Consuriwr Gorau Cymru! Mr Charles Oswald

Rwyf newydd orffen catalogio papurau teuluol David Tilley o’r Bont-faen (cyf.: DX666) lle darganfuais rywfaint o ohebiaeth ddiddorol sy’n ymwneud â chyngerdd a roddwyd i filwyr clwyfedig ar 24 Chwefror 1917. Yn ogystal â pherfformiadau cerddorol, roedd y gyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiad gan ‘Gonsuriwr Gorau Cymru’ (South Wales Graphic, 12 Hydref 1906), sef Mr Charles Oswald.

Mae copi o’i repertoire yn rhestru campau hud a lledrith megis ‘Gwniaduron Bendith y Mamau’, ‘Parasol y Bwganod’ ac ‘Yr Iâr a’r Wyau Anweledig’, ymhlith llu o ryfeddodau eraill! Roedd hefyd yn dafleisydd celfydd, gan weithio law yn llaw â ‘Sammy y Ddol Awtomatig Enwog, y mae ei ffraethineb a’i gampau yn peri i chi ruo chwerthin.’ Gan fod hyn wedi ennyn fy chwilfrydedd, penderfynais fynd ati i ddarganfod rhagor o wybodaeth!

Ganed Charles Oswald, sef Charles Oswald Williams, yn Llanelli ym 1864, ond roedd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd erbyn 1891. Roedd yn aelod o Gylch Cyfrin Hud a Lledrith Llundain, ac ym 1904 ymddangosodd ar glawr y cylchgrawn ‘The Sphinx’ fel ‘Consuriwr y Mis’. Roedd ef hefyd yn ymwneud â’r fasnach watshis ac offerynnau cerddorol yng Nghaerdydd.

Cafwyd adroddiad am y gyngerdd yn y Glamorgan Gazette, sydd hefyd yn sôn am anerchiad a chyflwyniad a roddwyd i’r is-gapten F. J. Evans.  Ymddengys fod hyn yn cyfeirio at ddyfarnu’r Groes Filwrol er gwrhydri’r2il Is-Gapten John Frederick Gwyn Evans (1893-1960) o Gatrawd De Swydd Stafford.  Ganed yr Is-gapten Evans yn Llan-fair, y Bont-faen, yn fab i’r Is-gapten  Frederick a Mrs Catherine Evans. Yn ôl yr adroddiad papur newydd:

“Yn ôl adroddiad y fyddin: Pan ataliwyd ein hymosodiad, camodd i’r adwy, a drwy ei ddewrder a chan osod esiampl o wrhydri i’w filwyr, er mai prin iawn oedd y bomiau yr oedd ganddo, ataliodd wrthymosodiad y gelyn. Bravo, Is-gapten Evans, peth da fyddai cael dwsinau o feibion hanner cystal â chi. Dyna fel mae atal y gelyn.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, David Tilley oedd Swyddog Rheoli Bwyd y Bont-faen. O ganlyniad, mae Cofnodion Pwyllgor Rheoli Bwyd Bwrdeistref y Bont-faen ymhlith ei bapurau.

Corinne Evans, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg