Pan sefydlwyd Heddlu Bro Morgannwg ym 1841, bu galw mawr ledled y sir am orsafoedd addas ar gyfer y plismyn newydd. Yn ei adroddiad cyntaf ar gyfer Sesiynau Chwarter Cyffredinol dros Heddwch y Sir, pwysleisiodd y Prif Gwnstabl Capten Charles Frederick Napier ar 30 Awst 1841, fod angen un ai disodli’r cyfleusterau presennol yn gyfan gwbl neu eu hailwampio. Mewn trefi megis Merthyr, roedd carcharorion dan oruchwyliaeth cwnstabliaid yn y ddalfa mewn tafarndai lleol, oherwydd barn Napier bod y celloedd, pan fônt ar gael, yn:
…totally unfit for the reception of such prisoners.
Nododd Napier bod angen gorsaf gyda chelloedd cloi ym mhob prif dref yn y sir. O ran Pen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn Ardal Ogwr, dywedodd:
I propose making Bridgend the Station House for this District and the residence of the Superintendent… Bridgend being the central point it is highly desirable that a good station house should be erected, I would suggest that the building should contain a residence for the Constable, with offices for the Superintendent, and four cells [Cofnod Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg, yn y Pyle Inn ar Ddydd Llun 30 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].
Er y cytunwyd y byddai Ffi Heddlu o £800 yn cael ei godi’n benodol ar gyfer ariannu Gorsaf yr Heddlu, cydnabuwyd y byddai’n cymryd amser i adeiladu eiddo addas ym mhob ardal. Ni aethpwyd i’r afael â’r sefyllfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr tan 1845. Yn Archifau Morgannwg, ceir y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer gorsaf newydd yr heddlu a adeiladwyd yn y cyfnod, a llawer o’r ohebiaeth a oedd yn ymwneud â negodi’r gwaith adeiladu.
Roedd y newyddion yn 1843 bod cynlluniau ar waith i adeiladu, drwy gontract preifat, neuadd dref newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar dir Iarll Dwnrhefn yn gyfle i ymgorffori gorsaf heddlu, celloedd a llys yn yr adeilad.
Sefydlwyd Pwyllgor Ynadon i oruchwylio’r gwaith o adeiladu gorsafoedd yr heddlu. Pan aeth y grŵp a oedd yn gyfrifol am adeiladu Neuadd Dref Pen-y-bont ar Ogwr at y pwyllgor hwn yn 1843, cytunwyd y byddai modd cynnal cyfleusterau ar gyfer yr heddlu a’r ynadon lleol yn llawr isaf Neuadd y Dref. Caiff manylion y cytundeb a sefydlwyd ar y pryd eu nodi yng Nghofnodion y Sesiynau Chwarter Cyffredinol dros Heddwch a gynhaliwyd yng Nghastell Nedd 27 Mehefin 1843, ac sydd ar gael i’w gweld yn Archifau Morgannwg.
… the Inhabitants of Bridgend (having previously determined to erect a Town Hall in that Town by private subscription) offered the Magistrates to provide on the basement story of the proposed Hall the necessary accommodation for the Police upon being paid by the County as much as a Police Station House, including the price of the Land, would have cost in any other situation in the Town.
A Meeting of the Committee of Magistrates was immediately afterwards held and they agreed to pay the subscribers to the Town Hall the sum of Three hundred and fifty pounds for providing such accommodation according to such plan and upon having a Lease of the Station House for a Thousand years at a Pepper Corn rent, granted to the County, the whole arrangement being subject to the approbation of the Secretary of State.
It is intended to set apart in the basement story two rooms viz ‘the Magistrates Room’ and the ‘Waiting Room’ adjoining, for the use of the Magistrates of the District they having at present no room in which to hold their Petty Sessions.
The Upper Story is intended to be used as a Public Hall with Judge’s and Jury Rooms.
That, save such as may be included under the head of ‘County Meetings and duly convened’, it shall not be used for any meeting of a political party, polemical, or controversial character or complexion [Cofnod Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yng Nghastell Nedd ar 27 Mehefin 1843, cyf.: DMM/CO75/2].
Roedd y ddarpariaeth olaf ynghylch defnyddio’r Neuadd at ddibenion gwleidyddol, yn weithredol am 40 mlynedd. Cafodd ei ddiddymu yn ôl penderfyniad y pwyllgor rheoli ym mis Mai 1885 [Llyfr Cofnodion Neuadd Dref Penybont-ar-Ogwr, 1845-1941, cyf.: DXS/1, t103].
Mae cynlluniau gwreiddiol y llawr isaf, a ddyluniwyd gan y pensaer, D Vaughan, i’w gweld yn Archifau Morgannwg.

Mae gan y cynlluniau sêl cŵyr ac maent wedi’u llofnodi sy’n cadarnhau eu bod wedi’u cymeradwyo gan Ysgrifennydd Gwladol y Swyddfa Gartref, Syr James Graham, ar 8 Awst 1843. O ystyried mai dim ond un heddwas oedd yn gyfrifol am dref Pen-y-bont ar Ogwr, nid oedd Gorsaf Heddlu Bro Morgannwg yn fawr ddim o ran maint, gan gynnwys un ystafell wely 12 troedfedd x 12 troedfedd, ystafell storio o faint tebyg ac ystafell fyw gyda storfa danwydd, 14 troedfedd x 17 troedfedd. Yn ychwanegol i hyn, roedd tair cell a phob un ohonynt yn 10 troedfedd x 6 troedfedd. Nododd Napier pan fo celloedd ar gael yn y sir, roeddent yn aml yn oer iawn ac yn anaddas ar gyfer eu defnyddio yn ystod y gaeaf. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, trefnwyd bod y celloedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gwresogi gan simneiau tanau mewn ystafelloedd cyfagos. Roedd gan bob cell doiled hefyd. Dyrannwyd llawer iawn o weddill y llawr isaf at ddibenion Ynadon Cannoedd Casnewydd ag Ogwr, gydag Ystafell Ynadon ac Ystafell Lys. Mae’n debyg y byddai lampau olew wedi’u cynnau gyda’r nos er mwyn goleuo’r llawr isaf, oherwydd nid oedd unrhyw oleuadau nwy yn Neuadd y Dref tan 1847 [Neuadd Dref Pen-y-bont ar Ogwr, cyf.: DXAG].
Mae copïau o’r datganiad Ymddiriedolaeth a’r les ar gyfer yr orsaf o fis Awst a Hydref 1844 hefyd ar gael i’w gweld yn Archifau Morgannwg. Maen nhw’n cadarnhau bod y gwaith adeiladu wedi cymryd ychydig dros flwyddyn i’w gwblhau.
The foundation stone of the building which was erected by public subscription, was laid on the thirteenth day of September 1843, by the Rt Honorable John Nicholl, MP. Her Majesty’s Judge Advocate General and the Hall, having been completed, was delivered up to the subscribers by Mr John Rayner of Swansea, the Architect, on the first day of May 1845 [Llyfr Cofnodion Neuadd Dref Penybont-ar-Ogwr, 1845-1941, cyf.: DXS/1].
Roedd y cyfleusterau fwy neu lai yn unol ag argymhellion Napier, gyda llety i’r cwnstabl lleol. Byddai’r rhent ar gyfer y llety hwn yn dod allan o’i gyflog. Fodd bynnag, dim ond tair cell a adeiladwyd, yn hytrach na phedair. Cymrodd yr Ymddiriedolwyr gyfrifoldeb dros y Neuadd y Dref newydd yn swyddogol ym mis Mai 1845, a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar ddechrau mis Mehefin. Gwnaethpwyd mân ddiwygiad i ddyluniad yr orsaf ym 1848, sef adeiladu grisiau o’r orsaf i ddoc y carcharorion yn y neuadd. Mae modd gweld y cynlluniau ar gyfer hyn yn Archifau Morgannwg hefyd, ynghyd â chadarnhad eu bod wedi’u cymeradwyo gan Syr George Grey, yr Ysgrifennydd Cartref, ar 2 Medi 1848 [Cofnodion Heddlu Morgannwg, Neuadd Dref Penybont-ar-Ogwr, 2 Medi 1848, cyf.: DCON236/1].
Mynegwyd barn ar y cyfleusterau newydd ar gyfer yr heddlu a’r ynadon yng nghyfarfod yr Ynadon, a gynhaliwyd mis yn ddiweddarach yn ystod Gorffennaf 1845. Adroddwyd am hyn yn y Cardiff and Merthyr Guardian. Ar un llaw, roedd hi’n amlwg bod sawl mân broblem:
Bridgend Station House. It was stated that the rooms of this station smoked very badly – that the chimneys did not draw well… After a short conversation upon the subject… it was ordered that steps should immediately be taken for the purpose of lessening, if not entirely removing the evil complained of by the inmates of the Bridgend Station House [Cardiff and Merthyr Guardian, 5 Gorffennaf 1845].
Ond ar y llaw arall, yn gyffredinol roedd yr Ynadon yn fodlon eu bod wedi taro bargen dda ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Wrth drafod eu bodlonrwydd ar y cyfleusterau newydd, dywedodd un Ynad, Robert Knight:
At all events he thought the county had received a good shilling’s worth for a shilling in having a station house which cost £500 for £300. (Hear). [Cardiff and Merthyr Guardian, 5 Gorffennaf 1845].
Ni chofnodwyd unrhyw wybodaeth ynghylch bodlonrwydd trigolion Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg