Thomas Stevens, Prif Bobydd a Theisennwr Caerdydd: Rhan 3 – Y Rhyfel Byd Cyntaf a Pharseli Bwyd i’r Milwyr

Arweiniodd blocâd U-Boats Almaenig ar Brydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf at brinder sylweddol o fwydydd sylfaenol, gan gynnwys grawn a siwgr. Gallai hyn fod wedi cael ei ystyried yn ddiwedd y daith i fasnachwyr ag enw da am gacennau addurniadol a phasteiod, ond i Tom Stevens dim ond un her arall i’w goresgyn oedd hyn.

Mewn cyfnod byr iawn roedd prif bobydd a theisennwr Caerdydd wedi sicrhau bod ei fusnes yn ‘barod at rhyfel’. Datganodd y dyn a eniloddl glod mewn arddangosfeydd rhyngwladol am gacennau hynod addurnedig ei fod yn falch na fyddai bellach yn cynhyrchu “Bara Ffansi a Ffrengig”. Yn hytrach, dim ond un dorth safonol y byddai caffis y Dutch a’r Dorothy a’i siop ym Mhontcanna, a oedd ar un adeg wedi cynnig 20 math gwahanol o fara, yn eu cynhyrchu sef “y Dorth Ryfel”. Ar ben hynny, yng Nghaffi Dorothy, a fu unwaith yn enwog am ei arddangosfeydd Nadolig o felysion a siocled, dim ond cacennau cyrens heb addurniadau nac eisin a gai eu cynnig, a hynny oherwydd y prinder siwgr. Roedd gwaeth i ddod yn 1918, gyda blocâd yr Iwerydd yn atal cyflenwadau pellach o rawn, ymunodd Stevens a phobyddion eraill Caerdydd â’r ymgyrch ryfel i ddogni drwy ychwanegu 15lb o datws at bob sach o flawd.

Erbyn hyn roedd cangen y cwmni a oedd yn adnabyddus am ddarparu ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol ysblennydd bellach hefyd wedi troi ei sylw at ymdrech y rhyfel. Ar Ddydd Nadolig 1914 darparodd Stevens ginio i filwyr clwyfedig yn Ysbyty Sblot, ond nid heb ganlyniadau trasig.  Roedd ei gogydd, James Barbet, i fod i sleisio’r twrci a goruchwylio’r pryd bwyd.  Fodd bynnag, llithrodd wrth adael y car a rholiodd y cerbyd dros ei droed. Aeth y stydiau rhag rhew a oedd yn y teiars i mewn i gnawd ei droed, gan achosi haint. Yn anffodus bu farw, bedwar diwrnod yn ddiweddarach, yn yr ysbyty.  Serch hynny, Stevens ei hun a arlwyodd ar gyfer y 500 o filwyr a staff o ysbytai rhyfel lleol a fynychodd “Ddiwrnod Hapus y Rhyfelwyr Clwyfedig yn Sain Ffagan”. Sefydlodd hefyd gynllun Cynilo y Rhyfel i’w staff allu prynu Bondiau Rhyfel a chefnogi’r ymdrech ryfel.

Dutch Cafe

Efallai mai ei awr fwyaf oedd ei bartneriaeth â phapur newydd lleol wrth redeg Cronfa Carcharorion Rhyfel yr Evening Express. Wedi’i sefydlu i ddarparu parseli bwyd i ddynion y Gatrawd Gymreig a gymerwyd yn garcharorion rhyfel, aeth y gronfa i galonnau pobl ledled Cymru, gyda Lloyd George yn cynnig ei hun i weithredu fel noddwr. Roedd gan Stevens brofiad o anfon parseli bwyd dros y byd, gan gynnwys anfon bwydydd i filwyr Prydain yn ystod Rhyfel y Boer. Fodd bynnag, roedd hon yn dasg ar raddfa lawer mwy.  Gan sefydlu ei bencadlys yng Nghaffi’r Dutch ar Heol y Frenhines, aeth Stevens ati i roi parseli ynghyd o fwydydd a chysuron eraill i’r milwyr. Er gwaethaf y pellteroedd a’r amser teithio, roedd yn benderfynol o gynnwys bara plaen a chyrens ochr yn ochr â physgod, cig a ffa pob mewn tun. Wedi’u gosod mewn ‘blychau wedi’u hawyru’ roedd y parseli hefyd yn cynnwys sigaréts a thybaco cetyn ynghyd â ‘rhoddion’ fel harmonicas, cardiau chwarae a pheli pêl-droed. Adeg y Nadolig, lluniodd Stevens “flwch tyc arbennig” a oedd yn cynnwys pwdin plwm.  Amcangyfrifwyd bod ei staff yn defnyddio dros 85 milltir o linyn i glymu’r parseli.

Bakery

Gan weithio gyda’r Groes Goch, anfonwyd y parseli i’r Almaen, Awstria, Bwlgaria a Thwrci.  Roedd pob un yn cynnwys cerdyn i’r milwr yrru ateb ar ôl derbyn y parsel. Datganodd yr Evening Express yn falch ym mis Tachwedd 1918 fod 153,000 o barseli wedi’u hanfon a bod cardiau wedi’u derbyn ym mron pob achos yn cadarnhau eu bod wedi cyrraedd yn ddiogel. Roedd yn ddiwrnod da o waith ac yn rhywbeth y gallai Tom Stevens fod yn falch ohono, yn briodol felly. Bu farw Stevens naw mlynedd yn ddiweddarach yn 70 oed.  O blith ei gyflawniadau niferus yn ystod ei gyfnod yn Wrecsam a Chaerdydd, mae’n rhaid bod ei waith adeg y rhyfel wedi bod yn agos i’r brig.

Ond mae un ‘bwlch bach’ ar ôl yn yr hanes. Ar ôl y rhyfel, gwerthodd Stevens y cyflenwadau nas defnyddiwyd ar gyfer y parseli bwyd. Ochr yn ochr â’r ‘Trawler Fish Paste’, ‘Kipper Snacks’ a ‘Heinz Baked Beans’ roedd rhywbeth o’r enw ‘Mitchells’ Popular’. Os oes unrhyw un yn gwybod beth ydoedd, cysylltwch â ni.

Daw’r ffotograffau ar gyfer yr erthygl hon o albwm coffa a gyflwynwyd i Thomas Stevens gan ei staff yn 1913 ar gael ei benodi’n Deisennwr i’r Brenin George V. James Forbes Barbet yw un o’r staff a enwir yn y llyfr ar dudalen 5. Gellir gweld yr albwm yn y casgliad yn Archifau Morgannwg (cyf.: D401/1).

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Cylchgrawn Ocean and National Coal, 1934: Myfyrdodau ar Ddydd y Cadoediad

Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y gweithlu, mae’r gyfres gylchgrawn hon yn cynnwys amrywiaeth eang o erthyglau ar y diwydiant glo a’i hanes, gan gynnwys cysylltiadau diwydiannol, gweithwyr, technoleg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Mae Andrew Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi cwblhau mynegeio’r casgliad gwych hwn. Dyma’r seithfed mewn cyfres o erthyglau blog lle mae Andrew yn tynnu sylw at storïau o gylchgronau’r ‘Ocean and National Magazine’.

**********

D1400-9-7-11 Page 375

Roedd 1934 20 mlynedd wedi cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac ar gyfer rhifyn mis Tachwedd Cylchgrawn Ocean and National Coal, neilltuwyd adran fawr i drafod barn ar y rhyfel hwnnw a’r tebygrwydd y byddai rhyfel yn y dyfodol.

D1400-9-7-11 Page 371

Egyr y cylchgrawn gyda gair y golygydd gan yr Arglwydd Davies o Landinam, perchennog y cylchgrawn (fel arfer ni fyddai ond yn ysgrifennu erthygl olygyddol yn rhifyn y Nadolig).  Cychwynna’r darn gydag atgofion Davies o sut yr ymdrinnid â’r rhyfel ar y pryd. Mae’r Arglwydd Davies yn tebygu mynd i ryfel â chyfnod pan arferai pobl ateb anghydfod trwy ymladd, trwy ornest neu frwydr. Yna, dywed fod y rhain wedi eu disodli gan egwyddorion o gyfraith a threfn, ond nad oedd trefn o’r math ar gyfer anghydfod rhwng cenhedloedd cyn creu Cynghrair y Cenhedloedd wedi’r rhyfel. Fodd bynnag, nid oedd y sefydliad hwnnw y tu hwnt i feirniadaeth yr Arglwydd Davies, a honnai:

…we have helped to turn it into a debating society.

Daroganai ryfel arall yn Ewrop, a ddeuai heb rybudd ac na allasid ei atal ond trwy Dribiwnlys a grym heddlu.

Photo 6-Bombs were dropped and no damage was done

Dros y tudalennau nesaf, ceir atgofion cyflogeion pyllau glo Ocean and National o’r rhyfel, a’r nod oedd dwyn perswâd ar y darllenwyr bod heddwch yn ddewis gwell na rhyfel. Mae rhai ffotograffau hefyd, a dau yn dangos adeiladau yn Llundain wedi eu bomio. Dengys un ffotograff teimladwy griw o filwyr meirw dan deitl ‘Diwedd yr Argyfwng!’ (‘Crisis Over!’) Yn ogystal â’r ffotograffau, cyfeiria dwy erthygl bapur newydd, a ail-argraffwyd o’r Daily Express a Le Matin, at ddigwyddiadau brawychus yn ystod y rhyfel.

Photo 7-War Fever Crisis Over

Neilltuwyd rhan olaf y cyflwyniad hwn i’r rhyfel yn cychwyn gyda chartŵn yn dangos cawr o ddyn yn dwyn yr enw ‘Rhyfel’ yn cael ei saethu gan long awyr yn perthyn i’r Heddlu Rhyngwladol. Teitl y cartŵn yw Taro’r Targed! (‘A Direct Hit!’) a cheir sylwad gan y cartwnydd, Mr Dick Rees, yn dweud gorau po gyntaf!

Teitl yr erthygl olaf yn y rhifyn gwrthryfel yw’r Twrw Hynaf (‘The Oldest Racket’) a’r is-deitl Yn Eisiau: Heddlu Newydd (‘Wanted: A New Police Force!’) – ac ynddi, cyflwynir yr achos dros ffurfio Heddlu Rhyngwladol, naill ai i ddisodli Cynghrair y Cenhedloedd neu:

…or its effective reinforcement by the addition of the power which enables the Council to enforce its decisions.

Trafodid yr Heddlu newydd hwn yn fanwl yn rhifyn mis Rhagfyr 1934.

Cartoon 4-A Direct Hit

O’r rhifyn hwn tan rifyn olaf y casgliad yn niwedd 1936, dygai’r cylchgrawn air gwrthryfel. Er nad oedd yr Ail Ryfel Byd wedi cychwyn eto, ym 1936 cychwynnodd Rhyfel Cartref Sbaen a chyn hynny ymosododd yr Eidal ar Abysinia (Ethiopia) ym 1935 a Siapan ar ardal Manshwria yn Tsieina ym 1931.

Andrew Booth, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

‘Bu farw’r dynion hyn dros eu gwlad’: Cofeb Ryfel Penarth, Tachwedd 1924

Ymhlith y cofnodion yn Archifau Morgannwg mae rhaglen a argraffwyd ar gyfer seremoni a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 1924 i ddadorchuddio’r Gofeb Ryfel yng Ngerddi Alexandra, Penarth.

20181207_082427_resized

Gellir gweld y gofeb ar dudalen flaen y rhaglen gyda’r arysgrif ‘Er cof am wŷr Penarth a fu farw dros eu gwlad yn y Rhyfel Mawr 1914-18’. Roedd y dyddiad a ddewiswyd ar gyfer y seremoni yn symbolaidd am ei fod yn nodi chwe blynedd ers arwyddo’r Cadoediad a roes ddiwedd ar yr ymladd yn y Rhyfel Mawr – y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar gyfer cenedlaethau diweddar, mae Diwrnod y Cofio, ar 11 Tachwedd, wedi bod yn nodwedd ar fywyd ym mhob pentref a thref ar hyd a lled y wlad bron a bod. Mae’n nodi arwyddo’r Cadoediad a roes ddiwedd ar y Rhyfel Mawr ym 1918 a’r rheiny a fu farw mewn dau Ryfel Byd a chyrchoedd diweddarach. Fodd bynnag, ym 1924, i ryw raddau, roedd yn ddatblygiad newydd a nodwyd am y chweched tro yn unig. Collodd dros 700,000 o ddynion a merched y lluoedd Prydeinig eu bywydau yn y Rhyfel Mawr a chladdwyd y mwyafrif ohonyn nhw dros y dŵr, o Fflandrys i Galipoli i Balesteina. O gymharu hyn a rhyfeloedd a fu cyn hynny, roedd y colledion yn anferthol ac arweiniodd hynny at alw i gael diwrnod coffa cenedlaethol. Cymaint oedd cryfder teimladau pobl fel bod papurau newydd ym 1924, chwe blynedd wedi diwedd yr ymladd, yn adrodd bod unigolion mewn sawl tref wedi eu harestio a’u dwyn i’r ddalfa am beidio â nodi’r ddwy funud o dawelwch ar 11 Tachwedd.

Er bod cyrchoedd blaenorol, gan gynnwys Rhyfel Crimea a Rhyfel De Affrica, wedi eu coffáu drwy godi nifer bychan o gofebion, roedd y Rhyfel Mawr yn wahanol am iddo gyffwrdd â bron pob cymuned drwy’r deyrnas. Roedd pob cymuned felly yn awyddus i ganfod modd priodol i nodi’r cyfraniadau a wnaed gan wŷr a gwragedd lleol. Os edrychwch ar y braslun ar ddalen flaen y rhaglen fe welwch, yn y cefndir, danc milwrol. Yn y blynyddoedd wedi’r Cadoediad roedd nifer o drefi a dinasoedd wedi llwyddo i gael gafael ar offer milwrol, yn aml tanciau neu ynnau maes. Cafodd rhain eu harddangos mewn mannau cyhoeddus i ddathlu’r fuddugoliaeth ac i atgoffa am y rhai a gollodd eu bywydau yn y gwrthdaro.  Fodd bynnag, roedd codi’r Senotaff yn Whitehall, Llundain yn symboleiddio ymgyrch i greu cofeb fwy parhaol ar gyfer y meirwon. Roedd y digwyddiadau ym Mhenarth ym mis Tachwedd 1924, felly, yn rhan o symudiad cyffredinol a ymledodd drwy’r wlad i gofio a choffáu’r meirwon. Yn ardal Caerdydd yn unig y diwrnod hwnnw, roedd dwy gofeb arall yn cael eu dadorchuddio, ym Marics Caerdydd ac yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Byddai wedi bod yn ddiwrnod emosiynol iawn. Derbyniodd dau ddyn o Benarth, Richard Wain a Samuel Pearse, fedal Croes Fictoria. Ganed Wain ym Mhenarth a derbyn ei addysg yn Ysgol Gadeirlan Llandaf ac Ysgol Ramadeg Penarth. Roedd yn gapten dros dro 20 oed yn y Corfflu Tanciau pan fu farw ym 1917 ym Mrwydr Cambrai, un o’r brwydrau cyntaf lle defnyddiodd Byddin Prydain ei arf pwerus newydd. Roedd Samuel Pearse wedi gadael Penarth ac ymfudo i Awstralia yn 14 oed. Bu’n ymladd gyda lluoedd Awstralia yn Galipoli ac yn ddiweddarach yn yr Aifft a Ffrainc. Wedi arwyddo’r Cadoediad priododd yn Durham a bu’n oedi cyn dychwelyd adref am fod ei wraig yn feichiog. Dewisodd ymrestru gyda nifer o Awstraliaid yn lluoedd Byddin Prydain a oedd yn cael eu gyrru i gefnogi Byddinoedd y Gwynion yn Rhyfel Cartref Rwsia, ac fe’i lladdwyd yn yr ymladd, yng ngogledd Rwsia, ym mis Awst 1919.

Pwysleisiwyd maint y colledion gan nifer yr enwau a arysgrifwyd ar Gofeb Penarth, sef tua 307. Roedden nhw’n amlygu bod pob rhan o’r gymdeithas wedi ei chyffwrdd. Archer Windsor-Clive oedd trydydd mab Iarll Plymouth ac roedd wedi chwarae criced dros Forgannwg a Chaergrawnt. Fel swyddog yng  Ngwarchodlu Coldstream, roedd yn un o’r dynion cyntaf i gael ei yrru i Ffrainc a hefyd yn un o’r cyntaf i farw. Dim ond 23 oed ydoedd pan laddwyd ef yn ystod brwydr Mons ym mis Awst 1914, mis cyntaf y rhyfel.

Mae cofeb Penarth yn cynnwys enw gwraig, Emily Ada Pickford. Roedd Emily yn athrawes gerdd leol o Benarth ac yn arweinydd ar Gôr Merched Penarth. Roedd hi’n perthyn trwy briodas i deulu’r Pickford a oedd yn argraffwyr lleol ac a gynhyrchai y Penarth Times.  Ym mis Chwefror 1919 roedd hi yn Ffrainc gyda chriw cyngerdd yn rhoi adloniant i’r lluoedd. Bu farw wrth deithio yn ôl i Abbeville wedi cyngerdd gyda’r hwyr, pan lithrodd ei char oddi ar y ffordd i afon Somme. Erbyn 1924 roedd Cyngor Ardal Tref Penarth yn cael ei gadeirio gan Constance Maillard, y wraig gyntaf i’w hethol i’r Cyngor a chadeirydd benywaidd cyntaf y Cyngor. Fel ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Swffragetiaid Penarth, mae’n bosib iawn y bu Constance yn allweddol wrth sicrhau bod enw Emily wedi ei gynnwys ar y gofeb.

Mae’r rhaglen yn Archifau Morgannwg yn nodi manylion y seremoni ddadorchuddio ym 1924, ond mae cofnodion Cyngor Ardal Tref Penarth yn adrodd hanes y penderfyniad i gomisiynu a chodi’r gofeb. Bu’r cynllunio ar gyfer y gofeb ar waith am gryn amser, gyda sefydlu is-bwyllgor i’r Cyngor ym 1923. O ganlyniad, roedd y Cyngor wedi gwahodd Syr William Goscombe John i gyflwyno dyluniad ar gyfer cofeb addas. Yn wreiddiol o Dreganna yng Nghaerdydd, roedd William Goscombe John yn gerflunydd adnabyddus a oedd wedi cwblhau llawer o gofadeiliau cyhoeddus dros y wlad, gan gynnwys cerflun John Cory o flaen Neuadd y Ddinas. Roedd galw mawr am ei sgiliau i ddylunio Cofebau Rhyfel ac, yn yr un flwyddyn ag y dadorchuddiwyd Cofeb Penarth, fe ddyluniodd hefyd gofebau ar gyfer Llandaf, Caerfyrddin a’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Wrecsam. Roedd yn arwydd o bwysigrwydd y gofeb i ffi o £2,000 gael ei chytuno gan y Cyngor a fyddai, yn ôl prisiau heddiw, dros £80,000. Byddai hyn yn dyblu’r gyllideb wreiddiol a neilltuwyd ar gyfer y gofeb. Y cynllun gwreiddiol oedd gosod y gofeb gyferbyn â Penarth House, ond cytunwyd yn y pen draw y byddai safle ym Mharc Alexandra, gyda’i olygfa dros y môr, yn fwy addas. Yr unig addasiadau i ddyluniad gwreiddiol Syr William oedd i ychwanegu, ar waelod y gofeb, y geiriau ‘Bu farw’r gwŷr hyn dros eu gwlad. Ydych chi’n byw drosti.’

Doedd y seremoni ddadorchuddio ddim yn un hawdd ei threfnu. Fe’i cynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Medi 1924 ond newidiwyd hynny’n ddiweddarach i 11 Tachwedd.  Rhaid cofio y bu seremonïau tebyg yn cael eu cynnal ar draws y wlad ond buan iawn y chwalwyd gobeithion y byddai ffigyrau blaenllaw fel y Llyngesydd Earl Beatty yn bresennol. Yn lle hynny, daeth milwyr o’r Gatrawd Gymreig, a leolwyd ym Marics Caerdydd, yno i fod yn osgordd er anrhydedd. Arweiniwyd y seremoni gan yr Aelod Seneddol lleol, y Capt Arthur Evans, a’r Parch. Hassal Hanmer, oedd ill dau wedi gwasanaethu yn y rhyfel, gyda chefnogaeth gan Gôr Cyn-Filwyr Penarth.

Rhoddwyd y dasg o ddadorchuddio’r gofeb i Mrs F Bartlett, Mrs P Fitzgerald a Mr G Hoult. Wrth sefyll ymhlith yr ASau a’r milwyr rheng roedd un ffactor a oedd yn uno’r tri ynghyd. Roedd pob un wedi colli tri mab yn y rhyfel. Roedd y gofeb wedi’i gwneud o wenithfaen wen gyda ffigwr efydd buddugoliaeth, â llawryf a chleddyf yn ei ddwylo, yn sefyll ymhen blaen cwch. Gellir gweld y rhaglen ar gyfer y seremoni ar 11 Tachwedd 1924 yn Archifau Morgannwg, cyf. DXOV3/11. Fe’i cadwyd gan Constance Maillard a’i throsglwyddo gyda’i phapurau i’r Archifau. Os ydych yn dyfalu beth ddigwyddodd i Constance, mi wnaeth hi oroesi i ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ac mae gwahoddiad i’w phen-blwydd hithau hefyd wedi ei gadw yn yr Archifau (cyf.: DXFX/8).  Gellir cyrchu cofnodion Cyngor Ardal Tref Penarth hefyd yn Archifau Morgannwg, cyf. UDPE/C/1/5, gan gynnwys papurau yr Is-Bwyllgor Coffa, cyf. UDPE/C/1/21. Mae’r Sefydliad Ffilm Prydeinig newydd ryddhau ffilm dawel du a gwyn o’r seremoni.

Fel ôl-nodyn, gwnaed gwaith adfer sylweddol ar Gofeb Ryfel Penarth fel rhan o ddigwyddiadau’r canmlwyddiant. Gellir ei weld yng Ngerddi Alexandra, Penarth.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Dathlu’r Heddwch mewn modd teilwng, 11 Tachwedd 1918

Wrth i ni goffáu Diwrnod y Cadoediad a chan mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae’r cofnodion sy’n cael eu cadw yn Archifau Morgannwg yn taflu goleuni ar y dathliadau yn Ne Cymru ym mis Tachwedd 1918 ac, yn benodol, ar y llawenydd a’r rhyddhad ar ddiwedd rhyfel gwaedlyd a chreulon. Roedd rhaid i benaethiaid ysgolion ar draws Cymru gyfan gadw cofnod cyson o ddigwyddiadau. Gellir cyrchu crynodebau o gofnodion ysgolion rhwng 1914 a 1918 ar wefan Archifau Morgannwg. Maen nhw’n rhoi darlun i ni o’r dathliadau gwyllt a ymledodd ar draws De Cymru ar 11 Tachwedd 1918, ac enghraifft dda o’r rhain yw’r hyn a gofnodwyd gan Mr W S Jones yn Ysgol Fechgyn yr Eglwys Newydd. Roedd William Jones wedi bod yn bennaeth yr ysgol am dros 4 blynedd. Ar 11 Tachwedd, ysgrifennodd y canlynol yn llyfr lòg yr ysgol:

Log book 1

Log book 2

Great excitement prevailed at school this morning. The Church bells chimed and the boys soon came to the conclusion that the Armistice had been signed by the German representatives. As we had been misled by a false report of the signature of the Armistice on Thursday evening – 7th I sent a message to the local postmaster who confirmed the signing of the Armistice as official.

The boys were informed of the good news which brings the actual fighting of the Great European War to a close and great enthusiasm was shown. We did not try to restrain their energies for the last half hour and about 5 minutes to 12 the whole school was assembled in the yard when the Doxology and the National Anthem were sung. Cheer after cheer was given for such glorious news and the boys dispersed.

School reassembled after dinner. The Chief Education Official was telephoned to, but no holiday could be granted. The matter would be referred to the Education Committee which was expected to meet on the morrow (Tuesday). The boys were reassembled on the yard in the afternoon and led by a scout with a small drum marched around the yard waving flags and singing various popular songs. The significance of the act of the signature of the Armistice was explained to the boys [Ysgol Fechgyn yr Eglwys Newydd, llyfr log, ESE64/1/4]

Mae’r llyfr lòg yn tynnu llen dros yr hyn a ddigwyddodd nesaf, ond does dim amheuaeth bod nifer o’r bechgyn, ynghyd â’u teuluoedd, wedi ymuno â’r dorf a lifodd i ganol Caerdydd. Cyhoeddwyd llofnodi’r Cadoediad ar draws y ddinas drwy ganu seiren y ‘Western Mail’ a ddilynwyd yn fuan gan gyrn o ffatrïoedd ledled y ddinas a llongau yn y dociau. Casglodd dorf ‘wedi’i chynhyrfu’n lân’ ym Mharc Cathays, gyda’r papurau newydd yn nodi’r canlynol:

Everybody felt that the hour had come for the abandonment of restraint and for the expression of a long pent up enthusiasm….others arrived with the announcement that the Docks was on stop. Everyone there had downed tools, and there was not a murmur of dissent. All the workshops and yards, schools and business premises let loose their jubilant occupants and after a riot of abandonment they gradually gravitated to the City Hall, where the flags of the Allies proudly fly.

Gorymdeithiodd llawer o weithwyr y dociau yn uniongyrchol i Neuadd y Ddinas ac roedd modd eu gweld yn chwifio i’r dorf o ffenestri’r llawr uchaf. Erbyn canol dydd, adferwyd rhywfaint o drefn, wrth i’r Arglwydd Faer ddarllen neges gan Lloyd George, y Prif Weinidog, o do’r porte-cochère ar ben drws Neuadd y Ddinas, a oedd yn cadarnhau bod y Cadoediad wedi’i lofnodi. Cafwyd ‘clod byddarol’ mewn ymateb i hyn cyn gorymdeithio heibio’r Gatrawd Gymreig a chanu anthemau cenedlaethol y cynghreiriaid, gan gynnwys y Marseillaise a’r Star-Spangled Banner. Gan synhwyro cynnwrf y dorf, aeth yr Arglwydd Faer ati i …alw ar y dinasyddion i ddathlu’r diwrnod â llawenydd a diolchgarwch, ond â hunanreolaeth ac urddas hefyd. Atseiniodd Syr William Seager ei ble – Yn yr awr hon o fuddugoliaeth, gadewch i ni fod yn bwyllog. Nid yw’n syndod, efallai, na lwyddwyd i wneud hyn …bu’r dorf yn bloeddio ‘na, na!’ ac yn chwerthin.

Erbyn dechrau’r prynhawn, roedd canol y ddinas yn llawn torfeydd brwd, gan gynnwys Heol Eglwys Fair a’r Stryd Fawr, lle’r oedd pobl yn heidio o amgylch ffenestri yn yr adeiladau ar hyd y stryd i gael golwg ar y torfeydd ac ymuno yn y dathliadau. Roedd bloeddiau arbennig i’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys nifer o filwyr Americanaidd. Fodd bynnag, nid oeddent yn bloeddio ar y ‘bechgyn ddaeth yn ôl o’r Ffrynt’ yn unig. Gan gydnabod bod y rhyfel wedi arwain at newidiadau sylweddol mewn rolau a chyfrifoldebau’r gymdeithas, soniodd y papurau newydd am y canlynol:

A brewery wagon carried not supplies of Government beer but something incredibly livelier a bevy of land girls in uniform who sang all the popular ditties with great gusto.

Yn ogystal, yn ystod blynyddoedd y rhyfel cafodd gyrwyr gwrywaidd gwasanaeth tramiau’r ddinas eu disodli gan fenywod, a nododd y papurau newydd y canlynol:

The tramway girls got off the cars, they must, they said, join in the processions.

Y diwrnod nesaf, nododd y Western Mail:

South Wales came perilously near the Mafficking type of jubilation. In most places there was an absolute stoppage of work. Shortly after the dinner-hour shops were closed – the staffs would not brook restraint and the employers readily relaxed the rules and regulations [Western Mail, 12 Tachwedd 1918].

Roedd llawer o ysgolion, gan gynnwys Gabalfa, Hawthorne a Maendy, wedi cau drwy gydol mis Hydref, neu ran ohono, ac wythnos gyntaf mis Tachwedd, yn sgil epidemig ffliw a ymledodd ar draws De Cymru. Fodd bynnag, ychydig iawn o effaith gafodd yr epidemig hwn ar Ysgol Fechgyn yr Eglwys Newydd. Dim ond 15-20 achos o’r ffliw a gofnodwyd ar unrhyw adeg allan o gyfanswm o 200 disgybl. Roedd hi’n debygol iawn mai bechgyn yr Eglwys Newydd oedd o blith y criw o fechgyn ifanc a ychwanegodd at y twrw ym Mharc Cathays, gyda’u ‘tom-toms’ dros dro wedi’u gwneud o hen degellau, padellau a haenau o dun. Byddent wedi cymeradwyo cyhoeddiad yr Arglwydd Faer hefyd o saith diwrnod o wyliau i bob ysgol.

Bu blynyddoedd y rhyfel yn gyfnod anodd i ysgolion, gyda phrinder nwyddau sylfaenol a bwyd. Yn ogystal, roedd prinder glo wedi golygu bod ysgolion wedi’i chael hi’n anodd cynhesu’r ystafelloedd dosbarth yn ystod misoedd y gaeaf. Roedd yr ysgol wedi cyflawni ei dyletswydd drwy greu gardd o ryw 20 clwyd yr oedd y bechgyn yn ei thrin ddau ddiwrnod yr wythnos er mwyn tyfu llysiau yn rhan o ymgyrch genedlaethol i gynhyrchu mwy o fwyd. Roedd yr ysgol wedi bod yn flaenllaw o ran ymgyrchoedd i gasglu arian ar gyfer Cymdeithas Arbedion y Rhyfel, a chyda thipyn o lwyddiant. Cawsant ddiwrnod ychwanegol o wyliau am eu hymdrechion.

Yn yr un modd â sawl ysgol, roedd nifer o athrawon ysgol yr Eglwys Newydd wedi ymrestru yn y lluoedd arfog. O’r tri aelod gwrywaidd o staff yr ysgol a ymrestrodd, roedd dau wedi dychwelyd yn ddianaf. Ond bu farw Ivor Drinkwater wrth wasanaethu gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc, yn ystod wythnos olaf mis Tachwedd 1917. Yn yr un modd ag mewn sawl maes cyflogaeth arall, roedd menywod wedi llenwi swyddi gwag y dynion, ac roedd gan yr ysgol oedd wedi’i staffio’n gyfan gwbl gan ddynion ym 1914, dair athrawes erbyn mis Tachwedd 1918. Dychwelodd llawer o athrawon a ymunodd â’r lluoedd arfog i’w swyddi. Fodd bynnag, roedd y rhwystrau yn erbyn menywod yn gweithio mewn ysgolion i fechgyn wedi diflannu ac mae llyfr lòg ysgol yr Eglwys Newydd yn cadarnhau bod yr ysgol wedi cynnwys athrawesau hefyd ers yr adeg honno.

Fodd bynnag, roedd dydd Llun 11 Tachwedd 1918 yn ddiwrnod i’w ddathlu, ac yn y Western Mail y diwrnod canlynol nodwyd:

It was great day of rejoicing and abandon, and most people went to sleep at a late hour, satisfied that they had done the celebration of peace in a right worthy fashion.

Mae’n rhaid bod bechgyn yr Eglwys Newydd wedi’i siomi’n llwyr y bore canlynol i wybod bod y gwyliau’n berthnasol i ysgolion o fewn awdurdod addysg Caerdydd yn unig. Roedd Ysgol Fechgyn yr Eglwys Newydd ar agor ddydd Mawrth 12 Tachwedd ac ar fore Mercher 13 Tachwedd, cyn y cyhoeddwyd y bydd yr ysgol ynghau am weddill yr wythnos.

rsz_log_book_3

Nododd William Jones, y pennaeth, yng nghofnod yr ysgol …cafodd y disgyblion fynd adref ar ôl ymgynull ar yr iard. Yn ddiplomatig efallai, ni wnaeth unrhyw sylwadau ar bresenoldeb.

Tony Peters, Gwirfodolydd Archifau Morgannwg

‘Adloniant Doniol Hud Artistig’: Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn cefnogi Ymdrech y Rhyfel

Un o’r eitemau mwyaf anarferol yng nghofnodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd a gedwir yn Archifau Morgannwg yw poster (28cm gan 43cm) gyda thaflenni maint cerdyn post ategol yn hysbysebu prynhawn o ‘Humorous Entertainment of Artistic Magic including Sleight of Hand, Novel Magical Effects and Oriental Magic’. I’w gynnal yn Neuadd Cory yng Nghaerdydd, ar 6 Ionawr 1919 am 2pm, roedd y sioe i’w chynnal gan Mr Douglas Dexter, ‘The well-known entertainer of London’. Hefyd, roedd eitemau cerddorol i’w darparu gan Barti Mr Shapland Dobbs.

Poster

Er bod y pynciau a drafodwyd gan ddarlithoedd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn amrywiol iawn, roedd hyn, heb amheuaeth, yn dir newydd i Gymdeithas a sefydlwyd i astudio’r gwyddorau naturiol. Rhoddwyd yr eglurhad ar gefn y taflenni.

Ticket

Ticket reverse

This invitation is issued by the members of the Cardiff Naturalists’ Society who desire to give a pleasant afternoon to members of the Forces who happen to be in Cardiff.

Er i’r rhyfel ddod i ben  gyda’r Cadoediad ar 11 Tachwedd 1918, roedd miloedd o ddynion a merched yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn aros i ddod adref. Yn Ionawr 1919 roedd Caerdydd yn ganolbwynt mawr i filwyr a oedd yn dychwelyd i dde Cymru. Roedd hefyd nifer o ysbytai milwrol yn y dref a’r ardaloedd cyfagos. Roedd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn amlwg am chwarae’i rhan wrth helpu i roi adloniant i’r lluoedd arfog. Gallai’r gyngerdd hefyd fod wedi cyfrannu at ‘Bythefnos Diolch’, cyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Faer Caerdydd yn Ionawr 1919 i wobrwyo’r milwyr a chodi arian at elusennau gan gynnwys Cronfa’r Brenin i Filwyr a Morwyr Anabl. Roedd yr adloniant am ddim i ‘Filwyr, morwyr a’r llu awyr (boed o Brydain, y Trefedigaethau a Chynghreiriaid) ar wyliau neu sy’n yr Ysbyty’. Roedd y Gymdeithas yn disgwyl i Neuadd Cory fod dan ei sang ac roedd yn lleoliad llawer mwy na’r rhai a ddefnyddiai ar gyfer y rhan fwyaf o’i darlithoedd cyhoeddus. Er hynny, rhybuddiai’r taflenni:

It is regretted that the accommodation will not permit the admission of others than men in uniform.

Roedd Dexter yn ŵr adnabyddus. Fe’i ganed yn Arthur Marks yn Eastbourne ym 1878 ac yn athro wrth ei waith, gwnaeth Dexter gryn argraff fel consuriwr  ac fel cleddyfwr o’r safon orau, a ddewiswyd i dîm Prydain yng Ngemau Olympaidd 1936. Ar brynhawn 6 Ionawr byddai’r rhai a ddaeth draw wedi gweld sgiliau un o brif aelodau’r Cylch Hudol. Ymhlith repertoire Dexter roedd triciau fel y Trywaniad Triphlyg, y’i cadwodd dan gêl, i’r graddau y gwnaeth siwio consuriwr arall a gyhuddodd o ddwyn ei syniadau. Roedd y cyfeiriad at hud artistig fwy na thebyg yn cyfeirio at dric yr oedd Dexter yn ei ddatblygu bryd hynny a oedd yn cynnwys sgarffiau sidan gwyn yn cael eu gosod mewn powlen wag ac yn dod ohoni’n lliwiau, fel petaen nhw wedi’u trochi mewn dei.

Yn Nhrafodion 1919 adroddwyd:

… an entertainment was held at the Cory Hall under the auspices of the Society, to which all of the wounded sailors and soldiers in the Military Hospitals were invited. Over 700 attended and had a thoroughly enjoyable time [Trafodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, Cyf LII, 1919, Caerdydd, 1922].

Heb amheuaeth cafodd Douglas Dexter gryn gymeradwyaeth gan y milwyr. Aeth ymlaen i berfformio mewn nifer o Berfformiadau Royal Variety ac i’r Brenin Siôr V yng Nghastell Windsor ym 1928. Cafodd y Fedal Aur gan y Cylch Hud ym 1926. Ond i Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, fodd bynnag, aeth pethau’n ôl i’r arfer yn ddiweddarach yn y mis gyda darlith gan Dr A E Trueman ar 23 Ionawr 1919, ‘Astudiaeth Ddaearyddol o Ardal Caerdydd.’

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Dianc o Rwsia: Hanes Percy Blackburn

Un o’r llu o ddeunyddiau amrywiol a gaiff eu cadw yn Archifau Morgannwg yn Archif Ymchwil Hughesovka yw cofnod cyflogaeth ar gyfer John Percy Blackburn, a’r dyddiad 26/8 Ebrill 1918 arno, ar bapur sgwennu cwmni’r New Russia Company Limited:

rsz_20171116_090343_resized

To All Whom This may Concern

We beg to certify that the bearer Mr John Percy Blackburn has served the Company since 1894. From that date till 1903 he acted as assistant to the engineer in charge of the maintenance of our railway and its buildings, and was then promoted to the position of responsible chief of that department. In his capacity he also did survey work and built several branch lines of railroad. Subsequently Mr Blackburn took charge of our entire railway service, a position he has filled with ability.

Mr Blackburn is leaving us on account of the troublesome state of affairs in this country and the advice of the British Consul General, and we lose in him a thoroughly efficient railway manager, reliable in every respect. He leaves us with our best wishes and we can strongly recommend him for a similar position.  [HRA/D431]

Un o sgil effeithiau’r rhyfel oedd ar garlam dros Rwsia oedd y ‘sefyllfa drafferthus’ y cyfeiria’r llythyr ato, rhyfel rhwng y byddinoedd Coch a Gwyn yn dilyn Chwyldro Bolsieficaidd 1917. Fel yn achos llawer o dramorwyr yn Rwsia’r adeg yma, cynghorwyd Percy Blackburn i adael y wlad. Fodd bynnag, tra roedd y rhan fwyaf yn troi eu golygon at gyfeiriad Petrograd a’r ffin â’r Ffindir, fel y llwybr dianc cyflymaf, anelodd Percy am y gogledd i ymuno â’r Lluoedd Prydeinig yn Murmansk. Adroddir ei hanes trwy gofnodion teuluol teulu’r Blackburn sydd wedi eu cadw yn Archif Ymchwil Hughesovka (HRA/D431) a hefyd drwy gofnodion milwrol Percy gaiff eu cadw yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew (WO374/6847).

Ganed John Percy Blackburn (a adwaenid fel Percy) yn Blackburn ym mis Gorffennaf 1878 ond fe’i magwyd yn Hughesovka (Donetsk erbyn hyn) yn Rwsia. Roedd ei dad, Joseph Blackburn, yn fowldiwr ffowndri ac yn un o blith llawer o ddynion, a ddenwyd gan y cyflog ac, heb amheuaeth, yr addewid o antur, i ymuno â chwmni New Russia Company John Hughes.  Roedd Hughes, meistr haearn a pheiriannydd o Dde Cymru, wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Rwsia ym 1869 i adeiladu ffowndri haearn yn rhanbarth Donbass yn ne Rwsia (sef ardal Donetsk yn Wcráin erbyn hyn). Dychwelodd Joseph Blackburn a’r rhan fwyaf o’i deulu i Brydain wedi’r chwyldro yn Rwsia ym 1905 gan sefydlu cartref yn Chorlton on Medlock ger Manceinion. Ond roedd Percy fodd bynnag wedi priodi Mary Steel y flwyddyn flaenorol, ar 2 Ebrill 1904, yn yr Eglwys Saesneg yn Hughesovka. Fel Percy, roedd Mary yn dod o deulu oedd wedi ymsefydlu a gweithio yn Hughesovka am ddegawdau. Fel y rhelyw o’r gweithlu tramor yn Hughesovka, roedd Percy yn ŵr sgilgar ac yn gyflogai gwerthfawr. At ei gilydd, roedd y New Russia Company yn dwyn ei ddynion sgilgar i mewn o’r tu allan, yn aml o Dde Cymru. Roedd Percy fodd bynnag, yn rhan o’r genhedlaeth gyntaf i gael ei fagu yn Hughesovka. Treuliodd ei brentisiaeth fel syrfëwr tir yn Rwsia ac erbyn iddo gyrraedd 22 oed roedd yn syrfëwr yn gweithio ar ddatblygiad a chynnal y system reilffordd a chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o gyflenwi’r New Russia Company â deunyddiau crai ac yn allforio’r haearn a dur a wnaed yn ei ffwrneisi. Mae’n rhaid ei bod wedi bod yn benderfyniad anodd i aros ymlaen ym 1905, ond roedd Mary yn dod o deulu mawr ac roedd y rhan fwyaf o deulu Steel wedi dewis aros. Flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd Mary wrth ei theulu fod Percy yn argyhoeddedig fod Rwsia yn wlad llawn addewid ac y byddai’r New Russia Company yn parhau i chwarae ei ran yn adeiladu economi newydd fodern.

Ganed Bertie, yr hynaf o bum mab a dwy ferch Percy a Mary, yn Hughesovka ym 1905. Flynyddoedd yn ddiweddarach disgrifiwyd y bywyd llewyrchus y bu’r teulu yn ei fwynhau gan William, un o feibion Percy:

The house we lived in was fairly large with extensive grounds. It had separate quarters for coachman, yardman and female help, stables for three horses and loft above to store the horse carriages or sledges whatever the season was. A huge garden with endless rose trees for my mother because she used to make a special jam from the rose leaves. There were two kitchens one attached to the house for winter use and the other across the yard for summer.

Big double gates gave the only entry from the road which, turning left, took us to the works and/or the town. …. And facing our gates just endless open space. I am near certain that the football ground was not far from this area…. 

I and my brothers went to the English School and I remember going with my father to see the foundations for a new school the year we left.

Roedd hyn oll i newid ym 1917, gyda’r rhyfel yn mynd rhagddo’n wael a’r economi ar fin dymchwel, ildiodd y Tsar yr awenau a phasiodd y rheiny i’r Llywodraeth Ryddfrydol o dan arweiniad Alexander Kerensky. Os oedd y rheiny yn Hughesovka o’r farn yr efallai y byddai hyn yn arwain at rywfaint sefydlogrwydd, parodd penderfyniad Kerensky i barhau â’r rhyfel at hyd yn oed fwy o gynnwrf. Erbyn haf 1917, roedd chwyldro yn yr arfaeth, gyda rheolaeth y Llywodraeth ar y brifddinas yn cael ei herio gan Soviet Petrograd a dychweliad Lenin i Rwsia ym mis Ebrill 1917. Gyda chyfraith a threfn yn wynebu’r fath ddistryw penderfynodd llawer o’r teuluoedd Prydeinig yn Hughesovka i adael Rwsia.

Roedd dau fab hynaf Percy yn yr ysgol yn Lloegr, ond mae’n rhaid ei bod wedi bod yn dasg a hanner i Mary, gyda chymorth ei mam Tabitha, i gynllunio a chwblhau’r daith yn ôl i Brydain. Gadawsant Hughesovka ar 19 Medi gyda’r tri mab, Harold oedd yn 8 oed, William oedd yn 7 oed a Joey oedd yn 3 mis oed. Byddai’r daith i Loegr, drwy Riga, fel rheol wedi cymryd tuag wythnos ond, oherwydd y rhyfel, yr unig lwybr oedd ar agor odd drwy St Petersburg, y Ffindir, Sweden a Norwy. Fe gyrhaeddon nhw Aberdeen maes o law ar 2 Tachwedd. Bu’n siwrne o 6 wythnos ac yn ystod cymal cyntaf y daith i Petrograd fe fyddent wedi gorfod gwau eu ffordd drwy rwydwaith drafnidiaeth a ddifrodwyd gan ryfela, yn brin o ran bwyd ac arian ac mewn peryg parhaus o gael eu harestio neu o ddioddef lladrad.

Mae hanes eu taith, fel y’i hadroddwyd gan Mary Steel a’i mab William i wyres Mary, wedi ei gadw yng nghofnodion Archif Ymchwil Hughesovka (HRA/D431). Fel y nododd William, roedd yn edifar gan ei fam-gu, Tabitha Steel, iddynt orfod gadael Hughesovka  ar gymaint o frys:

I always remember her complaining ‘til she died that she should have brought a bag of gold sovereigns that in the haste of departure she left behind. My mother, in later years, told me that she had to use a great many of them to oil the wheels of our departure. I still possess one sovereign and a silver rouble. Father lost almost everything; his faith in the future of Russia caused him to invest heavily but I suppose the revolution caught his too quickly.

Ymsefydlodd y teulu ar Corn Street, Chorlton-on-Medlock, y drws nesa i frawd yng nghyfraith Mary. Roedd Percy, ar y llaw arall, wedi dewis aros ar ôl, fel y cofiodd William yn ddiweddarach:

…in the vain hope of saving something of his future and possessions and in the end had to flee to save his own life. It was two years before we saw him again.

Mae wyres Percy yn parhau â’r stori sy’n seiliedig ar ei ddyddiaduron: Er bod eu teuluoedd yn ddiogel ym Mhrydain, roedd hi’n dod yn amlwg fod bywyd yn Hughesovka yn gynyddol anos i Percy a’r gweithwyr tramor a oedd yn weddill ymhlith cyflogeion y New Russia Company. Yn dilyn y chwyldro Bolsieficaidd ym 1917, roedd yr ysgrifen ar y mur i’r New Russia Company wrth i’r wladwriaeth gymryd awenau’r diwydiant. Tra bod angen o hyd am y sgiliau a feddai’r gweithwyr o Brydain, roedd tuedd i ddrwgdybio tramorwyr hefyd ar gynnydd a hybwyd gan y newyddion am ymyrraeth filwrol Prydain yn y gwaith o geisio dymchwel y llywodraeth Bolsieficaidd.

After handing to the authorities his rifles and other weapons kept for his own safety and hunting he finally, on 8 March 1918, handed in to the police his Smith and Wesson revolver, No 87033, and commenced to prepare for his move from Hughesovka. He had money in various companies, but the Bolshevik Government were now in supreme power in Russia and everything fully controlled by them and careful watch being kept on foreigners, their business and assets.

The result was that when grandad attempted to realise on his assets they just closed in and he was able to draw 10,000 roubles at the time the currency was 10 roubles to the pound.

40,000 roubles was held back for investigation, as they put it, also property, land and personal holdings. Notes in his diary show covering expenses for the journey. He had decided to make his way to Murmansk.

He left Hughesovka 10 April 1918 and made his way to Moscow to see the British Consulate General to make his claim on assets left behind and obtain passport coverage and he stayed there for six days whilst all was clarified.

Mae’r rhestr isod yn dangos y paratoadau a wnaeth Percy ym mis Ebrill 1918 ar gyfer ei daith i Moscow. Mae’n debyg fod y swm mawr a glustnodwyd ar gyfer ‘cildwrn a mân ddyledion’ yn cynnwys cyfran sylweddol i brynu ‘ewyllys da’ gan swyddogion lleol.

Passport stamps – 4 roubles

Passport photo – 22 roubles

1 pair of braces – 18 roubles

1 portmanter (sic) – 18 roubles

1 Handbag – 20 roubles

Photo with friend – 20 roubles

Tobacco for road (quarter pound) – 9 roubles

Shirts and collars – 45 roubles

2 pairs Gloves (size 6) – 9 roubles

Bread – 20 roubles

Eggs – 10 roubles

Tips and small debts paid – 103 roubles

Mae stori Percy yn un anarferol.  Er i fwyafrif llethol y gweithlu tramor yn Hughesovka ddewis dychwelyd adref, roedd hi’n amlwg fod bryd Percy â’i fryd ar ymuno â Lluoedd Arfog Prydain gyda Byddin Ymgyrchol Gogledd Rwsia oedd â’u pencadlys ym mhorthladd gogleddol Murmansk. Efallai y cafodd hyn ei brocio gan benderfyniad i ‘wneud ei ran’ o ystyried bod ei frawd ym Manceinion wedi ymuno â’r Fyddin. Mae’n fwy tebygol fodd bynnag, ei fod yn dal yn credu yn nyfodol Rwsia a’i fod am aros yno gyhyd ag y bo modd i weld sut fyddai pethau’n datblygu.

Sefydlwyd Byddin Ymgyrchol Gogledd Rwsia gan y Cynghreiriaid yn y lle cyntaf er mwyn amddiffyn y porthladdoedd Rwsiaidd a ddefnyddid i gyflenwi byddin Rwsia a oedd yn ymladd ar y Ffrynt Ddwyreiniol. Yn dilyn Cytundeb Brest Litovsk, pan dynnodd y Bolsieficiaid Rwsia yn ôl o’r rhyfel, fe gryfhawyd y Fyddin Ymgyrchol gan luoedd o Brydain a’r Unol Daleithiau, yn bennaf i warchod yr arfau a’r cyflenwadau yn Archangel a Murmansk.  Fodd bynnag, er bod ei bwrpas yn ymddangos yn amddiffynnol, defnyddiwyd y Llu yn gynyddol i gefnogi’r Byddinoedd Gwyn yng Ngogledd Rwsia yn eu hymgyrchoedd yn erbyn y Fyddin Goch.

Gellir gwau hanes Percy at ei gilydd nid yn unig o’r deunydd yn Archif Ymchwil Hughesovka ond hefyd ei gofnod milwrol sydd yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew. Nid yw’n amlwg pa fath o dderbyniad a gafodd Percy gan y Lluoedd Prydeinig ym Murmansk pan gyrhaeddodd ym mis Mai 1918, ac yntau erbyn hynny yn 40 oed a heb unrhyw brofiad milwrol. Mae ei deulu yn credu, yn y lle cyntaf, iddo gael ei gyflogi’n gyfieithydd ac mae hyn yn cyd-fynd â’i reng fel Rhingyll Dros Dro yng Nghatrawd Middlesex.  Erbyn mis Gorffennaf 1918, fodd bynnag, mae’n amlwg fod ei sgiliau yn rheoli rhwydweithiau rheilffyrdd wedi cael eu cydnabod. Mewn llythyr i’r Swyddfa Ryfel, 17 Gorffennaf 1918, mae’r Uwch Gadfridog Maynard, Arweinydd Lluoedd Tiriogaethol y Cynghreiriaid ym Murmansk yn gofyn am ddyrchafu Percy yn swyddog:

I have the honour to inform you that Mr J Blackburn who is an experienced railway engineer having many years experience in Russia is staying out here to supervise the Russian Railway Service.

General Poole has recommended Mr Blackburn to have a Temporary Commission as a Second Lieutenant and I beg to request that covering authority may be given for this appointment with effect from 1 July 1918, which is essential for the fulfilment of his duty. [WO374/6847]

Fodd bynnag, mae’n amlwg fod pryder nad oedd Percy wedi cael unrhyw hyfforddiant milwrol ac fe gymerodd 2 fis i’r Swyddfa Ryfel gytuno, yn anfoddog, i’r trefniant hwn i roi dyrchafiad dros dro i i swydd is-lifftenant gydag Adran Gweithredu Rheilffyrdd, Lluoedd y Cynghreiriaid Murmansk, Rwsia:

It is no doubt irregular but the circumstances are so peculiar that you may be inclined to agree that covering authority might be granted in this case [WO374/6847]

O ystyried bod y rhyfel hwn a oedd yn mynd rhagddo’n gyflym yn dibynnu ar y gallu i gludo lluoedd a chyflenwadau dros bellteroedd mawr, byddai gwybodaeth a sgiliau Percy wedi bod yn amhrisiadwy. Ym mhen misoedd daeth hynny’n yn amlwg i eraill a derbyniodd y Swyddfa Ryfel gais gan y Russo-Asiatic Company, ymmis Rhagfyr 1918, i ryddhau Percy o’r Fyddin i weithio i’r cwmni ar rwydwaith reilffordd Siberia. Yn anffodus yr oedd hi’n amlwg erbyn hynny fod y gwaith a’r amodau wedi dweud ar iechyd Percy. Erbyn mis Hydref 1918 roedd yn ei ôl mewn ysbyty ym Mhrydain, yn ail ysbyty milwrol Manceinion i ddechrau ac wedyn yn Ysbyty John Leigh yn Altringham yn gwella o’r sgyrfi a ‘neurasthenia’ – cyflwr sydd fel rheol yn gysylltiedig â blinder cronig yn dilyn ymlâdd meddyliol a chorfforol. Er bod y teulu Blackburn yn credu iddo ddychwelyd am gyfnod byr i Rwsia, mae ei gofnod milwrol y cynnwys manylion am gyfres o fyrddau meddygol a gynhaliwyd ym Manceinion yn ystod hanner cyntaf 1919 lle cafodd ei asesu fel un nad oedd yn ffit i wasanaethu. Gyda Byddin Ymgyrchol Gogledd Rwsia eisoes yn cael ei ddirwyn i ben, gollyngwyd Percy o’r Fyddin yn ail hanner 1919.

Ar ôl gadael y Fyddin ailymunodd Percy â’i deulu yn Chorlton-on-Medlock. Er gwaetha’i eirdaon trawiadol gan y New Russia Company, fel llawer a ddychwelodd o Hughesovka, roedd dod o hyd i waith yn union wedi’r rhyfel yn anodd wrth i’r economi grebachu. Ar ben hynny, byddai wedi bod yn gynyddol amlwg mae bychan iawn oedd y siawns i gael dychwelyd i Rwsia. Mae ei wyres yn cofio:

Grandad Blackburn was not able to get work in England. Eventually, and sadly, he did work as a checker on the docks. It must have been awfully hard for him to do this type of work after the life he enjoyed in Russia and the work he did over there.

Er i Mary Blackburn fyw tan 1961, bu Percy farw ar 16 Tachwedd 1926 yn 48 oed. Efallai bod geirda gan ei Bennaeth Milwrol yng Ngogledd Rwsia yn cynnig tystiolaeth addas o’r hyn a gyflawnodd:

Mr J P Blackburn joined the North Russia expeditionary Force in Murmansk in May 1918 actuated by a desire to help his country. He was employed in the railways and did not most excellent work for 6 months until invalided home. I saw much of his work and was impressed not only with his technical knowledge but also with the zeal and energy with which he carried out his duties. He is full of initiative and works with considerable tact. He has gained the esteem and respect of the members of the NREF.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Straeon Caru

Hail! genial season of the year

To faithful lovers ever dear

Devoted be this day to praise

My Anna’s charms in rustic lays

Now billing sparrows, cooing doves

Remind each youth of her he loves

My heart and head are both on flame

Whene’er I breath my Anna’s name

Ysgrifennwyd y llinellau hyn gan ŵr o’r enw y Capten Bennett mewn cerdd Sant Ffolant a ysgrifennwyd yn 1818 i Mrs Wyndham, a enwir hefyd yn ‘Anna’.  Gellir gweld y gerdd ymhlith casgliad Castell Ffwl-y-mwn (cyf. DF/V/133) a cheir cyfanswm o 78 o linellau o gwpledau sy’n odli, sef cryn dipyn yn fwy na’r negeseuon Sant Ffolant bachog a geir mewn cardiau modern.  Yn y gerdd mae’r Capten Bennett yn rhoi mynegiant llawn i’w ochr ramantus, gan ddisgrifio delweddau o Cinderella a’i Thywysog, yn clodfori Anna, yn cynnwys ei thraed tylwyth teg, yn ogystal â chodi amheuon ynghylch addasrwydd y dynion eraill sy’n ei chanlyn, yn cynnwys un a enwir ganddo yn Arglwydd Tredegar.  Mae’r bardd hefyd yn disgrifio llunio blaenlythrennau neu ‘cypher’ Anna yn y tywod gyda ffon gerdded, ac er gall y tonnau olchi i ffwrdd enw ei anwylyd, ni all y tonnau ‘blot that cypher from my heart!’

poem_compressed

Felly pwy oedd y Capten Bennett ac Anna, ac a fu diweddglo hapus i’w stori?  Er bod y gerdd yn rhan o gasgliad Castell Ffwl-y-mwn mae hefyd yn cyfeirio at Dwn-rhefn, sef ystâd ger Southerndown a fu’n eiddo i deulu Wyndham.    Mae gwaith ymchwil wedi datgelu fod Anna yn ferch Thomas Ashby o Isleworth, Llundain a Charlotte, merch Robert Jones o Ffwl-y-mwn (sy’n egluro’r cysylltiad â Ffwl-y-mwn).

anna_edited

Gŵr cyntaf Anna oedd Thomas Wyndham o Dwn-rhefn a Llys Clearwell yn Fforest y Ddena (Aelod Seneddol Morgannwg) ond bu farw yntau yn 1814. Fodd bynnag, ailbriododd Anna ym mis Gorffennaf 1818, ychydig fisoedd ar ôl i’r gerdd gael ei chyfansoddi.  Ei gŵr newydd oedd John Wick Bennett o Drelales, a gellir tybio mai hwn yw’r un ‘Capten Bennett’ a anfonodd y gerdd Sant Ffolant.  Ymddengys nad oedd ei ymdrechion barddol yn ofer ac efallai i’r gerdd helpu i ddarbwyllo ei gariad i dderbyn ei gynnig!

Gall fod yn anodd dod o hyd i gyfeiriadau at ‘gariad’ a ‘rhamant’ yn yr archifau, gan nad ydynt yn dermau a geir fel arfer mewn disgrifiadau catalog!  Fodd bynnag, gellir dod o hyd i lawer o straeon rhamantus, p’un ai mewn dyddiaduron neu lythyrau preifat, yn enwedig y rheini a ysgrifennwyd pan roedd y cariadon ar wahân a dyna oedd yr unig ffordd iddynt gadw mewn cysylltiad. Gwahanwyd llawer o gariadon gan ryfeloedd, ac mae gennym sawl stori am gariad yn blodeuo o dan amgylchiadau anodd.

Daeth y Prif Nyrs Isabel Robinson o hyd i gariad pan oedd yn gweithio yn Ysbyty’r Groes Goch yng Nghaerdydd yn 1916.

sister-isabel-robinson_compressed

Tra roedd yn nyrsio yno, cyfarfu â Daniel James Dwyer o fyddin Awstralia, a phriododd y ddau. Roedd ef yn gwella yn yr ysbyty ar ôl cael anaf i’w ben yn y ffosydd yn Ffrainc.

daniel-dwyer_compressed

Ymgartrefodd y ddau yn Awstralia yn ddiweddarach yn St. Kilda, Victoria, ond dychwelodd y ddau i’r ynys hon a bu Isabel farw yn Lloegr yn 1965. Cedwir albwm ffotograffau Isabel yn yr Archifau, ac mae’n cynnwys ffotograffau o staff a chleifion mewn ysbytai milwrol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd (cyf.  D501).

Un o’n casgliadau pwysicaf sy’n ymwneud â’r Ail Ryfel Byd yw’r llythyrau niferus a ysgrifennwyd gan Pat Cox o Gaerdydd i’w darpar ŵr, Jack Leversuch, a oedd yn gwasanaethu tramor yn y lluoedd arfog (cyf. DXGC263/2-32). Anfonodd Pat lythyrau rheolaidd at Jack drwy gydol y rhyfel yn adrodd ei newyddion.  Cadwodd Jack bob un o’r llythyrau a gafodd gan Pat, a daeth â hwy adref gydag ef pan ddaeth ei wasanaeth tramor i ben.

leversuch-letters_compressed

Mae’r llythyrau yn cynnwys manylion personol carwriaeth y ddau yn ogystal â disgrifio sut roedd Caerdydd yn ymdopi â chyrchoedd awyr y gelyn, diffodd y goleuadau oherwydd y ‘black out’, mudo a dogni.

Ceir hefyd cardiau Sant Ffolant ymhlith ein casgliadau.  Roedd llawer o gardiau o’r 19eg ganrif wedi’u gwneud â llaw a’u lliwio’n brydferth, weithiau wedi’u haddurno â lluniau torri cywrain.   Ymddangosodd cardiau a argraffwyd yn fasnachol tua diwedd y ganrif honno, ac mae’r cardiau hyn wedi’u haddurno’n brydferth i’n golwg modern ni.  Dyma ddwy enghraifft o gardiau Sant Ffolant o Oes Fictoria (cyf. DX554D/18/3,9), ill dwy ag ymylau pluog.

 

valentine-1_compressed

valentine-2_compressed

A oes gennych unrhyw hen ddogfennau, ffotograffau neu gardiau Sant Ffolant?  Os felly rhowch wybod i ni oherwydd hoffem eu hychwanegu at ein casgliad.

 

‘Canaf gân am arwyr oes’: Teyrnged i Heddlu Morgannwg gan SH Caleb Morris

Mae gan Archifau Morgannwg nifer fawr o eitemau sy’n adrodd hanes Heddlu Morgannwg ers ei sefydliad yn 1841. Ymhlith yr eitemau anarferol hyn mae cerdd a ysgrifennwyd gan Ringyll yr Heddlu, Caleb Morris (SH 175) yn 1918 a adwaenir yn, ‘Teyrnged i Heddlu Morgannwg’. Ar yr adeg, roedd Morris yn 48 mlwydd oed a dros yr oedran cymwys ar gyfer gwasanaeth milwrol. Yn wreiddiol o Sir Benfro, ymunodd â Heddlu Morgannwg yn 24 oed yn 1894. Roedd yn boblogaidd yn ardal Abernant a chafodd ei wneud yn Rhingyll yn 1915. Ymddangosodd yn aml yn nhudalennau’r wasg leol, gan roi tystiolaeth am achosion troseddol y llysoedd lleol. Fodd bynnag, roedd Morris yn adnabyddus yn y gymuned am ei dalent o ran ysgrifennu. Mae llawer o adroddiadau papur newydd yn y cyfnod pan roedd y gynulleidfa’n cael eu diddanu gan waith ‘barddoniaeth gyfoes’ a ‘barddoniaeth groeso’ Caleb Morris. Roedd hyn yn awen a ddefnyddiodd yn 1918 i gynhyrchu ei waith, ‘Teyrnged i Heddlu Morgannwg’.  Ei nod oedd dathlu dynion yr Heddlu a oedd wedi ymuno â’r lluoedd arfog i ymladd yn y Rhyfel Mawr. Gwnaeth cannoedd o ddynion o’r Heddlu adael eu swyddi i ymuno â’r lluoedd a bu farw 92 ohonynt.

Mae’r gerdd wedi’i hargraffu’n llawn ar ddiwedd yr erthygl hon. Mae’n adrodd hanes digwyddiadau penodol, gan gynnwys yr ymgais diffuant i atal yr Almaenwyr ar ddechrau’r Rhyfel. Fodd bynnag, gan amlaf mae’n trafod llwyddiannau dynion penodol. Er enghraifft, Fred Smith, a oedd yn Archwilydd yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ddechrau’r Rhyfel, a oedd hefyd yn enwog am ei ddawn rygbi gan chwarae ar ran Caerdydd a Phen-y-bont. Roedd gan Fred brofiad milwrol helaeth, gan ymladd yn y Rhyfel Boer fel Prif Ringyll Catrodol yn yr Iwmyn Morgannwg, lle enillodd y DCM. Yn ystod y Rhyfel Mawr fel Is-gyrnol Smith, arweiniodd yr 16eg Bataliwn (Dinas Caerdydd) Catrawd Cymru lle enillodd y DSO. Ar ôl y Rhyfel, aeth yn ôl i’r heddlu gan gael ei benodi’n Prif Uwch-arolygydd yn Nhregŵyr.

Mae’r gerdd hefyd yn adrodd hanes un o enwogion Heddlu Morgannwg, Prif Ringyll Cwmni, Dick Thomas. Ymunodd Dick Thomas â’r heddlu yn 1904 a chafodd ei wneud yn Rhingyll a’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1913. Roedd yn enwog iawn fel chwaraewr rygbi penigamp dros Ben-y-bont, Aberpennar a Chymru. Yn benodol, chwaraeodd ar ran y tîm Cymreig cyntaf i ennill y Grand Slam yn 1908. Mae’n cael ei gofio fel un o arwyr ymosodiad Catrawd Cymru ar safleoedd cadarn yr Almaen ym Mametz Wood ar 7 Gorffennaf 1916.

Un o hanesion trist y gerdd yw hanes James Angus, a oedd yn dod o Aberhonddu’n wreiddiol. Ymunodd Angus â Heddlu Morgannwg yn 1893, a chafodd ei leoli yn Y Barri ac Abercynon. Fel Fred Smith, roedd ganddo brofiad milwrol. Roedd ei dad wedi ymladd gyda Cyffinwyr De Cymru yn y Crimea, ac roedd James Angus wedi ymladd gyda Gwarchodlu’r Grenadier yn Rhyfel y Boer. Yn 1914, ymunodd ag 16eg Bataliwn Dinas Caerdydd Catrawd Cymru. Ar ôl cael dyrchafiad i fod yn Is-gyrnol, roedd yn Gadlywydd Gweithredol 11ed Bataliwn ’Cyffinwyr De Cymru pan fu farw yn sydyn mewn damwain nofio ym mis Medi 1917.

Mae’r gerdd hefyd yn ymdrin â digwyddiadau’n agosach at adref, gan ganmol y dynion fel Morris a oedd yn gorfod aros yng Nghymru ond a oedd yn chwarae ‘eu rhan’ i ennill y Rhyfel. Yn ychwanegol i hyn, mae teyrnged hirfaith i’r Prif Gwnstabl, y Capt Lionel Lindsay, am ei arweinyddiaeth yn ystod blynyddoedd y Rhyfel. Roedd Lindsay wedi ymuno â’r Heddlu fel Uwch-arolygydd ym Merthyr yn 1889. Cymrodd le ei dad, Henry Gore Lindsay, fel Prif Gwnstabl yn 1891 ac roedd yn y swydd tan 1937.

Mae’r gerdd yn gorffen gyda naws eithaf tywyll, yn adrodd hanes miloedd o fenywod a oedd yn ofni’r post pob dydd rhag ofn iddynt gael newyddion am farwolaeth un o’u hanwyliaid. Byddai cludo llythyrau a thelegramau o’r fath yn ddigwyddiad arferol mewn cymunedau lleol yng Nghymru. Byddai Caleb Morris yn sicr wedi poeni am fywyd ei unig fab, David, a oedd yn y Llynges Fasnachol. Roedd David yn swyddog ar longau W J Tatem and Co, Caerdydd.  Cyn belled ag y gwyddom ni, bu fyw trwy’r Rhyfel, ond roedd yn lwcus. Ym mis Mai 1918, roedd gan yr Aberdare Leader fanylion am ei ddychweliad o India ar yr SS Madras. Bu ymosodiadau ar y confoi’r naill ffordd a’r llall gan longau tanfor yr Almaen, ac fe gollwyd chwech o longau. Adroddwyd… … one torpedo missed the bow of Sec Officer Morris’ ship by only a yard or two and struck the next ship which was alongside.… [Aberdare Leader, 18 Mai 1918].

Argraffwyd copïau o deyrnged Caleb Morris yn y Western Mail am bris o 3d y copi. Roeddent yn boblogaidd tu hwnt, ac ym mis Mehefin 1918, adroddwyd bod £67 11s wedi’i godi, gan awgrymu bod dros 5400 o gopïau wedi’u gwerthu. Rhoddwyd yr elw i Gronfa’r Carcharorion Rhyfel Cymreig. Roedd Caleb Morris yn gweithio yn gyda Heddlu Morgannwg am 26 mlynedd, gan ymddeol yn 50 oed ym mis Mawrth 1920.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

 A Tribute to the Glamorgan Constabulary

Respectfully dedicated to Captain Lionel Lindsay, MVO, Chief Constable

I’ll sing a song of heroes true,

Known to you as ‘Men in blue’.

The gallant members of the Force

Are never wanting in resource;

When Britain’s sword flashed in the light

For Belgium’s liberty and right,

The brave Glamorgans honour bound

Exchanged their beats for battle ground.

Four hundred men as true as steel

Knew how to march with toe and heel;

They knew their rifle and their drill,

A dauntless band with iron will.

These men that would not break or yield

Could now command upon the field.

A smarter lot of army men

Was never known to human ken.

They hailed from Porth and Mountain Ash,

That ‘Scrap of Paper’ made them rash.

They left Bridgend and Aberdare,

Took up their guns and did their share;

From Briton Ferry jovial Ben

Rejoined his unit there and then:

And now a captive with the Hun,

May God be with him when alone.

From Port Talbot, Pentre, Barry,

On their journey did not tarry.

Every Hamlet, Town and Village

Were responsive to the Message.

Men from all the Shire’s divisions

Joined the battle of the Nations.

A spirit moved within each breast

That hurried them to do their best.

With solemn vow and eager heart,

Determined all to play their part.

Never yet had they been thwarted

In a venture once ‘twas started.

Ere the middle of September

Many crossed the Straits of Dover;

Forward march through France and Flanders,

Till they met the Goosestep dancers,

‘Got in Himmel Donner Wetter’,

Blood was running there like water.

The BEF with wounded arm

Gave Kaiser William the alarm,

His dreams of Paris and Calais

Evaporated on that day.

 

The soldiers said, and still repeat,

That Angels fought in that retreat.

Like lightening flash or human thought

A modern miracle was wrought;

The British caused a German rout;

Attila’s millions turned about.

The Huns retreated to the Aisne,

A sorry plight for men so vain.

Many a policeman’s blood was shed,

And some were numbered with the dead.

Among the men who crossed the foam

To fight for Country, King and Home,

Was Colonel Smith of football fame,

To-day he plays the sterner game:

Fred was mentioned in despatches,

How he fought the cruel Bosches;

His clever tactics foiled the foe,

His merit won the DSO

May further honour be in store

‘Till Smith commands the Army Corps.

 

Another star looms on the view,

A credit to the Men in Blue;

Brave Colonel Angus made a stand

That brought distinction and command;

A Grenadier to the core,

He won his spurs against the Boer.

As true a man as wore a sword

Or stood before the German Horde,

But sad to me ‘tis to relate

How Angus met his mournful fate;

For when he was with honour crowned

A message came that he was drowned.

For acumen and gallantry

His name will long remembered be.

 

Another hero, strong and tall,

A master with the gloves and ball,

A football player lithe and bold,

An International of old.

He won his cap for strength and dash-

I mean Dick Thomas, Mountain Ash;

As Sergeant Major at the Front

Was in the van, as e’er his wont.

Poor Dick is numbered with the slain,

And buried on a foreign plain;

He met his death with smiling face,

‘Twas worthy of a gallant race.

 

And Corporal Jones of Cynon Town,

Who joined the Guards and won renown;

A man of truly valiant worth,

A giant he, in length and girth;

He won a medal for his pluck,

But lost a limb, what bitter luck.

Poor Jim will never march again

To music of a martial strain.

 

Could I but weave as Poets can,

I’d sing a song to very man.

All deserve their names to glitter

On a shield in gold and silver;

One and all without exception

Are worthy of the British Nation.

Many a gallant deed was done,

The twentieth part will ne’er be sung.

Behind the lines the crosses tell

How brave Glamorgans nobly fell.

Many are to-day for valour

Numbered on the Scroll of Honour;

For ‘Robert’s’ always in the van,

A soldier, constable and man.

 

Three hundred men were left at home,

They could not sail across the foam.

The DSO and DCM

Will ne’er be won by one of them.

They too deserve a word of praise

For arduous work in anxious days,

Willing service to the Country

Yet may win a star or bounty.

Their patience, tact and courtesy

Disclose inherent chivalry.

 

Our gallant Chief, and friend in need,

To all of us a friend indeed;

The martial mien his Giants bear,

A triumph to his special care.

Every man a Drill Instructor-

Aye, and ready for the Sector.

There’s not a Force throughout the Realm

With better Captain at the helm.

His ancient lineage, gentle birth,

Add lustre to intrinsic worth.

A Chieftain he whose loyalty

Was honoured by our Royalty.

The deeds he’s done since war began

Are worthy of the Lindsay Clan.

A valiant Chief of noble heart,

To King and Country plays his part;

And when his men return again

They will not seek his aid in vain.

His name will ever revered be

For honour and fidelity.

 

Another Gentleman we know,

Brave Colonel Williams, DSO.

A man respected in the Shire,

Descendent of a noble sire;

Grandson and a worthy scion

To ‘Alaw Goch’ of Ynyscynon.

He early won his King’s reward

As Captain of the Celtic Guard;

Before this War the Welshmen had

To wear Grenade of Gaelic pla’d,

His love of Wales and his Nation

Brought to pass the Welch Battalion.

(Ye Giant Welshman, service seek,

‘Cymru am Byth’, go! Don the leek;

When a Teuton you encounter

Make him eat the leek for dinner;

Treat him as the bold Glendower

Treated Pistil for his bluster.)

When War is o’er and Peace shall reign

May he come back to Wales again,

For Wales can ill afford to lose

The man that won that Cross at Loos.

 

I’d love to touch a finer chord,

If but the Muse with my accord,

For now I tread on holy ground

Where the bereaved are to be found.

Ye women brave, whose hearts have bled

For husbands, sons and lovers dead;

Yon brave Soldier-sons of Gwalia

Sleepeth in that Grand Valhalla.

My inmost soul with pain is strung,

I can’t express with human tongue,

The pain and sorrow that is wrought:

Though glory won, ‘tis dearly bought.

There’s not a herb, however good,

That ever has or ever could,

Or great physician’s healing art,

Can heal the wounds of broken heart;

There’s only One, the Lord above,

That knows the depth of woman’s love.

All through the watches of the night

They never sleep till morning light.

They watch the postman from afar,

The door is left upon the jar.

The mother peeps behind the blind

And prays that fate at last is kind.

The Postman passes with a will,

The Mother’s heart is standing still.

Sometimes the truth is grim and hard:

Her boy lay buried  in the sward.

O what is sorrow? Who can tell?

‘Tis only them that love too well.

The anguish, pain and poignant grief

Beyond the conception and belief.

God of Mercy, stretch forth Thy palm

And give Thy children healing balm.

 

Caleb Morris, SH 175. Abernant, Aberdar.

Y Parch. Henry Bowen ac Annie Bowen o Gaerdydd

Yng nghasgliad Archifau Morgannwg y mae dogfennau teulu’r Parchedig Henry Bowen, offeiriad plwyf Eglwys Santes Catrin, Treganna, Caerdydd. Mae’r archif eang yn cynnwys hanes oes Henry Bowen a’i wraig Annie. Yn ystod y cyfnod hwn yn yr 20fed ganrif bu dau ryfel byd, y dirwasgiad rhwng y ddau ryfel a’r newidiadau cymdeithasol mawr a ddaeth rhwng Oes Fictoria ym Mhrydain a’r Chwedegau.

Gwasanaethodd Henry Bowen trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf.  Astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen ac roedd yn offeiriad plwyf yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ni all yr erthygl fer hon wneud cyfiawnder â’r casgliad hynod a diddorol hwn, felly bydd yn canolbwyntio ar fywyd Henry Bowen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymrestrodd Henry â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn nhymor yr hydref 1914. Fel y gwnâi llawer iawn o wirfoddolwyr, ymrestrodd ynghyd â nifer o’i gyfeillion o Lantrisant. Prif ffynhonnell yr erthygl hon yw llythyrau serch a anfonai Henry at Annie drwy gydol y rhyfel; mae ymhell dros gant ohonynt. Ysgrifennodd Henry ei lythyrau o 1914 a hyd at fis Gorffennaf 1915 yn ystod ei gyfnod yng Ngwersyll Park House yn Salisbury Plain cyn cael ei anfon i Fyddin Ymgyrchol Prydain.

Mae llythyr Henry ar y 9fed o Awst 1915 yn disgrifio’r adran yn y rheng flaen lle’r oedd ef ond, oherwydd rheoliadau milwrol, ni chai ddatgelu unrhyw fanylion ynghylch ei leoliad, oni bai am y canlynol:

the area has cobbles and the church bells that sound like home.

Ar ddiwedd ei lythyr, eglura y rhoddir ei lythyr mewn amlen filwrol, oherwydd y gofyn am gyfrinachedd, ac y roedd gofyn iddo dyngu ar ei lw nad oedd yn datgelu unrhyw faterion na lleoliadau milwrol.

letter

envelope

Fel y noda mab Henry mewn casgliad arall o nodiadau, mae ei lythyrau cynnar yn brin eu cynnwys, ond yn raddol deuant i gynnwys ffeithiau diddorol: gweld bomio o awyren, cael ei saethu i lawr uwchlaw’r Iseldiroedd ym 1915, Wrth gwrs, ni ddylid ystyried ei ohebu ag Annie fel hanes llygad dyst o’r gwrthdaro yn y ffosydd ond yn hytrach fel llythyron serch.

Ar y 10fed o Fawrth 1916, ymddiheura Henry am beidio ag ysgrifennu ynghynt:

only it is so awkward the trenches we are in… Perhaps you will understand  when I tell you it is impossible to move twenty yards in the daytime.

Ar 24 Ebrill1916, ymddiheura Henry unwaith eto am beidio ag ysgrifennu:

Many a time during the last four weeks… I have been on the point of sitting down to write a decent letter but we have been on the move every day.

Mae nifer o lythyrau o’r cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd ac mae hoffter mawr Henry o Annie yn thema ganolog. Dylid deall yr ysgrifennodd Henry’r llythyrau hyn yn ystod Brwydr y Somme, lle bu’n dyst i gyflyrau ffisegol arswydus y ffosydd, a ddaeth yn gorsydd mwdlyd gyda marwolaethau ac anafiadau echrydus.  Mae merch Henry, Dorothy, wedi ychwanegu casgliad ardderchog o nodiadau ar sail y sgyrsiau a gafodd gyda’i thad wedi’r rhyfel, yn cychwyn gyda’i atgofion byw o’r tanio mawr cyn cychwyn yr ymosod ar y 1af o Orffennaf 1916. Yn ystod y diwrnod hwn y cafwyd nifer mwyaf yr anafiadau yn hanes Byddin Prydain, tua 60,000, yn cynnwys 20,000 a fu farw. Wrth ddarllen y llythyrau a ysgrifennwyd dros y 5 mis, does dim awgrym o’r lladdfa a fu’n ganlyniad i’r brwydro ffyrnig.

Treuliodd Henry ran fwyaf 1917 yn derbyn hyfforddiant i filwyr troed yn yr Alban.  Yn y casgliad y mae nifer o lawlyfrau Hyfforddiant Milwrol, sydd fwyaf perthnasol i gyflwr maes y gad cyn 1914. Fodd bynnag, cafwyd ailargraffiadau er mwyn cynnwys y newidiadau ac adlewyrchu natur sefydlog rhyfela mewn ffosydd. Un nodwedd yr ystyrid fel rhywbeth hollbwysig wrth hyfforddi swyddogion oedd y pwyslais ar ddrilio a disgyblu.

Ym 1918, aeth Henry’n ôl i gymryd dyletswydd weithredol ar faes y gad, ac eto ni allwn ond dyfalu ym mhle yr oedd British Expeditionary Force. Mae naws gyffredinol ei lythyrau’n awgrymu ei fod yn gyfnod o wrth ymosodiad Almaenig mawr a fu ym misoedd cynnar 1918, pan wthiwyd lluoedd Prydain yn ôl rai milltiroedd.

Ar 31 Mawrth 1918, ysgrifennodd:

It’s been a deuce of a time but thank God I’m quite well. All my kit has gone I have only what I stand up in… I could not get any writing matter away as everything has been topsey turvey.

Yn y papurau ar gyfer y cyfnod hwn y mae taflen sy’n dangos natur giaidd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddisgrifio’r weithdrefn i’w dilyn wrth ddefnyddio masg nwy pan ddefnyddid nwy gwenwynig mewn ymosodiad. Fel y sonia ei ferch, nid yr Henry’n crybwyll y llawer ŵr o Lanrisant a anafwyd. Ond yn llymder a thristwch eang 1918, bu un digwyddiad llawen: priododd Henry ag Anne ym mis Awst. Digwyddiad mawr arall yn llythyron Henry o 1918 oedd yr Almaen yn ildio a llofnodi’rr Cadoediad ar yr 11 Tachwedd 1918. Mae ei lythyr ar y dyddiad hwnnw’n disgrifio ei emosiynau a’r rhyddhad y teimlai o oroesi rhyfel mor drychinebus a laddodd 17,000,000.

Cipolwg sydyn ar brofiadau Henry ac Annie yn ystod 1914-1918 a gewch yn y darn byr hwn. Mae’r casgliad yn cynnwys nifer o ddogfennau sy’n berthnasol i fywyd llawn a diddorol Henry ac Annie wedi eu priodas: ei amser yn Rhydychen, cychwyn teulu a dod yn offeiriad plwyf Eglwys Sant Catrin yn Nhreganna. Eitem ddiddorol yw dyddiadur Henry ym 1941, blwyddyn bwysig yn yr Ail Ryfel Byd. Ym 1941 bu cyrchoedd awyr a daeth y blits i Gaerdydd; bu brwydrau mawr yn anialwch gogledd Affrica; ymosododd yr Almaen ar Rwsia, ac ymosododd Japan ar Pearl Harbour a arweiniodd at yr UDA yn ymuno â’r Cynghreiriaid; mae disgrifiadau o hyn oll. Mae cefndir milwrol Henry fel milwr yn amlwg o’r gorfoledd a gaiff o glywed am lwyddiannau Prydain a methiannau’r Almaen, nad yw ei swydd fel offeiriad plwyf ei dawelu. Dylai unrhyw un sydd am gael dysgu am fywydau Henry ac Annie Bowen mewn mwy o fanylder gysylltu ag Archifau Morgannwg, lle bydd staff yn hapus i roi cymorth i aelodau’r cyhoedd i ymchwilio.

John Arnold, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Pwdin a Pharsel: Codi arian Nadolig yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae’r Nadolig yn draddodiadol yn adeg pan fyddwn ni’n meddwl am eraill a phan fydd elusennau yn lansio ymgyrchoedd arbennig i godi arian.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hyn yn bwysicach fyth gyda chymaint o filwyr a morwyr yn gwasanaethu dros y dŵr, ymhell o’u teuluoedd a chysuron y cartref.

Mae llyfrau log ysgolion yn cofnodi ymgyrchoedd codi arian y disgyblion.  Yn Ysgol Gellidawel yn Nhonyrefail ym mis Hydref 1914, cofnododd y Pennaeth iddo yrru archeb bost am £1 at y Dywysoges Mary ar gyfer ei chronfa hi i baratoi anrhegion Nadolig ar gyfer y lluoedd.  Roedd yr athrawon wedi darparu’r gwobrau ac roedd raffl ar gyfer y disgyblion a dalodd geiniog yr un am docyn [ELL26/2].

Ysgrifennodd un Pennaeth yn Ysgol Pen-y-bont ym Mhen-y-bont ar Ogwr [EM10/11] yn ofidus ym mis Hydref 1914, na fyddai ganddo’r ‘wyneb (y flwyddyn honno) i ofyn am gyfraniadau’ i’r Gronfa Wobrau Nadolig yn sgil y rhyfel a’r pwysau mawr ar goffrau pobl. Fodd bynnag, codwyd arian ar gyfer y milwyr a gyrrwyd swm sylweddol o £7 at Gronfa tywysog Cymru.  Fe’i defnyddiwyd i brynu sigarennau, mwffleri gwlân a siocled a’u gyrru at yr Old Boys a oedd wedi eu lleoli yn yr Alban.  Mae’n cofnodi iddo dderbyn cydnabyddiaeth gan yr Uwch Ringyll Miles yn diolch i’r bechgyn am ‘eu Blwch Nadolig Llawen’ [EM10/11].

 

dx486-1_edited

Nid aeth y ffoaduriaid o Wlad Belg yn angof dros y Nadolig.  Cofnododd Pennaeth Ysgol Gymysg Y Dyffryn yng Nglyn-rhedynog, fod arian wedi ei godi i’r ffoaduriaid gan ddisgyblion a fu’n casglu ar Ddydd Nadolig 1916 [ER15/1]. Mae llyfr cofnod Cartref Gofal Rest ym Mhorthcawl hefyd yn cofnodi’r cymorth a roddwyd i ffoaduriaid o Wlad Belg:

…that the matter of providing extra diet etc. for the refugees and staff at xmas be left to matrons and chairman… [DXEL/3/5].

Trefnwyd cyngherddau i godi arian.  Gwnaeth Mr Leon Vint gais am drwydded gan Gyngor y Barri i agor ‘Vint’s Place’, Thompson Street, y Barri ar Ddydd Nadolig ym 1914 a 1915, gyda’r elw’r perfformiadau yn mynd at Ysbyty’r Groes Goch yn y Barri.  Roedd caniatâd hefyd i Neuadd Romilly gael agor ar Ddydd Nadolig i’r un diben [BB/C/1/20,21].  Yn ogystal â chodi arian, roedd agor lleoliadau ar Ddydd Nadolig yn golygu y gellid diddanu’r milwyr.  Rhoes Cyngor Bwrdeistref Caerdydd ganiatâd i agor y Central Cinema ar Yr Aes i gael ei ddefnyddio ar Ddydd Nadolig rhwng 5.30 ac 8pm at ddibenion ‘adloniant am ddim i’r milwyr’ [BC/C/6/54].  Cynigiodd Cyngor Ardal Drefol Aberpennar gynnal Cyngerdd Sul yn yr Abercynon Palace ar 29 Tachwedd 1914:

…the proceeds to be devoted to the making of, and sending a huge Christmas box of cigarettes, tobacco, socks etc to the soldiers at the front [UDMA/C/4/12].

Ym 1916 gofynnodd y Swyddfa Ryfel i’r Daily Telegraph a’r Daily News godi arian er mwyn anfon pwdinau Nadolig at filwyr yn y ffrynt, a chododd cynghorau lleol arian i’w anfon i’r elusen.  Anfonodd Cyngor Trefol Porthcawl dros £7 i’r ‘gronfa bwdin’ ym 1916 [UDPC/C/1/10].

Anfonwyd parseli i godi calonnau’r dynion dramor gan gynghorau plwyf lleol, eglwysi, capeli a sefydliadau eraill.

 

dce-1-5-p1_edited

dce-1-5-p3_edited

Ymhlith cofnodion Treflan Prifysgol Caerdydd mae llythyrau o ddiolch gan filwyr am barseli a dderbyniont dros y Nadolig.  Ar 19eg o Ragfyr 1916, mae’r Gynnwr C Upcott yn ysgrifennu at Edward Lewis:

I beg to thank you and all the members of the University Settlement for their kindness in sending me the parcel and I do not know how much to thank you for your kindness.  It is something terrible out here with the rain and one thing and another but I hope the end won’t be long so as we can all meet once again [DCE/1/64].

 

dce-1-64-p1_edited

Ysgrifennodd y Preifat William Slocombe o Gaerdydd, a dderbyniodd y Fedal Filwrol yn ystod y Rhyfel, o’r ffrynt at ei fam ar 9 Rhagfyr 1916. Mae’n gofyn iddi brynu ‘dyddiadur milwr’ iddo, a oedd yn cynnwys ‘llawer o wybodaeth filwrol ddefnyddiol a geiriadur Ffrangeg bychan yn y blaen’. …  ‘Carwn i chi anfon un ataf i os yw hynny’n bosibl. Nid yw’n costio mwy nag ambell swllt ar y mwyaf.’  Mae hefyd yn meddwl am anrhegion Nadolig i’w deulu adref ac yn anfon archeb bost am 10 swllt:

It is for the kids and yourself… If you can get some chocolates for the girls so much the better.  I should like to give Pa some tobacco too.

Yn deimladwy mae’n ysgrifennu:

…the circumstances are very different to last year aren’t they?  Your affectionate Son… [D895/1/3].

Mae’r cofnodion hyn, a llawer mwy sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ar gael i’w gweld yn Archifau Morgannwg.