [Edward Loveluck at Illtyd Thomas, 14 Mai 1926, DLOV148].

Erbyn hyn, roedd y streic wedi dod i ben yn fwy na heb, ac roedd Cyngres yr Undebau Llafur yn galw ar bawb ond yr undebau glo i ddychwelyd i’r gwaith. Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, ysgrifennodd Thomas at Loveluck yn cadarnhau y gallai’r gwirfoddolwyr orffen.

DLOV148 18May1926_compressed

Instructions have now been sent from the Chief Civil Commissioner that all Recruiting Offices should be closed and the services of staff ended but I should be glad if the individuals who so kindly helped should remain available in case it may be necessary to re-open offices at short notice. All records and accounts should be preserved including registration cards until further notice  [Illtyd Thomas at Edward Loveluck, 18 Mai 1926, DLOV148].

Mae’r papurau’n gorffen gyda llythyr at Loveluck gan yr Iarll Clarendon, Comisiynydd Sifil de Cymru, yn diolch am ei wasanaeth, dyddiedig 16 Mai 1926:

The national emergency is over and I am shortly returning to London but before I go I wish to thank you most warmly for the services you have rendered as Vice Chairman at Bridgend of the Cardiff Volunteer Service Committee. The work which you have done has been an important factor in the success with which essential services have been maintained in this Division, and I am most grateful to you for the help and assistance you have given me during the last fortnight.

Mae dadlau eto ynghylch pam yn union y cyhoeddodd Cyngres yr Undebau Llafur ddiwedd y streic ar 12 Mai. Does dim amheuaeth, fodd bynnag, fod gwaith y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol a dynion megis Edward Loveluck wedi cyfrannu’n fawr at berswadio’r Gyngres yn lleol ac yn genedlaethol fod y Llywodraeth yn benderfynol o wrthsefyll y streic ac nad oedd sicrwydd y byddai parhau i streicio’n llwyddiannus.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Newyddion o’r Ffrynt

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymrestrodd nifer o ddynion i wasanaethu eu gwlad, naill ai’n wirfoddol neu am fod y fyddin wedi galw arnynt. Effeithiwyd ar awdurdodau lleol gan hyn cymaint ag unrhyw un. Yn naturiol, roedd y rhai a arhosodd ar ôl gan ddal ati i weithio gyda’r awdurdodau lleol yn awyddus i gael y newyddion o’r Ffrynt.

Cafwyd newyddion da ar ffurf gwobrau a roddwyd i filwyr am yr hyn a wnaethant ar faes y gad. Ym mis Medi 1915, nododd Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer fod James Green wedi’i argymell i gael Medal Ymddygiad Neilltuol. Ym mis Rhagfyr 1917, cafodd y Preifat Tudor Lewis Fedal Filwrol. Ac ar Ddydd Calan 1918, cyhoeddwyd bod y Sarsiant Ivor Jones wedi ennill y ddau fedal.

Ivor Jones

Cydnabuwyd nifer o gyflogeion eraill am eu gwasanaeth a’u dewrder.

Ym mis Ionawr 1917, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Porthcawl longyfarchiadau gwresog i’r Lefftenant Tamblyn a’r Corporal Nicholls, y cafodd y ddau eu gwobrwyo am ddewrder neilltuol. Ac ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Maesteg longyfarchiadau i’r Sarsiant Fred Davies ar ôl iddo ennill Medal Ymddygiad Neilltuol.

Ym mis Mehefin 1917, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr longyfarchiadau i rieni Oscar Powell a Frank Howell – dyfarnwyd y Fedal Filwrol i’r ddau. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, dyfarnwyd y Fedal Filwrol i’r Ail Lefftenant Steve Jenkins, a oedd yn fab i un o aelodau’r cyngor. Ym mis Ionawr 1918, adroddodd Cyngor Dosbarth Trefol Ogwr a Garw fod Mr King, gyn-Gapten brigâd dân Nant-y-moel, wedi cael Medal Ymddygiad Neilltuol.

Ar ddiwedd y Rhyfel ym mis Tachwedd 1918, datgelodd Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr fod yr Uwch-gapten R D Williams, a oedd yn fab i gynghorydd, wedi dod yn aelod o’r Urdd Gwasanaeth Neilltuol.

Un ffynhonnell arall o newyddion da oedd pryd y cawsai milwyr eu dyrchafu. Ym mis Mehefin 1916, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr longyfarchiadau i’r Lefftenant Gyrnol F W Smith ar gael ei ddyrchafu’n Gomander i 16eg Bataliwn Cymru (Dinas Caerdydd). Ym mis Mai 1917, trafododd Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer ddyrchafiadau cyflym Mr Emlyn Evans. Gan ddechrau fel Preifat ym mis Medi 1915, daeth yn Is-gorporal ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, ac yn Gorporal llawn fis yn ddiweddarach. Chwe mis yn ddiweddarach fe’i enwyd yn Sarsiant cyn iddo ddod yn Uwch-Sarsiant Cwmni ym mis Rhagfyr 1916. Fis yn ddiweddarach, symudodd i’r Corfflu Awyr Brenhinol a daeth yn Sarsiant Hedfan ac yna ym mis Ebrill 1917 daeth yn Uwch-Sarsiant.

Weithiau, byddai clywed newyddion fod rhywun ar y Ffrynt yn fyw ac iach yn achos dathlu. Ym mis Medi 1914, rhoddodd Cyngor Dosbarth Gwledig Pen-y-bont longyfarchiadau i’r Cyrnol Turbervill ar glywed fod ei fab, y Capten Turberville, yn iach. Ond yn anffodus, ym mis Mai 1915, lladdwyd ŵyr y Cyrnol Turbervill ar faes y gad.

Ynghyd â’r llawenydd o glywed am gydweithwyr yn ennill gwobrau am eu dewrder, roedd hefyd ofid a galar wrth glywed am farwolaeth neu anafiadau i’r rhai a oedd ar y Ffrynt. Ym mis Medi 1914, collodd Iarll ac Iarlles Plymouth berthynas, Archer Windsor Clive. Pleidleisiodd sawl awdurdod lleol i gyfleu eu cydymdeimlad, a enynnodd ddiolch gan Ystâd Plymouth.

Ym mis Tachwedd 1914, cyfleodd Cyngor Dosbarth Gwledig Pen-y-bont eu cydymdeimlad i’r Cyrnol Nicholl ar farwolaeth ei fab, y Lefftenant Nicholl. Ym mis Rhagfyr, mynegodd Cyngor Dosbarth Trefol Aberpennar eu cydymdeimlad i deulu Arglwydd Aberdâr, pan laddwyd ei fab hynaf. Ym mis Hydref 1915, cynigiodd Cyngor Dosbarth Trefol Porthcawl bleidlais i fynegi cydymdeimlad i deuluoedd y Lefftenant Sydney Randall Jenkins a’r Sarsiant Evan Rogers.

Ym mis Tachwedd 1916, cafodd Dr M J Rees, a fu’n Swyddog Meddygol Iechyd ers blynyddoedd i Gyngor Dosbarth Gwledig Aberdâr, ei ladd wrth ymladd. Ym mis Gorffennaf 1917, cafodd tri chyn-gyflogai, y gyrwyr Amos ac E Wiltshire a’r tocynnwr AC Sims, eu lladd ar faes y gad.

Ym mis Rhagfyr 1917, cafodd Cyngor Dosbarth Trefol Maesteg golled driphlyg wrth i’r Ail Lefftenant Hugh Grande, y Preifat Harold Edwards a’r Preifat Charles Corbett gael eu lladd. Cafwyd colled driphlyg arall ar ddiwedd y rhyfel, gyda marwolaethau’r Milwyr Ivor Evans, A Meldrum a Hillman.

Ni ddigwyddai pob colled ar y ‘Ffrynt’, yn bennaf yn Ffrainc ac yng Ngwlad Belg. Roedd rhai mewn rhannau eraill o’r byd. Yn ystod ymgyrch Gallipoli ym 1915, gwasanaethai milwyr yr Ymerodraeth Brydeinig yn Nhwrci ein dyddiau ni, ac roedd ymgyrchoedd yn Affrica a’r Dwyrain Canol. Mae hefyd yn werth nodi nad oedd pob colled ar y tir. Roedd colledion yn yr awyr yn y Corfflu Awyr Brenhinol (y Llu Awyr Brenhinol heddiw) a’r Gwasanaeth Awyr Morol Brenhinol (Awyrlu’r Llynges), ac ymhlith y rhai a wasanaethai gyda’r Môr-filwyr neu’r Llynges. Roedd un golled ar y môr ym mis Hydref 1914 pan adroddodd Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer farwolaeth y Lefftenant Gomander McGregor pan suddwyd HMS Hawke gan long danfor Almaenaidd ym mis Hydref 1914.

McGregor

Dengys cofnodion yr awdurdod lleol yn Archifau Morgannwg fod y newyddion o’r ffrynt yn rhywbeth yr oedd cynghorwyr a chyflogeion yn eiddgar i’w gael. Ac er eu bod yn gobeithio am newydd da, newyddion drwg yn aml a ddaeth i’w rhan.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros Dro

Bechgyn Pen-y-bont ar Ogwr a’r Peirianddryll

Ar 25 Gorffennaf 1919 aeth disgyblion Ysgol Cyngor Pen-y-bont i Fechgyn i gyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd Tref Pen-y-bont ar Ogwr i goffáu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Prif atyniad y cyfarfod oedd Peirianddryll Maxim a gipiwyd oddi wrth yr Almaenwyr. Rhoddodd un o ddisgyblion ysgol Pen-y-bont, Edwin James Cuming, 9 oed, yr araith ganlynol:

Dear Friends and citizens of the town of Bridgend, – This is a happy day for us and I have been chosen to tell you about this gun. Penybont Boys’ is the only school in the district, and I believe in South Wales that had been given a gun by His Majesty’s Government. In this we are greatly honoured. The gun is a light German Maxim gun and was captured from the Bosches. It has been presented to our school as a reward for the work of the scholars during Tank Week, and also in connection with the War Savings Campaign. We are proud that we have been able to bring this additional honour to the town of Bridgend, and that the boys of Penybont Boys’ School are showing themselves worthy sons of the Empire (Glamorgan Gazette, 1 Awst 1919)

Ceir rhagor o fanylion yn llyfr cofnodion Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, a gadwyd gan y Pennaeth John G Jenkins:

EM10_11 p499

This afternoon the School had a Victory and Peace Celebration of its own in order to show the people the captured German Machine Gun which had been presented to the School by the Government for the meritorious work which had been done by the school in collecting over £4000 in War Savings Cert during the Bridgend Tank Week. Many of the boys dressed in fancy costumes. They paraded the town and dismissed in front of the Town Hall after the delivery of two or three speeches and singing of several patriotic songs (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 25 Gorff 1919, EM10/11 t.499)

Roedd codi £4000 yn cyfateb i tua £12 fesul disgybl – sef swm anferth ym 1919. Yn ogystal, roedd yr arian a godwyd ar gyfer Wythnos y Tanc yn un rhan fach yn unig o’r gwaith a wnaed gan ddisgyblion Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn yn ystod y rhyfel. Mae llyfr cofnodion John Jenkins, a gedwir yn Archifau Morgannwg, yn cofnodi ymdrechion rhyfeddol bechgyn a staff Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn i godi arian er mwyn cynorthwyo’r ymdrech ryfel o fis Awst 1914 ymlaen.

Roedd gan Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn 330 o ddisgyblion ym mis Awst 1914. Roedd y Pennaeth yn rhedeg yr ysgol gyda chymorth 6 chynorthwyydd yn unig. Byddai pob athro, gan gynnwys y Pennaeth, yn arwain dosbarthiadau a oedd yn cynnwys o leiaf ddeugain o ddisgyblion, a mwy na hynny’n aml pan oedd staff yn absennol. Yn ogystal, roedd cyflwr adeiladwaith yr ysgol yn wael. Nododd adroddiad Arolygu Ysgolion a gynhaliwyd yn gynharach yn 1914 y canlynol:

The recommendations of the 1909 report with regard to classroom accommodation, direct access to the playground, heating and the provision of hoppers for the lower sections of the windows have still to be carried out… The two small classrooms are still habitually overcrowded. Several windows panes were broken at the time of the visit (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 24 Ebr 1914, EM10/11 tt.365-68).

Er hynny, mae’n amlwg roedd Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn yn ysgol â threfniadau rheoli da iawn. Roedd y gyfradd bresenoldeb gyfartalog yn 90%, a nododd adroddiad arolygu 1914 y canlynol:

The Department is staffed with energetic teachersA very good scheme of work has been planned and under the able supervision of the Master, who himself takes a full share in teaching, is soundly carried out (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 24 Ebr 1914, EM10/11 tt.365).

Roedd John Jenkins yn Bennaeth profiadol iawn. Wedi’i eni ym Maesteg, roedd e’n 57 oed yn 1914, a bu’n Bennaeth ar Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn ers dros 30 mlynedd. Roedd hefyd yn aelod blaenllaw o’r gymuned leol fel Cadeirydd Cyngor Dosbarth Tref Pen-y-bont ar Ogwr a diacon yr Eglwys Gynulleidfaol Saesneg ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ar ddechrau’r rhyfel, mae’n amlwg ei fod wedi penderfynu y byddai ei ysgol yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gynorthwyo’r ymdrech ryfel yn yr ardal leol, ac yn sicr roedd bechgyn Ysgol Pen-y-bont wedi derbyn yr her.

Lansiwyd un o’r apeliadau cyntaf gan Dywysog Cymru i roi cymorth i deuluoedd aelodau’r lluoedd arfog. Ym mis Awst 1914 roedd y rhyfel eisoes yn effeithio ar staffio ysgol Pen-y-bont:

EM10_11 p379

We resumed duties after the summer holidays under the shadow of the terrible war which has broken out between Germany and Austria on one side and England, France and Russia on the other. This has already disorganised my staff as Mr. Brown has rejoined the colours and Mr B J Jones who had been appointed to succeed Mr Morgan has failed to take up his engagement. We had only four teachers this morning to teach seven classes… (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 31 Awst 1914, EM10/11 t.379)

Er y bu’n rhaid i athrawon ymdopi â dosbarthiadau o 70 o ddisgyblion mewn rhai achosion, roedd ymateb yr ysgol i’r apêl i godi arian ar gyfer Cronfa Tywysog Cymru yn ardderchog. Bob wythnos roedd The Glamorgan Gazette yn rhestru’r rhoddion a wnaed gan yr ysgol o fis Medi 1914 ymlaen. Nifer o fisoedd yn ddiweddarach, ysgrifennodd John Jenkins:

EM10_11 p387

Ever since the week ending Sept 4th   my boys have subscribed weekly to some military fund or other. Up to Nov. 13th the school, including the staff, had collected a sum of £7 19s 8d and sent it to the Prince of Wales Fund. From then on to Dec 17th another sum of £2 7s 2d has been subscribed. With this money we purchased 50 shilling boxes of cigarettes and sent them to our Old Boys stationed in Scotland with the Welsh Cyclist Corps. Besides cigarettes we sent a parcel of splendid woollen mufflers and chocolates. Serg. Major Miles, to whom we sent the goods, sent a very warm letter of thanks from himself and the Old Boys for their happy Christmas box (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 26 Chwe 1915, EM10/11 t.387).

Roedd y bechgyn yn gwneud gwaith da arall yn ogystal â chodi arian. Er mwyn trin y milwyr clwyfedig o Ffrainc a mannau mwy pellennig, sefydlodd y Groes Goch ysbytai ledled Morgannwg. Ar unwaith penderfynodd Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn fabwysiadu Ysbyty’r Groes Goch a sefydlwyd yn Heol Merthyr Mawr, felly bu’r ysgol yn anfon bwyd a chyflenwadau eraill i aelodau’r lluoedd arfog yn rheolaidd o 1915 ymlaen.

EM10_11 p389

EM10_11 p390

This week we have sent our second consignment of gifts to the Red Cross Military Hospital in Merthyrmawr Road. The boys were asked to bring eggs and fruit and they responded very well. Over 100 eggs were sent to the Hospital besides a large quantity of apples, oranges, bananas, chocolates and cigarettes. About 20 eggs were also sent to the Cottage Hospital. Cordial letters of thanks were sent to the boys by the two matrons of the respective hospitals. Last week we sent nearly 40 eggs and a large basket of fruit (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 1 Ebr 1915, EM10/11 t.389-90)

Yn ogystal, roedd John Jenkins, cyn aelod o Gôr Caradoc, yn adnabyddus fel un a garai cerddoriaeth. Dan ei arweiniad, bu côr ysgol Pen-y-bont i Fechgyn yn chwarae rôl flaenllaw yn y cyngherddau lleol a drefnwyd i godi arian drwy gydol y rhyfel.

EM10_11 p415

My boys took part in a Concert last Wednesday night in the Town Hall. A section of the St I and II sang ‘Till the boys come home’ and a large section of St V, VI, VII sang Sullivan’s ‘Lost Chord’. There will be a repeat performance tonight. The proceeds of the two concerts will be devoted to the support of Queen Mary’s Guild (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 21 Ion 1916, EM10/11 t.415)

Nid dim ond gweithiau corawl oedd yn cael eu perfformio. Fel y nododd The Glamorgan Gazette, roedd bechgyn yr ysgol yn aml yn cynnwys perfformiad dramatig o’r olygfa cyn brwydr Agincourt o Henry V gan Shakespeare. Mae’n amlwg bod y bechgyn yn hoff iawn o’r olygfa honno, ac fe’i hail-berfformiwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi wrth i’r bechgyn berfformio gerbron cynulleidfa o rieni a phobl leol ar risiau Neuadd y Dref ar ôl gorymdeithio drwy strydoedd Pen-y-bont.

Mewn gwirionedd, prin iawn oedd y gweithgareddau codi arian lle nad oedd bechgyn Pen-y-bont yn chwarae rhan flaenllaw ynddynt. Roeddent hefyd yn cyfrannu at y Diwrnodau Baneri niferus a gynhaliwyd ym Mhen-y-bont. Nododd The Glamorgan Gazette ar 5 Mawrth 1915 fod bechgyn Pen-y-bont wedi codi £2 5s 9c, gan ychwanegu: …scarcely a person passed through any of the main thoroughfares without having a flag pinned on them.

O 1917 ymlaen gofynnwyd i’r ysgol sefydlu Cymdeithas Cynilon Rhyfel i annog pobl i brynu Bondiau Rhyfel. Ym 1918 aeth nifer o Danciau ar daith drwy De Cymru fel rhan o ymgyrch genedlaethol i annog cymunedau lleol i brynu bondiau. Mae’n bosibl mai dyfodiad y Tanc Egbert i Ben-y-bont ar Ogwr ym mis Mehefin 1918 oedd yr uchafbwynt i’r bechgyn.

EM10_11 p473

EM10_11 p474

The tank ‘Egbert’ paid a visit to our town on Tuesday and Wednesday, 18th and 19th inst. The huge sum of £230,500 was invested in the tank by the people of Bridgend and the surrounding district. As the population of the town is now only about 7,500 the above sum represents a sum per head of head of over £30 one of the best contributions in the Kingdom. The proceedings in front of the Town Hall where the tank was stationed were characterised by great enthusiasm and patriotic fervour. The Choir of our school occupied the stage in front of the tank on two occasions and sang numerous patriotic and national songs, to the evident pleasure of the great assemblage, which completely filled the square. Our School Assoc’, The Penybont Boys’ War Savings Association invested in the tank on Wed afternoon the comparatively large sum of £2,100, representing a sum of £2,800 in War Certificates. This placed our school easily on top of all the schools in the town and district whether elementary or secondary and had I believe made a record for the schools of the whole County of Glamorgan (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 21 Meh 1918, EM10/11 tt.473-4)

Yn ogystal, roedd gan Ysgol Pen-y-bont nifer o ‘arwyr rhyfel’. Ym mis Gorffennaf 1917 ysgrifennodd John Jenkins:

EM10_11 p451

EM10_11 p452

The father of one of my old boys who is at the front visited me today and gave me the gratifying news that his son – Charlie Lawrence of Newcastle has been awarded the D.C.M for distinguished conduct ‘In the Field’. The other day the townspeople presented another of my Old Boys with a gold watch for winning the Military Medal. The presentation meeting was held in the Town Hall Square and I had the honour of presiding over the meeting and of presenting the hero with the watch. The Old Boy’s name is Corporal Fred Quinlan of South Street. Another of my Old Boys who has won a Military Medal is Harry Bushnell, now living in Treorchy; and yet another is Frank Howells, Nolton St, who has been awarded the Military Medal, and it is rumoured that he has been recommended for a VC. My own son also, T Steve Jenkins has recently received a Commission at the Front ‘for meritorious Service in the Field’ (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 20 Gorff 1917, EM10/11 tt.451-2)

Fodd bynnag, cafwyd newyddion am golledion o’r Ffrynt yn Ffrainc hefyd:

EM10_11 p422

News has been received, that unfortunately it is officially confirmed of the death of two of my old scholars in the field of battle viz Willie Davis, Oldcastle and Edwin Thomas …. Other Old Boys who have fallen were Fred Thomas, Arthur Palmer and John Fitzgerald (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 29 Mai 1916, EM10/11 t.422)

Gan hynny, nid oes syndod bod John Jenkins a’r bechgyn wedi dathlu diwedd y rhyfel yn frwdfrydig.

EM10_11 p481

EM10_11 p482

News of the Great Armistice with the belligerent nations in the Great War came this morning about 11 o’clock. I immediately organised a procession of the boys thro’ the principal streets of the town, headed by their school banner. We cheered the King, Lloyd George, Foch, Haig and Beatty, and sang ‘God Save the King’ and ‘Rule Britannia’ in front of the Town Hall, and then returned to school. Half holiday in the afternoon. Staff and children and most of the townspeople half delirious with joy (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 11 Tach 1918, EM10/11 tt.481-2)

Ail-agorwyd yr ysgol drannoeth…gyda lefel wael iawn o bresenoldeb. Gellid bod wedi disgwyl mai dyna fyddai diwedd gwaith y bechgyn o gynorthwyo’r ymdrech ryfel. Fodd bynnag, roedd cryn dipyn o waith i’w wneud o hyd. Yn ogystal â chroesawu dychweliad aelodau’r lluoedd arfog, roedd angen parhau i godi arian drwy werthu Bondiau i dalu costau’r rhyfel. Gan hynny, parhaodd y ymgyrch Cynilon Rhyfel yn ddi-baid yn ystod y blynyddoedd ar ôl diwedd y rhyfel. Roedd gwyliau ychwanegol ar gael fel gwobr i’r ysgol a oedd yn gwerthu’r nifer fwyaf o Fondiau ym Mhen-y-bont. Ym mis Ionawr 1919 ysgrifennodd John Jenkins:

EM10_11 p488

Mr Preece, the Manager’s Clerk has written to tell me that my school has won a half holiday for collecting the next highest amount per head in war Savings Certificates during the month of December. The holiday will be taken next Friday afternoon the 31 inst. (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 24 Ion 1919, EM10/11 t.488).

Roedd y bechgyn yn parhau i gynorthwyo amryw o ddigwyddiadau lleol hefyd. Er enghraifft, ar 27 Rhagfyr 1918 cyhoeddodd The Glamorgan Gazette adroddiad ar gyngerdd a gynhaliwyd yn y sinema ym Mhen-y-bont i godi arian ar gyfer Cronfa Groesawu Milwyr a Morwyr Pen-y-bont. Roedd y canlynol ymhlith nifer o berfformwyr:

The Penybont Boys’ Choir (conducted by Mr J G Jenkins) again created a very favourable impression, singing in perfect time and with clear enunciation and the sweetest harmony – quite suggestive of a trained cathedral choir (Glamorgan Gazette, 27 Rhag 1918)

Mae’n debyg mai’r gwaith parhaus hwnnw arweiniodd at y cais rhyfedd gan yr Adran Addysg a nodwyd yn llyfr cofnodion John Jenkins am …fanylion unrhyw waith arbennig a wnaed gan yr ysgol yn ystod y rhyfel. Y cais hwnnw arweiniodd at benderfyniad y Swyddfa Ryfel i gyflwyno peirianddryll Maxim i’r ysgol fel gwobr am ei hymdrechion.

Mae’r llyfr cofnodion yn adrodd stori ysgol a phennaeth nodedig. Bu Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn yn gweithredu mewn amgylchiadau anodd. Drwy gydol y rhyfel, bu’r Pennaeth yn apelio’n rheolaidd am gyfraniadau i’w Gronfa Esgidiau er mwyn rhoi esgidiau i’r disgyblion tlotaf. Er hynny, rhoddodd y bobl anghenus hynny swm sylweddol o arian i gynorthwyo’r ymdrech ryfel. Wrth ysgrifennu at John Jenkins ar ran Pwyllgor Cynilon Rhyfel Cenedlaethol Sir Forgannwg ym mis Mehefin 1918, dywedodd Dr Abel Jones:

EM10_11 p475

I must congratulate you and your staff and children very heartily upon the excellent contribution you made to the Tank visit last week. I shall be very glad if you will convey to them my congratulations. I have not heard of any other school in the County doing so well (Ysgol Pen-y-bont i Fechgyn, llyfr log, 28 Meh 1918, EM10/11 t.475)

Nid yw’r llyfr cofnodion yn dweud beth ddigwyddodd i’r peirianddryll Maxim. Rhowch wybod i ni os ydych yn gwybod beth ddigwyddodd iddo er mwyn i ni allu ychwanegu’r manylion at yr hanes uchod.

Daeth y deunydd uchod o lyfr cofnodion ysgol yn Ardal pen-y-bont ar Ogwr. Gellir dod o hyd i straeon tebyg yng nghofnodion ysgolion ledled Morgannwg ar gyfer 1914-18. Os hoffech ragor o wybodaeth am effaith y rhyfel ar fywyd ysgol yn eich ardal chi a ledled Morgannwg, gallwch weld crynodebau o lyfrau cofnodion ysgolion ar gyfer pob ardal awdurdod lleol ar wefan Archifau Morgannwg www.archifaumorgannwg.gov.uk. Gallwch hefyd weld llawer o’r papurau newydd a gyhoeddwyd yng Nghymru yn 1914-1918, gan gynnwys y dyfyniadau uchod o The Glamorgan Gazette, yn http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/. Gallwch weld papurau newydd a gyhoeddwyd yng Nghymru yn ddi-dâl drwy ddefnyddio’r wefan hon gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Rhandiroedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae rhandiroedd wedi bod mewn bodolaeth ers rhai cannoedd o flynyddoedd, o bosib mor bell yn ôl â chyfnod yr Eingl-Sacsoniaid. Ond dim ond yn ystod y 19eg ganrif y dechreuwyd eu defnyddio yn y ffordd yr ydym yn ei hadnabod heddiw. Yn y cyfnod hwnnw, roedd tir yn cael ei neilltuo ar gyfer teuluoedd tlawd yng nghefn gwlad fel y gallant dyfu bwyd. Roedd y rhain yn deuluoedd a oedd yn gweithio gan mwyaf. Yn yr ardaloedd trefol, fodd bynnag, defnyddiwyd rhandiroedd gan deuluoedd lled gyfoethog fel dull o ddianc rhag bywyd y ddinas. Ar ddiwedd y 1900au daeth y Ddeddf Tyddynnod a Rhandiroedd i rym, gan roi’r cyfrifoldeb dros ddarparu rhandiroedd yn nwylo awdurdodau lleol.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth yn amlwg na allai Prydain ddibynnu ar fewnforio bwyd o wledydd eraill mwyach, gan fod y llongau a oedd yn ei gludo yn aml yn darged i ffrwydron a daniwyd o longau a llongau tanfor yr Almaen. O ganlyniad i hyn, gwelwyd twf yn nifer y rhandiroedd wrth i awdurdodau lleol alluogi pobl i ddefnyddio tir diffaith i dyfu bwyd.

Roedd y Board of Agriculture a’r War Agriculutural Committee yn rhan o’r gwaith o helpu i sicrhau tir, er bod y penderfyniad terfynol yn nwylo’r cynghorau plwyf. Mor gynnar â mis Medi 1914, mae cofnodion plwyf yn dangos i’r Fwrdd Amaeth a Physgodfeydd annog preswylwyr Pencoed i amaethu gerddi a rhandiroedd (Cyngor Plwyf Pencoed, llyfr cofnodion, P131/1/2). Un o hoff opsiynau’r Bwrdd oedd defnyddio tir wrth ymyl ffyrdd a rheilffyrdd ar gyfer rhandiroedd. Yng ngorsaf drenau Llandaf, er enghraifft, defnyddiwyd tir wrth ymyl yr orsaf a gwesty’r orsaf (Cyngor Plwyf yr Eglwys Newydd, llyfr cofnodion, P6/64). Ond erbyn 1917 roedd yn amlwg nad oedd hyn yn ddigon. Ym Mhont-y-clun a Thalygarn, awgrymwyd y dylid defnyddio tir yr eglwys fel gerddi (Plwyf Pontyclun and Talygarn, llyfr cofnodion y festri, P205CW/33).

Pontyclun church-ground

Un o’r problemau oedd yn wynebu awdurdodau lleol oedd nad oedd pawb oedd yn berchen ar dir y gellid ei amaethu yn fodlon ei roi i’w ddefnyddio fel rhandiroedd. Ym Mhlwyf y Castellnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, adroddodd cyngor y plwyf fod dyn o’r enw Mr Thomas wedi gwrthod ildio ei dir dro ar ôl tro, er gwaethaf y ffaith bod yr awdurdodau lleol wedi dweud wrtho fod ganddynt yr hawl i brynu ei dir drwy orfod petai’n rhaid (Cyngor Plwyf Castellnewydd, llyfr cofnodion, P84/15).

Newcastle-refusal-1

Newcastle-refusal-2

Problem arall a ddaeth i’r wyneb oedd bod rhai mathau o dir yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau. Yn Llandudwg gwnaeth y cyngor plwyf hyn yn glir: ‘unless the allotments were allowed to be where the Surveyor had pegged out the ground that they would have nothing to do with them’ (Cyngor Plwyf Llandudwg, llyfr cofnodion, P88/2). Mae’n ymddangos bod prosesu ceisiadau i Gyngor Sir Morgannwg gan y cynghorau plwyf i ddefnyddio tir fel rhandiroedd yn cymryd amser. Mewn un achos, bu’n rhaid i blwyf Ynysawdre gysylltu ag Ystâd Dunraven i weld a allan nhw gynnig tir yn lle hynny (Cyngor Plwyf Ynysawdre, llyfr cofnodion, P129/2/3). Ond nid oedd yr Ystadau bob amser yn barod i’w tir gael ddefnyddio, fel y daeth yn amlwg i blwyf Trelales (Cyngor Plwyf Trelales, llyfr cofnodion, P81/7/1).

Margam-estate-reply-1

Margam-estate-reply-2

Roedd yr awdurdodau lleol yn ceisio helpu’r rheiny â rhandiroedd, gan roi cyngor ar amrywiaeth o faterion iddynt. Dywedodd cyngor plwyf Llanisien wrth eu garddwyr i roi ffrwythau a llysiau mewn potiau Kilner, gan y byddai hynny’n golygu na fyddai’n rhaid iddynt ddefnyddio siwgr i’w cadw (Plwyf Llanisien, cylchgrawn y plwyf, P55CW/61/31).

Kilner-jars

Yn Llancarfan gofynnodd y Pwyllgor Amaeth Rhyfel i gyngor y plwyf sicrhau bod tatws hadyd ar gael i ffermwyr rhandiroedd (Cyngor Plwyf Llancarfan, llyfr cofnodion, P36/11), er yn y Rhigos roedd Pwyllgor Amaeth Cyngor Sir Morgannwg wedi bod wrthi’n annog ffermwyr rhandiroedd i fuddsoddi yn eu tatws hadyd eu hunain (Cyngor Plwyf Rhigos, llyfr cofnodion, P241/2/1). Roedd y rhai oedd yn tyfu tatws yn cael eu hannog i’w chwistrellu i osgoi heintiau (Cyngor Plwyf Castellnewydd, llyfr cofnodion, P84/20).

Unwaith y daeth y rhyfel i ben, pylu wnaeth y diddordeb mewn rhandiroedd . Cafodd rhai tiroedd eu hadfer i’w cyflwr gwreiddiol, neu eu defnyddio at ddibenion eraill. Ond roedd un broblem eto i’w datrys. Roedd rhai o’r caeau a arferai gael eu defnyddio fel meysydd criced wedi cael eu troi’n rhandiroedd yn ystod y rhyfel, fel yr un yn St Fagan’s Road, Trelái (Cyngor Plwyf Llandaf, llyfr cofnodion, P53/30/5). Pan ddychwelodd y cricedwyr ar ôl y rhyfel i chwarae eto, roedd rhai o’u caeau chwarae wedi diflannu.

cricket

Roedd galw mawr am y caeau a oedd ar ôl, a oedd yn golygu bod dod o hyd i gae gwag i chwarae criced ynddo bron iawn yn amhosib (Plwyf y Rhath, cylchgrawn y plwyf, P57CW/72/10).

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros-dro