Y Pafiliwn, Y Bont-faen:  Ffotograffau wedi’u tynnu gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Os ydych chi erioed wedi pendroni ynghylch gwreiddiau’r adeilad ar brif stryd Y Bont-faen gyda chromen addurnedig a chanopi arddull theatr, yna efallai bod yr erthygl hon o ddiddordeb. Wedi ei dynnu bron i gan mlynedd yn ôl, mae’r llun isod yn dangos Sinema’r Pafiliwn yn Y Bont-faen. Mae’n dangos yr adeilad yn ei anterth, ac mae’n rhyfeddol cyn hired y mae ffasâd yr adeilad wedi goroesi yn gyfan; mae’n dal yn hawdd ei adnabod heddiw – er bod ei ddyddiau fel sinema wedi hen gilio.

M525

Cafodd y llun ei dynnu gan y ffotograffydd lleol, Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1925 a 1929.  Wedi’i godi a’i reoli gan berchennog garej lleol, Arthur Mills, roedd gan y Pafiliwn sinema ar y llawr gwaelod a neuadd ddawns ar y llawr cyntaf. Roedd y digwyddiad cyntaf yn yr adeilad newydd bron yn sicr yn bazaar eglwys a gynhaliwyd yn y neuadd ddawns ar 6 Mai 1925. Ni fu’n hir, fodd bynnag, cyn i’r llawr masarn newydd ei osod gael ei roi ar brawf yn iawn gyda dawns ar nos Iau 21 Mai 1925, a fynychwyd gan dros 250 o bobl, i godi arian ar gyfer adfer Eglwys y Plwyf yn y Bont-faen. Disgrifiwyd y “neuadd ddawns odidog” fel un o’r gorau yn ne Cymru. Gyda dawnsio i “seiniau cerddorfa Rumson” tan ddau y bore, cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio fel “llwyddiant digamsyniol”.

Roedd hi rai misoedd yn ddiweddarach, fodd bynnag, cyn bod y sinema ar y llawr gwaelod, gyda’i daflunydd Kalee Rhif 7 newydd ei osod, yn barod i dderbyn cwsmeriaid. Wedi ei amseru i gyd-fynd â phrysurdeb Sioe’r Bont-faen, agorodd Sinema’r Pafiliwn Ddydd Mercher 16 Medi gyda dangosiad o ffilm fud “The Folly of Vanity”.  Gyda’r seren Betty Blythe yn y brif ran, roedd i’r ffilm ddilyniant camera “ffantasi ddramatig syfrdanol” gyda’r arwres yn plymio i’r môr i ymweld â llys tanddwr Neifion.

Yn y blynyddoedd canlynol bu’r neuadd ddawns yn y Pafiliwn yn lleoliad poblogaidd, yn aml yn cynnal y Dawns flynyddol Helfa Morgannwg. Fe’i defnyddiwyd hefyd ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys derbyniad i Lloyd George ym mis Hydref 1930, pan roddwyd Rhyddfraint Bwrdeisdref y Bont-faen i’r cyn Brif Weinidog. Llwyfannodd y sinema hefyd gynyrchiadau cyntaf oll Cymdeithas Ddrama Amatur y Bont-faen a gwefreiddio cynulleidfaoedd gyda ffilmiau poblogaidd, gan gynnwys Ben Hur gyda Ramon Novarro, Douglas Fairbanks yn herfeiddiol yn y brif ran yn “The Thief of Baghdad”, a’r digrifwr Harold Lloyd yn “For Heaven’s Sake”.  Dangoswyd nifer o ffilmiau gwybodaeth gyhoeddus hefyd yn Y Pafiliwn, yn cynnwys “The Path to Poultry Prosperity”. Ni chafodd ffigyrau presenoldeb ar gyfer y digwyddiad hwn eu cofnodi.

Wedi’i ddifrodi gan dân ym mis Ebrill 1942, adferwyd y Pafiliwn ym 1948 a pharhaodd i weithredu fel sinema tan ganol y 1950au.  Er ei fod bellach yn cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd, mae’r gromen a’r ffasâd wedi eu cadw ac yn parhau i fod yn olygfa gyfarwydd ar Eastgate yn y Bont-faen.

Tynnodd Miles luniau, a ddefnyddiwyd yn bennaf fel cardiau post, o lawer o drefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg rhwng 1905 a 1929.  Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o’r casgliad dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.  Mae’r ffotograff o’r Pafiliwn a ddefnyddir yn yr erthygl hon i’w gweld dan y cyfeirnod D1622.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Yn ôl i’r Ysgol!

I lawer o blant mae mis Medi’n cyhoeddi dechrau blwyddyn ysgol newydd ac felly trown ein sylw at Reolau Ysgol Genedlaethol Llanilltud (Llanilltud Fawr), a sefydlwyd ym 1839, y cedwir copi ohoni yn Archifau Morgannwg (cyf. DC/V/9).

School-Rules-for-web

Mae’n ddiddorol darllen rheolau 1831 mewn cyferbyniad â’r rheolau sy’n siapio bywyd ysgol heddiw!

Roedd y diwrnod ysgol wedi’i rannu’n sesiynau boreol a phrynhawnol am 9.10am a 1.40pm.  Cenid cloch yr ysgol ddeng munud cyn i’r ysgol ddechrau ac roedd disgwyl i bawb gyrraedd yn brydlon. Roedd hwyrddyfodiaid yn cael eu cosbi ar raddfa symudol yn dibynnu ar ba mor hwyr yr oeddent.

Cosbwyd triwantiaid drwy eu gorfodi i aros ar ôl yn yr ysgol am ddwy awr am y drosedd gyntaf, eu gwahardd o’r ysgol am fis yr eildro a’u gwahardd o’r ysgol yn gyfan gwbl y trydydd tro.

Cynhaliwyd gwasanaeth bob bore lle byddai’r athrawon yn darllen gweddïau.  Roedd y rhain yn cael eu hadrodd ar ddiwedd y dydd hefyd ac mae’r rheolau hyd yn oed yn dweud bod rhaid i’r plant ddweud ‘Amen’ ar y diwedd.

Roedd disgwyl i blant fynd i’r Eglwys ar y Sul. Nid oedd bod yn anghydffurfiwr yn esgus dros beidio mynd i’r eglwys ac roedd rhaid i blant yr oedd eu teuluoedd yn addoli mewn capeli neu addoldai eraill ddod â thystysgrif gan y gweinidog gyda nhw i brofi eu bod wedi mynychu addoldy arall. Byddai methu â gwneud hyn yn arwain at ‘gosb hallt’.

Roedd yr ysgol yn credu bod angen addysgu’r plant am lendid personol gan bwysleisio bod “gofyn i rieni anfon eu plant i’r ysgol gyda dwylo ac wynebau glân’.

Roedd Ysgol Llanilltud yn agored i bob plentyn dros bedair oed, gan godi ceiniog yr wythnos fesul plentyn.  Byddai methu talu yn rheolaidd ar fore Llun yn golygu na chai’r plentyn ddod i’r ysgol.

Y rheol lymaf mae’n ymddangos oedd ‘ni chaniateir i unrhyw blentyn, ac eithrio’r athrawon, siarad yn ystod oriau ysgol’ a oedd yn dipyn o her i’r plant ac yn gur pen i’r athrawon ei gorfodi.

Er gwaetha’r rheolau llym, mae’r rheol olaf yn pwysleisio y caiff cosb gorfforol ei defnyddio ‘pan fydd pob math arall ar gosbedigaeth wedi methu’.  Ar ôl darllen y Rheolau, efallai y bydd plant heddiw’n teimlo’n hynod ffodus eu bod nhw’n dechrau’r ysgol yn 2022 yn hytrach nag ym 1831.

Mae Archifau Morgannwg yn croesawu grwpiau ysgol i’r Archifau i gael cyfle i archwilio’r dyfodol a darganfod yr hyn sydd gan ddogfennau hanesyddol i ddweud wrthym o lygaid y ffynnon.  Mae gennym hefyd nifer o weithdai digidol am ddim i ysgolion. I gael gwybod mwy ewch i’r tudalen Addysg ar ein gwefan https://glamarchives.gov.uk/ymweld-a-ni/addysg.