Eglwys Fethodistaidd Trelái, Heol Orllewinol y Bont-faen, Caerdydd

Yn 1858, agorodd Methodistiaid Cymreig Trelái gapel â 160 o seddi yn Mill Road yn lle eu hen addoldy, sef ysgubor wedi’i haddasu.  Cynhelid gwasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg ond, dros y ddau ddegawd nesaf, roedd cymaint o ddirywiad yn yr aelodaeth oedd yn siarad Cymraeg fel y prynwyd yr adeilad, ym 1879, gan y Methodistiaid Wesleaidd Seisnig – am £200 – gan eu brodyr Cymreig.

Erbyn troad yr 20fed ganrif, ysgogwyd y gynulleidfa gan yr aelodaeth gynyddol i chwilio am safle mwy o faint.  Cyd-drafododd yr ymddiriedolwyr brydles o 88 mlynedd ar gyfer tir ar gornel Heol Orllewinol y Bont-faen a Paget Road (Colin Way erbyn hyn), a gosodwyd cerrig sylfaen y capel presennol ar 16 Tachwedd 1910.

D1093-1-5-25

Braslun o Eglwys Fethodistaidd Trelai gan Mary Traynor (cyf.: D1093/1/5 t25)

Dyluniwyd y cynllun gan bensaer o Gaerdydd, H P Sanders, ac mae ganddo nodweddion cyffredin o’r cyfnod Gothig Diweddar (Gothig Sythlin).  Cafodd y contract adeiladu ei osod i George Beames am y swm o £2894-10-0, ac agorwyd y noddfa orffenedig ym mis Mai 1911.  Yn 1947, prynodd yr ymddiriedolwyr rydd-ddaliad y safle, gan sicrhau dyfodol yr eglwys.

Fel yr adeiladwyd ef yn wreiddiol, roedd gan y capel seddi ar gyfer tua 800 o addolwyr.  Ond yn y blynyddoedd mwy diweddar, mae’r tu mewn wedi cael ei isrannu i greu ardal addoli lai gyda gweddill yr adeilad wedi’i addasu at ddefnydd y gymuned.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/5)
  • Cofnodion Cylchdaith Fethodistaidd Caerdydd, Eglwys Fethodistaidd Trelái, cofnodion cyfreithiol yn ymwneud ag eiddo ag ymddiriedolaeth (cyf.: D889/12/1)
  • A Golden Milestone: Ely Methodist Church, 1911 to 1961 (ref.: Lib/C/116)
  • Harrison, Arthur W: Ely Methodist, A History of the Church and its Environment, 1806 – 1974
  • Rose, Jean: Cardiff Churches through Time
  • http://www.britishlistedbuildings.co.uk/

Y Tolldy, Penarth

Roedd cwch tollau ym Mhenarth mor gynnar â 1686, pan benodwyd John Jones yn weinydd ac yn gychwr yno.  Ym 1750, nododd Syrfëwr Tollau Caerdydd y byddai Tafarn Penarth Head yn dod yn wag cyn bo hir ac awgrymodd y gellid ei rhentu i ddefnyddio’r refeniw.  Er mai ei brif gymhelliad oedd darparu lle ar gyfer busnes y tollau, nododd y byddai hyn hefyd yn atal smyglwr rhag byw yno – rhywbeth a oedd yn amlwg wedi digwydd o’r blaen.

D1093-1-2-12

Ymddengys na weithredodd y Comisiynwyr Tollau ar y cynnig hwn.  Fodd bynnag, gan fod agor Doc Penarth yn golygu bod angen codi tolldy, y safle a ddewiswyd oedd yr hen dafarn.  Cafodd yr adeilad yn null rhyfeddol o fawreddog y Dadeni ei godi ym 1865 a chredir iddo gael ei gynllunio gan Beiriannydd y Doc, Samuel Dobson.

Roedd swyddogion tollau yn gweithio yma tan ymhell yn yr 20fed ganrif ond, gyda’r gostyngiad mewn masnach trwy Benarth, roedd yr angen am Dolldy ar wahân yno yn lleihau, ac mae cyfeirlyfrau lleol yn awgrymu ei fod wedi peidio â gweithredu erbyn dechrau’r 1950au.  Roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio am gyfnod gan y Clwb Hwylio lleol, cyn cael ei fordio a’i adael yn segur am sawl blwyddyn.  Ar ddechrau’r 2000au cafodd ei adnewyddu ac mae bellach yn fwyty poblogaidd.

David Webb, Glamorgan Archives Volunteer

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Y Blaidd Mawr Drwg yn perfformio ym Mharc yr Arfau Caerdydd, Ionawr 1890

Yn y dyddiau pan oedd Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn llwyr ddibynnol ar danysgrifiadau’r cyhoedd, roedd y Theatre Royal yn aml yn cynnal perfformiadau gyda thâl y tocynnau’n cael eu rhoi i’r ysbyty. Ym mis Ionawr 1890 fodd bynnag, rhagorodd rheolwr y theatr, Edward Fletcher, ei hun drwy drefnu gêm bêl-droed elusennol ym Mharc yr Arfau a rhoddwyd yr holl elw i’r ysbyty.

D452-4-22

Y cynnig oedd bod cast pantomeim yr Eneth Fach a’r Fantell Goch – ‘Pretty Little Red Riding Hood’ – a ddisgrifiwyd gan Fletcher fel …llwybr llaethog o sêr, yn gorymdeithio drwy’r strydoedd mewn cert agored a ddarparwyd gan westy’r Royal, i’r maes. Y cast fyddai’n chwarae’r gêm, mewn gwisgoedd llawn, gyda chyfeiliant cerddorol gan y Band Hwngaraidd.

Mae’r poster ar gyfer pantomeim y Theatre Royal y flwyddyn honno yn rhoi awgrym o’r rhai a ddewiswyd ar gyfer ‘tîm’ yr Eneth Fach a’r Fantell Goch ym Mharc yr Arfau ar 15 Ionawr 1890. Er enghraifft, gwyddom fod yr Eneth Fach a’r Fantell Goch, y Bachgen Glas, y Blaidd, y Cadno Cyfrwys a’r ddeuawd gomedi, Turle a Volto, wedi cael sicrwydd o rannau yn y cast gwreiddiol.  Fodd bynnag, bu dyfalu mawr yn y wasg, a ysbrydolwyd gan Fletcher mae’n siŵr, am y cast cyfan.  Bu colofnwyr dan ffugenwau ‘Man about Town’ a ‘A Theatr Goer’ yn dadlau a ddylai Alice Leamar (Eneth Fach a’r Fantell Goch) neu Rosie St George (Y Bachgen Glas) gymryd y ciciau at y pyst.  Hefyd cwestiynwyd lawer y penderfyniad i hepgor y milwyr benywaidd trawiadol (y chwiorydd Ada ac Amy Graham).

Er gwaethaf trafferthion munud olaf, pan awgrymwyd nad oedd Clwb Caerdydd wedi rhoi ei ganiatâd i ddefnyddio Parc yr Arfau, aeth y gêm yn ei blaen. Ychydig iawn o adroddiadau sydd am y gêm, er bod y cyfeiriadau at ‘… ludicrous burlesque from beginning to end’ yn dweud y cyfan mae’n debyg. O gofio bod y llain yn drwm, mae’n rhaid bod Fletcher wedi wynebu bil glanhau gwisgoedd difrifol gan fod gan y pantomeim bedair wythnos arall i fynd.

Serch hynny, ar ôl i’r llwch setlo, cyflwynwyd £68 i George Coleman, Ysgrifennydd Ysbyty Sir Forgannwg a Sir Fynwy. Fel ysbyty oedd yn ddibynnol ar roddion roedd pob tamaid bach yn gymorth a diolchwyd i Edward Fletcher, yr Eneth Fach a’r Fantell Goch, ei chwmni a hyd yn oed y Blaidd Mawr Drwg.

Mae’r poster ar gyfer Yr Eneth Fach a’r Fantell Goch yn cael ei gadw yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod D452/4/22. Gellir ei weld ar-lein ar http://calmview.cardiff.gov.uk/.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd

Cafodd Cyngor Sir De Morgannwg ei greu yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974.

D1093-1-1-20

Ond yn wahanol i awdurdodau cyfagos, ni etifeddodd ganolfan ddinesig barod.  Ar y dechrau, roedd y Cyngor yn prydlesu adeilad swyddfeydd yn Heol Casnewydd ond nid oedd hyn yn ddigon mawr i gynnwys ei holl swyddogaethau canolog.

Ar ddechrau’r 1980au, penderfynwyd datblygu canolfan newydd wrth ymyl Doc Dwyrain Bute.  Ar wahân i fanteision a fyddai ynghlwm wrth greu Neuadd Sir bwrpasol, ystyriwyd bod y penderfyniad i adeiladu yn y lleoliad hwn hefyd yn sbardun ar gyfer adfywio economaidd a chymdeithasol mewn ardal a oedd, ar y pryd, yn anghyfannedd gan mwyaf.

Wedi’i gynllunio gan adran y Pensaer Sirol, mae adeilad ar lan y doc yn cynnwys tri llawr yn gyffredinol ond mae’n codi’n uwch mewn mannau.  Rheolwyd y gwaith adeiladu, a barodd o 1986 tan 1988, gan Norwest Holst Limited.  Agorwyd Neuadd y Sir yn swyddogol ar 1 Hydref 1988 gan y cyn-Brif Weinidog, yr Arglwydd Callaghan, a oedd wedi gwasanaethu fel Aelod Seneddol dros yr etholaeth a oedd yn cynnwys tiroedd dociau Caerdydd o 1945 tan 1987.

D1093-1-5-17

Yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol ymhellach ym 1996, cafodd Cyngor Sir De Morgannwg ei ddiddymu a daeth Neuadd y Sir yn bencadlys Cyngor Caerdydd wedi hynny.  Mae’n parhau i weithredu fel adeilad dinesig.

David Webb, Gwifoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: