Consuriwr Gorau Cymru! Mr Charles Oswald

Rwyf newydd orffen catalogio papurau teuluol David Tilley o’r Bont-faen (cyf.: DX666) lle darganfuais rywfaint o ohebiaeth ddiddorol sy’n ymwneud â chyngerdd a roddwyd i filwyr clwyfedig ar 24 Chwefror 1917. Yn ogystal â pherfformiadau cerddorol, roedd y gyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiad gan ‘Gonsuriwr Gorau Cymru’ (South Wales Graphic, 12 Hydref 1906), sef Mr Charles Oswald.

Mae copi o’i repertoire yn rhestru campau hud a lledrith megis ‘Gwniaduron Bendith y Mamau’, ‘Parasol y Bwganod’ ac ‘Yr Iâr a’r Wyau Anweledig’, ymhlith llu o ryfeddodau eraill! Roedd hefyd yn dafleisydd celfydd, gan weithio law yn llaw â ‘Sammy y Ddol Awtomatig Enwog, y mae ei ffraethineb a’i gampau yn peri i chi ruo chwerthin.’ Gan fod hyn wedi ennyn fy chwilfrydedd, penderfynais fynd ati i ddarganfod rhagor o wybodaeth!

Ganed Charles Oswald, sef Charles Oswald Williams, yn Llanelli ym 1864, ond roedd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd erbyn 1891. Roedd yn aelod o Gylch Cyfrin Hud a Lledrith Llundain, ac ym 1904 ymddangosodd ar glawr y cylchgrawn ‘The Sphinx’ fel ‘Consuriwr y Mis’. Roedd ef hefyd yn ymwneud â’r fasnach watshis ac offerynnau cerddorol yng Nghaerdydd.

Cafwyd adroddiad am y gyngerdd yn y Glamorgan Gazette, sydd hefyd yn sôn am anerchiad a chyflwyniad a roddwyd i’r is-gapten F. J. Evans.  Ymddengys fod hyn yn cyfeirio at ddyfarnu’r Groes Filwrol er gwrhydri’r2il Is-Gapten John Frederick Gwyn Evans (1893-1960) o Gatrawd De Swydd Stafford.  Ganed yr Is-gapten Evans yn Llan-fair, y Bont-faen, yn fab i’r Is-gapten  Frederick a Mrs Catherine Evans. Yn ôl yr adroddiad papur newydd:

“Yn ôl adroddiad y fyddin: Pan ataliwyd ein hymosodiad, camodd i’r adwy, a drwy ei ddewrder a chan osod esiampl o wrhydri i’w filwyr, er mai prin iawn oedd y bomiau yr oedd ganddo, ataliodd wrthymosodiad y gelyn. Bravo, Is-gapten Evans, peth da fyddai cael dwsinau o feibion hanner cystal â chi. Dyna fel mae atal y gelyn.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, David Tilley oedd Swyddog Rheoli Bwyd y Bont-faen. O ganlyniad, mae Cofnodion Pwyllgor Rheoli Bwyd Bwrdeistref y Bont-faen ymhlith ei bapurau.

Corinne Evans, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Llyfr Llofnodion y Prif Nyrs Emily Connell

Ganed Emily Evelina R. Connell yn West Derby, Lerpwl ym 1871. Roedd ganddi dair chwaer a dau frawd. Roedd ei thad, Rowland William Connell, yn fasnachwr ŷd o Cork. Cafodd Emily hyfforddiant fel nyrs, ac yn ôl y cyfrifiad, roedd hi’n gweithio yn Bideford, Dyfnaint ym 1911. Ym 1910 roedd wedi ymrestru yng Ngwasanaeth Nyrsio’r Llu Tiriogaethol Ymgorfforedig (sef yr Embodied Territorial Force Nursing Service [TFNS]).

Sefydlwyd y TFNS ym 1908 fel llu wrth gefn i ddarparu hyd at 23 o ysbytai i ofalu am filwyr y fyddin Diriogaethol neu’r fyddin Wrth Gefn pe bai angen. Pe bai Prydain yn mynd i ryfel, byddai pob ysbyty yn gofalu am 520 o gleifion mewn ysgol neu adeiladau cyhoeddus eraill a wacawyd ar adeg galw i’r fyddin, a byddai gan bob ysbyty 91 o nyrsys hyfforddedig.

Ysbyty Ysgol Gerddi Howard yng Nghaerdydd oedd un o’r 23 o ysbytai a sefydlwyd erbyn diwedd Medi 1914; dan yr enw 3edd Ysbyty’r Gorllewin. Erbyn Tachwedd 1915 nodwyd bod 1100 o welyau ysbyty yn ysbytai adrannol 3edd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin (Western Mail 16 Tachwedd 1915).  Llwyddwyd i ehangu ar y nifer gwreiddiol o welyau a gynlluniwyd drwy feddiannu ysgolion eraill yng Nghaerdydd i’w defnyddio fel ysbytai.  Cafwyd enghraifft o raddau’r gwaith yn adroddiad y South Wales Echo, 4 Gorffennaf 1916:

“Wounded soldiers to the number of 320 from the Front arrived in Cardiff at 4 o clock this afternoon. All the cases were sitting injuries being mostly gunshot wounds and the majority are able to walk unaided to the motors which were waiting. Some of the Tommies, who appear in capital spirits, were wounded as recently as yesterday morning. The soldiers were distributed  to Howardian (40), King Edward VII Hospital (10), Albany Road (70), Splott (50), Lansdowne (75), Ninian Park (75).”

Penodwyd Emily Connell yn Nyrs Staff ym Medi 1914 a bu’n gweithio yn ysbyty Gerddi Howard drwy gydol y rhyfel.  Gellir gweld ei chofnodion o adeg y rhyfel yn yr Archifau Cenedlaethol (W0/399/10514).  I fod yn gymwys i weithio fel Nyrs Staff yn y TFNS, roedd yn ofynnol i nyrsys sifilaidd fod dros 23 oed, gydag o leiaf tair blynedd o hyfforddiant mewn ysbyty neu glafdy. Yn ôl yr unig gofnod sydd wedi goroesi sy’n nodi oedran Emily, roedd hi’n 41 oed ym 1919. Mewn gwirionedd, byddai wedi bod yn 47 oed (neu’n 48 oed o bosibl) pan gafodd ei rhyddhau o’r Llu Nyrsio ym mis Tachwedd 1919. Yn ôl ei hadroddiadau blynyddol, mae’n amlwg yr oedd hi’n nyrs galluog iawn. Nododd y Fonesig Sidney Brown, y Brif Fetron, y canlynol amdani mewn geirda ym 1920:

“Miss Connell has good professional ability. She is a capable surgical and medical nurse and has had charge of the Shell Shock patients in a Section of one of the Base Hospitals. She has shown ability in dealing with these cases on night duty. She is reliable and tactful and had done Charge Sister’s duties with success. Miss Connell has rendered very good service for over five years and was awarded the Royal Red Cross 2nd Class in June 1916 for good work and valuable service.”  

Llofnodwyd llyfr llofnodion Emily Connell gan tua 100 o filwyr a morwyr clwyfedig o 1915 i 1918. Roedd 3edd Ysbyty’r Gorllewin yn trin milwyr a anafwyd yn Ffrainc a Gwlad Belg yn bennaf, ond cafodd llawer o ddynion a anafwyd yn ymgyrch Gallipoli ym 1915 eu trin yno hefyd. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn filwyr o Brydain, Awstralia, Canada a Seland Newydd.  Roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi cyfrannu pennill byr, cartŵn neu fraslun.  Fodd bynnag, roeddent oll yn nodi pa mor ddiolchgar oeddent i Nyrs Staff Connell a’i chydweithwyr am y gofal a gawsant.

Erbyn 1919 roedd Emily Connell yn absennol oherwydd salwch, gyda’i hiechyd yn cael ei fonitro gan fyrddau meddygol rheolaidd. Ymatebodd fel a ganlyn i’r cynnig y gallai adael y TFNS ar 3 Gorffennaf 1919:

“My father died in Feb of this year. I have no home, no means and unable to work. When I was mobilised in Sept 1914 I left my post and went to Cardiff. I was quite fit then. Now I have had to resign the post which they kept open for me until April 30 1919 when I told them I was going to have an operation and it would be some months before I could return. It is not right to cast me adrift after serving form 4 ½ years and being rendered unfit by that service”.  

Er y bu’r apêl honno’n llwyddiannus, rhyddhawyd Emily Connell o’r Llun Nyrsio ar 25 Tachwedd 1919. Ym Mawrth 1920 ysgrifennodd y Fonesig Sidney

“I wish you all happiness in your future life. Her Majesty, Queen Alexandria, has graciously given permission for you to retain your TFNS Badge permanently, as you have completed four years’ good service during the war.”

Bu farw Emily Connell yn Wallasey ym 1944 yn 72 oed.

Tony Peters, Gwirfoddolwr yn Archifau Morgannwg