Cynlluniau Doc Porthcawl

rsz_harbour_plans_art_03

Ym 1825 cafodd diwydianwyr a thirfeddianwyr lleol Ddeddf Seneddol am adeiladu tramffordd i lawr Cwm Llynfi i Fae Porthcawl, a gwella’r Bae drwy godi rhyw fath o ddoc. Dechreuodd y rheilffordd yn Nyffryn Llynfi, ychydig filltiroedd uwchben Maesteg, a rhedodd ar hyd y Dyffryn i Dondu lle trodd tua’r gorllewin tuag at Fynydd Cynffig a thrwy’r Pîl, y Drenewydd yn Notais i gyrraedd y môr ym Mhorthcawl. Roedd safleoedd eraill ar aber afon Ogwr ac yn y Drenewydd yn Notais wedi cael eu hystyried ar gyfer y doc ond fe’u gwrthodwyd, naill ai oherwydd anawsterau ar y tir neu oherwydd nad oedd y tirfeddianwyr yn fodlon cydweithredu. Roedd yr harbwr a adeiladwyd ym Mhorthcawl yn fasn petryal bach a oedd yn dibynnu ar y llanw ac felly dim ond ar adegau penodol o’r dydd y gellid ei ddefnyddio, ac ym 1840 cafodd ei ymestyn a’i ddyfnhau. Erbyn 1864 roedd y twf yn y diwydiannau haearn a glo yn golygu bod y ddau gwmni rheilffordd a oedd yn gweithredu ar y pryd yng nghymoedd Llynfi ac Ogwr wedi cydweithio i gael Deddf arall yn cynnig ehangu llawer mwy.

Byddai’r fynedfa i’r basn presennol yn cael ei hail-leoli, a byddai doc hollol newydd o ryw 7 erw yn cael ei adeiladu, wedi’i gysylltu â hi, ar y gogledd, a’i ffitio â gatiau fel na fyddai’n ddibynnol ar y llanw; byddai’r morglawdd hefyd yn cael ei ymestyn. Agorodd y doc newydd ym mis Gorffennaf 1867 ar gost o £250,000, ac mewn saith mlynedd cynyddodd faint o lo a allforiwyd bron i ddeg gwaith.

Arweiniodd dirwasgiad yn y diwydiant haearn i’r doc i ganolbwyntio mwy a mwy ar lo. Cyrhaeddodd y fasnach ei huchafbwynt ym 1892 pan ddociwyd dros 800 o longau, ond dirywiodd yn gyflym iawn ar ôl hynny, yn bennaf oherwydd agor dociau mwy eang a modern ym Mhort Talbot. Daeth masnach o Borthcawl i ben o’r diwedd ym 1906, a throdd y dref ei sylw o fasnach i hamdden.

Harbour-Plans-detail-web-re

Mae Archifau Morgannwg yn dal 32 o gynlluniau a baratowyd gan y peiriannydd o Lundain R.P. Brereton rhwng 1864 a 1866 ar gyfer ymestyn Doc Porthcawl (ref.: UDPC/HARBOUR).  Er i’r casgliad fod yn weddol fawr, efallai nid yw’n gyflawn; mae rhai ohonynt wedi’u rhifo, ond nid yw’r holl rifau yn bresennol. Yn ogystal â chynllun cyffredinol, maent yn dangos manylion gatiau’r doc, y morglawdd a’r rheiliau glo. Mae’r doc o 1867 wedi’i lenwi, ond mae’r cynlluniau wedi goroesi i’n hatgoffa o un agwedd ar dwf diwydiannol Fictoraidd, a’r newid ffawd mewn gwahanol borthladdoedd.

 

Pwdin a Pharsel: Codi arian Nadolig yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae’r Nadolig yn draddodiadol yn adeg pan fyddwn ni’n meddwl am eraill a phan fydd elusennau yn lansio ymgyrchoedd arbennig i godi arian.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hyn yn bwysicach fyth gyda chymaint o filwyr a morwyr yn gwasanaethu dros y dŵr, ymhell o’u teuluoedd a chysuron y cartref.

Mae llyfrau log ysgolion yn cofnodi ymgyrchoedd codi arian y disgyblion.  Yn Ysgol Gellidawel yn Nhonyrefail ym mis Hydref 1914, cofnododd y Pennaeth iddo yrru archeb bost am £1 at y Dywysoges Mary ar gyfer ei chronfa hi i baratoi anrhegion Nadolig ar gyfer y lluoedd.  Roedd yr athrawon wedi darparu’r gwobrau ac roedd raffl ar gyfer y disgyblion a dalodd geiniog yr un am docyn [ELL26/2].

Ysgrifennodd un Pennaeth yn Ysgol Pen-y-bont ym Mhen-y-bont ar Ogwr [EM10/11] yn ofidus ym mis Hydref 1914, na fyddai ganddo’r ‘wyneb (y flwyddyn honno) i ofyn am gyfraniadau’ i’r Gronfa Wobrau Nadolig yn sgil y rhyfel a’r pwysau mawr ar goffrau pobl. Fodd bynnag, codwyd arian ar gyfer y milwyr a gyrrwyd swm sylweddol o £7 at Gronfa tywysog Cymru.  Fe’i defnyddiwyd i brynu sigarennau, mwffleri gwlân a siocled a’u gyrru at yr Old Boys a oedd wedi eu lleoli yn yr Alban.  Mae’n cofnodi iddo dderbyn cydnabyddiaeth gan yr Uwch Ringyll Miles yn diolch i’r bechgyn am ‘eu Blwch Nadolig Llawen’ [EM10/11].

 

dx486-1_edited

Nid aeth y ffoaduriaid o Wlad Belg yn angof dros y Nadolig.  Cofnododd Pennaeth Ysgol Gymysg Y Dyffryn yng Nglyn-rhedynog, fod arian wedi ei godi i’r ffoaduriaid gan ddisgyblion a fu’n casglu ar Ddydd Nadolig 1916 [ER15/1]. Mae llyfr cofnod Cartref Gofal Rest ym Mhorthcawl hefyd yn cofnodi’r cymorth a roddwyd i ffoaduriaid o Wlad Belg:

…that the matter of providing extra diet etc. for the refugees and staff at xmas be left to matrons and chairman… [DXEL/3/5].

Trefnwyd cyngherddau i godi arian.  Gwnaeth Mr Leon Vint gais am drwydded gan Gyngor y Barri i agor ‘Vint’s Place’, Thompson Street, y Barri ar Ddydd Nadolig ym 1914 a 1915, gyda’r elw’r perfformiadau yn mynd at Ysbyty’r Groes Goch yn y Barri.  Roedd caniatâd hefyd i Neuadd Romilly gael agor ar Ddydd Nadolig i’r un diben [BB/C/1/20,21].  Yn ogystal â chodi arian, roedd agor lleoliadau ar Ddydd Nadolig yn golygu y gellid diddanu’r milwyr.  Rhoes Cyngor Bwrdeistref Caerdydd ganiatâd i agor y Central Cinema ar Yr Aes i gael ei ddefnyddio ar Ddydd Nadolig rhwng 5.30 ac 8pm at ddibenion ‘adloniant am ddim i’r milwyr’ [BC/C/6/54].  Cynigiodd Cyngor Ardal Drefol Aberpennar gynnal Cyngerdd Sul yn yr Abercynon Palace ar 29 Tachwedd 1914:

…the proceeds to be devoted to the making of, and sending a huge Christmas box of cigarettes, tobacco, socks etc to the soldiers at the front [UDMA/C/4/12].

Ym 1916 gofynnodd y Swyddfa Ryfel i’r Daily Telegraph a’r Daily News godi arian er mwyn anfon pwdinau Nadolig at filwyr yn y ffrynt, a chododd cynghorau lleol arian i’w anfon i’r elusen.  Anfonodd Cyngor Trefol Porthcawl dros £7 i’r ‘gronfa bwdin’ ym 1916 [UDPC/C/1/10].

Anfonwyd parseli i godi calonnau’r dynion dramor gan gynghorau plwyf lleol, eglwysi, capeli a sefydliadau eraill.

 

dce-1-5-p1_edited

dce-1-5-p3_edited

Ymhlith cofnodion Treflan Prifysgol Caerdydd mae llythyrau o ddiolch gan filwyr am barseli a dderbyniont dros y Nadolig.  Ar 19eg o Ragfyr 1916, mae’r Gynnwr C Upcott yn ysgrifennu at Edward Lewis:

I beg to thank you and all the members of the University Settlement for their kindness in sending me the parcel and I do not know how much to thank you for your kindness.  It is something terrible out here with the rain and one thing and another but I hope the end won’t be long so as we can all meet once again [DCE/1/64].

 

dce-1-64-p1_edited

Ysgrifennodd y Preifat William Slocombe o Gaerdydd, a dderbyniodd y Fedal Filwrol yn ystod y Rhyfel, o’r ffrynt at ei fam ar 9 Rhagfyr 1916. Mae’n gofyn iddi brynu ‘dyddiadur milwr’ iddo, a oedd yn cynnwys ‘llawer o wybodaeth filwrol ddefnyddiol a geiriadur Ffrangeg bychan yn y blaen’. …  ‘Carwn i chi anfon un ataf i os yw hynny’n bosibl. Nid yw’n costio mwy nag ambell swllt ar y mwyaf.’  Mae hefyd yn meddwl am anrhegion Nadolig i’w deulu adref ac yn anfon archeb bost am 10 swllt:

It is for the kids and yourself… If you can get some chocolates for the girls so much the better.  I should like to give Pa some tobacco too.

Yn deimladwy mae’n ysgrifennu:

…the circumstances are very different to last year aren’t they?  Your affectionate Son… [D895/1/3].

Mae’r cofnodion hyn, a llawer mwy sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ar gael i’w gweld yn Archifau Morgannwg.

 

Newyddion o’r Ffrynt

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymrestrodd nifer o ddynion i wasanaethu eu gwlad, naill ai’n wirfoddol neu am fod y fyddin wedi galw arnynt. Effeithiwyd ar awdurdodau lleol gan hyn cymaint ag unrhyw un. Yn naturiol, roedd y rhai a arhosodd ar ôl gan ddal ati i weithio gyda’r awdurdodau lleol yn awyddus i gael y newyddion o’r Ffrynt.

Cafwyd newyddion da ar ffurf gwobrau a roddwyd i filwyr am yr hyn a wnaethant ar faes y gad. Ym mis Medi 1915, nododd Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer fod James Green wedi’i argymell i gael Medal Ymddygiad Neilltuol. Ym mis Rhagfyr 1917, cafodd y Preifat Tudor Lewis Fedal Filwrol. Ac ar Ddydd Calan 1918, cyhoeddwyd bod y Sarsiant Ivor Jones wedi ennill y ddau fedal.

Ivor Jones

Cydnabuwyd nifer o gyflogeion eraill am eu gwasanaeth a’u dewrder.

Ym mis Ionawr 1917, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Porthcawl longyfarchiadau gwresog i’r Lefftenant Tamblyn a’r Corporal Nicholls, y cafodd y ddau eu gwobrwyo am ddewrder neilltuol. Ac ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Maesteg longyfarchiadau i’r Sarsiant Fred Davies ar ôl iddo ennill Medal Ymddygiad Neilltuol.

Ym mis Mehefin 1917, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr longyfarchiadau i rieni Oscar Powell a Frank Howell – dyfarnwyd y Fedal Filwrol i’r ddau. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, dyfarnwyd y Fedal Filwrol i’r Ail Lefftenant Steve Jenkins, a oedd yn fab i un o aelodau’r cyngor. Ym mis Ionawr 1918, adroddodd Cyngor Dosbarth Trefol Ogwr a Garw fod Mr King, gyn-Gapten brigâd dân Nant-y-moel, wedi cael Medal Ymddygiad Neilltuol.

Ar ddiwedd y Rhyfel ym mis Tachwedd 1918, datgelodd Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr fod yr Uwch-gapten R D Williams, a oedd yn fab i gynghorydd, wedi dod yn aelod o’r Urdd Gwasanaeth Neilltuol.

Un ffynhonnell arall o newyddion da oedd pryd y cawsai milwyr eu dyrchafu. Ym mis Mehefin 1916, rhoddodd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr longyfarchiadau i’r Lefftenant Gyrnol F W Smith ar gael ei ddyrchafu’n Gomander i 16eg Bataliwn Cymru (Dinas Caerdydd). Ym mis Mai 1917, trafododd Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer ddyrchafiadau cyflym Mr Emlyn Evans. Gan ddechrau fel Preifat ym mis Medi 1915, daeth yn Is-gorporal ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, ac yn Gorporal llawn fis yn ddiweddarach. Chwe mis yn ddiweddarach fe’i enwyd yn Sarsiant cyn iddo ddod yn Uwch-Sarsiant Cwmni ym mis Rhagfyr 1916. Fis yn ddiweddarach, symudodd i’r Corfflu Awyr Brenhinol a daeth yn Sarsiant Hedfan ac yna ym mis Ebrill 1917 daeth yn Uwch-Sarsiant.

Weithiau, byddai clywed newyddion fod rhywun ar y Ffrynt yn fyw ac iach yn achos dathlu. Ym mis Medi 1914, rhoddodd Cyngor Dosbarth Gwledig Pen-y-bont longyfarchiadau i’r Cyrnol Turbervill ar glywed fod ei fab, y Capten Turberville, yn iach. Ond yn anffodus, ym mis Mai 1915, lladdwyd ŵyr y Cyrnol Turbervill ar faes y gad.

Ynghyd â’r llawenydd o glywed am gydweithwyr yn ennill gwobrau am eu dewrder, roedd hefyd ofid a galar wrth glywed am farwolaeth neu anafiadau i’r rhai a oedd ar y Ffrynt. Ym mis Medi 1914, collodd Iarll ac Iarlles Plymouth berthynas, Archer Windsor Clive. Pleidleisiodd sawl awdurdod lleol i gyfleu eu cydymdeimlad, a enynnodd ddiolch gan Ystâd Plymouth.

Ym mis Tachwedd 1914, cyfleodd Cyngor Dosbarth Gwledig Pen-y-bont eu cydymdeimlad i’r Cyrnol Nicholl ar farwolaeth ei fab, y Lefftenant Nicholl. Ym mis Rhagfyr, mynegodd Cyngor Dosbarth Trefol Aberpennar eu cydymdeimlad i deulu Arglwydd Aberdâr, pan laddwyd ei fab hynaf. Ym mis Hydref 1915, cynigiodd Cyngor Dosbarth Trefol Porthcawl bleidlais i fynegi cydymdeimlad i deuluoedd y Lefftenant Sydney Randall Jenkins a’r Sarsiant Evan Rogers.

Ym mis Tachwedd 1916, cafodd Dr M J Rees, a fu’n Swyddog Meddygol Iechyd ers blynyddoedd i Gyngor Dosbarth Gwledig Aberdâr, ei ladd wrth ymladd. Ym mis Gorffennaf 1917, cafodd tri chyn-gyflogai, y gyrwyr Amos ac E Wiltshire a’r tocynnwr AC Sims, eu lladd ar faes y gad.

Ym mis Rhagfyr 1917, cafodd Cyngor Dosbarth Trefol Maesteg golled driphlyg wrth i’r Ail Lefftenant Hugh Grande, y Preifat Harold Edwards a’r Preifat Charles Corbett gael eu lladd. Cafwyd colled driphlyg arall ar ddiwedd y rhyfel, gyda marwolaethau’r Milwyr Ivor Evans, A Meldrum a Hillman.

Ni ddigwyddai pob colled ar y ‘Ffrynt’, yn bennaf yn Ffrainc ac yng Ngwlad Belg. Roedd rhai mewn rhannau eraill o’r byd. Yn ystod ymgyrch Gallipoli ym 1915, gwasanaethai milwyr yr Ymerodraeth Brydeinig yn Nhwrci ein dyddiau ni, ac roedd ymgyrchoedd yn Affrica a’r Dwyrain Canol. Mae hefyd yn werth nodi nad oedd pob colled ar y tir. Roedd colledion yn yr awyr yn y Corfflu Awyr Brenhinol (y Llu Awyr Brenhinol heddiw) a’r Gwasanaeth Awyr Morol Brenhinol (Awyrlu’r Llynges), ac ymhlith y rhai a wasanaethai gyda’r Môr-filwyr neu’r Llynges. Roedd un golled ar y môr ym mis Hydref 1914 pan adroddodd Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer farwolaeth y Lefftenant Gomander McGregor pan suddwyd HMS Hawke gan long danfor Almaenaidd ym mis Hydref 1914.

McGregor

Dengys cofnodion yr awdurdod lleol yn Archifau Morgannwg fod y newyddion o’r ffrynt yn rhywbeth yr oedd cynghorwyr a chyflogeion yn eiddgar i’w gael. Ac er eu bod yn gobeithio am newydd da, newyddion drwg yn aml a ddaeth i’w rhan.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros Dro

Yr Orffwysfa, Porthcawl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Ym 1862 agorodd Dr James Lewis Yr Orffwysfa ar gyfer Pobl Anabl, Cleifion Ymadfer a Chleifion Manwynnog (sef The Rest for Invalids, Convalescents and Scrofulous Patients yn Saesneg) yn Notais, ger Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Forgannwg, a oedd yn cynnwys tri bwthyn a oedd yn eiddo iddo. Y nod oedd sicrhau bod rhywle ar gael i bobl a anafwyd neu bobl ag afiechydon wella ynddo, gan gael budd o awyr iach glan y môr, deiet iachus ac ymarfer corff. Y nod oedd symud yr Orffwysfa i safle mwy o lawer. Bu Dr Lewis mewn cysylltiad â Florence Nightingale ym 1871 i drafod sut y dylid cynllunio adeilad o’r fath.

DXEL-5-1 004

Dewiswyd dyluniad i’w godi ger Porthcawl ym 1874, ond yn fuan wedyn daeth i’r amlwg na fyddai’n bosibl codi’r arian yr oedd ei angen, oherwydd chwalfa’r diwydiant haearn a’r lleihad ym mhris glo. Awdurdodwyd fersiwn llai o faint o’r cynllun ym 1876, a chwblhawyd y gwaith ym 1878. Roedd poblogrwydd cynyddol Yr Orffwysfa drwy gydol y 1880au yn golygu nad oedd y cyfleusterau’n ddigon mawr mwyach, ac agorwyd estyniad newydd ym 1893 ar gyfer cleifion benywaidd. Agorwyd adain newydd o’r ysbyty ym 1897, agorwyd estyniad ychwanegol ar gyfer plant ym 1900, ac agorwyd estyniad arall ym 1909, felly erbyn hynny roedd Yr Orffwysfa yn edrych fel y dylai fod wedi yn ôl cynlluniau gwreiddiol yr 1870au. Ym 1913 prynodd Pwyllgor Rheoli’r Orffwysfa Westy Dunraven yn Southerndown, er mwyn creu llety ar gyfer menywod a phlant.

Cynigiwyd y syniad y gellid rhoi llety i filwyr a morwyr a oedd yn ymadfer yn ystod Rhyfel y Boeriaid yn wreiddiol, er bod y Swyddfa Ryfel wedi gwrthod y cynnig hwnnw. Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ychydig fisoedd yn unig ar ôl i’r Orffwysfa yn Southerndown agor. Unwaith eto, cynigiodd y Pwyllgor Rheoli y gellid rhoi llety i filwyr clwyfedig yn y ddau safle, ond bryd hynny roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel eisoes wedi sicrhau bod dros 20,000 o welyau ar gael i’r lluoedd arfog, a’r disgwyl oedd y byddai’r rhyfel ar ben erbyn y Nadolig, felly gwrthodwyd y cynnig unwaith eto. Gan hynny, ffoaduriaid o Wlad Belg oedd y cyntaf i gael llety yn Yr Orffwysfa yn sgîl y Rhyfel.

Belgian Refugees

Erbyn 5 Tachwedd 1914, roedd 29 o ffoaduriaid gwrywaidd yn cael llety yn yr Orffwysfa ym Mhorthcawl. Erbyn diwedd mis Tachwedd, roedd y Groes Goch wedi gwneud cais i gael defnyddio’r Orffwysfa yn Southerndown. Cytunwyd i’r cais hwnnw, ar yr amod mai’r metron fyddai’n rheoli’r safle ar bob achlysur.

Ym mis Ionawr 1915, gyda’r rhyfel yn parhau’n hwy na’r disgwyl, gofynnodd yr awdurdodau milwrol lleol am lety ar gyfer dros 180 o recriwtiaid Ambiwlans Maes 1af Cymru, Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, a chytunodd Pwyllgor Rheoli’r Orffwysfa i’r cais hwnnw. Ar ôl symud i’r Orffwysfa yn Southerndown, gadawodd y ffoaduriaid Belgaidd ddechrau mis Mawrth 1915, heblaw am ddau wnaeth aros fel aelodau o staff.

Ar ddiwedd 1915, roedd Cymdeithas Ambiwlans St Ioan wedi gwneud cais i ddefnyddio’r Orffwysfa ym Mhorthcawl fel Ysbyty Rhyfel Atodol. Rhoddwyd caniatâd iddynt ddefnyddio’r Orffwysfa tan ddiwedd y rhyfel, er bod disgwyl i’r Gymdeithas dalu o leiaf rywfaint o gostau cynnal a chadw’r cyfleusterau. Roedd hynny’n golygu nad oedd ar gael i gleifion sifilaidd yn ystod y cyfnod hynny, ac nid oedd y milwyr na’r morwr yn talu am docyn fel yr oedd sifiliaid wedi gwneud.

Soldiers 1917

Darparwyd rhagor o welyau ym 1916, ac ystyriwyd sefydlu ysbyty maes ar dir yr Orffwysfa ym Mhorthcawl, er na chafodd ei adeiladu yn y pendraw. Erbyn diwedd y rhyfel ym mis Tachwedd 1918 roedd bron 2,500 o gleifion o luoedd arfog Prydain, Awstralia, Canada a Seland Newydd wedi cael triniaeth yn y ddwy Orffwysfa, ac roedd yr un yn Southerndown yn dal i dderbyn cleifion sifiliaidd.

Ym 1919 aeth y ddwy Orffwysfa yn ôl i’r drefn arferol o dderbyn cleifion sifiliaidd, fel y gwnaed cyn y rhyfel. Gwerthwyd yr Orffwysfa yn Southerndown ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a chaeodd yr Orffwysfa ym Mhorthcawl ddiwedd 2013.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros-dro

Dau Gyfreithiwr o Ben-y-bont: Randall a Stockwood

Ym 1962 derbyniwyd ein 75ain eitem, gweithred ar gyfer darn o dir yn y Bont-faen, gan gwmni cyfreithwyr H. J. Randall o Ben-y-bont ac ym 1961 cafwyd ein 75ain eitem gan Stockwood Solicitors, cwmni cyfreithwyr arall yn y dref.

Rhestrir Thomas Stockwood yng nghyfeirlyfr masnach 1865 fel cyfreithiwr yn gweithio o swyddfa yn neuadd y dref, tra dechreuodd teulu Randall weithio fel cyfreithwyr ym Mhen-y-bont pan agorodd William Richard Randall ei fusnes yn Norton Street yn y 1880au.

Dangosa papurau’r cwmnïau hyn (cyfeirnodau DRA a DST) yr amrywiaeth o ddeunydd a ddaeth i’n llaw o swyddfeydd cyfreithwyr. Mae cyfreithwyr yn rhan o nifer o ddigwyddiadau pwysig yn ein bywydau, gan lunio a diogelu ewyllysiau, delio ag ysgariadau a goruchwylio gwerthiant tai, felly rydym yn disgwyl gweld dogfennau cyfreithiol megis copïau o ewyllysiau a gweithredoedd eiddo a thir yn rhan o’u casgliadau.

Amryw dogfen cyfreithiol

Amryw dogfen cyfreithiol

Fodd bynnag, mae cyfreithwyr yn aml yn chwarae rôl flaenllaw yn eu cymunedau lleol, gan weithredu mewn rôl gyfreithiol ar gyfer nifer o gyrff cyhoeddus, yn ogystal â bod yn asiantau ar gyfer ystadau a maenordai tirfeddianwyr a sefydliadau lleol y mae ganddynt ddiddordeb personol ynddynt. Bu Randall of Bridgend, er enghraifft, yn gweithredu fel asiant ar ran Iarll Dwnrhefn ac yn stiward i sawl maenordy lleol. Roedd Thomas Stockwell yn glerc ynadon ac yn asiant i Iarlles Weddw Dwnrhefn.  Roedd yn Ysgrifennydd Anrhydeddus y Rest ym Mhorthcawl, ac mae’r casgliad yn cynnwys llythyr iddo gan Florence Nightingale ym 1871, lle mae hi’n rhoi sylwadau ar gynllun ar gyfer adeilad newydd.

Llythyr Florence Nightingale

Llythyr Florence Nightingale

Llythyr Florence Nightingale

Llythyr Florence Nightingale

Mae’r ddau gasgliad yn adlewyrchu amryw ddiddordebau’r cyfreithwyr yn ogystal â’u gwahanol gwsmeriaid ac mae’r casgliadau’n cynnwys papurau’n ymwneud â phyllau glo, teuluoedd lleol, cyfleustodau cyhoeddus, amaeth, rheilffyrdd, Gwirfoddolwr Reifflau Morgannwg a barddoniaeth.

Cydnabuwyd pwysigrwydd darganfod pa gofnodion a oedd ym meddiant cyfreithwyr yn nyddiau cynnar yr Archifdy. Danfonodd Archifydd y Sir, Madeleine Elsas, lythyrau ym 1947 at gwmnïau cyfreithwyr lleol ledled Morgannwg.  Rhoddodd yr ymatebion i’r llythyrau gipolwg hynod ddiddorol ar fywyd sawl cyfreithiwr yn y blynyddoedd yn dilyn y rhyfel. Adroddodd rhai o Abertawe fod llawer o’u cofnodion hanesyddol wedi’u ‘dinistrio gan weithredodd y gelyn neu wedi’u difetha gan ddŵr yn dilyn gweithredoedd o’r fath’. Cafodd y rhyfel effeithiau eraill, gyda chwmni cyfreithiol ym Mhontypridd yn adrodd bod y ‘rhan fwyaf o’n hen ffeiliau a dogfennau yn ymwneud â’r ganrif ddiwethaf a dechrau’r ganrif hon naill ai wedi’u defnyddio ar gyfer adfer yn ystod y rhyfel, neu wedi’u dinistrio wrth ad-drefnu’r swyddfa ar ddiwedd y rhyfel.

Fodd bynnag, gwnaeth y llythyrau myfyrgar o’r Archifdy annog sawl cwmni i chwilio am ‘hen focsys a phentyrrau’, fel y disgrifiwyd gan un cyfreithiwr, ac arweiniodd at gyflwyno sawl casgliad gwerthfawr ac amrywiol.