Howard Lodge, Caerdydd – Maenordy a gerddi i lety myfyrwyr newydd

Safai Howard Lodge unwaith ger Gerddi Howard, sydd gerllaw Heol Casnewydd a chanol dinas Caerdydd. Mae’r ardal bellach yn gartref i lety modern i fyfyrwyr sydd ond wedi’i adeiladu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ogystal â strydoedd preswyl, gyda gweddillion y gerddi yn dal i fod yno. Yn rhan o Ystâd Trydydd Ardalydd Bute (John Crichton-Stuart), mae’n debyg fod enw Howard Lodge, fel Gerddi Howard, yn deillio o enw gwraig yr Ardalydd, Gwendolen Fitzalan-Howard.  Daeth y gerddi i fod ar agor i’r cyhoedd yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod y porthdy, fel y gwelir o’r cynllun yn Ffigwr 1, yn parhau i fod yn aneglur yn y cofnodion.

Ground floor plan

Ffigwr 1 – Cynllun llawr gwaelod a thiroedd Howard Lodge

Mae casgliad Stephenson ac Alexander yn cynnwys ffeil achos manwl ynghylch ocsiwn ac arwerthiant Howard Lodge, a gynhaliwyd ar 10 Awst 1882 (Ffigwr 2). O lun o’r eiddo wedi’i amgáu yn y ffeil, fel y dangosir yn Ffigwr 3, gallwn weld bod y porthdy o faint sylweddol. Yn wir, cofnodwyd i’r ‘tŷ gael ei godi gan y Perchennog yn ddiweddar, ar gyfer ei feddiannaeth ei hun’, ac er na allwn ond dyfalu a fu’r Ardalydd fyw yno erioed, y perchennog oedd Mr Thomas Waring. Dymunai Thomas Waring, peiriannydd poblogaidd a fu’n gweithio yn ardal Caerdydd, newid ei breswylfa. Yn sicr roedd gan y porthdy adnoddau da fel cartref ac roedd mewn lleoliad buddiol i ddyn a oedd yn gweithio: ‘mae wedi’i leoli yn rhan breswyl orau’r dref, o fewn tri munud o gerdded i Orsafoedd Rheilffordd Dyffryn Taf a Rheilffordd Rhymni’. Roedd y tŷ ei hun o ‘gymeriad trawiadol’ ac o ‘ansawdd uwch’, yn addas ar gyfer ‘cyfleustra a chysur’, ac fe’i adeiladwyd gyda ‘dyluniad gothig’. Fel yr ydym wedi gweld o’r blaen o fewn y postiadau blog yma, roedd y duedd ‘gothig’ mewn pensaernïaeth yn gyffredin iawn yn ystod cyfnod diweddar Oes Fictoria.

Auction particulars

Ffigwr 2 – Manylion arwerthiant Howard Lodge

Photograph of Howard Lodge

Ffigwr 3 – Llun o Howard Lodge, diwedd yr 19eg ganrif

Mae’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn y ffeil achos yn cynnwys manylion cyfoethog ar du mewn a thu allan yr adeilad, gyda chynlluniau llawr wedi’u cynnwys ar gyfer pedair llawr y tŷ (Ffigyrau 1 a 4). Doedd y tŷ yn ddim llai na moethus yn ei gyfnod, ac yn cynnwys pantri Tsieina, toiled/WC, ystafelloedd derbyn, ystafell wisgo i wraig y tŷ, ac ystafell filiards. Y tu allan, roedd coetws a stablau, tŷ gwydr yn gyflawn gydag ‘offer dŵr poeth’, a gardd eang, y nodir ei bod wedi’i ‘gosod allan a’i chynnal gan Ardalydd Bute’ ei hun.

Structure of floors

Ffigwr 4 – Cynllun lloriau Howard Lodge

Fel perchennog tir ac eiddo blaenllaw ym Morgannwg, roedd Ardalydd Bute yn berchen ar gyfoeth o breswylfeydd.  Eto i gyd, ymddengys fod Howard Lodge wedi cael sylw gofalus, o ystyried ei fewnbwn i’r gerddi, a dyma oedd cartref helaeth Mr Thomas Waring. Er bod yr ardal bellach yn gartref i lety myfyrwyr, mae’r llun sydd wedi’i gynnwys yn y ffeil achos yn sicr yn gwneud cyfiawnder â’r ‘Lodge’ anghofiedig. Gellir gweld ffeil achos Howard Lodge trwy gasgliad Stephenson ac Alexander o dan y cyfeirnod: DSA/2/79.

Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd

Trychineb Arfau Faversham

Yn aml hanesion bywyd ar y Ffrynt, ac yn y ffosydd yn Ffrainc a Gwlad Belg sy’n llenwi atgofion o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Fodd bynnag, bu i’r miloedd o ddynion a merched a oedd yn gweithio yn y diwydiant arfau ar y Ffrynt Cartref wneud cyfraniad amhrisiadwy at ymgyrch y rhyfel. Er mwyn ateb gofynion y lluoedd arfog, newidiwyd ffatrïoedd ar draws Prydain i fod yn ffatrïoedd arfau. Gyda phrinder gweithwyr oherwydd bod gwŷr wedi gwirfoddoli, ar y dechrau, ac yna eu gorfodi i ymuno â’r lluoedd arfog, cyflogwyd mwy a mwy o ferched yn y diwydiant. Amcangyfrifir yr ymunodd tua thri chwarter miliwn o ferched y gweithlu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn aml yn gweithio mewn swyddi heriol yn gorfforol a pheryglus. Roedd yr amgylchiadau gwaith yn y diwydiant arfau yn arbennig o beryglus. Roedd trin cemegau’n rheolaidd yn dod â pheryglon iechyd sylweddol. Er enghraifft, roedd yr asid a ddefnyddid wrth gynhyrchu TNT yn troi croen yn felyn; arweiniodd hyn at alw merched a oedd yn gweithio yn y ffatrïoedd yn “enethod caneri”. Fodd bynnag, y prif berygl uniongyrchol oedd ffrwydradau posib a dynion a merched yn trin ffrwydron yn ddyddiol. Mae llythyrau rhyfel yn Archifau Morgannwg gan ŵr o Gaerdydd, Harry Gollop, a oedd yn gweithio gyda Chwmni Llwytho Ffrwydron yn Faversham ac a fu’n dyst i un o drychinebau mwyaf y Ffrynt Cartref ym mis Ebrill 1916 pan fu farw dros gant o bobl.

Roedd Harry Gollop yn ugain mlwydd oed pan gyhoeddwyd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd o’n fab i adeiladwr cerbydau, William Gollop, Malefant Place, Cathays yng Nghaerdydd ac aeth i Ysgol Uwchradd Dinas Caerdydd yng Ngerddi Howard. William Dyche oedd yn brifathro arno yn yr ysgol, cyn Bennaeth Ysgol Radd Uwch Halifax, prifathro profiadol iawn a oedd yn uchel ei barch. Pan ddechreuodd y rhyfel, ysgrifennodd Dyche at gyn-ddisgyblion yn gofyn iddynt gadw mewn cysylltiad fel y gallai gasglu manylion eu cyfraniad at yr ymgyrch ryfel. Roedd Harry Gollop yn un o’r llawer a ysgrifennai at William Dyche trwy gydol y rhyfel. Mae’r llythyrau a dderbyniwyd rhwng 1914 a 1916 yn dal i fod ar gael yn Archifau Morgannwg. Maen nhw’n rhoi cofnod o brofiadau rhyfel gwŷr ifainc a oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac ar y Ffrynt Cartref o lygad y ffynnon.

Yn llythyrau cynnar Harry, roedd yn teimlo’n rhwystredig ei fod wedi ei wrthod gan y fyddin. Ond, buan y cafodd gyfleoedd eraill a oedd, o bosibl, yn manteisio’n llawer gwell ar ei sgiliau a’i wybodaeth. Ar 10 Ionawr 1915, ysgrifennodd at William Dyche o Faversham yng Nghaint:

On being failed for the Army in Sept 1914 I returned to College in a very unsettled frame of mind and seized the opportunity of a post as chemist here when I was offered it. We are a large works turning out all kinds of explosives both propulsive and disruptive the familiar ones cordite, T.N.T., Guncotton and nitro glycerine being made in huge quantity. It is real war work and as such is rather strenuous and exacting. Still one feels more comfortable in this work at present time than in any other civilian employment.

The war shows no sign of ending apparently. Still it is remarkable how few are the casualties sustained by those I know. Poor Cohen’s death I heard of the other day. He was an excellent fellow.

My brother was at Suvla Bay and after the withdrawal was transferred to Salonika where he will shortly see some more excitement I fancy. His letters are wonderfully cheery. He had a very narrow escape on the day before the withdrawal. He is a field telegraphist and a shell-burst destroyed the instrument which he was manipulating with his right hand but failed to injure him.

The town and neighbourhood here are very uninteresting at this time of the year though few parts of Kent are finer in summer.

Bu ffatrïoedd powdwr tân yn Faversham ers y 16eg ganrif. Roedd y pŵer dŵr, pren, siarcol ar gael yno a’r dyfrffyrdd y gellid eu defnyddio er mwyn mewnforio sylffwr a chludo’r cynnyrch yn golygu bod Faversham yn safle ardderchog er mwyn cynhyrchu powdwr tân. Yn y 18fed a’r 19eg ganrif, roedd defnyddio ffrwydron er mwyn adeiladu camlesi a rheilffyrdd wedi achosi twf mawr yn y galw amdanynt ac felly agorwyd nifer o ffatrïoedd yn ardal Faversham.

Roedd Harry Gollop yn gweithio mewn ffatri fawr newydd wedi ei hadeiladu ar gorstir yn agos at Faversham. Ar y safle, roedd dwy ffatri a ystyrid fel y rhai mwyaf modern o’u math, yn arbenigo mewn cynhyrchu’r ffrwydron mwyaf pwerus, yn cynnwys TNT a nitro glycerine. Er bod Harry’n ystyried ei waith yn llawer llai peryglus na bywyd yn y fyddin, byddai ei fywyd yn newid yn sydyn ym mis Ebrill 1916. Dechreuai’r llythyr a ysgrifennodd ar 10 Ebrill gyda: I think the story I can tell of recent happenings here will be of interest to you.

You have no doubt read the recent meagre official reports of an explosion at a powder works in Kent. The explosion took place on Sunday 2nd April at a works situated close to ours. It really is an allied company and might be said to be on our premises. It is a department where shells, mines, bombs etc are filled with high explosives.

At noon a fire was detected and the alarm was given. Our fire brigade and many hands were working to extinguish the fire when without warning a store of explosive containing many tons detonated. The explosion wave set off two of our nitro glycerine washing houses situated near and containing a ton of N.G each. Medical aid came quickly to the scene but further explosions had taken place.

The scene was a shambles. Of 200 casualties, 120 were deaths all more or less instantaneous. Ambulance men who assisted say that the sights were ghastly and beyond description.

On Sunday, the little town was stupefied as conveyance after conveyance brought in the wounded from the works 3 miles away. All possible accommodation was made use of. Having spent that terrible day here seeing anxious relatives of employees everywhere I can realise the horror of a colliery disaster.

On Monday I visited the ruined department. Huge craters showed where the holdings had been. Everywhere one could find belongings of the dead. Here stood a burnt out rifle that had belonged to one of the military guard (National Reserve) who had perished. While there a search party dug out a buried corpse. It was really horrible and I shall never forget it.

I knew many of the victims personally and chatted with one – a young fellow of twenty – as we went to work together that morning. I may here say that I was very fortunate as I left for home some few minutes before the fire was detected. Had I remained I should certainly have gone to the scene when the fire was sounded. (Even if I had not done so it would have been miraculous if I had escaped injury from the flying glass which was sent with tremendous force across the laboratory).

The explosions were heard plainly in Essex and it is reported that they were heard at Bury St Edmunds.

The public funeral of 69 of the victims took place on Thursday all being interred in a large trench-like grave. The Archbishop of Canterbury took the graveside service and spoke briefly but well. It was a distressing climax to a terrible disaster.

A touch of irony is given to the whole affair when one considers that this factory is really a comparatively safe place. The explosive used is not easily detonated and generally burns quite quietly with a smoky flame. Of course conditions are everything and it is difficult to guess what the conditions were for the whole place has disappeared.

To theorise would be indiscreet (even if one could) before the official enquiry takes place.

I can assure you that the disaster has moved all of us very deeply though we have not allowed it to get on our nerves.

Faversham apart from this has preserved its monotony but if it can’t provide less ghostly fare for the seeker after excitement then let it remain monotonous.

Page 1_compressed

Page 2_compressed

Page 3_compressed

Page 4_compressed

William Dyche, a ddarllenodd am y digwyddiadau yn Faversham wyth niwrnod yn ddiweddarach, fyddai un o’r cyntaf i glywed am y drychineb yn fanwl, oherwydd bod y Llywodraeth wedi rhwystro adroddiadau am y ffrwydrad gan ofni y byddai’n digalonni pobl.

Er mai ffatri fodern oedd Faversham, ni allai’r camau diogelwch atal 200 tunnell o ffrwydron rhag ffrwydro ar 2 Ebrill 1916. Credir yr achoswyd y drychineb gan wreichion yn cynnau bagiau TNT gweigion a oedd wedi eu pentyrru yn erbyn wal warws. Roedd y frigâd dân a dynion a bechgyn o’r ffatri yn dal i geisio diffodd y tân a symud y ffrwydron o’r warws pan fu’r ffrwydrad. Doedd dim rhybudd nac amser i wagio’r safle a bu farw 115 o bobl, rhai hyd at 100 llath oddi wrth y ffrwydrad a achosodd twll 120 troedfedd o hyd a 20 troedfedd o ddyfnder.

I raddau, roedd hi’n ffodus y bu i’r ffrwydrad ddigwydd ar y Sul. Doedd dim gweithwyr yn y ffatri dros y penwythnos, ac felly doedd y merched a oedd yn gweithio yn y broses gynhyrchu ddim yno. Yn ogystal â hynny, roedd nifer sylweddol o’r ffrwydron wedi methu â thanio. Serch hynny, dyma un o’r trychinebau mwyaf yn y diwydiant ffrwydron. Bu Harry Gollop fyw i adrodd yr hanes, oherwydd y gadawodd ef ychydig amser cyn darganfod y tân. Petasai ef yno ac wedi brwydro gydag eraill i ddiffodd y fflamau, mae’n debyg y byddai’n farw yn y ffrwydrad.

Cydnabyddir bod y rhai a fu’n gweithio yn y diwydiant ffrwydron wedi gwneud cyfraniad mawr at ymgyrch y rhyfel. Ond roedd y gost yn fawr. Er gwaethaf ymdrechion Gweinyddiaeth Arfau Lloyd George i wella amodau gwaith a diogelwch, bu ffrwydradau eraill mewn ffatrïoedd yn Silvertown ym 1917 ac yn Chilwel ym 1918 yn lladd dros 200 o bobl ac anafu llawer mwy.

Wedi diwedd y rhyfel, doedd dim angen cynhyrchu ffrwydron ar raddfa eang. Caewyd ffatri Faversham ym 1919. Mae cofeb ar gyfer y rhai a fu farw ar 2 Ebrill 1916 ym mynwent Faversham.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Llyfr Llofnodion y Prif Nyrs Emily Connell

Ganed Emily Evelina R. Connell yn West Derby, Lerpwl ym 1871. Roedd ganddi dair chwaer a dau frawd. Roedd ei thad, Rowland William Connell, yn fasnachwr ŷd o Cork. Cafodd Emily hyfforddiant fel nyrs, ac yn ôl y cyfrifiad, roedd hi’n gweithio yn Bideford, Dyfnaint ym 1911. Ym 1910 roedd wedi ymrestru yng Ngwasanaeth Nyrsio’r Llu Tiriogaethol Ymgorfforedig (sef yr Embodied Territorial Force Nursing Service [TFNS]).

Sefydlwyd y TFNS ym 1908 fel llu wrth gefn i ddarparu hyd at 23 o ysbytai i ofalu am filwyr y fyddin Diriogaethol neu’r fyddin Wrth Gefn pe bai angen. Pe bai Prydain yn mynd i ryfel, byddai pob ysbyty yn gofalu am 520 o gleifion mewn ysgol neu adeiladau cyhoeddus eraill a wacawyd ar adeg galw i’r fyddin, a byddai gan bob ysbyty 91 o nyrsys hyfforddedig.

Ysbyty Ysgol Gerddi Howard yng Nghaerdydd oedd un o’r 23 o ysbytai a sefydlwyd erbyn diwedd Medi 1914; dan yr enw 3edd Ysbyty’r Gorllewin. Erbyn Tachwedd 1915 nodwyd bod 1100 o welyau ysbyty yn ysbytai adrannol 3edd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin (Western Mail 16 Tachwedd 1915).  Llwyddwyd i ehangu ar y nifer gwreiddiol o welyau a gynlluniwyd drwy feddiannu ysgolion eraill yng Nghaerdydd i’w defnyddio fel ysbytai.  Cafwyd enghraifft o raddau’r gwaith yn adroddiad y South Wales Echo, 4 Gorffennaf 1916:

“Wounded soldiers to the number of 320 from the Front arrived in Cardiff at 4 o clock this afternoon. All the cases were sitting injuries being mostly gunshot wounds and the majority are able to walk unaided to the motors which were waiting. Some of the Tommies, who appear in capital spirits, were wounded as recently as yesterday morning. The soldiers were distributed  to Howardian (40), King Edward VII Hospital (10), Albany Road (70), Splott (50), Lansdowne (75), Ninian Park (75).”

Penodwyd Emily Connell yn Nyrs Staff ym Medi 1914 a bu’n gweithio yn ysbyty Gerddi Howard drwy gydol y rhyfel.  Gellir gweld ei chofnodion o adeg y rhyfel yn yr Archifau Cenedlaethol (W0/399/10514).  I fod yn gymwys i weithio fel Nyrs Staff yn y TFNS, roedd yn ofynnol i nyrsys sifilaidd fod dros 23 oed, gydag o leiaf tair blynedd o hyfforddiant mewn ysbyty neu glafdy. Yn ôl yr unig gofnod sydd wedi goroesi sy’n nodi oedran Emily, roedd hi’n 41 oed ym 1919. Mewn gwirionedd, byddai wedi bod yn 47 oed (neu’n 48 oed o bosibl) pan gafodd ei rhyddhau o’r Llu Nyrsio ym mis Tachwedd 1919. Yn ôl ei hadroddiadau blynyddol, mae’n amlwg yr oedd hi’n nyrs galluog iawn. Nododd y Fonesig Sidney Brown, y Brif Fetron, y canlynol amdani mewn geirda ym 1920:

“Miss Connell has good professional ability. She is a capable surgical and medical nurse and has had charge of the Shell Shock patients in a Section of one of the Base Hospitals. She has shown ability in dealing with these cases on night duty. She is reliable and tactful and had done Charge Sister’s duties with success. Miss Connell has rendered very good service for over five years and was awarded the Royal Red Cross 2nd Class in June 1916 for good work and valuable service.”  

Llofnodwyd llyfr llofnodion Emily Connell gan tua 100 o filwyr a morwyr clwyfedig o 1915 i 1918. Roedd 3edd Ysbyty’r Gorllewin yn trin milwyr a anafwyd yn Ffrainc a Gwlad Belg yn bennaf, ond cafodd llawer o ddynion a anafwyd yn ymgyrch Gallipoli ym 1915 eu trin yno hefyd. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn filwyr o Brydain, Awstralia, Canada a Seland Newydd.  Roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi cyfrannu pennill byr, cartŵn neu fraslun.  Fodd bynnag, roeddent oll yn nodi pa mor ddiolchgar oeddent i Nyrs Staff Connell a’i chydweithwyr am y gofal a gawsant.

Erbyn 1919 roedd Emily Connell yn absennol oherwydd salwch, gyda’i hiechyd yn cael ei fonitro gan fyrddau meddygol rheolaidd. Ymatebodd fel a ganlyn i’r cynnig y gallai adael y TFNS ar 3 Gorffennaf 1919:

“My father died in Feb of this year. I have no home, no means and unable to work. When I was mobilised in Sept 1914 I left my post and went to Cardiff. I was quite fit then. Now I have had to resign the post which they kept open for me until April 30 1919 when I told them I was going to have an operation and it would be some months before I could return. It is not right to cast me adrift after serving form 4 ½ years and being rendered unfit by that service”.  

Er y bu’r apêl honno’n llwyddiannus, rhyddhawyd Emily Connell o’r Llun Nyrsio ar 25 Tachwedd 1919. Ym Mawrth 1920 ysgrifennodd y Fonesig Sidney

“I wish you all happiness in your future life. Her Majesty, Queen Alexandria, has graciously given permission for you to retain your TFNS Badge permanently, as you have completed four years’ good service during the war.”

Bu farw Emily Connell yn Wallasey ym 1944 yn 72 oed.

Tony Peters, Gwirfoddolwr yn Archifau Morgannwg