Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Mae ambell eitem o blith y 75fed eitem a restrwyd gennym wedi ein gadael erbyn hyn. Mae rhai wedi eu trosglwyddo i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn Abertawe, a ddatblygodd o un o ganghennau Archifdy Morgannwg.

Pan rannwyd sir hanesyddol Morgannwg yn 3 gan y Ddeddf Llywodraeth Leol, a ddaeth i rym ym 1974, cytunodd siroedd newydd Canol, De a Gorllewin Morgannwg i gefnogi gwasanaeth archif cyfunol. Roedd y symudiad hwn, yn seiliedig ar yr archifdy a oedd eisoes yn bodoli, yn enghraifft gynnar o gydweithio ar draws ffiniau.Parhaodd y gwasanaeth hwn ym Mharc Cathays a chyhoeddodd Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg fwriad i greu Swyddfa Cofnodion Ardal Gorllewin Morgannwg o fewn y gwasanaeth, er mwyn iddo allu diwallu anghenion y boblogaeth yn fwy effeithiol.Drwy gydol y 1970au hwyr, ystyriwyd nifer o safleoedd, gan gynnwys byncer niwclear ac eglwys wag. Roedd y rhain i gyd yn rhy ddrud.Derbyniwyd cynnig o le yn neuadd newydd y sir yn y pen draw, er na chwblhawyd y lle tan 1982.

Yn y cyfamser, roedd cofnodion yn dal i gael eu derbyn, eu rhestru a’u cadw yng Nghaerdydd, gyda pwynt mynediad wedi ei staffio unwaith pob mis ar gael mewn ystafell wedi ei ddarparu gan Adran Hanes Prifysgol Abertawe.Erbyn Awst 1982 roedd Neuadd y Sir wedi ei gwblhau a symudodd yr ystafell chwilio misol i Swyddfa Cofnodion Ardal Gorllewin Morgannwg.Cafodd yr ystorfa hon gymeradwyaeth yr Arglwydd Ganghellor ym mis Hydref 1983. Cytunwyd ar adrannau o’r Casgliad i’w trosglwyddo i’r lleoliad newydd o fis Hydref ymlaen ac agorodd y Swyddfa i’r cyhoedd ar 5 Mawrth 1984.

Penodwyd Archifydd penodol ar gyfer Gorllewin Morgannwg ym mis Hydref 1982. Arhosodd Elisabeth Bickford yn y swydd tan fis Awst 1987. Fe’i holynwyd gan Susan Beckley ym mis Ionawr 1988. Cafwyd help gan staff o bencadlys Caerdydd a weithiodd hefyd ar ganllaw i’r archifau oedd yn y gangen.

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Ym mis Ebrill 1992 tynnodd Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg allan o’r Gwasanaeth Archif Ar-y-Cyd.Trodd y gangen yn Swyddfa Cofnodion Sir Gorllewin Morgannwg.Cytunwyd ar sut y byddai’r celfi a’r offer ac unrhyw daliadau oedd yn weddill yn cael eu rhannu. Mater cymharol hawdd oedd rhannu’r Casgliad, er bod cyfres neu ddwy wedi peri peth anghytuno.Mae’r ddwy swyddfa yn dal i gydweithio, ac mae yna draddodiad da o gyfnewid staff.Bu Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn dathlu ei ben-blwydd eleni hefyd, a chynhaliwyd diwrnod agored llwyddiannus.Pan aildrefnwyd llywodraeth leol eto, tyfodd y gwasanaeth pan unodd ag Archif Dinas Abertawe, a bu’n barhau fel gwasanaeth ar-y-cyd ar gyfer Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae erbyn hyn yn wasanaeth gweithgar iawn ac yn cyfrannu’n fawr at fentrau archifau Cymru.

Elisabeth Bennett - Archif Richard Burton

Elisabeth Bennett – Archif Richard Burton

Mae yr Archifydd Ardal cyntaf, Elisabeth Bennett erbyn hyn, yn bennaeth ar Archif Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, y swyddfa gyntaf yng Nghymru i gael Achrediad Gwasanaeth Archif dan y cynllun newydd.

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r un teulu!

Hanes Dwy Lygoden

Bydd y rheiny sydd wedi bod ar daith y tu ôl i’r llenni yn Archifdy Morgannwg yn gyfarwydd â’r blychau coch llachar sy’n rhan o’n system atal tân. Maen nhw’n cynnwys Argonite, cyfuniad o argon a nitrogen, fyddai’n gallu diffodd tân o fewn eiliadau.

Glamorgan Record Office Glamorgan Archives, Cardiff

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd staff yr archifdy yn credu nad oedd hanes y systemau nwy erioed wedi cael ei ddatgelu yn ystod y 75 mlynedd y maent wedi bod gyda ni. Mae erthygl bapur newydd o’r Western Mail ym mis Medi 1952 yn profi ein bod wedi bod yn anghywir yn ein cred. Roedd y system oedd gyda ni ym Mharc Cathays yn cynnwys nwy CO2, nwy mwy gwenwynig na’r hyn sydd gyda ni nawr. Pennawd yr erthygl yw Strongroom ‘raiders’ were 2 gassed mice ac mae’n adrodd hanes yr hyn ddigwyddodd i ofalwr Neuadd Sir Morgannwg pan glywodd larwm tân y Swyddfa Cofnodion. Yn yr ystafelloedd cadarn, sylwodd fod y system nwy wedi ei chychwyn ac wedi rhyddhau nwy. Doedd dim sôn am dân yn unlle, ond gwelodd y gofalwr ddwy lygoden yn ymlusgo ar hyd y llawr â golwg fyglyd arnynt. Yn ffodus, chafodd yr un aelod o staff y swyddfa cofnodion ei anafu! Y gred oedd mai ymyrraeth swits drydan a achosodd i’r larwm seinio. Dywedodd yr Uwchgapten CG Treharne, Cadeirydd Pwyllgor Cofnodion Sir Morgannwg, fod y digwyddiad yn un oedd yn codi ofn ar rywun, yn sgil y nwy a ollyngwyd ac fe fynnodd fod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Dim ond ers blwyddyn yr oedd y system nwy wedi bod yno, felly mae’n bosibl mai problemau cychwynnol yn unig oedd yn gyfrifol am y digwyddiad. Newidiwyd y system ar ryw adeg er mwyn ei galluogi i gael ei diffodd yn ystod oriau swyddfa, ac osgoi cael nwy yn cael ei ryddhau yn awtomatig pan oedd staff yn gweithio yno. Nid yw’r nwy erioed wedi ei ryddhau eto ers 1952.

Cynhelir teithiau tywys o gwmpas Archifdy Morgannwg ar drydydd dydd Mercher pob mis, am 2.30pm. Cysylltwch â’r Archifdy i drefnu lle.

Busnes Nwy Aberdâr

Cofnodion Busnes Nwy Aberdâr, a adwaenid gynt fel yr Aberdâr and Aberaman Consumers Gas Company, oedd y 75ain derbyniad ym 1965.

Sefydlwyd y cwmnïau nwy cyntaf yn ne Cymru yn ystod y cyfnod rhwng 1820 a 1830. Oherwydd llwyddiant y cwmnïau hyn o ran darparu nwy ar gyfer goleuo yn Abertawe a Chaerdydd yn 1821, ac yna yng Nghasnewydd yn 1825, sefydlwyd rhagor o fusnesau mewn rhanbarthau megis Merthyr Tudful, 1836; Pontypridd, 1850; Dowlais, 1856; a Phen-y-bont ar Ogwr, 1869.

Erbyn canol y 19eg Ganrif, roedd cwyno cyffredinol am weithgareddau llawer o’r busnesau. Arweiniodd hyn at basio Deddfau Seneddol i reoleiddio’r diwydiant. Roedd y rhain yn cynnwys Deddfau Adrannau Nwy 1847 a 1871 a Deddf Gwerthiant Nwy 1859.

Yn ystod ail hanner y 19eg Ganrif, bu nifer o ddatblygiadau yn y diwydiant a daeth nifer o gwmnïau ynghyd i greu cwmnïau daliannol dan berchenogaeth awdurdodau lleol. Roedd nifer o fusnesau bach yng Nghwm Rhymni er enghraifft:Cwmni Golau Nwy a Dŵr Caerffili Cyf, 1869; Cwmni Nwy a Dŵr Hengoed Cyf, 1877; Cwmni Nwy a Dŵr Bargoed Cyf, 1877, a Chwmni Nwy a Dŵr Cymoedd Rhymni ac Aber Cyf , 1878. Daeth y cwmnïau hyn i gyd at ei gilydd dan Ddeddf Seneddol Arbennig ym 1898 i greu Cwmni Nwy a Dŵr Cymoedd Rhymni ac Aber.

Rhwng y 1880au a blynyddoedd ffyniannus y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd galw cynyddol am nwy, a cheisiwyd sawl gwaith ehangu a gwella’r ffatrïoedd cynhyrchu lleol. Ond effeithiodd y Dirwasgiad yn fawr ar ddiwydiant nwy Cymru, ac aeth llawer o gwmnïau i’r wal. Aeth y broses o gyfuno busnesau yn ei blaen. Gwladolwyd y diwydiant nwy ym 1949, a chrëwyd Bwrdd Nwy Cymru – y diwydiant cyhoeddus cyntaf oedd yn weithredol ar hyd a lled Cymru gyfan.

Etifeddwyd cofnodion y cyrff blaenorol i gyd gan Fwrdd Nwy Cymru. Dim ond un o’r cwmnïau hynny oedd Busnes Nwy Aberdâr. Mae gennym hefyd gofnodion y cwmnïau canlynol:  Busnes Nwy y Barri; Busnes Nwy Pen-y-bont ar Ogwr; Cwmni Nwy Caerdydd; Cwmni Nwy y Bontfaen; Busnes Nwy Dowlais; Busnes Nwy Garw ac Ogwr; Busnes Nwy Llantrisant; Busnes Nwy Maesteg a Glyncorrwg; Busnes Nwy Merthyr Tudful; Busnes Nwy Porthcawl; Busnes Nwy Pontypridd; Busnes Nwy y Rhondda, a Nwy Rhymni ac Aber.

 

Llyfr Cofnodion

Llyfr Cofnodion

O gyfnod 1966 tan 1949 y daw cofnodion Busnes Nwy Aberdâr. Maen nhw’n cynnwys Deddfau Seneddol, cynlluniau, cofnodion, adroddiadau, llyfrau cyfrifon, llyfrau cyflog, cofrestri rhanddeiliaid, gohebiaeth, cytundebau a chontractau.

Derbyniadau yn Archifau Morgannwg

Mae casglu deunyddiau a phrosesu derbyniadau newydd yn drefniant sydd wedi parhau’n ddigyfnewid fwy neu lai ers i Archifau Morgannwg gael ei sefydlu ym 1939, er bod y gweithdrefnau wedi newid, yn arbennig gyda datblygiad systemau electronig dros y blynyddoedd diwethaf.

Sefydlwyd Archifdy Morgannwg ym 1939 a chafwyd nifer o dderbyniadau y flwyddyn honno ac ym 1940, ond tarfwyd ar y gwaith gan y rhyfel.Rhwng 1941 a 1945 ni chafwyd unrhyw dderbyniadau ac ym 1946 dim ond 10 a dderbyniwyd.

Yn ystod y rhyfel cafodd y cofnodion eu symud i blasty ym Mro Morgannwg ac addaswyd yr ystafelloedd storio yn ystafelloedd gwely i wylwyr tân.Bu’n rhaid gwneud yr ystafelloedd yn addas at y diben, gan gynnwys ychwanegu allanfa frys a system awyru, ac atgyfnerthwyd y nenfwd gyda thrawstiau dur i amddiffyn rhag ymosodiadau o’r awyr.Ail-agorwyd y Swyddfa ym mis Rhagfyr 1945 ond cymerodd amser i wneud yr ystafelloedd yn addas i storio dogfennau eto, felly dim ond nifer fach o ddogfennau a dderbyniwyd ym 1946.

Dim ond dwy flynedd arall sydd yn hanes Archifau Morgannwg lle na chawsom fwy na 75 eitem, sef 1948 a 1959. Mae’r erthygl ‘Newyddion o Archifdy Morgannwg’ mewn rhifyn o Morgannwg ym 1959 yn nodi na wnaed llawer o waith arolygu yn ystod y flwyddyn honno, a bod llawer o’r deunydd a dderbyniwyd yn ‘ddiofyn’ yn hytrach nag yn sgîl ymdrech fwriadol.

Mae’r graff isod yn dangos bod nifer y derbyniadau wedi cynyddu’n raddol ers y dyddiau cynnar, nes cyrraedd ei anterth ar ddechrau’r 1990au cyn i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ddod yn wasanaeth ar wahân.Mae’n debyg i’r staff fod yn brysur iawn ym 1940 pan gafwyd dros 900 o dderbyniadau, ac yn arbennig ar un diwrnod penodol pan gafwyd 320 o dderbyniadau!   Gan fod yr holl gofnodion hyn wedi dod o’r Sesiynau Chwarterol byddem bellach yn eu hystyried yn un derbyniad, a byddem ond yn eu cofnodi ar wahân wrth gatalogio’r deunydd.

Bu newidiadau gweithdrefnol eraill a effeithiodd ar y ffigurau ar gyfer nifer y derbynebau ond er gwaethaf hyn mae’r brif egwyddor o gasglu archifau sy’n ymwneud â’r ardal leol yn parhau’r un peth.Rydyn ni bob amser yn awyddus i gasglu cofnodion o bwys hanesyddol oherwydd heb y rhain ni fyddem yn gallu cofnodi a chadw hanes yr ardal.

Os hoffech gael gwybod sut i roi eitem i Archifau Morgannwg, ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth a chysylltwch â ni.

Archifyddion Morgannwg

Dim ond 5 Archifydd rydyn ni wedi’u penodi yn y 75 mlynedd ers y penodiad cyntaf. Yn ddiddorol ddigon, ar ôl i ddyn lenwi’r swydd am gyfnod byr ar y cychwyn cyntaf, maen nhw i gyd wedi bod yn fenywod!

Penodwyd Emyr Gwynne Jones ym 1939 ac ef oedd y gŵr a gynhyrchodd restri cyntaf cofnodion y Sesiynau Chwarterol.Tarfodd yr Ail Ryfel Byd ar ei gyfnod yn y swydd. Bu’n gwasanaethu yn y Llu Awyr Brenhinol ac fe’i penodwyd yn Llyfrgellydd ym Mhrifysgol Bangor ar ôl hynny.

Emyr Gwynne Jones

Emyr Gwynne Jones (trwy garedigrwydd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor)

Ailddechreuwyd y gwasanaeth gan Madeline Elsas ym 1946, a daeth ag arbenigedd proffesiynol i’r rôl a ddatblygwyd yn Essex.Tyfodd y sefydliad dan ei harweiniad, a gwnaed ymdrech fawr i annog unigolion, cymdeithasau a busnesau i gynnig eitemau i’r casgliad, yn unol â deddfwriaeth yn caniatáu i archifau gael eu casglu y tu allan i sefydliadau.Cyn iddi ymddeol ym 1973 roedd Miss Elsas wedi creu sylfeini cadarn ar gyfer y gwasanaeth gan gychwyn rhaglenni cyhoeddi ac arddangos a ddatblygwyd gan ei holynydd.

Madeline Elsas

Madeline Elsas

Cymerodd Patricia Moore yr awenau ym 1973, ychydig cyn yr ad-drefniant llywodraeth leol, ac arweiniodd y gwasanaeth yn llwyddiannus drwy ffurfio cydbwyllgor ar gyfer y 3 awdurdod a oedd yn ffurfio sir hanesyddol Morgannwg, gan felly greu’r cyd-wasanaeth archifau cyntaf yng Nghymru.Datblygodd Mrs Moore y rhestr gyhoeddiadau, gan ehangu apêl y gwasanaeth i amrywiaeth o ddefnyddwyr drwy gynnal arddangosiadau rheolaidd mewn Neuaddau Sir a thu hwnt; lluniodd Adroddiad Blynyddol deniadol a darluniadol, ac ymgysylltodd yn rheolaidd â’r cyfryngau lleol i hysbysebu’r gwasanaeth a hyrwyddo defnydd ohono.Hi oedd hefyd yn gyfrifol am sefydlu Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a ddechreuodd fel pwynt gwasanaeth cyn symud i ffurfio gwasanaeth ar wahân gan adael Morgannwg Ganol a De Morgannwg i gynnal Archifau Morgannwg.Derbyniwyd mwy a mwy o eitemau yn sgîl proffil uwch yr Archifau a lleihad diwydiannau a sefydliadau lleol. Yn wir, erbyn i Mrs Moore ymddeol ym 1993 roedd y Casgliad yn rhy fawr i’r safle gwreiddiol yn Neuadd y Sir ac roedd nifer o ddatrysiadau gwahanol yn cael eu gweithredu.

Patricia Moore

Patricia Moore

Dechreuodd Annette Burton ystyried y posibilrwydd o symud y Casgliad cyfan i adeilad newydd o 1993 a chyflwynodd ffordd newydd o edrych ar y gwasanaeth a rheoli ei gyllideb.Dan Mrs Burton, lleihawyd nifer y llefydd lle’r oedd y Casgliad yn cael ei storio y tu allan i’r pencadlys, cafodd y rhaglen ddarlithio ei ffurfioli a datblygwyd strategaethau cyfathrebu yn y swyddfa.Yn ei chyfnod byr yn y swydd, edrychodd Mrs Burton ar waith ei rhagflaenwyr gan roi’r gwasanaeth ar lwybr llwyddiannus.

Annette Burton

Annette Burton

Dechreuodd Susan Edwards yn ei rôl ym 1996 ac arweiniodd y project i adleoli’r gwasanaeth i’r adeilad presennol gyda chyfleusterau gwell i gynnig gwasanaeth.Mae’r Archifau wedi cyflawni Gwobr Arweinyddiaeth Strategol Cymru, lefel efydd Buddsoddwyr Mewn Pobl a rhaglen wirfoddoli a rhannu sgiliau sy’n ffynnu.Mae’r staff yn gweithio mewn partneriaethau sydd o fudd i’r ddwy ochr gydag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys prifysgolion lleol, amgueddfeydd a llyfrgelloedd, Cardiff People First, yr Archifau Seneddol ac asiantaethau fel Quest a Go Wales.

Susan Edwards

Susan Edwards (trwy garedigrwydd http://www.grrlAlex.co.uk)