Alfred Thomas Griffiths

Cefndir

Ym mis Chwefror 2014 mewn erthygl ar gyfer Wales Online gan Siôn Morgan roedd yr hanes am ddyddlyfr ffotograffau milwr, Alfred Griffiths, a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf (http://bit.ly/1EXhG0c). Daethpwyd o hyd i’r dyddlyfr mewn siop elusen yng Nghernyw gan Robert Aindow. Gan ddefnyddio’r manylion yn y dyddlyfr a gwybodaeth o gyfrifiad 1911, canfu Robert Aindow mai Alfred Thomas Griffiths oedd y milwr, mab David a Rosetta Griffiths, 13 Comet Street, Caerdydd. Yn dilyn apêl am ragor o wybodaeth am Alf, mewn erthygl arall ar 7 Hydref (http://bit.ly/1K08QTM), cadarnhawyd bod y Dyddlyfr wedi’i brynu gan hanesydd o Gaerdydd, Derek Gigg, o Lanisien. Roedd Derek wedi gallu ychwanegu at y wybodaeth am wasanaeth Alf yn y rhyfel gyda Chatrawd Dyfnaint a gwnaeth apêl am ragor o wybodaeth.

Roath Road Roamer

Mae copïau o ‘The Roath Road Roamer’, a gyhoeddwyd o 1914-19 gan Eglwys Wesleaidd Roath Road ac a gedwir gan Archifau Morgannwg, wedi ychwanegu mwy o wybodaeth at stori Alf. Gan ddefnyddio gwybodaeth yn seiliedig ar lythyrau a ffotograffau gan ddynion a merched yn y lluoedd arfog a newyddion a gafwyd gan filwyr ar wyliau o’r fyddin, roedd ‘The Roath Road Roamer’ yn olrhain gwasanaeth rhyfel 460 o ddynion a 19 o ferched o Gaerdydd. Roedd y cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi bob mis, a’i ddosbarthu drwy’r ardal a’i anfon dramor.

Roedd Alf Griffiths yn ‘Roath Roamer’ ac mae’r cylchgrawn yn sôn am ei brofiadau yn ystod y rhyfel, yn ogystal â phrofiadau’r dynion eraill o ardal y Rhath a fu’n brwydro ochr yn ochr ag ef yn Ffrainc. Mae hefyd yn dilyn brwydr bersonol Alf i wella yn sgil y clwyfau a gafodd ym Mrwydr y Somme ym 1916 tan iddo gael ei ryddhau o’r Fyddin ym 1918.

Gwelwyd hanes Alfred Thomas Griffiths yn ‘The Roamer’ am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 1914.  Roedd ei enw wedi’i gynnwys ar Restr y Gwroniaid y sawl oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog a oedd ar gofrestr yr Ysgol Sul gynt. Mae hyn yn cadarnhau, ar gychwyn y rhyfel, bod y teulu Griffiths yn dal i fyw yn 13 Comet Street a bod Alf wedi ymuno ag 11eg Bataliwn Catrawd Dyfnaint (Cyf.2, t.7).

Byddai teulu Alf, felly, yn fwy na thebyg wedi bod wedi mynychu Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road ar gornel Heol y Plwca a Heol Casnewydd (Roath Road gynt). Ynghyd â theuluoedd eraill Comet Street, gan gynnwys y teulu Townsend ar 40 Comet Street, byddai Alf wedi mynychu gwasanaethau ac Ysgol Sul yr Eglwys. Mae cofnodion Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road a gedwir yn Archifau Morgannwg yn cadarnhau bod hyd at 850 o blant yn mynychu’r Ysgol Sul bob wythnos, a’u goruchwylio gan 40 o athrawon a 50 o gynorthwywyr (DWESCR299). Mae ‘The Roamer’ yn cynnwys manylion am dri aelod arall o’r teulu Townsend a fu’n brwydro yn y Rhyfel – Fred, a ymunodd y Fyddin, a’i chwiorydd Edith a Gladys, a ymunodd â Chorfflu Cynorthwyol y Frenhines Mary yn ddiweddarach yn ystod y Rhyfel.  Mae’n debygol fod Fred ac Alf yn ffrindiau gan fod ‘The Roamer’ yn nodi eu bod ill dau yn aelodau o Frigâd y Bechgyn yr Eglwys (14eg Cwmni Caerdydd) a bod y ddau wedi ymrestru’n gynnar yn y Rhyfel gyda Chatrawd Dyfnaint.  Fodd bynnag, yn y ffotograff o Alf a welir yn ‘The Roamer’ ym mis Chwefror 1915 (Cyf.4, t.4) fe’i gwelir gyda thri o recriwtiaid eraill Catrawd Dyfnaint, yr Is-gorporal John W Laidlaw, y Preifat James Brixton a Phreifat Herbert J Morrisey.

Alf Griffiths group photo

Yn rhyfedd nid yw ‘The Roamer’ yn nodi beth ddigwyddodd i John Laidlaw. Fodd bynnag, rydym yn gwybod fod Alf, Jim Brixton a Bert Morrisey hefyd yn ffrindiau agos. Roeddent oll wedi bod yn aelodau o’r un dosbarth Ysgol Sul yn yr eglwys yn Roath Road dan Mr Haime (Cyf.2, t.7) ac wedi bod yn aelodau o Frigâd Bechgyn yr Eglwys.  Rydym bron yn bendant mai 14eg Cwmni Bataliwn Caerdydd – Cwmni Roath Road – sydd i’w weld yn y ffotograff yn nyddlyfr ffotograffau Alf Griffiths o orymdaith Brigâd y Bechgyn.

Boys Brigade

Roedd y Frigâd yn cael cefnogaeth dda gyda bron i 50 aelodau yn perthyn iddi ar unrhyw adeg. Roedd rhaid i’r bechgyn fynychu Dosbarth Beibl ar foreau Sul a chyfarfodydd bob noson o’r wythnos ar gyfer ymarfer y band a driliau, gymnasteg a chymorth cyntaf. Yn ddynion ifanc roeddent wedi dal gafael yn eu cysylltiadau â’r Eglwys ac ar gychwyn y rhyfel Bert Morrisey oedd y Staff-ringyll ym Mrigâd y Bechgyn (Cyf.25, t.2). O ystyried eu bod wedi ymuno ag 11eg Bataliwn Catrawd Dyfnaint mae’n debygol iawn eu bod wedi gwneud y penderfyniad i ymrestru ym Myddin Newydd Kitchener gyda’i gilydd. Roedd cylchgrawn yr Eglwys yn falch iawn o gyhoeddi bod y pedwar yn ‘Roath Roamers’ ac mae’r pennawd ar gyfer y llun yn disgrifio’r recriwtiaid newydd fel:

‘Four Fine Fellows who have all done well in the 14th Cardiff Company of the Boys’ Brigade and who are now serving King and Country….’

Roedd y Brixtons yn deulu lleol o Treharris Street, Y Rhath er bod Jim, erbyn 1914, yn byw yn Thesiger Street. Roedd y tri mab yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Roedd eu chwaer, Dorothy, yn helpu gyda’r Ysgol Sul yn Roath Road (DWESCR299) gan ymuno â Byddin y Tir yn ddiweddarach. Ymddangosodd yn ‘The Roamer’ fel un o’r ‘Lady Roamers’.  Yn y cyfnod ar ôl tynnu’r ffotograff, mae’n debygol fod y pedwar gŵr ifanc wedi cael eu gwahanu, oherwydd ym mis Mai 1915, cyhoeddodd ‘The Roamer’ fod Jim Brixton yn aelod o 2il Fataliwn Catrawd Dyfnaint a’i fod wedi cael ‘…yr anrhydedd o fod y dyn cyntaf o Roath Road ym Myddin Newydd Kitchener i fynd i’r ‘Ffrynt” (Cyf.7, t.6).

Erbyn mis Ebrill 1915, nodwyd mewn adroddiad yn ‘The Roamer’ fod Bert ac Alf wedi cael eu dyrchafu i swydd Is-gorporal (Cyf.6, t.8) ac erbyn mis Tachwedd 1915 roedd y ddau ‘ar Flaen y Gad’ ac roedd Bert newydd gael ei ddyrchafu i swydd Corporal (Cyf.13, t.8). Roeddent hefyd wedi cael eu symud i 9fed Bataliwn Catrawd Dyfnaint. Yn y cyfnod yn arwain at y cyrch ar y Somme ym mis Gorffennaf 1916, cafodd Alf ei ddyrchafu i swydd Corporal a Bert i swydd Rhingyll (Cyf.20, t.8). Mae’n bosibl eu bod wedi dod ar draws Fred Townsend a oedd wedi dychwelyd i’r 9fed Bataliwn ar ôl gwella yn dilyn cael ei anafu (bwled drwy’r glun) ym mis Hydref 1915 (Cyf.20, t.8 a Cyf.13, t.3).  Roedd Jim Brixton yn y Ffrynt yn ystod y cyfnod hwn hefyd ar ôl iddo ddychwelyd i 2il Fataliwn Catrawd Dyfnaint (Cyf.20, t.5).

Dechreuodd Brwydr y Somme ar 1 Gorffennaf 1916 ac mewn adroddiad yn ‘The Roamer’ nodwyd bod Alf wedi’i anafu’n wael ar ddiwrnod cyntaf y cyrch wrth wasanaethu gyda Magnel Morter Ffosydd 20/1. Ym mis Awst 1916, fis yn ddiweddarach, cyhoeddodd ‘The Roamer’ lythyr a ysgrifennwyd gan Alf yn ei wely mewn ysbyty yn Aberdeen:

Vol22 p3

‘I am wondering if you have heard the bad news that I am lying in hospital wounded. The wounds are not of the worst. I had one bullet wound in the face and it has broken the lower jaw-bone. The second one is a bullet wound in the in the left foot…. I was wounded on the July 1st, the first day of the Big Advance unfortunately. I am very lucky to be alive as many young fellows alongside me were killed’ (Cyf.22, t.3).

Mae’n debygol fod y ffotograff o nyrsys y Groes Goch yn Nyddlyfr Ffotograffau Alf wedi’i dynnu yn Aberdeen.  Gan fyfyrio ar lansiad y cyrch nododd ‘The Roamer’:

‘Of all months July of course has been the most anxious for us. The number of those actually in France at the time the Big Push started was as follows – Officers 8, NCO’s 18 and men 58. A total of 84. Why the run on the figure 8 we do not quite know but there it is. Some of those who profess to draw omens from such things can perhaps help us. The days have been dark ones for us from a personal standpoint , though bright and glorious enough with Victory. As we go to press not much news of our lads has come to hand, and while we might fear some may be bad enough when it reaches us, we hope and pray for the best’ (Cyf.22, tt.2-3).

Byddai Alf wedi bod yn Aberdeen pan ddaeth y newyddion fod Bert Morrisey ar goll a’r cyhoeddiad diweddarach ei fod wedi’i ladd ar faes y gad ar 4 Medi yn y Somme.  Roedd yn 21 mlwydd oedd ac, ar y pryd, y 13ain Roamer a laddwyd ar faes y gad (Cyf.25, t.2 a Cyf.26, t.6). Roedd hefyd yn un o’r 22 o gyn-aelodau’r 14eg Cwmni Brigâd y Bechgyn a laddwyd yn ystod y rhyfel (DWESCR302). Yn ystod yr un mis, enwebwyd Jim Brixton ar gyfer Medal Filwrol am:

‘…some very plucky work as a stretcher bearer one night on the Front, in the open facing the German machine guns ….’.

Roedd anafiadau Alf yn fwy difrifol na’r hyn a bortreadwyd yn ei lythyr. Ar 10 Ionawr 1917 roedd dal yn yr ysbyty yn Aberdeen:

Vol29 p6

‘Instead of that operation I told you about, the doctor through the X Rays, has found it necessary to put the splint back in my mouth and cement it. That means I shall have to go through the cure again. It is very disappointing but I intend to have the proper cure. I expect to be here some little time yet. Am anxiously waiting for the Roamer’ (Cyf.29, t.6).

Ym mis Mai 1917 y cyhoeddodd ‘The Roamer’ bod Alf adref yng Nghaerdydd – ‘….his patience has been rewarded at last’ (Cyf.31, t.8). Erbyn mis Gorffennaf 1917 cyhoeddwyd bod Alf yn ôl ar y Ffrynt unwaith eto (Cyf.33, t.7) ac ym mis Medi 1917 adroddwyd ei fod wedi’i anafu ac yn yr ysbyty gyda’i hen gyfaill o Frigâd y Bechgyn, Jim Brixton (Cyf.35, t.5). Roedd ‘The Roamer’ yn gwgu ar driniaeth a gafodd Alf yn y Fyddin:

‘As we expected Corporal Alfred Griffiths (9th Batt Devon Regiment) is back from France and is in hospital in London. He was badly wounded in the jaw on 1st July 1916, but after nearly 12 months in hospital was sent out again before he was right’  (Cyf.39, t.4).

Roedd ‘The Roamer’ yn cadw llygad barcud ar hynt a helynt Alf: Mewn adroddiad ym mis Gorffennaf 1918 dywedodd:

‘Corporal Alfred T Griffith (Devon Regiment) who was wounded on 1st July 1916, on the first day of the Big Push of two years ago, had been hospital most of the time since except for a short revisit to France. At present he is in London and he has recently undergone another operation on his jaw, which we trust will be more successful than the previous ones’ (Cyf.45, t.8).

Ni chafodd Alf adferiad llawn o’r anafiadau a gafodd yn y Somme a dau fis yn ddiweddarach nodwyd yn ‘The Roamer’:

‘Corporal Alfred T Griffiths after a long and trying time in hospital, as mentioned in previous issues (it is two years and two months ago that we was wounded) has been fortunate in getting his discharge from the Army’ (Cyf.47, t.8).

O blith cyfeillion Alf llwyddodd Fred Townsend a Jim Brixton oroesi’r Rhyfel. Fodd bynnag, anafwyd Fred yn ddifrifol yn Ypres ym mis Tachwedd 1917.  Mewn llythyr a anfonodd at ‘The Roamer’ rhoddodd y manylion:

‘I was rather unlucky for we had been through two attacks and we were being relieved that night. I was sent back to guide the relief up when I got hit. It made a bit of gash from my shoulder down half way to the elbow, and cut the artery, and so made me lose a lot of blood’ (Cyf.38, tt.2-3).

Yn dilyn cyfnod maith yn yr ysbyty fe’i rhyddhawyd o 9fed Bataliwn Catrawd Dyfnaint ym mis Tachwedd 1918, ond, o ganlyniad i’r anaf a gafodd i’w fraich ac ysgwydd chwith, nid oedd ei fraich yn dda i lawer o ddim (Cyf.48, t.7). Ymddangosodd yr Is-gorporal James Brixton yn y dudalen ‘Page of Smilers’ yn y Roamer ym mis Mawrth 1919 – sef y rheiny oedd wedi’u dadfyddino. Dyfarnwyd y Fedal Filwrol iddo ym 1917 am ei ddewrder ar faes a gad ym mis Medi 1916.  Yn ddiweddarach, cadarnhawyd bod hyn yn cynnwys rhoi help llaw i filwr a anafwyd yn ystod brwydro ffyrnig (Cyf.27, t.3 a Cyf.43, tt.3-4).  Dyfarnwyd y fedal iddo mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd ar 26 Tachwedd 1917.  Dyfarnwyd yr un fedal i Alfred, brawd Jim, yn ddiweddarach yn ystod yr un flwyddyn (Cyf.38, t.8 a Cyf.39, t.2).

Cynhaliodd ‘The Roamer’ ei aduniad ‘Croeso Adref’ cyntaf ar gyfer milwyr a ddadfyddinwyd ym mis Ebrill 1919.  Roedd Jim Brixton yn un o’r cyntaf i ysgrifennu at ‘The Roamer’ i ddweud ei fod yn gobeithio y byddai’r cylchgrawn ac aduniadau rheolaidd yn parhau (Cyf.54, t.5). Er bod cofnodion Archifau Morgannwg yn dweud wrthym y cyhoeddwyd rhifyn olaf ‘The Roath Roamer’ ym mis  Hydref 1919, roedd yr Eglwys yn parhau i gynnal cyfres o aduniadau gan gynnwys cyfarfodydd rheolaidd ar gyfer cyn-aelodau Brigâd y Bechgyn (DWESCR302). Er nad oes unrhyw dystiolaeth o hynny, mae’n bosibl bob Alf, Jim a Fred wedi gallu dod at ei gilydd i hel atgofion am eu cyfnod ym Mrigâd y Bechgyn a’u profiadau yn ystod y rhyfel.

Os hoffech ddysgu mwy am y 460 o ddynion a 19 o ferched o ardal y Rhath a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, mae gan Archifau Morgannwg gopïau o’r 57 rhifyn o ‘The Roath Road Roamer’ a gyhoeddwyd o fis Tachwedd 1914 i fis Hydref 1919 (DAWES6).

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Yr Awstraliaid o Gaerdydd

Mae diwrnod ANZAC ar 25 Ebrill yn cofio aberth y milwyr o Awstralia a Seland Newydd a laddwyd mewn ymgyrchoedd milwrol. Fe’i nodwyd gyntaf ar 25 Ebrill 1916, flwyddyn yn union ar ôl i filwyr o Awstralia a Seland Newydd lanio ar benrhyn Gallipoli fel rhan o ymgyrch y Cynghreiriaid i agor y Dardanelles i’w llyngesau. Yn ystod y cyfnod hwn, brwydrodd y milwyr o Awstralia a Seland Newydd yn ddewr. Anafwyd 26,000 o Awstraliaid, gydag 8,000 yn cael eu lladd ar faes y gad neu’n marw o anafiadau neu glefydau. Trodd Gallipoli’n symbol o ddewrder ac arwriaeth milwyr ANZAC. Fodd bynnag, roedd hefyd yn atgof erchyll o’r holl ddynion a menywod a gafodd eu lladd a’u hanafu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymladdodd llawer o ddynion o Gymru gyda’r Llynges Frenhinol a Byddin Prydain yn ystod yr ymgyrch 8 mis yn Gallipoli. Cofnodwyd arwriaeth y rheini a laniodd ym Mhenrhyn Helles ym mis Ebrill 1915 ac ym Mae Sulva ym mis Awst o’r un flwyddyn yn y wasg ar y pryd, ac mae eu dewrder wedi’i nodi’n glir mewn adroddiadau dilynol ar ymgyrch Gallipoli. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod cymaint am y Cymry a ymladdodd ac a fu farw gyda Byddin Awstralia yn Gallipoli ac, yn ddiweddarach, Ffrainc. Mae cofnodion Archifau Morgannwg yn cynnig cipolwg ar hanesion gwŷr ifanc o Gaerdydd a wirfoddolodd i wasanaethu ym Myddin Awstralia ar ôl ymfudo yno cyn y rhyfel. Roedd ‘The Roath Road Roamer’, a gyhoeddwyd o 1914 i 1919 gan Eglwys Wesleaidd Ffordd y Rhath yn olrhain, drwy lythyrau a ffotograffau, wasanaeth milwrol 460 o ddynion a 19 o fenywod o Gaerdydd. Fe’i cyhoeddwyd yn fisol, ac fe’i dosbarthwyd yn lleol a thramor. Roedd ‘The Roamer’ yn nodi ac yn dilyn ffawd nifer o ddynion ifanc o Gaerdydd a ymunodd â Byddin Awstralia.  Yn eu mysg roedd Wilfred Shute, William Lydiard, Charles Richards a John Albert Guy o Gaerdydd a fu’n ymladd yn Ffrainc. Hefyd, mae ‘The Roamer’ yn adrodd hanes dau ŵr ifanc, William Poyner a Fred Salmoni, a ymladdodd ac a fu farw gyda Byddin Awstralia yn Gallipoli.

Roedd Fred Salmoni yn fab i William a Mary Salmoni o Elm Street, Caerdydd. Er eu bod o Wells yn wreiddiol, roedd y teulu wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers cryn amser.  Roedd William Salmoni yn beintiwr ac addurnwr hunangyflogedig ond roedd ei ddau fab yn gweithio mewn pwll glo lleol – yr hynaf fel clerc a Fred fel “cynorthwyydd y ffitiwr”. Ganed William Poyner yn Kidderminster a bu’n byw yno am y rhan fwyaf o’i oes. Er bod y rhan fwyaf o’i deulu’n gweithio fel gwehyddion yn y diwydiant carpedi, symudodd William i Gaerdydd ym 1911 ac fe’i cyflogwyd, fel porthor fwy na thebyg, yng ngorsaf reilffordd Caerdydd. Tra yng Nghaerdydd bu’n mynychu Eglwys Ffordd y Rhath a chyfeiriodd ‘The Roamer’ ato fel ‘un ohonom ni’. O ddarllen ‘The Roamer’, gwyddwn iddo dderbyn copïau o’r cylchgrawn pan oedd gyda Byddin Awstralia yn yr Aifft. Ym mis Mawrth 1915, roedd ‘The Roamer’ yn cynnwys ffotograff o William yn erbyn map o Awstralia, gyda’r dyfyniad:

‘Private William Poyner emigrated to Australia from Mr H G Howell’s class two or three year ago. It is a great pleasure to us to know, that he is now in Egypt on his way to the Front to fight for the old Country, with the 1st Australian Division’.  Roath Road Roamer, Cyf.5, t.8.

William Poyner

Ymfudodd William Poyner i Orllewin Awstralia ym 1912 ac yn yr un flwyddyn hwyliodd Fred Salmoni i Brisbane yn Queensland. Fel llawer o ddynion ifanc yr oes, mae’n siŵr iddynt gael eu denu gan y cyfleoedd a’r anturiaethau a gynigiwyd gan wlad a oedd yn tyfu’n gyflym ac, yn benodol, y cyfle am gyflogaeth mewn mwyngloddiau neu ar ffermydd yng ngorllewin a gogledd Awstralia. Fodd bynnag, o fewn dwy flynedd o’u cyrhaeddiad cyhoeddwyd rhyfel ac, er nad oedd gorfodaeth filwrol (neu gonsgripsiwn) wedi’i chyflwyno yn Awstralia, gwirfoddolodd rhyw 400,000 o Awstraliaid ifanc ar gyfer y lluoedd arfog – tua thraean o’r boblogaeth rhwng 18 a 40 oed. Roedd Fred Salmoni a William Poyner ymysg y rheini a ruthrodd i ymrestru pan gyhoeddwyd rhyfel. Ym mis Awst 1914, roedd y ddau yn sengl ac yn 21 oed. Roedd William yn gweithio ar y rheilffyrdd ac yn byw ym Midland, cyffordd reilffordd allweddol ar gyrion Perth. Roedd Fred yn llafurwr ac yn gweithio yn Brisbane. Cymaint oedd y prysurdeb i ymuno â Byddin Awstralia bu’n bosibl mynnu safonau llym ac, fel dynion ifanc ffit ac iach, byddai’r ddau wedi gweddu i’r dim. Yn benodol, byddai profiad milwrol blaenorol William gyda 7fed Bataliwn Caerwrangon wedi bod o fantais hefyd. Ymrestrodd Fred yn Brisbane gyda 15fed Bataliwn 4ydd Brigâd Troedfilwyr Awstralia. Ymrestrodd William Poyner yn Blackboy Hill, gwersyll hyfforddi wrth odre’r Darling Range y tu allan i Perth, a sefydlwyd fel safle milwrol 11eg Bataliwn 3ydd Brigâd Troedfilwyr Awstralia.  Yn dilyn hyfforddiant sylfaenol, gadawsant Fremantle ar fwrdd llong i Alexandria ar 2 Tachwedd 1915. Roedd y milwyr mewn hwyliau da ac wedi llwyddo i smyglo 4 cangarŵ a chocatŵ ar y llong fel mascotiaid ar gyfer y daith i Alexandria. Ar ôl 5 wythnos ar y môr, gan gynnwys sgarmes gydag Emden, llong ryfel Almaenaidd, a ddrylliodd ar ôl cael ei bomio gan un o’u gosgorddluoedd, glaniasant yn yr Aifft a sefydlu gwersyll ger Cairo. Mae’r cofnod swyddogol o’u cyfnod yn yr Aifft yn cynnwys ffotograff o’r 11eg Bataliwn – a oedd yn cynnwys 1000 o filwyr – o flaen pyramid. Fodd bynnag, er iddynt baratoi’n ddyfal yng ngwres llethol yr anialwch gyda’r dydd, mae’r straeon am anturiaethau’r Awstraliaid gyda’r nos yn Cairo yn enwog, ac yn cynnwys adroddiadau o banig ymysg y brodorion pan welsant y cangarŵod am y tro cyntaf.

Disgwylid mai Lloegr fyddai pen y daith nesaf, gyda’r cyfle i’r rheini a aned ym Mhrydain (bron i draean o’r 11eg Bataliwn) weld eu ffrindiau a’u teuluoedd. Felly byddai Fred a William wedi cael eu synnu o ddarganfod eu bod yn gadael yr Aifft am Lemnos, un o ynysoedd Gwlad Groeg, i baratoi i ymosod ar y Dardanelles. Roedd yr ymgais i ddefnyddio gynau llyngesau Prydain a Ffrainc i lethu amddiffynfa Twrci wedi methu, a phenderfynwyd glanio mewn dau fan ar y penrhyn. Roedd Fred a William ymysg y cyntaf i lanio yng Nghildraeth ANZAC ar 25 Ebrill. Er gwaethaf pob disgwyl, gwnaethant gipio’r blaenlaniad a threiddio rywfaint i mewn i’r tir cyn cael eu hatal gan y Tyrciaid. Fodd bynnag, gwnaed cynnydd ar draul bywyd. Bu farw Fred Salmoni ar ail ddiwrnod y glaniadau ar 26 Ebrill yn y man a elwir heddiw’n “Gwm Shrapnel”.  Nodwyd bod William Poyner wedi’i ladd ar faes y gad ar 2 Mai. Ni chafodd ei gorff ei gludo o’r gyflafan, ond mae ei farwolaeth erbyn hyn wedi’i chofnodi ym Mynwent Ryfel y Gymanwlad yn Lone Pine. Cyflëwyd ffyrnigrwydd yr ymladd a nifer helaeth y rheini a gafodd eu lladd a’u hanafu gan y cyfrifiad o Fataliwn William Poyner ar 5 Mai tra eu bod dan warchae eithafol o hyd.  Allan o’r 1000 o ddynion a laniodd ar 25 Ebrill, roedd 435 wedi’u lladd, wedi’u hanafu neu ar goll.

Nododd ‘The Roamer’:

Poyner and Salmoni

‘Two of our brave fellows have fallen. By a strange coincidence both left Cardiff, three or four years ago for Australia, both joined Australian contingents when war broke out and hastened back at the call of the Motherland. Both were sent to the Dardanelles and both have fallen on the field of battle. Private Will Poyner of Mr H G Howell’s class and Lance Corporal Fred S Salmoni an old member of the 14th Cardiff Company of the Boys’ Brigade. May God comfort those who mourn their loss today. The last time we heard from our old friend Will Poyner was on the 2nd June when he asked us to forward the Roamer containing his photo to his mother who lives in Kidderminster. She had it the next day. He wrote how pleased he was with the photo that he was ‘going on very well and in the best of health, so that’s everything’. And today he is in the presence of the King’.  Roath Road Roamer, Cyf.10, t.8.

Mae’n debyg i’r llythyr a ddaeth i law ‘The Roamer’ ar 2 Mehefin gael ei ysgrifennu tra bod William Poyner ar ei ffordd i Gallipoli. Roedd ei eitemau personol, a anfonwyd at ei fam yn Kidderminster, yn cynnwys cardiau, blwch matsis, hances boced a charreg. Fodd bynnag, er iddo adael flynyddoedd ynghynt, roedd wedi llwyddo i gadw mewn cysylltiad â’i ffrindiau yng Nghaerdydd. Yn ei ewyllys, o’r swm o £40 a ofynnodd i’w fam ei rannu, rhoddwyd £30 i Mabel Major o Broadway, y Rhath. Ni nododd ‘The Roamer’ unrhyw gliwiau o ran ei gysylltiadau â’r teulu Major. Mae’n ddigon posib fod William wedi lletya gyda’r teulu tra ei fod yn gweithio yng Nghaerdydd, neu gallai fod wedi cwrdd â Mabel drwy Eglwys Ffordd y Rhath. Os gall unrhyw un helpu i ychwanegu at y stori hon, byddai’n wych clywed gennych.

Fodd bynnag, cyflwynodd ‘The Roamer’ ragor o fanylion am yr ymladd yn Gallipoli drwy lythyrau gan drigolion Caerdydd a ymladdodd gyda’r Llynges Frenhinol a chatrodau Prydain yn ystod yr ymgyrch. Roedd profiad Arthur James, dociwr o Gaerdydd a ymladdodd gyda Bataliwn Hawke y Frigâd Lyngesol Frenhinol 1af, yn nodweddiadol:

‘I have had a terrible time. All my chums killed and wounded …. Nearly three months of fighting has knocked me up’.  Roath Road Roamer, Cyf.10, t.6.

Yn yr un modd, ysgrifennodd Archie McKinnon o’r Peirianwyr Brenhinol at ‘The Roamer’ am yr amodau yn Gallipoli:

‘…when our lads are relieved from the trenches they only have dugouts to rest in. No billets of any sort are available and the whole of the land we occupy is subjected to shell fire’.  Roath Road Roamer, Cyf.12, t.6.

Ysgrifennodd John Hunt o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin:

‘Collecting the wounded in a rough country like this is not exactly a picnic. All our transport is drawn by mules, they stand the hot climate better than horses. Very little Ambulance transport is done owing to the hills and that there are no roads. This means a lot of stretcher work for bearers’.  Roath Road Roamer, Cyf.14, t.5.

Er gwaetha ffyrnigrwydd yr ymladd, roedd cryn barch yn bodoli at y Tyrciaid – am eu sgiliau ymladd a’u dynoliaeth. Ysgrifennodd Will Dance o 2il Ambiwlans Maes Cymru, CMBF:

‘We have been under fire about 19 days now….The Turks do not wilfully fire on the Red Cross and I can honestly tell you that… they are out and out gentlemen… We are expecting the War in the Dardanelles to finish anytime now they are whacked to the world, so it is only a matter of time’.  Roath Road Roamer, Cyf.12, t.6.

Afraid oedd optimistiaeth Will Dance, canys ar ddiwedd 1915 ymgiliodd y cynghreiriaid. Cefnwyd ar y cynlluniau i agor y Dardanelles i lyngesau’r Cynghreiriaid, ac ystyriwyd yr ymgyrch, er gwaethaf arwriaeth y milwyr, yn fethiant drudfawr. Mae’n ddigon posibl y dylwn roi’r gair olaf i un o’r Awstraliaid di-ri a gyrhaeddodd yng Nghaerdydd i gael triniaeth i’w hanafiadau yn 3edd Ysbyty’r Gorllewin, Gerddi Howard, Caerdydd.  Roedd llawer, gan gynnwys Harry Sketcher-Baker, wedi ymladd yn Gallipoli ym 1915. Mewn llyfr llofnodion a gadwyd gan Emily Connell, Prif Weinyddes Nyrsio yn yr Ysbyty (a gedwir yn Archifau Morgannwg), ysgrifennodd gerdd a fyddai wedi bod yn adnabyddus iawn i’r milwyr, ac yn arbennig yr Awstraliaid a aeth i ryfel am y tro cyntaf yn Gallipoli ym 1915:

DX744-1-18

‘The lad stood on the troop ship And gazed across the sea And wondered what his home would be Ruled under Germany. Now everything went lovely While out upon the sea Till we were brought to anchor Out off Gallipoli’. Llyfr llofnodion Nyrs Emily Connell, t.24

Parhaodd ‘The Roath Road Roamer’ i gofnodi profiadau llawer o Awstraliaid eraill o’r Rhath yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a ymladdodd yn Ffrainc gyda Byddin Awstralia. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am brofiadau gwŷr a merched y Rhath, Caerdydd, a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, mae gan Archifau Morgannwg gopïau o’r 57 o rifynnau o ‘The Roath Road Roamer’ a gyhoeddwyd rhwng mis Tachwedd 1914 a mis Hydref 1919 (DAWES6).

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Bechgyn Blaenclydach a’r Bisgedi Tatws Siocled

Nid oedd prinder bwyd yn anghyfarwydd i Ysgol Fechgyn Blaenclydach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

ER3_2 p117

Wedi’r cyfan, roedden nhw wedi cael gwersi ar sut i ategu deiet y teulu drwy dyfu eu tatws eu hunain (ER3/2, t.117), a sut i fwyta llai o fwyd prin fel bara, siwgr a chig (ER3/2, t.120).

ER3_2 p120

Roedd yr ysgol hyd yn oed wedi defnyddio Pamffledi Cynhyrchu Bwyd ar storio tatws i ymarfer darllen! (ER3/2, t.123)

ER3_2 p123

Roedd y bechgyn hefyd yn ymwybodol iawn o sut roedd y prinder yn effeithio ar ysbyty lleol y Groes Goch, ac wedi casglu bwyd i ategu deiet y milwyr a oedd yn gleifion yno. Ar 22 Mawrth 1917 cofnododd y Pennaeth, John Lewis:

ER3_2 p118

A collection of fruit and eggs was made by the scholars for the wounded soldiers at the local Red Cross Hospital. The collection consisted of 59 eggs, 143 oranges, 26 apples, 31 bananas, 1lb rice, nuts, chocolate and 2/7 in money.  Ysgol Fechgyn Blaenclydach, llyf log (ER3/2 t.118)

Felly nid oedd taflenni a phamffledi i fynd â nhw adref at y rhieni yn brolio rhinweddau tatws a’r angen am economi fwyd, yn unrhyw beth newydd. Ond mae’n rhaid bod rhai’n teimlo braidd yn anghrediniol wrth ddarllen y tair taflen a roddwyd i’r bechgyn ar 21 Chwefror 1918:

ER3_2 p128

Leaflets from the Food Economy Department distributed for school children throughout the school area. These leaflets were (1) Thirty Four Ways of cooking potatoes (2) Delicious Soups (3) All About Stews.  Ysgol Fechgyn Blaenclydach, llyf log (ER3/2 t.128)

Wedi’u llunio gan Adran Economi Fwyd y Weinyddiaeth Bwyd, a sefydlwyd ym 1916, ystyriwyd y taflenni’n ganllaw ymarferol ar helpu rhieni i ymdopi â’r prinder bwyd cynyddol a ddeilliai o suddo llongau masnach y cynghreiriaid a’r prinder llafur tir.  Mae copi o ‘Thirty Four Ways of Using Potatoes’ ar gael o hyd, a gellir ei weld ar-lein ar wefan Manchester Archive Plus www.manchesterarchiveplus.com (cyf: FE40). Debyg bod y cyngor ynddi, hyd yn oed yn ystod cyfnod o ryfel, wedi synnu rhai. Dechreua’r daflen wrth alw ar deuluoedd i wneud yn fawr o’r llwythi digynsail o datws:

This is the immediate duty of everyone – to learn how to make potato-foods to take the place of bread-foods and to use them now instead of bread and butter, toast, rolls and all cakes and puddings which require flour. 

Gallai’r cyngor ar sut i baratoi tatws fod wedi bod yn ddigon annymunol i rai:

.. a potato should never be peeled before it is cooked. People who cut the peel from a potato before they cook it actually throw away 85 per cent of its flesh forming and vital elements.

Mae’n anodd hefyd i gredu byddai bechgyn Blaenclydach wedi eu ddarbwyllo gan y ddatganiad hyderus yma:

People who have once used potato bread, for instance, never wish to return to bread which is made solely from flour.

Roedd bechgyn Blaenclydach yn cael digon o ryseitiau difyr, o ‘Bwdin Tatws a Ffrwythau’’ ‘Pwdin Triog a Thatws’ a ‘Phwdin Cynulliad’, fel yr argymhellwyd yn y pamffled. Gallent hefyd fod wedi profi Bisgedi Tatws Siocled – o bosibl fel rhan o ddathliadau arferol Dydd Gŵyl Dewi’r ysgol yn ystod yr wythnos ar ôl i’r taflenni gyrraedd.

Chocolate Potato Biscuits

4oz potatoes (washed, cooked, peeled and sieved), 1oz flour, 4oz ground rice, half a teaspoon of cocoa, one and a half oz. fat, half an egg (dried can be used), a little vanilla essence, 1 tablespoon of treacle, half a teaspoon of baking powder.

Mix the flour and ground rice and rub in the fat. Add the potatoes and cocoa and stir the dry ingredients together; then put in the half egg and treacle and flavouring and beat thoroughly. Finally add the baking powder and mix well. Turn the mixture on to a floured board, roll out (half inch) and cut into rounds and bake in a hot oven for 15 to 20 minutes.

Nid yw cofnodlyfr Ysgol Fechgyn Blaenclydach yn nodi’r ymateb i’r ryseitiau gan y bechgyn na’u rhieni. Ynghyd â mentrau eraill fel y ‘Llyfr Coginio i Ennill y Rhyfel’, roedd y tri phamffled yn un rhan o ymgyrch barhaus i fynd i’r afael â phrinder bwyd. Ond os ydych am fesur eu hymateb, byddem yn fwy na pharod i roi manylion am unrhyw un o’r ryseitiau sydd uchod yn gyfnewid am adolygiad o’r bwyd!  Yn yr un modd, os oes gennych gopi o ‘All About Soups’ (MF 38) a ‘Delicious Stews’ (MF 39) rhowch wybod i ni, fel y gallwn ychwanegu’r manylion at ein casgliad o fwyd cyfnod y rhyfel.

Mae cofnodlyfr Ysgol Fechgyn Blaenclydach yn un o gyfres o gofnodlyfrau ysgolion o ardal y Rhondda a gedwir yn Archifau Morgannwg. Os hoffech ragor o wybodaeth am fywyd yn yr ysgol ac yn y Rhondda ym 1914-18 gallwch ddarllen crynodebau o’r cofnodlyfrau ar-lein neu ddod i weld y rhai gwreiddiol yn Archifau Morgannwg.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg