Eglwys Annibynnol Star Street, ar Copper Street, Caerdydd

Wrth i Gaerdydd dyfu tua’r dwyrain yn ystod canol y 19eg ganrif, sefydlodd Eglwys Annibynnol Heol Charles gangen o’i hysgol Sul yn Comet Street, Adamsdown, yn ystod y 1860au.  Maes o law, arweiniodd hyn at benderfyniad i sefydlu eglwys newydd i wasanaethu’r ardal.  Agorwyd Eglwys Annibynnol Star Street sydd, er gwaethaf ei henw, wastad wedi’i lleoli ar Copper Street, ym mis Mai 1871.

D1093-1-3 p1

Ym 1972, unodd yr Annibynwyr â Phresbyteriaid Lloegr a daeth capel Star Street yn rhan o’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig.  Caeodd y drysau ym 1985 ac mae braslun Mary Traynor yn dyddio o tua’r adeg hon.  Ailagorodd yr adeilad wedyn ym 1988, fel Teml Sicaidd Gurdwara Nanak Darbar.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor Collection (cyf.: D1093/1/3)
  • Williamson, John: History of Congregationalism in Cardiff and District
  • Childs, Jeff: Roath, Splott and Adamsdown – One thousand Years of History

Ysgol Sant Pedr, Caerdydd

Cyn y 1840au, go denau oedd poblogaeth Gatholig Caerdydd.  Yna bu cynnydd sylweddol yn y niferoedd oherwydd y twf yn sgil mewnfudwyr o Iwerddon.  Eglwys Dewi Sant (rhagflaenydd y gadeirlan bresennol) oedd yr eglwys Gatholig gyntaf yn y dref.  Wedi’i chodi ym 1842, roedd ar safle sydd bellach o dan Arena Motorpoint.  Erbyn 1861, roedd dros 10,000 o Gatholigion yng Nghaerdydd – traean o’r boblogaeth gyfan – ac roedd yr angen wedi codi am ail eglwys.  Caffaelwyd safle o Ystâd Homfray ac agorwyd Eglwys Sant Pedr, y Rhath ar 24 Medi 1862.

D1093-1-2 p1

Sefydlodd yr offeiriad lleol, y Tad Fortunatus Signini, Ysgol Sant Pedr ar ei gwedd gyntaf ym 1868.  Hen gapel Wesleyaidd oedd ei chartref, yn agos i’r eglwys yn yr hyn sydd bellach yn Bedford Place.  Fodd bynnag, roedd angen safle fwy.  Gyda chymorth Ardalydd Bute, cafwyd safle yn St Peter’s Street, ar draws y ffordd o’r eglwys ac ychydig i’r gorllewin ohoni.  Datblygwyd cynlluniau gan bensaer o Gaerdydd, W. P James, ac fe’u cymeradwywyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar 27 Hydref 1871.  Gydag un ystafell ddosbarth i ddechrau a oedd yn mesur 60 troedfedd (18 metr) o hyd a 30 troedfedd (9 metr) o led, agorodd yr ysgol newydd ar 1 Awst 1872.  Fe’i hestynnwyd ym 1902, i ddarparu ystafelloedd dosbarth ychwanegol; roedd merched bellach yn cael eu haddysgu ar y llawr gwaelod a bechgyn ar y llawr cyntaf.  Dyblwyd maint yr ysgol gydag estyniad arall ym 1928 a chafodd cynllun yr ystafelloedd yn yr adeilad hŷn ei aildrefnu hefyd.  Ym 1977, symudodd Ysgol Sant Pedr i hen safle Ysgol Uwchradd Caerdydd yn Southey Street.  Dymchwelwyd yr adeilad ar St Peter’s Street ac mae’r lleoliad bellach yn safle i ddatblygiad o fflatiau, sef Richmond Court.

Mae braslun Mary Traynor yn dangos yr adeilad gwreiddiol ym 1871, fel yr ymddangosai ym 1982.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/2)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ysgol Gatholig arfaethedig, Ysgol Gatholig Sant Pedr, St. Peter’s Street, 1871 (cyf.: BC/S/1/90594)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ychwanegiadau i Ysgol Gatholig Sant Pedr, 1902 (cyf.: BC/S/1/14822)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer newidiadau ac ychwanegiadau i ysgol, Ysgol Gatholig Sant Pedr, St. Peter’s Street, 1928 (cyf.: BC/S/1/25801)
  • Archesgobaeth Caerdydd: A History of St Peter’s Parish, Roath, Cardiff 1854-2001

Eglwys y Santes Fair, Caerau, Caerdydd

Wedi’i lleoli o fewn gweddillion bryngaer o’r Oes Haearn, credir bod Eglwys y Santes Fair yn dyddio o ail hanner y 13eg ganrif – pan y gallasai fod wedi disodli adeilad cynharach.  Ym 1801, roedd yn gwasanaethu poblogaeth o 65; erbyn 1959 roedd ei phlwyf yn cynnwys Trelái i gyd – dros 27,000 o bobl.

D1093-1-1 p19

Wrth i Drelái ddatblygu, adeiladwyd eglwysi newydd – fel capeli anwes i ddechrau – mewn mannau mwy hygyrch.  Roedd y defnydd anaml ohoni a’i lleoliad cymharol anghysbell yn golygu y dioddefodd Eglwys y Santes Fair o fandaliaeth sylweddol.  Erbyn diwedd y 1950au, roedd hi bron yn adfail, ond trwy waith ailadeiladu a gychwynnwyd gan y curad, y Parch. Victor Jones, fe’i hadferwyd i’w defnyddio eto ym 1961.  Yn y 1970au, fodd bynnag, daeth y defnydd o’r Eglwys at ddiben addoli i ben a throsglwyddwyd y berchnogaeth arni i’r awdurdod lleol.

Ers i Mary Traynor ei braslunio ym 1987, mae’r adeilad unwaith eto wedi mynd yn adfail heb do.  Yn 2016, roedd bwa’r gangell ar ei draed o hyd, ynghyd â’r tŵr a oedd wedi dymchwel yn rhannol, ond roedd pob wal arall wedi dadfeilio i’r graddau nad oeddent yn cyrraedd yn uwch na gwasg rhywun.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: