Dydd Gŵyl Dewi 1915, Palas Buckingham

Ym mis Mawrth 1915, anfonodd y Gwarchodluwr David ‘Dai’ Luker lythyr at Edward ac Amy Lewis, sef pâr priod a oedd yn gweithio’n ddiflino yn Anheddiad Prifysgol Caerdydd bryd hynny. Wedi’i ysgrifennu ar bapur y YMCA, dechreuodd Luker ei lythyr yntau drwy ddiolch am y llythyr a gafodd ganddynt y bore hwnnw. Drwy ysgrifennu mewn dull llawen a bywiog, dywedodd wrth y Lewisiaid ei fod newydd symud i gatrawd arall. Soniodd am yr hyn a wnaeth ar Ddydd Gŵyl Dewi a bywyd yn y Fyddin yn gyffredinol. Gorffennodd ei lythyr mewn ffordd fwy ffurfiol, ‘yr eiddoch yn gywir Dai Luker’, ac ychwanegodd ôl-nodyn: ‘Cofiwch fi at holl aelodau’r Clwb’. Pam wnaeth Luker ysgrifennu at y Lewisiaid? Mae’r ôl-nodyn yn cynnig cliwiau allweddol. Roedd Luker wedi mynychu Clwb Bechgyn Anheddiad Prifysgol Caerdydd.1

Sefydlwyd y mudiad aneddiadau prifysgolion yn y 1880au i greu cysylltiadau newydd rhwng graddedigion prifysgol cyfoethog â thlodion ardaloedd trefol. Yng Nghaerdydd, roedd awydd i Brifysgol Cymru droi ei sylw at anghenion East Moors, sef ardal a drawsnewidiwyd yn ddiweddar gan drefoli a diwydianeiddio cyflym lle roedd nifer fawr o bobl dlawd yn byw. Daeth llwyddiant cymharol Anheddiad Prifysgol Caerdydd yn sgîl parodrwydd pobl dosbarth canol gyffredin o Gaerdydd i roi o’u hamser i weithio ar ran mentrau cymdeithasol ac addysgol amrywiol yr anheddiad, yn ogystal â chyfraniadau tebyg gan raddedigion Prifysgol Cymru.2

Chwaraeodd Edward ac Amy Lewis ill dau rôl allweddol yn Anheddiad Prifysgol Caerdydd. Edward oedd tiwtor rhifyddeg yr anheddiad ac roedd yn gweithio yn y gwersyll haf hefyd. Amy oedd arweinydd y Clwb Merched a’r Clwb Bechgyn. Roedd Edward yn gyfreithiwr o Gaerdydd yn ei dridegau, a symudodd i Sblot pan briododd ag Amy (Hughes gynt) ym 1913. Mae’n debygol eu bod wedi cyfarfod yn yr anheddiad ac wedi syrthio mewn cariad yno. Dengys yr amlen a anfonwyd gan Luker fod y Lewisiaid, fel pâr priod, wedi dewis byw gyda’u merch fach Amelia yn 2 University Place, sef tafliad carreg o Neuadd yr Anheddiad, ger y ffordd bengaead honno, yn ogystal â byw yn Sblot.

Roedd Luker, sef gŵr dosbarth gweithiol o Sblot, wedi ymrestru yng Ngwarchodlu’r Brenin yn wreiddiol, ond trosglwyddodd i’r Gwarchodlu Cymreig wedi hynny pan y’i sefydlwyd ddiwedd Chwefror 1915. Treuliodd weddill y rhyfel yn y gatrawd honno, gan ennill medal filwrol yn y pendraw. Ar adeg ysgrifennu’r llythyr at y Lewisiaid, nid oedd Luker wedi bod yn ymladd yn y rheng flaen yn Ffrainc eto. Gellid tybio yn sgîl ei ohebiaeth gynharach ei fod yn mwynhau bywyd milwrol, gan frolio wrth y Lewisiaid ei fod wedi ennill ei fathodyn nofio, ei fod yn cadw ei hun yn lân, a’i fod ar fin ceisio ennill ei dystysgrif reiffl.3 Yn ei lythyr at y Lewisiad ym mis Mawrth 1915 dywedodd fod y fyddin yn gofalu amdanynt, bod digon o fwyd ar gael ond nid oedd yn gwybod am ba hyd y byddai’r sefyllfa honno’n para. Dywedodd wrth y Lewisiaid hefyd ei fod newydd ddychwelyd o ymweliad â Hastings gyda dau o gyn-aelodau eraill Clwb Bechgyn Anheddiad Prifysgol Caerdydd.

DCE-1-20 p1

DCE-1-20 p2

Fodd bynnag, daw cyffro gwirioneddol ei lythyr ym mis Mawrth 1915 yn ei ddisgrifiad uniongyrchol o Ddydd Gŵyl Dewi. Wedi’i ysgrifennu bron canrif yn union yn ôl, rhoddodd ddisgrifiad i’r Lewisiaid o’i brofiad o orymdeithio gyda’i gatrawd newydd. Ar ôl y cyfarchion arferol, dywedodd Luker mai ef oedd un o aelodau cyntaf Gwarchodlu’r Brenin i fynd i Balas Buckingham ar Ddydd Gŵyl Dewi ar ran y gatrawd newydd. Drwy gyfeirio at y 1af o Fawrth fel Dydd Gŵyl Dewi, roedd Luker yn cydnabod ei gydberthynas â’i ddarllenwyr. Ymddengys y bu Anheddiad Prifysgol Caerdydd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl a oedd yn ymgorffori Cymru o fewn gweledigaeth pedair gwlad Prydain yn hytrach na Gŵyl a oedd dim ond yn ymwneud â Chymru.4 Roedd canu caneuon Cymraeg a Saesneg yn rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi, yn ogystal â Morys-Ddawnsio. Rhoddodd Ronald Burrows, warden yr Anheddiad Albanaidd ac Athro Groeg Coleg Caerdydd, araith a oedd yn ceisio cynnwys Cymry, Saeson, Albanwyr a Gwyddelod gyda’i gilydd fel cydwladwyr.5

Mae’n amlwg bod dathlu Dydd Gŵyl Dewi wedi helpu Luker i deimlo’n gartrefol yn Llundain. Nododd:

Roedd miloedd o bobl yno, gyda’r rhan fwyaf ohonynt y gwisgo cennin ac yn tynnu ffotograffau ohonom o hyd. Roedd Lloyd George yno, ac roedd y Brenin yn gwylio drwy’r ffenest wrth i ni fynd ar gefn ein ceffylau. Anfonwyd cinio a the blasus i ni…roedd pawb a oedd yn gwarchod ar Ddydd Gŵyl Dewi yn perthyn i Gwmni Tywysog Cymru.

Nid oedd yn beth anarferol i Luker ysgrifennu heb ddefnyddio atalnodau llawn, ond yn ei lawysgrifen daclus, esboniodd pwysigrwydd ei brofiad ar Ddydd Gŵyl Dewi o ran newid byd o fywyd yn Nhŷ’r Anheddiad i fywyd yn y fyddin. Roedd yntau’n falch y bu’r Brenin yn gwylio’r orymdaith ac y bu Lloyd George yn bresennol i ddathlu sefydlu’r Gwarchodlu Cymreig. Mae’n amlwg bod y dorf yn rhannu’r balchder hwnnw, gan eu bod yn gwisgo cenhinen, sef symbol sy’n cael ei gysylltu â Dewi Sant. Fel arall, mae’n bosibl roedd y dorf yn dangos eu cefnogaeth i Gwmni newydd Tywysog Cymru. Yn anffodus, nid yw llythyr Luker yn sôn am p’un ai oedd ei ginio neu ei de yn cynnwys bwyta cenhinen amrwd. Fodd bynnag, wrth sôn am gennin yn ei lythyr, dangosodd sut yr oedd Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu y tu hwnt i Gymru ym 1915, hyd yn oed y tu ôl i reiliau a chlwydi euraidd Palas Buckingham.6

Mae Lucinda Matthews-Jones yn ddarlithydd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Mae hi wrthi’n ysgrifennu llyfr am y mudiad aneddiadau prifysgolion ym Mhrydain ar hyn o bryd. Yn ystod yr haf darganfu’r llythyrau a anfonwyd gan grŵp o filwyr o Sblot at Edward ac Amy Lewis, ac mae’r cofnod hwn yn seiliedig ar ei hymchwil.

*************************************************************************

1. Am ragarweiniad cryno i’r llythyrau hyn, gweler Philip Gale, , ‘The University Settlement, Cardiff’, Annual Report of the Glamorgan Archivist (1987), t.17-19

2. Am wybodaeth am hanes Anheddiad Prifysgol Caerdydd, gweler B. M. Bull, The University Settlement in Cardiff, (Caerdydd; Coleg Celf Caerdydd, 1965). Mae blynyddoedd cynnar yr anheddiad hefyd yn cael eu trafod yng nghyfrol George Glasgow Ronald Burrows: A Memoir (Llundain; Nisbet & Co. Ltd, 1924)

3. David Luker at Mr a Mrs Lewis, 26 Ionawr 2915, AM, DCE1/18

4. Am drafodaeth ar ddathliadau Dydd Gwyl Dewi yn Oes Victoria, gweler Mike Benbough-Jackson, ‘Victorians Meet St. David’, Journal of Victorian Culture Online, http://blogs.tandf.co.uk/jvc/2013/02/22/st-david-meets-the-victorians/ [cyrchwyd 23/02/2015]

5. Gweler, er enghraifft, ‘Speech by Professor Burrows’, (Mai; 1906), Cap and Gown, t.111-112

6. Am drafodaeth ehangach o arwyddocad cennin ar Ddydd Gwyl Dewi gweler Mike Benbough-Jackson, ‘Celebrating a Saint on His Home Ground: St. David’s Day in St. David’s diocese during the nineteenth century’, yng nghyfrol Bill Gibson a John Morgan-Guy (golygyddion), Religion and Society in the Diocese of St. David’s 1485-2011 (Ashgate; 2015), t. 157-178

Cipolwg ar fywyd yn Llanisien yn ystod y Rhyfel Mawr

Wrth eistedd mewn gwasanaeth diweddar yn Eglwys Isan Sant yn Llanisien, cafwyd cyfle i feddwl am ddynion Llanisien fu’n eistedd yn yr un seddau 100 mlynedd yn ôl. Nid oedd ganddynt unrhyw syniad o beth fyddai’n digwydd dros y blynyddoedd nesaf, gyda chynifer ohonynt yn ymladd yn y rhyfel, a rhai yn gwneud yr aberth eithaf dros eu gwlad.

Mae Cylchgronau’r Plwyf a gedwir yn Archifau Morgannwg yn rhoi dealltwriaeth o deuluoedd y fro, a’u hagweddau tuag at y rhyfel. Noda’r rhifyn cyntaf yn y casgliad, sef Mehefin 1915:

‘No official news of Norman Ayliffe has been received; we deeply sympathise with Mr and Mrs Ayliffe’.

Gwyddom y cafodd ei ladd ar 9 Mai yn ail frwydr Ypres. Roedd yn 21 oed.

Codwyd arian ar gyfer Cronfa Milwyr Gwlad Belg, Ceginau Maes a Chludwyr Dŵr. Casglwyd £177 14s 3d yn Llanisien, sef digon i dalu am dri chludwr dŵr.

Roedd rhifyn Gorffennaf yn rhestru 85 o ddynion yn y lluoedd arfog, er mai dim ond 16 ohonynt oedd yn gwasanaethu dramor, ac roedd y Preifat W.J.Harp eisoes yn garcharor rhyfel. Yn sgîl rhagor o ymchwil ar-lein, gwyddys y bu yntau’n arddwr a oedd yn byw yn Wyndham Terrace gyda’i wraig a phedwar o blant. Ymunodd â’r Gatrawd Wyddelig Frenhinol, ac fe’i daliwyd gan y gelyn ym Mrwydr La Bassée ar 20 Hydref 1914. Fe’i carcharwyd yng ngwersyll Carcharorion Rhyfel Hameln nes iddo gael ei anfon adref ym mis Hydref 1918.

Anogwyd y rheini a oedd wedi aros gartref i ymateb i’r apêl gan y Comisiynwyr Yswiriant i wneud y canlynol:

Eat less meat

Cafwyd apeliadau mynych am gyfraniadau i’r Gronfa Casglu Wyau Genedlaethol, a oedd yn cyflenwi wyau i filwyr a morwyr clwyfedig. Anfonwyd yr wyau yn y lle cyntaf i’r prif depot casglu yn Harrods, Llundain. Yn ogystal ag wyau, gofynnwyd am gyfraniadau ariannol o gyn lleied â cheiniog yr wythnos, ac erbyn dechrau 1916 roedd chwe dwsin o wyau yn cael eu hanfon i’r Ysbyty Cymreig yn Netley. Cafwyd llythyr diolch gan y Swyddfa Ryfel:

‘for the very excellent eggs that have been received in Bolougne… they have been the greatest possible boon to the sick and wounded.’

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno cynhaliwyd ‘gwasanaeth wyau’ gan wahodd y plant i ddod ag wyau gyda nhw i’r gwasanaeth; casglwyd 234 o wyau, a chasglwyd 304 o wyau mewn gwasanaeth tebyg ym 1917. Maes o law, cafodd un o’r rhai fu’n anfon wyau at yr apêl y llythyr canlynol:

Egg letter part 1

Egg letter part 2

Aeth Cymdeithas Lesiant y Merched i’w Gŵyl Flynyddol, a gynhaliwyd yn Sain Ffagan ym 1916:

our party journeyed thither by motor bus…. The Preacher appealed earnestly to us women and girls to guard well the shield of our faith that we might be a help to others in this time of trial. Tea was most kindly given to the whole party in the Castle grounds by Lady Plymouth….The gardens and grounds were most beautiful and, after strolling about them, sports were indulged in until it was time for us to start our return journey at 8’o clock and it was a very contented party that returned home.’

Cipolwg ar fywyd yn Llanisien yn ystod y Rhyfel Mawr.

Ann Konsbruck, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ambiwlans yr Arglwydd Faer

Ar noson yr 17eg Mai 1915 daeth plant ysgol Ganolog Dowlais, Ysgol Gellifaelog ac Ysgol Pant ynghyd yn Neuadd Oddfellows, Dowlais ar gyfer yr hyn a ddisgrifiwyd fel Cyngerdd yr Ysgolion Unedig. Cynhaliwyd rhaglen o 16 o sgetsys a chaneuon gan gynnwys ‘The Soldiers’ Chorus’ a berfformiwyd gan Ysgol Fechgyn Dowlais, ‘The Saucy Sailor Boy’ gan Ysgol Fabanod Gellifaelog, cân actol o’r enw ‘Knit Knit’ gan Ysgol Pant a ‘Gypsy Chorus’ gan Ysgol Ferched Dowlais. Daeth y noson i ben drwy ganu God Save the King. Roedd y cyngerdd yn llwyddiant ysgubol, a chafodd ei ailberfformio ar y ddwy noson ganlynol. Cofnododd Pennaeth Ysgol Fabanod Dowlais y canlynol yn llyfr cofnodion yr ysgol ar 20 Mai: ‘the concerts were very well attended and the four items from this school were very well done’.

Roedd y Cyngerdd yn Nowlais ond yn un o nifer o Gyngherddau’r Ysgolion Unedig a drefnwyd ledled bwrdeistref Merthyr Tudful ym mis Mai 1915. Yn ogystal, cynhaliodd athrawon a disgyblion amryw o ddigwyddiadau eraill i godi arian, gan gynnwys ‘soiree’ – sef gyrfa chwist a dawns – a gynhaliwyd gan Ysgolion Abercanaid a Phentrebach yn y New Hall, Pentrebach ar 15 Mai. Y nod oedd codi arian i brynu ambiwlans i’w ddefnyddio ar faes y gad yn Ffrainc. Pan aeth Prydain i ryfel ym mis Awst 1914, darparwyd y gwasanaethau ambiwlans gan gerbydau a dynnwyd gan geffylau, ac ambell lori. Sylweddolwyd yn fuan iawn y byddai angen nifer fawr o ambiwlansys modurol arbenigol. Bu’r Groes Goch yn arwain y gwaith codi arian, gan gynnwys apêl papur newydd The Times a lansiwyd ym mis Hydref 1914, i godi arian i brynu fflyd o ambiwlansys a chyfarpar ar eu cyfer i’w defnyddio yn Ffrainc a Gwlad Belg.

Ymatebodd Arglwydd Faer Merthyr Tudful, y Cynghorydd John Davies, i’r her, a gofynnodd am help gan ysgolion i godi digon o arian er mwyn galluogi Merthyr Tudful i brynu ambiwlans a’r cyfarpar angenrheidiol. Cafwyd cyfraniadau gan lawer o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys cytundeb gyda Neuadd Oddfellows y byddai 30% o’r elw o’r perfformiadau a gynhaliwyd ar y tridiau ar ôl y Cyngherddau Ysgolion hefyd yn cael ei gyfrannu i Gronfa Ambiwlans yr Arglwydd Faer. Fel gyda llawer o weithgareddau codi arian yn ystod y rhyfel, gan gynnwys darparu nwyddau i’r milwr a helpu ffoaduriaid o Wlad Belg, chwaraeodd ysgolion rôl flaenllaw yn y gwaith codi arian.

Roedd Apêl yr Arglwydd Faer yn llwyddiant ysgubol. Anfonwyd yr arian a godwyd i’r Groes Goch. Ysgrifennodd Charles Russell, ar ran Cymdeithas y Groes Goch ac Urdd Sant Ioan o Gaersalem at yr Arglwydd Faer ym mis Medi i ddiolch i athrawon a phlant yr ysgol am eu ‘hymdrechion bendigedig’. Cytunwyd y cai’r Ambiwlans ei hanfon i Ferthyr Tudful ym mis Hydref 1915 ar ôl ei pharatoi a gosod y cyfarpar yn barod i’w defnyddio yn Ffrainc. I gydnabod eu cyfraniadau brwdfrydig, rhoddodd yr Arglwydd Faer ddiwrnod o wyliau arbennig i holl ysgolion y fwrdeistref ar 18 Mehefin.

Gellir gweld copi o’r hysbyseb wreiddiol ar gyfer Cyngerdd yr Ysgolion Unedig a gynhaliwyd yn Neuadd Oddfellows’ ym mis Mai 1915 yn Archifau Morgannwg.

Os hoffech ragor o wybodaeth am sut y bu ysgolion yn cefnogi’r ymdrech ryfel yn eich ardal chi a ledled Morgannwg, gallwch weld crynodebau ar gyfer pob ardal awdurdod lleol (e.e. Merthyr Tudful) a thrawsysgrifau o ddyfyniadau o’r llyfrau cofnodion a gwblhawyd gan Benaethiaid ysgolion unigol ym 1914-18 ar wefan Archifau Morgannwg http://www.archifaumorgannwg.gov.uk

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Bechgyn Ysgol Llanbedr-y-fro yn cyfrannu at yr ymdrech ryfel

Er nad oedd trefniadau dogni ffurfiol wedi’u cyflwyno tan 1918, roedd diffyg bwyd yn rhan o fywyd bob dydd mewn sawl rhan o Ynys Prydain erbyn 1916. Oherwydd y môr-warchae gan lynges yr Almaen a’r galw cynyddol am ddynion a cheffylau yn Ffrainc, gwelwyd lleihad o ran cynhyrchiant amaethyddol a llai o fewnforio ŷd o Ganada a’r Unol Daleithiau. Sefydlwyd Byddin Tir y Merched ym 1915 mewn ymateb uniongyrchol i’r angen am ragor o weithwyr amaethyddol. Yn ogystal, anogwyd tyddynwyr i ddefnyddio gerddi bythynnod a rhandiroedd i dyfu bwyd.

Roedd bechgyn Ysgol Wirfoddol Llanbedr-y-fro yn benderfynol o gyfrannu at yr ymdrech ryfel, ac ar 5 Mai 1916 nododd y Pennaeth, Robert Bailey, y canlynol yng nghofnodlyfr yr ysgol: ‘I am also proud to record the fact that the schoolboys have volunteered to dig and plant the gardens of those wives whose husbands are serving their King and Country and also those widows whose sons have enlisted. Seed potatoes have been provided for the above mentioned wives and widows by Mr James James, Sheep Court Farm’ (ESE 47/2 p195).

Ar 16 Mai 1916 rhoddodd The Glamorgan Gazette glod i ymdrechion y bechgyn yn helpu teuluoedd y dynion a oedd yn ymladd yn y rhyfel. Roedd yr erthygl hefyd yn nodi bod yr ysgol yn adnabyddus am y sylw a roddodd i arddio.   Mor bell yn ôl ag 11 Medi 1902 nododd Robert Bailey y canlynol yng nghofnodlyfr yr ysgol: ‘Messrs Linton, gardener to John Cory Esq., Duffryn and J Banting, gardener to Lady Price, Hensol Castle, kindly judged the plots before the school closed for the midsummer vacation. In their reports the quality of the vegetables and general tidiness of the gardens received special praise. The donor of the prizes has expressed a hope that a few flowers may be added another year’ (ESE 47/2 p5).

Y rhoddwr y cyfeiriwyd ato oedd Reginald Cory, sef mab John Cory o Erddi Dyffryn, a roddodd un gini y flwyddyn am y gwobrau a ddyfarnwyd am y rhandiroedd gorau yn yr ysgol. Erbyn 1902 roedd Reginald Cory eisoes wedi dechrau ennill ei blwyf yn y byd garddwriaethol. Mae’n debyg bod y cyfeiriadau yng nghofnodlyfr yr ysgol at anfon enghreifftiau o’r llysiau a dyfwyd yn yr ysgol i’r Arddangosfeydd Astudiaethau Naturiol yn Llundain, a drefnwyd gan y Gymdeithas Fotanegol Frenhinol ym 1902 a 1904, yn sgîl ymwneud Reginald Cory â’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (ESE 47/2 t. 3, 52).

Roedd y clod a gafodd eu gwaith yn bluen yng nghap ysgol fach â llai na 90 o ddisgyblion. Ym mis Mai 1905 roedd y Prif Arolygydd wedi: ‘…taken a copy of Mr Bailey’s report on Cottage Gardening and one of the school’s notebooks for submission to the Education Committee when they consider the CEO’s report on the teaching of horticulture in the County of Glamorgan’ (ESE 47/2 p72).

Ar adeg pan roedd diffyg bwyd yn beth cyffredin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Robert Bailey a’i ddisgyblion yn benderfynol o wneud cymaint â phosibl i helpu teuluoedd lleol. Erbyn mis Ebrill 1916 roedd y disgyblion yn brysur yn ehangu’r tir a oedd yn cael ei drin yn yr ysgol. Nodwyd y canlynol yng nghofnodlyfr yr ysgol: ‘On Monday April 10th my gardening pupils commenced work on a neglected cottage garden called Green Vach and a derelict plot of ground adjoining. The latter was in a very bad state being overgrown with couch grass and horse radish, while the former contained a host of weeds chiefly dock and nettle. The work of reclaiming meant much perseverance and energy on the part of the lads but I am proud to be able to state that by trenching, hand weeding and hoeing the two plots are now getting well under our hands’ (ESE47/2 p194).

Roedd ymdrechion yr ysgol wedi cael sylw a chefnogaeth gan nifer o ffermwyr lleol hefyd. Erbyn diwedd Mai, nododd Robert Bailey y canlynol: ‘Potatoes of several kinds have been planted in the field section, while the sad looking garden of some 6 weeks ago now contains nice rows of carrots, parsnips, onions (spring and autumn) cabbages (green and red), radish, turnips, lettuce and various varieties of winter greens such as broccoli, savoys, brussels sprouts, kale and kohlrabi’ (ESE 47/2 p 195).

Dim ond un elfen o’r cyfraniad a wnaed gan y disgyblion yn Llanbedr-y-fro oedd yr addewid i balu a phlannu gerddi lleol. Erbyn mis Medi roedd yr ysgol yn: ‘was sending vegetables from the school garden … to the 3rd Western General Hospital for Wounded soldiers at Howard Gardens, Cardiff’ (ESE 47/2 p197).

Mae’n debyg fod hyn wedi parhau yn ystod dwy flynedd olaf y ryfel, er y byddai oedi wedi bod ym mis Ebrill 1917 pan ddigwyddodd y canlynol yn sgîl diffyg gweithwyr: ‘the bigger and older boys have been temporarily exempted [from attendance at school] for work on farms and in gardens…’ (ESE 47/2 p 198).

Fodd bynnag, cadarnhaodd yr ymweliadau â’r ysgol gan Arolygwyr Ei Mawrhydi a Phrif Swyddog Addysg Cyngor Sir Morgannwg, Dr John James, fod Llanbedr-y-fro yn dal i gael ei hystyried yn enghraifft ragorol o arfer da ar gyfer ysgolion eraill.

Mae’n syndod, oherwydd yr esiampl a osodwyd gan Fyddin Tir y Merched, nad oedd merched yn cael ymuno â’r bechgyn yn y gwaith o dyfu llysiau ar gyfer ysbytai milwrol lleol. Er hynny, gwnaeth yr ysgol dderbyn yr argymhelliad a wnaed gan yr Arolygwyr y dylid annog y merched i dyfu blodau. Yn ogystal, gwnaeth y merched gymryd rhan mewn cystadlaethau ar gyfer cynnyrch o’u gerddi eu hunain, ac ennill y cystadlaethau hynny. Fodd bynnag, heblaw am hynny, yn ystod y rhyfel, tybiwyd mai gwaith bechgyn oedd garddio ac mai gwaith merched oedd gwnïo.

Cafwyd y deunydd uchod o gofnodlyfrau Ysgol Wirfoddol Llanbedr-y-fro ar gyfer 1902 i 1934 a gedwir yn Archifau Morgannwg (ESE 47/2). Un enghraifft yn unig yw hyn o sut y bu ysgolion a disgyblion yn cefnogi’r ymdrech ryfel. Mae disgrifiadau tebyg i’w gweld yng nghofnodion ysgolion ledled Morgannwg ar gyfer 1914-18. Os ydych yn awyddus i ddysgu mwy am effaith y rhyfel ar ysgolion yn eich ardal a ledled Morgannwg mae crynodebau ar gyfer pob awdurdod lleol (e.e. Merthyr Tudful) a thrawsgrifiadau o ddyfyniadau o’r cofnodlyfrau a gwblhawyd gan benaethiaid ysgolion unigol ar gael ar wefan Archifau Morgannwg.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg