Mae Parc yr Arfau Caerdydd wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau sydd wedi denu cynulleidfa eang a brwd ond ychydig iawn oedd yn debyg i noson 18 Gorffennaf 1958 pan ddarllenodd John Brockway y neges ganlynol o flaen mwy na 34,000 o bobl:
We declare that we will take part in the British Empire and Commonwealth Games of 1958 in the spirit of true sportsmanship, recognising the rules which govern them and desirous of participating in them for the honour of our Commonwealth and Empire and for the Glory of Sport.
Seremoni agoriadol chweched Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad oedd y digwyddiad hwn a John Brockway oedd capten tîm Cymru. Cafodd y seremoni agoriadol ei darlledu ledled y byd a chaiff hanes y noson honno ei hadrodd trwy gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg, gan gynnwys copi o raglen swyddogol y seremoni agoriadol.
Roedd chweched Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad yn ddigwyddiad mawr gyda 36 o dimau a thros 1400 o gystadleuwyr a swyddogion, bron dwywaith y niferoedd a groesawyd gan Vancouver ym 1954. I baratoi ar gyfer y seremoni agoriadol, gwnaed gwaith sylweddol ym Mharc yr Arfau, gan wella Stondin y De am gost o £65,000 i greu lle eistedd ar gyfer hyd at 15,000 o bobl a digon o le yn gyffredinol ar gyfer 60,000 mewn gemau rygbi. I ddarparu ar gyfer athletau, cafodd y trac milgwn o’i amgylch ei droi’n trac rhedeg lludw â chwe lôn. Yn ogystal, roedd rhannau o gae mawr ei fri Parc yr Arfau wedi’u tynnu i ddarparu ar gyfer digwyddiadau maes. Roedd 300 o stiwardiaid gwirfoddol dan arweiniad Mr Wyndham Richards, Cadeirydd Clwb Athletau Caerdydd. Fodd bynnag, y ffactor allweddol yn y nifer llai o bobl y noson honno oedd y penderfyniad y byddai’r mwyafrif o’r dorf o 34,000 yn eistedd. Mae’n ddiddorol nodi bod y farn am ddyfodol y stadiwm 60 mlynedd yn ôl yn debyg iawn i’r ymagwedd a ddefnyddiwyd llawer o flynyddoedd yn ddiweddarach yn nyluniad Stadiwm y Mileniwm (Principality erbyn hyn):
The Cardiff Arms Park Committee has further plans for development and this may eventually produce a total accommodation of 75,000. I doubt whether it would be possible to increase the total beyond this figure. Yet the seating arrangements for the Games may well be adopted in future years for International rugby since more people want to sit at big matches than stand.
Efallai nad oedd y seremoni agoriadol yr un mor drawiadol â’r rhwysg a’r rhodres sy’n gysylltiedig erbyn hyn â digwyddiadau mawr megis Gemau’r Olympaidd, ond roedd dal yn ysblennydd er gwaethaf hynny. Dechreuodd am 5.30am pan gyrhaeddodd y gwestai arbennig, Dug Caeredin, a groesawyd gan y fand a drymiau’r Gwarchodlu Cymreig wedi’u dilyn gan salíwt gan 21 o ynnau o Erddi Sophia. Yna bu’r 36 o dimau’n gorymdeithio o gwmpas y stadiwm gyda Chanada yn gyntaf oherwydd mai hi oedd y wlad ddiweddaraf i gynnal y gemau a Chymru, a oedd yn cynnal y gemau y tro hwn, yn olaf. Roedd tîm Cymru, gyda 114 o athletwyr, yn cynnwys llawer o bobl adnabyddus. Roedd John Brockway yn athletwr profiadol a nodedig a oedd wedi cynrychioli Prydain Fawr fel nofiwr teirgwaith yn y Gemau Olympaidd ac a enillodd fedal arian ac aur dros Gymru yng Ngemau’r Ymerodraeth a gynhaliwyd yn Auckland ac yn Vancouver. Ar y diwrnod hwnnw roedd llawer o athletwyr adnabyddus yn gorymdeithio gydag ef, gan gynnwys John Merriman, Jean Whitehead, Ron Jones a’r bocsiwr Howard Winstone.
Bu aelodau pob tîm yn gorymdeithio yn eu lliwiau cenedlaethol, gyda’r tîm o Awstria’n cael ei ddisgrifio yn y papurau newydd y diwrnod wedyn fel ymdebygu i grocodeil gwyrdd a bod tîm Cymru yn debyg i fflam mewn rhuddgoch a gwyn. Yn ogystal â thimau o Ganada, Seland Newydd, De Affrica a gwledydd Prydain, roedd carfannau llai o leoedd megis Gogledd Borneo, Sierra Leone a Dominica. Rhoddwyd canmoliaeth fwyaf y noson i Thomas Augustine Robinson a fu’n cludo baner y Bahamas fel yr unig gynrychiolydd o’i wlad. Yn wir roedd Tom Robinson yn cael ei ganmol lle bynnag yr oedd yn ymddangos yn ystod yr wythnos ac, yn benodol, pan enillodd y medal aur yn y ras wib 220 llath.
Yna bu’r dorf yn cyfarch cyrhaeddiad yr athletwr a oedd yn cludo neges y Frenhines. Roedd cymal cyntaf ras gyfnewid y baton o Balas Buckingham i Gaerdydd wedi’i gyflawni gan Roger Bannister. Erbyn y diwedd, roedd y baton wedi diwedd dros 600 milltir mewn pedwar diwrnod wedi’i gludo gan 664 o athletwyr a phlant. Roedd manylion yr athletwr o Gymru a fyddai’n rhedeg y cymal olaf wedi cael eu cadw’n gyfrinach llwyr. Felly, cododd bloedd fyddarol o’r dorf pan redodd Ken Jones i mewn i’r stadiwm. Efallai’n fwyaf adnabyddus am fod yn asgellwr rygbi eithriadol dros y Llewod, Cymru a Chasnewydd, roedd Ken Jones hefyd yn athletwr dawnus a oedd wedi ennill medalau yn y ras gyfnewid wib yng Ngemau Olympaidd 1948 ac yng Ngemau Ewrop 1954. I gydnabod ei gampau, ef oedd y cyntaf erioed i gael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Cymru a hynny ym 1955.
Ar ôl rhedeg o amgylch y trac cyfan, cyflwynodd Ken Jones y baton arian i Ddug Caeredin a ddarllenodd neges y Frenhines. Yn dilyn hyn rhyddhawyd colomennod cludo i gyfleu’r neges i bob rhan o Gymru. Yna daeth John Brockway, capten tîm Cymru, i’r blaen i dyngu’r llw ar ran yr holl gystadleuwyr.
Ar yr adeg honno, gadawodd y timau’r stadiwm a chynhaliwyd adloniant gan gôr lleisiau cymysg â 500 o aelodau i gynrychioli Cymru fel ‘Gwlad y Gân’. Daeth eu perfformiad i ben gyda’r ‘Hallelujah Chorus’ gan Handel ac yna arddangosiad gorymdeithio gan y Gwarchodlu Cymreig. Cafodd y seremoni ei chloi trwy ganu anthemau cenedlaethol Cymru a Phrydain.
Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd papur newydd The Telegraph ddisgrifiad diddorol o brofiad Ken Jones yn y seremoni agoriadol. Roedd yn honni bod y rhedwr a oedd yn dod â’r baton i’r stadiwm yn hwyr. Er mwyn cadw at yr amserlen gytunedig, rhoddwyd ail faton i Ken a dywedwyd wrtho i ddechrau rhedeg. Yn y dryswch ac wedi’i ddallu gan yr haul, aeth i’r cyfeiriad anghywir o amgylch trac y stadiwm gan gamsynio mai Arglwydd Raglaw Morgannwg yn ei iwnifform oedd Dug Caeredin, a oedd yng wisgo siwt. Ac yntau wedi digio ychydig gan hyn, dywedodd y Dug, “Ble rydych chi wedi bod? Rydych chi’n hwyr.” Ar ddiwedd y seremoni, aeth Ken a oedd yr un mor ddig i’r dafarn.
Does dim modd gwybod a yw hyn yn wir ai peidio. Os ydyw, yn sicr nid oedd wedi amharu ar frwdfrydedd y rhai ym Mharc yr Arfau a’r rhai a oedd yn gwrando ac yn gwylio ar draws y byd. Drannoeth adroddodd y papurau newydd fod Ken Jones wedi cael eu canmol i’r entrychion a bod y seremoni wedi bod yn llwyddiant aruthrol gyda rhyw 40,000 o bobl yn llenwi’r stadiwm, llawer mwy na’r cyfanswm lle swyddogol. Nid oedd adroddiadau am yr athletwr enwog o Loegr, Gordon Pirie, yn cael ei ddisgyblu a’i wahardd o’r orymdaith am gyrraedd Parc yr Arfau’n hwyr a heb ei wisg tîm yn gallu amharu ar y noson hyd yn oed. Fel y nododd y Daily Mirror, rhaid bod pob dyn a menyw yn y stadiwm yn llawn balchder gan ei bod yn basiant i ymfalchïo ynddo.
Cedwir copi o raglen swyddogol seremoni agoriadol chweched Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 1958 ym Mharc yr Arfau Caerdydd, yn Archifau Morgannwg (cyf.: D832/5).
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg