Set Newydd o Olwynion

Roedd cael ‘set newydd o olwynion’ yn rhywbeth gwahanol iawn dros 110 o flynyddoedd yn ôl ym 1909. Mae’n debyg ei fod yn cyfeirio at gael yr eitem ‘mae’n rhaid ei chael’ ar y pryd – pâr o’r sglefrau rholio pelen draul newydd a gwell. Roedd y ffasiwn sglefr-rolio wedi bachu yng Nghaerdydd, fel yn nhrefi eraill ledled Prydain.  Mae cynlluniau un o dri llawr sglefr-rolio mawr dan do a adeiladwyd ac a agorwyd yng Nghanol Caerdydd ym 1909 yn Archifau Morgannwg.

binary comment

Agorodd y Llawr Sglefr-rolio Canolog ddydd Gwener 15 Hydref 1909. Roedd ar waelod yr Aes, rhwng Gwesty Oxford a’r gamlas, ar safle lle safai’r Sinema Ganolog yn ddiweddarach.  Roedd yr adeilad cyfan yn 124 troedfedd wrth 70 troedfedd o faint gyda llawr sglefrio o’r fasarnen Americanaidd orau. Gyda’r sglefrau pelen draul Richardson’s a Brampton’s diweddaraf ar gael i’w llogi am chwe cheiniog, mae’n debyg bod y llawr Canolog yn cynnig yr arwyneb sglefr-rolio gorau yn y dref.

Er bod llawer o sôn am sglefr-rolio fel ymarfer corff, i lawer dyma oedd y lle i fod ac i gael eich gweld ynddo. Boed hynny yn cael te prynhawn yn y lolfeydd caffi moethus llawn blodau o gwmpas y llawr sglefrio neu yn ymuno â’r torfeydd gyda’r nos mewn carnifal mygydau gyda cherddoriaeth y gerddorfa breswyl, y llawr rholio oedd canolbwynt cymdeithasol y dref.

Gyda’r tymor yn rhedeg o fis Medi tan fis Mawrth, am nifer o flynyddoedd, y llawr Canolig a’i gystadleuwyr, yr Olympia ar Heol-y-Frenhines a’r Llawr Rholio Americanaidd ar Heol y Porth oedd yn teyrnasu. Ond roedd Caerdydd eisoes wedi profi’r ‘mania’ sglefr-rolio neu ‘rincio’ fel y’i gelwid. Ac fel yn y gorffennol, yn y pen draw, symudodd y brwdfrydedd a’r torfeydd ymlaen at rywbeth arall. Fodd bynnag, tra parodd, mae’n rhaid ei bod yn dipyn o olygfa.

Mae cynlluniau’r Llawr Sglefr-rolio Canolig ar yr Aes yn Archifau Morgannwg, cyf. BC/S/1/17117 a DAB/P/30/1-6. 

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Mynd i’r Ysgol yn Ystod Blitz Caerdydd

Ar 3 Medi 1939, cyhoeddodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd, Neville Chamberlain mewn darllediad radio fod y DU mewn stad o ryfel gyda’r Almaen. Daeth blynyddoedd o densiwn rhyngwladol i benllanw pan oresgynnodd yr Almaen Wlad Pwyl ddeuddydd cyn hynny – gweithred sydd wedi’i phriodoli fel un a ddechreuodd un o’r rhyfeloedd mwyaf gwaedlyd a welodd y byd erioed.

Ni chymerodd yn hir i’r Almaenwyr nodi Caerdydd yn borthladd strategol, diolch yn arbennig i’w chyflenwad glo digonol, a rhoddwyd y dasg i’w hawyrlu Luftwaffe gynnal cyrchoedd a fyddai’n cael eu hadnabod fel Blitz Caerdydd. Syrthiodd dros 2,000 o fomiau ar Gaerdydd dros gyfnod o bedair blynedd gan arwain at golli 355 o fywydau – lawer ohonynt yn sifiliaid, yn ogystal ag achosi nifer o anafiadau a difrod strwythurol enfawr i’r ddinas.

Mae gan Archifau Morgannwg gasgliad o lyfrau cofnodi ysgolion sy’n cynnig cipolwg diddorol ar fywyd ysgol yn ystod y Blitz.

Ar Fedi 4, anfonwyd neges o gwmpas ysgolion mewn ymateb i’r newyddion oedd yn dod o Downing St:

EC-1-12 p76

Since a state of War was declared by the Prime Minister at 11am on Sunday 3rd September 1939, you are instructed that all schools be closed.

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, roedd yr ysgolion ond ar gau am gyfnod byr ac o fewn wythnos i ddatgan y rhyfel roedd rhai ysgolion eisoes wedi ailddechrau gwersi. Mae cofnodion Ysgol Fabanod Albany Road yn manylu ar rai o’r mesurau a gymerwyd mewn ymateb i’r rhyfel, er mwyn sicrhau diogelwch y plant. Mae’r cofnodion yn sôn am:

[The] storing of Gas Masks… [26 Medi 1939]

[The] provision of school Air Raid Shelters… [cyfeiriad cyntaf i’w ddefnydd ar 9 Gorffennaf 1940]

Window protection in schools… [23 Gorffennaf 1940]

Roedd storio masgiau nwy mor gynnar â Medi 1939 yn rhagddarparu gan fu rhai misoedd nes i’r cyrch awyr cyntaf gael ei gofnodi – ym mis Gorffennaf 1940, pan fu’n rhaid i blant geisio diogelwch mewn Llochesi Cyrch Awyr pwrpasol. Cymaint oedd y brys pe bai cyrch awyr ar fin digwydd fel bod pennaeth Ysgol Fabanod Radnor Road wedi sôn am sut roedd merched a oedd ar yr iard chwarae yn ystod Ymarfer Cyrch Awyr i gyd yn llwyddo i gyrraedd …dan gysgod [o fewn] 1 munud i’r  rhybudd cychwynnol, a disgrifiodd hyn fel rhywbeth …llwyddiannus iawn.

Roedd Jean Dutfield yn fyfyrwraig yng Nghaerdydd yn ystod Blitz Caerdydd ac yma mae’n adrodd am ei phrofiad:

Every day we had to carry our gas masks to school in a case which we hung over our shoulder but we didn’t realise the significance of this, everything we did seemed quite normal to us. In the playground there were long brick shelters with slatted benches inside. The shelters smelled slightly damp. If the air raid siren sounded when we were in school, we all filed into the shelters until the all clear sounded. Jean Dutfield (Marsh cynt), Tredelerch, Caerdydd.

Gas mask

Roedd rhai masgiau nwy, fel yr un yma, yn lliwgar fel bod y plant yn fwy cyfforddus yn eu gwisgo. Roeddent hefyd yn ysgafnach nag anadlyddion arferol. [BBC – A History of the World]

Roedd ychwanegu amddiffynfeydd at y ffenestri yn atgyfnerthu adeilad yr ysgol ei hun ac mae cylchlythyr a anfonwyd yn dangos y byddai hyn wedi bod yn weithdrefn arferol yn ysgolion Caerdydd. Roedd hefyd yn weithdrefn angenrheidiol, fel mae cofnod gan Ysgol Fabanod Grangetown Sant Padrig yn ei nodi:

EC-25-2 p402

As a result of the recent bombing, several panes of glass have been broken and one window pane is demolished.

 Ac mae’n ymddangos bod y cyhoedd yn hyderus yn y mesurau diogelu amddiffynnol, gan fod y Pennaeth yn sôn am bresenoldeb gwych:

EC-1-2 p348 part 1

EC-1-2 p348 part 2

Air Raids over the city, school took cover in Air Raid Shelters from 9.45am to 11am and again from 1.45pm-2.10pm. School visited by Director of Education WJ Williams Esq MA, each class visited and Class 1a had 100% attendance. School visited to see the effect upon children of Air Raids-Percentage that day 90% attendance. [2 Medi 1940].

Mae’n siŵr y byddai’r gwydnwch a ddangoswyd gan yr ysgol wedi creu argraff ar y Cyfarwyddwr Addysg W.J. Williams, ar ôl gweld cofnod o bresenoldeb llawn ym mhob dosbarth. Mae p’un a oedd y cyflwyniad di-fai yn gyd-ddigwyddiad lwcus neu’n gyflwyniad bwriadol yn amherthnasol gan fod y pennaeth yn nodi presenoldeb cyffredinol yr ysgol yn 90% – sy’n ffigwr cryf iawn o ystyried yr amgylchiadau. 

Fodd bynnag, roedd presenoldeb yn aml yn amrywio wrth i’r gwrthdaro fynd yn ei flaen, ac amharwyd yn arbennig arnynt yn sgil ymosodiadau trwm. Dyma gofnod gan Ysgol Fabanod Splott Road: Effeithiwyd yn ddifrifol ar bresenoldeb y bore yma oherwydd Cyrch Awyr, ac mae’n priodoli achosion pellach i rybuddion cyrchoedd awyr yn ystod y nos. Yn naturiol, roedd diogelwch y plant o’r pwys mwyaf ac roedd rhieni’n aml yn arfer eu disgresiwn eu hunain wrth benderfynu anfon eu plant i’r ysgol, er gwaetha’r cynlluniau wrth gefn a oedd wedi’u rhoi ar waith.

Ac er mwyn cydnabod ymhellach botensial dinistriol cyrchoedd awyr, penderfynwyd canslo dosbarthiadau’n gyfan gwbl pe bai’n cael ei ystyried yn gam gweithredu angenrheidiol.

EC-1-2 p349

School closed morning and afternoon session on September 5th 1940, owing to delayed action bombs in the vicinity and the military authorities considered it unsafe for children to be on school premises.

Ni chafodd y gwaith a wnaed mewn ysgolion i ateb yr heriau ei anwybyddu.  Mewn ymgais i gydnabod ymdrechion staff a disgyblion, dosbarthwyd gohebiaeth i ysgolion yng Nghaerdydd ar 14 Hydref 1940 yn mynegi… gwerthfawrogiad y Pwyllgor o’r dewrder a ddangoswyd gan yr holl athrawon a phlant yn ystod y Cyrchoedd Awyr diweddar.  Mae cofnod yn llyfr cofnodion Ysgol Ferched Heol Albany yn manylu ar ymdrechion pellach i gynnal morâl ar ffurf pecynnau gofal a anfonwyd gan y Gymdeithas Brydeinig dros Gymorth mewn Rhyfel (Y British War Relief Society (UDA)).

EC-1-12 p98

Forty two children who have suffered as a result of Enemy Raids, today received gifts sent by the children of America, under the auspices of the British War Relief Society (USA).

Darparodd y Gymdeithas Brydeinig dros Gymorth mewn Rhyfel (BWRS) UDA gymorth dyngarol fel rhan o’r ymdrech i liniaru effeithiau’r rhyfel. Byddai’r pecynnau a anfonwyd ganddynt yn aml yn cynnwys rhoddion fel losin a theganau a gafodd eu rhannu ymhlith y plant. Gweithredodd Ysgol Fabanod Kitchener Road bolisi o ddarparu’r eitemau mwyaf dymunol i’r rhai yr ystyriwyd mai nhw oedd y rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf gan y rhyfel.

Gift box

Mae Blwch o Roddion gan y Gymdeithas Brydeinig dros Gymorth mewn Rhyfel yn Amgueddfa Abertawe yn enghraifft o’r math o flychau anrhegion y byddai’r plant wedi’u derbyn. Roedd yr un arbennig hwn yn cynnwys melysion a gynhyrchwyd gan Henry Heide Inc.

Cynhaliwyd ymdrechion y BWRS drwy gydol y rhyfel, gyda chyfeiriadau lluosog mewn llyfrau cofnodion o’r cymorth a ddarparwyd dros gyfnod o dair blynedd o leiaf.

Ar ôl chwe blynedd, roedd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (Diwrnod VE) yn nodi’r cadoediad a diwedd ar ryfel a oedd wedi arwain at un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes Prydain. Nodwyd 8 a 9 Mai 1945 yn wyliau cyhoeddus i ddathlu … terfynu gelyniaeth drefnedig yn Ewrop, a lledodd llawenydd drwy’r wlad. Er gwaethaf yr anawsterau dirifedi ac yn wyneb adfyd digynsail, roedd ysgolion wedi bod yn benderfynol o Gadw’n Dawel a Chario Ymlaen.

Rasheed Khan, Hyfforddai Corfforaethol – Cynorthwy-ydd Cofnodion

Adnoddau Archifau Morgannwg:

Llyfrau log ysgol, cyfeiriadau EC1/2, EC21/8, EC1/12, EC25/2, ag EC30/1.

 

Cyfeiriadau a chydnabyddiaethau: 

What Were the Main Causes of World War II? – WorldAtlas

Cardiff’s ‘worst night’ of Blitz remembered 70 years on – BBC News

Jean Dutfield (nee Marsh) – BBC – WW2 People’s War – Childhood Memories of World War 2 by Jean Dutfield

BBC – A History of the World – Object : Mickey Mouse Children’s Gas Mask

British War Relief Society Gift Box (swanseamuseum.co.uk)

 

Gorsaf Bwmpio, Heol Penarth, Caerdydd

Adeiladwyd yr Orsaf Bwmpio ar Heol Penarth gan Beiriannydd y Ddinas, William Harpur, yn rhan o brosiect i greu prif garthffos newydd ar gyfer ardal orllewinol Caerdydd a oedd yn tyfu.

D1093-1-1 p1

Braslun Mary Traynor o’r Orsaf Bwmpio

[Image: Braslun Mary Traynor o’r Orsaf Bwmpio]

Cwblhawyd y prosiect dros bedair blynedd gan gostio £200,000. Roedd tua £16,000 ohono’n ymwneud â’r gwaith o adeiladu’r orsaf bwmpio.  Cafodd y cynllun ei ddechrau ym mis Mai 1910 mewn seremoni lle derbyniodd yr Arglwydd Faer, yr henadur John Chappell, a nifer o gynghorwyr a swyddogion eraill, yr her i fynd i lawr twll archwilio a cherdded mwy na thri chwarter milltir drwy dwnnel y garthffos

Credir i’r adeilad, oedd yn drawiadol oherwydd ei waliau brics melyn, y brics coch ym mwâu’r ffenestri a’r cribau to gwydr, weithredu yn unol â’i swyddogaeth wreiddiol tan y 1970au, pan gafodd gorsaf bwmpio newydd ei hadeiladu y tu ôl iddo.   Wedyn ni chafodd yr adeilad gwreiddiol ei ddefnyddio am nifer o flynyddoedd nes iddo gael ei gaffael ar ddiwedd y 1980au gan Mr Adrian Roach, a’i haddasodd i’w ddefnyddio fel canolfan hen bethau.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/1)
  • Weekly Mail, 26 Mai 1906
  • The Cardiff Times, 28 Mai 1910
  • Western Mail, 11 Tachwedd 1987
  • South Wales Echo, 20 Hydref 1989
  • Western Mail, 30 Ebrill 1991
  • http://www.coflein.gov.uk

Swyddfeydd Peilota, Swyddfeydd Dociau Sych Mount Stuart a Gwesty Windsor, Stryd Stuart, Caerdydd

D1093-1-1-16

Mae braslun Mary Traynor yn darlunio tri adeilad a oedd yn bwysig i ddatblygiad Caerdydd fel porthladd.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maent i gyd wedi’u haddasu fel bwytai.  Am flynyddoedd lawer roedd prif bwnc y braslun yn gwasanaethu  fel swyddfa Awdurdod Peilota Caerdydd.  Mae Gwesty’r ‘Big Windsor’ ar y dde bellaf, tra adeiladwyd yr adeilad brics coch y tu ôl iddo yn wreiddiol fel swyddfeydd ar gyfer Dociau Sych Mount Stuart gerllaw.  Mae hanes cynnar y tri adeilad yn aneglur, ac ni chanfuwyd unrhyw ffynonellau sylfaenol i ddogfennu’r gwaith o’u hadeiladu’n wreiddiol.

Mae un ffynhonnell yn awgrymu y gallai’r adeilad Peilota fod wedi’i adeiladu – efallai yn y 1860au – fel stabl ar gyfer ceffylau a oedd yn cael eu defnyddio ar Gamlas Morgannwg.  Ond erbyn canol y 1870au, roedd wedi dod yn ganolfan ar gyfer rheoli gwaith Peilotiaid y Sianel yng Nghaerdydd ac ymddengys iddo aros felly nes i swyddogaethau peilota gael eu trosglwyddo i awdurdodau harbwr cymwys (Cymdeithas Porthladdoedd Prydain mewn perthynas â Chaerdydd) dan Ddeddf Peilotiaeth 1967.

Dywedir y cafodd Gwesty Windsor ei adeiladu ym 1855 ac fe’i rhestrwyd yn sicr mewn cyfeiriadur 1858.  Ar un adeg fe’i hestynnwyd ymhellach ar hyd Stryd Stuart, gyda thŷ coetsys, iard a stablau ar y safle sydd bellach yn cael eu meddiannu gan Fflatiau Harbour Point.  Pwysleisiodd hysbyseb gynnar ei leoliad yn ‘wynebu slip Steam Packet’, sy’n awgrymu mai ei nod oedd denu teithwyr i dde Cymru a’r rhai oedd yn teithio oddi yno.  Fe’i gelwir yn ‘Big Windsor’ i’w wahaniaethu o’r Windsor Arms gerllaw, dywedir iddo ddod yn ddiweddarach yn hoff fan cyfarfod i gymuned fusnes Butetown.  Mae plac wrth ochr y brif fynedfa yn coffáu Abel Magneron (1890-1954), cogydd o Ffrainc a ddaeth â bwyd haute yma yng nghanol yr 20fed ganrif, a dywedir iddo wneud y gwesty yn gyrchfan o ddewis i berfformwyr enwog pan oeddent yng Nghaerdydd.

Wedi’u sefydlu gan Ardalydd Bute, ac wedi’u henwi ar ôl ei gartref hynafol yn yr Alban, gellir gweld hen Ddociau Sych Mount Stuart ochr yn ochr â hen adeilad swyddfeydd y cwmni, y credir ei fod yn dyddio o’r 1880au.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: