Talygarn – “… y cartref ymadfer harddaf yn y wlad yn ôl pob tebyg”

Mae’r ffotograffau sydd i’w gweld yn yr erthygl hon yn dangos un o’r plastai gwych niferus sydd i’w cael ym Morgannwg. Fodd bynnag, os edrychwch yn ofalus, byddwch yn sylwi bod yr y dodrefn addurnol, y gwydrau, yr hen lestri a phaentiadau wedi eu tynnu o’r ystafelloedd. Yn hytrach, mae byrddau a chadeiriau cyfforddus, ond plaen wedi eu gosod allan ynddynt.

Edwin Miles, Talygarn House

Bydd y tŷ yn gyfarwydd i lawer.  Dyma Tal-y-garn, unwaith yn ystâd 1200 erw ger Pont-y-clun ac o 1865 ymlaen, yn gartref i’r teulu Clark. Mae’n amlwg fod pocedi dyfnion gan George Thomas Clark o ran cost y gwaith ailadeiladu, addurno a dodrefnu’r tŷ. Roedd sibrydion bod yr addurniad ar y llawr gwaelod, “yn yr arddull Fenisaidd” gan y meistr-grefftwr Eidalaidd Biraghi, yn unig wedi costio tua £20,000. Gyda phaneli pren, ffrisiau a nenfydau addurniadol a llefydd tân marmor, disgrifiwyd y tŷ fel un â’i du mewn “o fyd y tylwyth teg”.

Erbyn 1922 roedd teulu Clark wedi dewis gwerthu’r tŷ a’r ystâd.  Caffaelwyd y tŷ a llawer o’r tir o’i gwmpas gan Gronfa Les Glowyr De Cymru am £20,000. Ystyriwyd bod Tal-y-garn yn safle delfrydol ar gyfer cartref ymadfer i lowyr ac agorodd y cartref ar 13 Hydref 1923 gyda gwelyau ar gyfer hyd at 100 ar unrhyw un adeg.

Er bod y teulu Clark wedi mynd â’r rhan fwyaf o’r dodrefn a ffitiadau neu eu harwerthu, gan gynnwys sawl arfwisg, roedd Tal-y-garn yn dal i fod yn dŷ trawiadol gyda thapestrïau mawr yn addurno’r waliau yn llawer o’r ystafelloedd gwely lle roedd y cleifion. Fe’i disgrifiwyd, gyda pheth cyfiawnhad, gan y Western Mail, ar 15 Hydref 1923, fel y cartref ymadfer harddaf yn y wlad yn ôl pob tebyg“.

Edwin Miles, The Lounge, Talygarn House

Mae’r ffotograffau’n dangos y tu allan i’r tŷ a dwy o’r ystafelloedd ar y llawr gwaelod, y lolfa a’r Ardd Aeaf, ill dau wedi’u hadnewyddu i’w defnyddio gan y preswylwyr.

Edwin Miles, Winter Gardens, Talygarn House

Gellir gweld nifer o gleifion yn yr Ardd Aeaf, a oedd wedi’i haddasu i’w defnyddio fel ystafell ysmygu.  Ynghyd â dwy ystafell filiards, ystafell gemau, ystafell ysgrifennu, llyfrgell ac ystafell fwyta fawr, roedd gan breswylwyr fynediad i ystod eang o gyfleusterau wedi’u hategu gan erddi, llyn, coedwigoedd a lawnt fowlio. Yn anffodus, fodd bynnag, nid oes arwydd yn y ffotograffau o Labrador du’r Uwch-arolygydd a oedd yn ffefryn mawr gyda staff a chleifion.

Tynnwyd y lluniau gan ffotograffydd lleol, Edwin Miles, a oedd yn berchen ar yr Electric Studio yn Caroline Street, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae bron yn sicr y tynnwyd y lluniau yn agos at agoriad y cartref ymadfer ym mis Hydref 1923, ac maent yn rhan o gyfres o 28 o luniau a gymerodd Miles o Dal-y-garn ar yr adeg hon. Tynnodd Miles luniau hefyd, a ddefnyddir yn bennaf fel cardiau post, o lawer o dai mawreddog, trefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg rhwng 1905 a 1929.  Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y casgliad cyflawn yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Gyda llaw, os hoffech weld y tŷ yn ei “ysblander” rydym wedi ychwanegu dau ffotograff ychwanegol.

DWP_2_2_21

DWP_2-2-24

Mae’n debyg i’r ddau lun gael eu tynnu yn y blynyddoedd yn union cyn y gwerthiant pan oedd Tal-y-garn yn dal i fod yn gartref teuluol. Mae’n dipyn o sioe!

Unwaith eto, gellir gweld y ffotograffau yn Archifau Morgannwg o dan gyfeirnod DWP/2/2.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg