Ar 21 Hydref 1865, 150 mlynedd yn ôl, agorodd Siop Adrannau Howell’s yng Nghaerdydd ei drysau am y tro cyntaf.
Bryd hynny, cystadlai siopau Caerdydd am fusnes ym mwrlwm y dref, gyda nifer o siopau’n tyfu’n gyflym oherwydd y galw am nwyddau wedi’u mewnforio. Cafodd siop adrannau James Howell’s ei hehangu’n rheolaidd, ond nid dim ond at ddibenion busnes. Dengys cynlluniau adeiladu i James Howell, a gedwir yn Archifau Morgannwg, na fwriedid rhan uchaf y siop i fod yn llawr siop o gwbl, gan fod ystafelloedd bychain â llefydd tân wedi’u nodi’n glir ar y cynlluniau a gyflwynwyd i Gyngor Bwrdeistref Caerdydd.
Mae cyfrifiad 1911, a gymerwyd ar ddydd Sul 2 Ebrill, yn rhoi rhagor o wybodaeth i ni, gan ddangos bod 140 o ddynion a merched, yn briod ac yn sengl, o bob cwr yn ‘byw uwch y siop’ yn Howell’s gyda’r nos. Trigai gwerthwyr dillad a hetiau, gwneuthurwyr ffrogiau, prentisiaid, staff cadw tŷ a gweision gyda’i gilydd dros y busnes prysur a’r adrannau mawr a oedd yn llawn eitemau moethus i’r cartref a bwyd hyfryd i ddiwallu gwanc poblogaeth gynyddol Caerdydd.
Mae aelod o’r cyhoedd wedi cysylltu â’r Archifau o ran ei hen fodryb a oedd yn gweithio i James Howell, ac a oedd yn y rhestr o staff a oedd yn byw yno ar adeg cyfrifiad 1901. Ganed Annie Raymond ym Mhen-y-graig, Merthyr Tudful, ym 1881.
“Roedd fy hen fodryb, Annie Raymond, yn werthwr hetiau ac yn gweithio yn Howell’s. Fe’i cofnodwyd yng nghyfrifiad 1901. Bu Annie yn brentis yn y Porth ar ddiwedd ei phrentisiaeth, a gofynnodd ei mam, a adnabyddai James Howell, a allai ei merch gael swydd yn ei siop.”
Rhwng 1901 a 1911, gadawodd Annie James Howell’s ac aeth i weithio yn y siop dillad a hetiau, Seccombes. Yng nghyfrifiad 1911, roedd yn byw yn 7 Fitzalan Road, Caerdydd, a gofnodwyd yng Nghyfeiriadur y Western Mail ar y pryd fel ‘preswylfa i Gynorthwywyr’ i G. Arthur Seccombes.
“Yna gadawodd Seccombes i weithio mewn siop adrannau fawr yn Llundain. Dychwelodd i Gaerdydd, a phriododd Francis William Hall, a oedd yn ŵr gweddw, ym 1915 yn Eglwys Sant Ioan, Caerdydd. Roedd ‘Frank’ Hall yn Ffotograffydd ac yn ddiweddarach yn fasnachwr Celf Gain; roedd ganddo siop yn un o Arcedau Caerdydd.”
Cafodd Annie a Francis ddau blentyn. Ar ôl eu geni, dychwelodd Annie i weithio ym Marments, siop adrannau arall yng Nghaerdydd, lle daeth yn brynwr hetiau, gan brynu hetiau o werthwyr hetiau mawr yn Llundain. Cafodd Francis Hall hefyd dri phlentyn gan ei wraig gyntaf, a’r ieuengaf oedd Alfred H Hall. Priododd Alfred â chwaer Annie Raymond, Dora, a oedd hefyd yn gweithio yn Seccombes.
Gweithiodd Jayne Thomas, cynorthwyydd cadwraeth Archifau Morgannwg, am flynyddoedd yn rhoi gosodiadau mewn ffenestri yn James Howell’s. Mae Jayne yn cofio’r ystafelloedd bach â llefydd tân yn atigau’r siop lle roedd y staff yn byw; daethent yn storfeydd yn ddiweddarach.
Heddiw, mae meddwl am fyw uwch siop yn dod â drysau ochr, grisiau cul, biniau budron ac arogleuon bwyd parod i’r meddwl, ond ganrif yn ôl roedd pethau’n wahanol yng Nghaerdydd… Ym 1911, mewn rhai achosion, roedd byw uwch y siop yn gwbl wahanol.