Eleni rydym yn dathlu 75 mlwyddiant Archifau Morgannwg. 1989 oedd hanner can mlwyddiant yr hyn a elwid yn Archifdy Morgannwg bryd hynny. Dyma’r erthygl sy’n nodi’r dathliad hwnnw, a luniwyd gan Archifydd y Sir Mrs Patricia Moore ar gyfer Adroddiad Blynyddol 1989:
Sefydlwyd Archifdy Morgannwg gan Gyngor Sir Morgannwg ym 1939, a phenodwyd Emyr Gwynne Jones fel yr archifydd sirol llawn amser cyntaf yng Nghymru – cyn hynny, dim ond Sir Fynwy a oedd wedi gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer gofalu am ei gofnodion, drwy benodi ymgynghorydd ym 1938.
Ar ôl y rhyfel, aeth Miss Madeleine Elsas, sef olynydd Jones, ati’n egnïol i sefydlu cronfa o archifau yn y sir drwy wahodd deunyddiau drwy rodd neu gyfraniad. Heddiw, mae Cydwasanaeth a ariennir gan dair sir newydd Morgannwg yn cynnwys y prif swyddfa yn Neuadd y Sir, Parc Cathays, Caerdydd, Swyddfa Gofnodion Ardal yn Neuadd Sir Gorllewin Morgannwg, Abertawe, ac Ystorfa Gofnodion yn Neuadd Sir De Morgannwg yng Nglanfa Iwerydd, Caerdydd. Mae dwy ystafell chwilio brysur, un yng Nghaerdydd ac un yn Abertawe, yn darparu ar gyfer dros 6,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, a chedwir rhai casgliadau mewn hanner dwsin o storfeydd mewn mannau eraill. Mae’r casgliad cyfan yn llenwi rhwng pum a chwe milltir o silffoedd. Yn anffodus, ni chafwyd cynnydd cyfatebol yn nifer y staff. Mae gan Forgannwg naw archifydd. Mae’n bosibl fod hyn yn swnio fel nifer gweddol, ond nid felly ydyw o gymharu â’r 12 yn Hampshire, 15 yng Nghaint ac 17 yng Ngorllewin Swydd Efrog. At hynny, rhennir y staff rhwng y tair prif storfa.
Fodd bynnag, yn hytrach na dathlu ein cyflawniadau, bu’n rhaid i ni gymryd camau brys yn ystod y flwyddyn. Yn ystod gaeaf 1988/89 cafwyd lleithder cynyddol mewn nifer o’r ystafelloedd diogel. Ofer fu’n hymdrechion i reoli’r lleithder hwnnw. Ar ôl galw swyddogion Cyngor Morgannwg Ganol i archwilio seiliau’r adeilad, canfuwyd bod ein problemau’n deillio o lefelau dŵr uchel o dan Neuadd y Sir. Bu’n rhaid i ni ddefnyddio pob aelod o staff a oedd ar gael i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn, ac o ganlyniad i hynny bu’r ystafell chwilio gyhoeddus yng Nghaerdydd ar gau am bedwar mis. Bu’n rhaid archwilio, logio a symud dros filltir o gofnodion, codi gorchuddion y lloriau a datgymalu’r silffoedd. Mae gwaith Cyngor Morgannwg Ganol i fynd i wraidd y broblem a’i rheoli yn mynd rhagddynt o hyd. Yn ogystal, rydym yn parhau i fonitro’r casgliadau a gedwir o hyd ym Mharc Cathays, er mwyn sicrhau nad yw’r amodau andwyol yn peri difrod iddynt. Er i ni fwynhau cacen pen-blwydd i nodi’r achlysur, nid oedd fawr o awydd gennym am ddathliadau eraill, ac yn hytrach na threulio amser ar baratoi cyhoeddiadau newydd a gweithgareddau eraill, bu’n rhaid i ni dreulio ein hamser yn gwneud gwaith brys yn yr ystafelloedd diogel. Rydym yn dal i geisio ymdrin â’r ôl-groniad o ohebiaeth a cheisiadau a gafwyd yn ystod y cyfnod roedd y swyddfa ar gau, ac nid yw’r dogfennau a symudwyd ymaith ar gael i’r cyhoedd o hyd. Mae’r contractwyr yn dal i archwilio’r sefyllfa, ac mae rhywfaint o waith adfer yn mynd rhagddo eisoes.
Dewiswyd ‘dŵr’ gan staff fel thema eu cyfraniadau i’r Adroddiad hwn cyn i’r problemau lleithder ddod i’r amlwg.Prin oeddem wedi sylweddoli i ba raddau y byddai dŵr yn effeithio ar Archifdy Morgannwg ym 1989.