Proclamasiwn y Brenin newydd yn y Bont-faen ar 26 Ionawr 1901

Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae’r llun o gasgliad Edwin Miles yr wythnos hon yn adlais o ddigwyddiadau diweddar gan ei fod yn dangos cyhoeddi’r Brenin newydd.

BCOW_C_114_3 edited

Cafodd y llun ei dynnu ar y 26 Ionawr 1901, bedwar diwrnod yn unig ar ôl marwolaeth y Frenhines Fictoria a oedd wedi teyrnasu am dros 63 o flynyddoedd. Y ffigwr yn y canol yw Maer y Bont-faen, yr Henadur Edward John, a oedd newydd gyhoeddi’r brenin newydd, Edward VII, mab hynaf y Frenhines ac a oedd yn 69 oed yn 1901.

Yn unol ag arferiad a ddilynir hyd heddiw, cyhoeddwyd esgyniad y Brenin newydd mewn trefi a dinasoedd ar draws y wlad. Roedd hi’n bluen yng nghap y Bont-faen bod trefniadau wedi cael eu rhoi yn eu lle ar gyfer darllen y proclamasiwn ymhell cyn eu cymdogion lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fel yr adroddodd y papurau newydd lleol, roedd yn dipyn o ddigwyddiad gyda holl boblogaeth y fwrdeistref a’r ardaloedd cyfagos yn leinio’r strydoedd.  Ym mhen blaen yr orymdaith y cerddai’r Maer ac aelodau’r Gorfforaeth, ac yna Ynadon lleol, y Ficer a’r Meistr, athrawon a disgyblion yr Ysgol Ramadeg. Darparwyd gosgordd er anrhydedd gan ddau yn cario byrllysgau, aelodau o’r Gwirfoddolwyr lleol a Band Tref y Bont-faen.

Gyda baneri’n cyhwfan, darllenwyd y proclamasiwn ar safle’r Hen Groes ac ar dri safle arall ar ffin y fwrdeistref. Ar bob achlysur datganwyd dyfodiad yr osgordd gan ffanffer o utgyrn ac wedi cwblhau’r datganiad fe ganwyd Duw Gadwo’r Brenin.

Tynnwyd y llun ar ddiwedd y seremoni wrth i’r Maer gilio i siambrau’r cyngor i ddiddanu ei westeion. Ar y cyfan, byddai wedi bod yn ddiwrnod cofiadwy i Edward John, masnachwr hadau lleol a pherchennog yr Eagle Stores, a wasanaethodd sawl tro fel Maer y Bont-faen. Efallai nad yw’n syndod ar ddiwedd diwrnod hir, adroddodd y papurau newydd fod y Maer wedi gofyn i’w westeion ymuno ag ef i yfed i iechyd y Brenin Edward y Seithfed … a wnaed yn ffyddlon tu hwnt.

Mae’r llun yn un o’r rhai cynharaf yng nghasgliad Edwin Miles a gedwir yn Archifau Morgannwg.  Ym 1901 roedd Miles yn dal i weithio fel signalmon rheilffordd ac yn byw ar Heol Y Bont-faen ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Mae’n ddigon posibl bod y llun wedi’i dynnu wrth iddo fireinio ei sgiliau cyn mentro fel ffotograffydd proffesiynol yn gweithio o stiwdio yn Wrexham Villa ar Heol Ewenni. Mae mownt y ffotograff yn cyfeirio at Stiwdio Ewenni, gan awgrymu iddo gael ei ychwanegu yn ddiweddarach.

Tynnodd Edwin Miles luniau o drefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg hyd at ei farwolaeth ym 1929.  Mae’r ffotograff o’r Proclamasiwn hon i’w gweld dan y cyfeirnod BCOW/C/114/3.  Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261. 

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Y Pafiliwn, Y Bont-faen:  Ffotograffau wedi’u tynnu gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Os ydych chi erioed wedi pendroni ynghylch gwreiddiau’r adeilad ar brif stryd Y Bont-faen gyda chromen addurnedig a chanopi arddull theatr, yna efallai bod yr erthygl hon o ddiddordeb. Wedi ei dynnu bron i gan mlynedd yn ôl, mae’r llun isod yn dangos Sinema’r Pafiliwn yn Y Bont-faen. Mae’n dangos yr adeilad yn ei anterth, ac mae’n rhyfeddol cyn hired y mae ffasâd yr adeilad wedi goroesi yn gyfan; mae’n dal yn hawdd ei adnabod heddiw – er bod ei ddyddiau fel sinema wedi hen gilio.

M525

Cafodd y llun ei dynnu gan y ffotograffydd lleol, Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1925 a 1929.  Wedi’i godi a’i reoli gan berchennog garej lleol, Arthur Mills, roedd gan y Pafiliwn sinema ar y llawr gwaelod a neuadd ddawns ar y llawr cyntaf. Roedd y digwyddiad cyntaf yn yr adeilad newydd bron yn sicr yn bazaar eglwys a gynhaliwyd yn y neuadd ddawns ar 6 Mai 1925. Ni fu’n hir, fodd bynnag, cyn i’r llawr masarn newydd ei osod gael ei roi ar brawf yn iawn gyda dawns ar nos Iau 21 Mai 1925, a fynychwyd gan dros 250 o bobl, i godi arian ar gyfer adfer Eglwys y Plwyf yn y Bont-faen. Disgrifiwyd y “neuadd ddawns odidog” fel un o’r gorau yn ne Cymru. Gyda dawnsio i “seiniau cerddorfa Rumson” tan ddau y bore, cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio fel “llwyddiant digamsyniol”.

Roedd hi rai misoedd yn ddiweddarach, fodd bynnag, cyn bod y sinema ar y llawr gwaelod, gyda’i daflunydd Kalee Rhif 7 newydd ei osod, yn barod i dderbyn cwsmeriaid. Wedi ei amseru i gyd-fynd â phrysurdeb Sioe’r Bont-faen, agorodd Sinema’r Pafiliwn Ddydd Mercher 16 Medi gyda dangosiad o ffilm fud “The Folly of Vanity”.  Gyda’r seren Betty Blythe yn y brif ran, roedd i’r ffilm ddilyniant camera “ffantasi ddramatig syfrdanol” gyda’r arwres yn plymio i’r môr i ymweld â llys tanddwr Neifion.

Yn y blynyddoedd canlynol bu’r neuadd ddawns yn y Pafiliwn yn lleoliad poblogaidd, yn aml yn cynnal y Dawns flynyddol Helfa Morgannwg. Fe’i defnyddiwyd hefyd ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys derbyniad i Lloyd George ym mis Hydref 1930, pan roddwyd Rhyddfraint Bwrdeisdref y Bont-faen i’r cyn Brif Weinidog. Llwyfannodd y sinema hefyd gynyrchiadau cyntaf oll Cymdeithas Ddrama Amatur y Bont-faen a gwefreiddio cynulleidfaoedd gyda ffilmiau poblogaidd, gan gynnwys Ben Hur gyda Ramon Novarro, Douglas Fairbanks yn herfeiddiol yn y brif ran yn “The Thief of Baghdad”, a’r digrifwr Harold Lloyd yn “For Heaven’s Sake”.  Dangoswyd nifer o ffilmiau gwybodaeth gyhoeddus hefyd yn Y Pafiliwn, yn cynnwys “The Path to Poultry Prosperity”. Ni chafodd ffigyrau presenoldeb ar gyfer y digwyddiad hwn eu cofnodi.

Wedi’i ddifrodi gan dân ym mis Ebrill 1942, adferwyd y Pafiliwn ym 1948 a pharhaodd i weithredu fel sinema tan ganol y 1950au.  Er ei fod bellach yn cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd, mae’r gromen a’r ffasâd wedi eu cadw ac yn parhau i fod yn olygfa gyfarwydd ar Eastgate yn y Bont-faen.

Tynnodd Miles luniau, a ddefnyddiwyd yn bennaf fel cardiau post, o lawer o drefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg rhwng 1905 a 1929.  Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o’r casgliad dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.  Mae’r ffotograff o’r Pafiliwn a ddefnyddir yn yr erthygl hon i’w gweld dan y cyfeirnod D1622.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gwenwch!

Pan fyddwn yn meddwl am luniau o’n cyndeidiau a dynnwyd yn y cyfnod Fictoraidd rydym yn dueddol o feddwl am luniau ohonynt yn sefyll yn anghyffyrddus heb ystum ar eu hwynebau.  Bydd gan nifer ohonom esiamplau o’r rhain yn ein halbymau teulu ein hunain, a dynnwyd gan amlaf mewn stiwdio ffotograffydd.

Felly diddorol oedd gweld lluniau yn dangos ein cyndeidiau Fictoraidd yn edrych yn fwy hamddenol a chwareus.  Mae dau o’r lluniau, o Gasgliad Insole Court, yn dangos grŵp tu allan i Neuadd Llanrhymni tua 1895.  Mae’r llun cyntaf yn un traddodiadol ohonynt yn sefyll tu allan i’r Neuadd ac mae’r ail lun yn un mwy chwareus gyda’r grŵp, sy’n cynnwys gwŷr barfog hŷn, ar y lawnt yn edrych fel eu bod yn mwynhau!

d847-1-3

d8471-1-4a

Mae’r ddau lun arall yn dangos aelodau o’r teulu Edmondes o’r Bont-faen, yn sefyll yn ôl taldra mewn un llun ac yn pwyso ar ei gilydd yn chwareus yn y llall, sy’n hollol wahanol i’r lluniau traddodiadol yr ydym wedi arfer â hwy.

2009-11.

2009-11

Wrth gwrs, roedd rhesymau da pam bod nifer o bobl o’r cyfnod Fictoraidd yn edrych mor ddiflas yn y lluniau.   Roedd hi’n cymryd llawer o amser i dynnu llun ac roedd yn rhaid iddynt sefyll yn llonydd i osgoi lluniau aneglur.   Roedd nifer ohonynt heb ag arfer â thynnu eu llun, gyda rhai ond wedi cael tynnu eu llun unwaith yn eu bywydau.  Roedd rhai heb gael tynnu eu llun o gwbl yn ystod dyddiau cynnar ffotograffiaeth.  Dywed rhai bod llawer o bobl o’r cyfnod â dannedd gwael ac felly ddim eisiau gwenu ar gyfer y camera!

Wrth i ni ddefnyddio ein camerâu, yn gallu gweld y lluniau’n syth a dileu ac ail-dynnu fel y mynnwn, mae’n werth cofio sut mae ffotograffiaeth wedi datblygu mewn 150 mlynedd!

Pwyllgor Rheoli Bwyd y Bont-faen

Nid oedd rôl y Comisiynwyr Bwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn un hawdd, fel mae llyfr llythyrau David Tilley, Swyddog Gweithredol Pwyllgor Rheoli Bwyd y Bont-faen, yn ei ddangos ym 1917-18. Roedd siwgr, cig, te, menyn a marjarîn yn cael eu dogni, roedd prisiau’n sefydlog ac roedd yn rhaid i fanwerthwyr roi gwybodaeth fisol fanwl i’r Pwyllgor.

Ym mis Tachwedd 1917, ysgrifennodd David Tilley i’r Comisiwn Adrannol yng Nghaerdydd am yr anawsterau o ran gorfodi’r gorchymyn menyn:

Mr Llewellyn, Morland Farm, Penlline who has supplied butter at many houses in the town for very many years charged 2/3 for his ‘Farm Butter’ in 1lb bricks. This was paid under protest by several of his customers. Yesterday he called upon his customers & told them that he would not supply them this week or until the price was increased. This will cause a great inconvenience to many. He suggested to some of his customers that he would take it to Bridgend, to others that he ‘would put it down’.

Yn anffodus, mae’n debyg iddo gael ymateb da i ddim, ac ysgrifennodd eto:

…that there is no remedy against a farmer withholding his butter from his regular customers in consequence of the fixed price… This I think is a great grievance to people and it appears to border on hoarding necessary food.

Sonnir am broblemau eraill yn llyfr llythyrau David Tilley. Mewn llythyr at Mrs Thisell o’r Bont-faen, a gwynodd fod Messrs Robert Roberts & Co o Ben-y-bont ar Ogwr wedi codi 10/- arni am sach o datws, mae’n dweud:

I asked the Bridgend Police to go to their shop & examine their invoices, to find what they paid for the potatoes. I do not think they did this but was told by Mr Roberts that they had paid Mr England, Cardiff £8 5s per ton and carriage for them.

IMG_8309

IMG_8310

Roedd Mr Rees, Fferm Darren, wedi cael ei orchymyn i aredig caeau pori penodol:

He has sold milk for 50 years and supplies 250 from his 18 cows. If he must plough he will give up the sale of Milk as the best pasture will be ploughed and he cannot cultivate fields as well as retail milk.

Cyflwynwyd cwyn yn erbyn D Williams & Sons, a fynnodd na fyddent yn gwerthu marjarîn oni bai bod gan y cwsmer docynnau siwgr. Cawsant wybod eu bod yn torri’r gyfraith ac y gallent gael eu herlyn:

Therefore on this occasion we wish to warm you that should further reliable complaint be made that we will have to proceed against you at law.

Cafwyd problemau eraill hefyd – ni adawodd yr Ysgol Ferched eu cwponau gyda groser manwerthu ac ni wnaethant gofrestru fel cwsmer gydag unrhyw fanwerthwr; hefyd roedd cigyddion yn codi gormod am gig ac yn methu â chael gafael ar ddigon o gig i’w werthu.

Bu’n rhaid i Adrannau’r Llywodraeth esbonio’r canlynol iddynt:

…this district contains very few over 1000 in population but is a centre for shopping for a large area around 4 or 5 or even more miles around.

Ar un achlysur ysgrifennodd David Tilley:

At least 12 shops used to sell imported butter, five only have made returns, the others have closed down over the difficulties of obtaining foods.

Yn anffodus, fel gyda phob llythyr yn y llyfr, nid oes gennym unrhyw ymatebion felly mae’r canlyniad yn ddirgelwch.

Ann Konsbruck, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Consuriwr Gorau Cymru! Mr Charles Oswald

Rwyf newydd orffen catalogio papurau teuluol David Tilley o’r Bont-faen (cyf.: DX666) lle darganfuais rywfaint o ohebiaeth ddiddorol sy’n ymwneud â chyngerdd a roddwyd i filwyr clwyfedig ar 24 Chwefror 1917. Yn ogystal â pherfformiadau cerddorol, roedd y gyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiad gan ‘Gonsuriwr Gorau Cymru’ (South Wales Graphic, 12 Hydref 1906), sef Mr Charles Oswald.

Mae copi o’i repertoire yn rhestru campau hud a lledrith megis ‘Gwniaduron Bendith y Mamau’, ‘Parasol y Bwganod’ ac ‘Yr Iâr a’r Wyau Anweledig’, ymhlith llu o ryfeddodau eraill! Roedd hefyd yn dafleisydd celfydd, gan weithio law yn llaw â ‘Sammy y Ddol Awtomatig Enwog, y mae ei ffraethineb a’i gampau yn peri i chi ruo chwerthin.’ Gan fod hyn wedi ennyn fy chwilfrydedd, penderfynais fynd ati i ddarganfod rhagor o wybodaeth!

Ganed Charles Oswald, sef Charles Oswald Williams, yn Llanelli ym 1864, ond roedd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd erbyn 1891. Roedd yn aelod o Gylch Cyfrin Hud a Lledrith Llundain, ac ym 1904 ymddangosodd ar glawr y cylchgrawn ‘The Sphinx’ fel ‘Consuriwr y Mis’. Roedd ef hefyd yn ymwneud â’r fasnach watshis ac offerynnau cerddorol yng Nghaerdydd.

Cafwyd adroddiad am y gyngerdd yn y Glamorgan Gazette, sydd hefyd yn sôn am anerchiad a chyflwyniad a roddwyd i’r is-gapten F. J. Evans.  Ymddengys fod hyn yn cyfeirio at ddyfarnu’r Groes Filwrol er gwrhydri’r2il Is-Gapten John Frederick Gwyn Evans (1893-1960) o Gatrawd De Swydd Stafford.  Ganed yr Is-gapten Evans yn Llan-fair, y Bont-faen, yn fab i’r Is-gapten  Frederick a Mrs Catherine Evans. Yn ôl yr adroddiad papur newydd:

“Yn ôl adroddiad y fyddin: Pan ataliwyd ein hymosodiad, camodd i’r adwy, a drwy ei ddewrder a chan osod esiampl o wrhydri i’w filwyr, er mai prin iawn oedd y bomiau yr oedd ganddo, ataliodd wrthymosodiad y gelyn. Bravo, Is-gapten Evans, peth da fyddai cael dwsinau o feibion hanner cystal â chi. Dyna fel mae atal y gelyn.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, David Tilley oedd Swyddog Rheoli Bwyd y Bont-faen. O ganlyniad, mae Cofnodion Pwyllgor Rheoli Bwyd Bwrdeistref y Bont-faen ymhlith ei bapurau.

Corinne Evans, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg