Pobl Caerdydd yn Gyntaf: Prosiect Pink Ladies

Mae Pobl Caerdydd yn Gyntaf yn gymdeithas hunaneiriolaeth a redir gan ac ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu yng Nghaerdydd. Maen nhw’n amddiffyn eu hawliau ac yn ymgyrchu i newid agweddau, cael gwasanaethau gwell a mwynhau mwy o gyfleoedd. Maen nhw’n brwydro dros gyfartaledd, dealltwriaeth, parch a derbyniaeth.

Mae aelodau Pobl yn Gyntaf Caerdydd wedi gweithio ar nifer o brojectau pwysig.  Yn ystod 2015-2017, cawson nhw arian gan Comic Relief ar gyfer Pink Ladies Project oedd â’r nod o sicrhau bod merched yn fwy hyderus ac yn meddu ar y grym i fanteisio ar fwy o wasanaethau a gweithgareddau yn eu cymuned.

Picture1

Swyddog Prosiect y Pink Ladies, Dawn, yn cyflwyno dogfennau i Archifau Morgannwg

Merched ag anableddau dysgu yw aelodau Pink Ladies. Maen nhw wedi nodi’r pethau sy’n bwysicaf iddyn nhw, y rhwystrau sy’n eu hatal rhag byw eu bywydau. Maen nhw wedi cwrdd â gwasanaethau prif ffrwd ac anabledd dysgu gan ddatblygu perthynas waith dda ac maen nhw am wneud mwy. Y themâu y maen nhw am ganolbwyntio arnyn nhw yw: mwy o fynediad at gyfleoedd addysg a gwaith; dealltwriaeth fwy o gyfleoedd iechyd a mwy o fynediad atyn nhw; a dealltwriaeth fwy o wasanaeth hunaniaeth prif ffrwd i ferched a mwy o fynediad atyn nhw.

Mae papurau’r project a gedwir yn yr Archifau bellach yn cynnwys holiaduron, papurau adborth, ffurflenni gwerthuso, cynlluniau gwaith, agendau ac adroddiadau, cylchlythyron a phecynnau gwybodaeth amrywiol yn ymwneud ag iechyd merched.

Picture2

Gallwch ddysgu mwy am y project Pink Ladies trwy wylio eu ffilmiau ar You Tube:

Dim ond un o sawl menter a gyflawnwyd gan Bobl yn Gyntaf Caerdydd yw project Pink Ladies.  Mae eu gwaith yn parhau ac rydym yn edrych ymlaen at weld eu Harchif yn tyfu hefyd, gan adlewyrchu ystod lawn eu gwaith gwych.

Japan yn dod i Gymru, Mehefin 1976

Bydd Cymru gyfan yn gwylio’r digwyddiadau yn Stadiwm Tokyo, Japan ar Ddydd Gwener 20 Medi wrth i Dywysog Akishino agor yn swyddogol Cwpan Rygbi’r Byd 2019. I gefnogwyr Cymru bydd seibiant cyn y gêm gyntaf, yn erbyn Georgia yn Ninas Toyota, y Dydd Llun canlynol.  Ond, wrth iddynt fwynhau ymweld â Japan, efallai bydd un neu ddau yn cofio’r diwrnod pan ymwelodd y Tywysog pryd hynny, tad Akishino, a Japan.  Y dyddiad oedd 22 Mehefin 1976 ac mae stori ymweliad Tywysog Akihito a’r Dywysoges Michiko yn cael ei adrodd drwy ddogfennau yn Archifau Morgannwg.

Daeth cynnwrf i Faes Awyr Morgannwg Rhws – fel ei elwir ar y pryd – wrth i’r ddau gyrraedd ar 21 Mehefin 1976, gyda phum cwmni teledu ar y safle ac yn o’r carfannau wasg mwyaf a welwyd erioed ar dir y maes awyr.  Darganfuwyd yn rhy hwyr nad oedd carped coch gan y maes awyr, wrth i’r Tywysog a’r Dywysoges gael eu hysgubo trwy’r terminws at eu ceir a’r osgordd gan swyddogion yr Heddlu Arbennig i dreulio’r noson yng nghartref Syr Cennydd Traherne, Arglwydd Raglaw Siroedd Forgannwg.

DX31-23

Ceir copi o’r rhaglen a luniwyd gan y Swyddfa Gymreig at yr ymweliad yn Archifau Morgannwg.  Roedd amser yn brin gan fod y ddau am adael ar gyfer Llundain ar fore 23 Mehefin.  Ond eto roedd yna benderfyniad i gynnwys cymaint â phosib o fewn yr ymweliad.  Y diwrnod canlynol aeth y Dywysoges i Abaty Tyndyrn a Chastell Cas-gwent cyn ymuno a’r Tywysog ar gyfer ymweliadau yn y prynhawn ag Amgueddfa Sain Ffagan, y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama a Choleg Iwerydd. Daeth y dydd i derfyn gyda gwledd ganoloesol yng Nghastell Caerdydd, a drefnwyd gan y Swyddfa Dramor.

Ond neilltuwyd y lle blaenaf ar y rhaglen i ymweliad gan Dywysog Akihito a Glofa Deep Navigation yn Nhreharris. Gofynnodd y Tywysog am gyfarwyddyd gan arbenigwyr mwyngloddio yn Japan cyn iddo ymweld.  Cadwyd y bore cyfan yn rhydd er mwyn cynnig cyfle i gwrdd â’r dynion, gweld y gweithfeydd a theithio lawr at y talcen glo.  Nid oedd hyn yn beth hawdd o bell ffordd, gan fod angen cerdded tri chwarter milltir tan ddaear ac yna cropian y 40 llath olaf.  Cofnodwyd ei ymweliad o fewn gyfres o luniau yng nghasgliad y Bwrdd Glo yn Archifau Morgannwg.

DNCB-14-3-23-8

Adroddwyd i’r Tywysog cymryd darn o lo y torrodd o’r talcen gwaith a ffosil ar ffurf rhedynen ganddo ar y diwrnod, ynghyd a lamp glöwr a gyflwynwyd iddo gan y prentis crefft glo 17 oed, Keith Picton.  Nid oedd amser ar gyfer rygbi ar yr ymweliad yma, ond cyfeiriodd Philip Weekes, Cyfarwyddwr y Bwrdd Glo yn Ne Cymru, at y gêm wrth ddisgrifio sut wnaeth y Tywysog ymdopi a’r amodau cyfyng:

He moved very well underground – like a scrum half. He is very fit.

Wrth i Gymru troedio i’r cae ar gyfer eu gêm gyntaf efallai felly bydd yna atgofion, yng Nghymru ac yn Japan, o’r diwrnod ym Mehefin 1976 pan ddaeth Japan i Gymru.

Daeth Tywysog Akihito yn Ymerawdwr ar Japan ryw 13 mlynedd yn ddiweddarach, ym 1989. Yn ddiweddar, ildiodd yr orsedd gan drosglwyddo’r awenau at ei fab, ac fe’i hadnabuwyd heddiw fel yr Ymerawdwr Emeritws.

Ceir copi o’r rhaglen a luniwyd gan y Swyddfa Gymreig ar gyfer ymweliad 1976 yn Archifau Morgannwg, cyf. DX31/23, ynghyd a chwe llun o’r ymweliad a Deep Navigation, cyf. DNCB/14/3/23/6-11.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Capel Annibynnol y Cymer a Ffordd Liniaru’r Rhondda

Agorodd Ffordd Liniaru’r Rhondda, sy’n mynd o Drehafod i Bont-y-gwaith drwy’r Porth, i drafnidiaeth yn 2006, a chafodd ei hagor yn swyddogol y flwyddyn wedyn – ar ôl i waith tirlunio gael ei gwblhau – gan Brif Weinidog Cymru ar y pryd, y diweddar Rhodri Morgan.  Er bod yr angen i ddargyfeirio traffig i ffwrdd o gartrefi yn ardal y Porth wedi cael ei gydnabod ers tro, roedd y cynllun yn dal yn ddadleuol. Ar gost o £98 miliwn roedd yn un o’r ffyrdd mwyaf costus i gael ei hadeiladu yn y DU, gan olygu ei bod yn £18 y filltir. Fodd bynnag, roedd yn ddadleuol ar y cyfan oherwydd llwybr y ffordd, a’r ffaith ei bod yn rhedeg drwy fynwent hanesyddol Capel Annibynnol y Cymer. Byddai hyn yn golygu datgladdu dros wyth cant o gyrff.

Cafodd Capel Annibynnol presennol y Cymer ei godi ym 1834 i ddisodli, ehangu a gwella ar y capel blaenorol a godwyd ym 1743. Fe’i sefydlwyd gan y Parchedig Henry Davies, a oedd yn enwog am ei frwdfrydedd efengylaidd, ac mae’n cael ei gydnabod fel y capel anghydffurfiol cyntaf i gael ei godi yn y Rhondda. Aeth can mlynedd arall heibio cyn i ail gapel Annibynnol gael ei godi yn y cwm, sef Carmel, Treherbert ym 1857.

Tyfodd aelodaeth y capel a llewyrchodd wrth i boblogaeth y Rhondda dyfu. Fodd bynnag, pan gynhaliodd hen gyngor Morgannwg Ganol arolwg o gapeli ym 1978 – y mae eu cofnodion hefyd yn Archifau Morgannwg (cyf.: MGCC/CS/54/10) – cofnodwyd bod y gynulleidfa yn edwino ac nad oedd felly yn gallu cynnal gweinidog llawn amser. Caeodd y capel ei ddrysau ym 1987.

Yn 2005 rhoddwyd cofnodion y capel yn Archifau Morgannwg (cyf: D342). Mae’r casgliad yn cynnwys cofnodion ariannol y capel, cyfrifon y fynwent a nifer o ffotograffau. Yn rhan o’r cyfrifon mae cynllun wedi’i ddarlunio â llaw o’r fynwent o 1877.

D342-3web

Mae’r cynllun yn ceisio ail-greu’r fynwent, gyda phob bedd unigol wedi’i ddarlunio yn fanwl iawn â llaw.

D342-3 detail web

Mae rhif ar bob bedd a nesaf at y darlun mae allwedd yn rhestru prynwr pob plot. Ymhlith y beddau gafodd eu hail-greu’n ofalus mae man gorwedd y gweinidog sefydlodd y capel, y Parch. Henry Davies, sydd wedi’i gladdu mewn bedd syml yng nghysgod y capel yr helpodd i’w adeiladu.

Yn ddiweddarach yn 2005 cafodd y cyrff a gladdwyd ym mynwent y Capel eu datgladdu a’u claddu unwaith eto mewn rhan o’r tir nas effeithiwyd gan y ffordd. Cafodd rhai eu symud i fynwentydd gwahanol ar gais perthnasau. Y cynllun wedi’i lunio â llaw o 1877 yw’n darlun gorau o fynwent y capel fel yr oedd, wedi’i cholli bellach o dan darmac yr A4233.

Hughesovka: Morgannwg a Donetsk

Yn y 1990au daeth datblygiad o bwysigrwydd rhyngwladol sy’n parhau hyd at heddiw.  Dechreuodd ym 1984 sylwodd Mr Iorwerth Rees, un o wirfoddolwyr pybyr cynnar yr Archifau, ar gofnod bedydd mewn cofrestr blwyf yn Nhon-du yn enw Alice Jane (10 mlwydd oed) a Sarah Ann (8 mlwydd oed) merched George Floyd, ffitiwr peiriannau. Cyfeiriad George Floyd oedd Husoffka, Rwsia. Yn ymweld â Thon-du ar hyn o bryd.

Parish register

Y cofnod hwn oedd dechrau ymrwymiad i olrhain a hyrwyddo’r cysylltiad Cymreig â’r ddinas ddiwylliannol hon, bellach Donetsk yn nwyrain yn yr Wcráin. Cafodd John Hughes, dyfeisiwr ac entrepreneur o Ferthyr Tudful yn wreiddiol, ei wahodd gan lywodraeth Rwsia i ddatblygu dulliau cynhyrchu haearn yn y Donbas.

rsz_dx627-1

Prynodd dir ac ym 1869 sefydlodd gwmni o’r enw The New Russia, Novorossuskoe Obshchestvo, i gloddio glo a mwyn haearn, a chynhyrchu rheiliau, rhannau o bontydd, llongau, arfau, a beth bynnag arall oedd ei angen. Aeth ati i recriwtio gweithwyr o drefi haearn de Cymru a, gyda’i feibion, adeiladodd anheddiad diwydiannol ar y steppe gwag.

rsz_dx878-1

Roedd y busnes yn llwyddiannus, yn dilyn ychydig o anawsterau ar y dechrau, a bu yn nwylo’r teulu tan y Chwyldro ym 1917. Er bod y gwaith yn denu gweithwyr o bob rhan o Ymerodraeth Rwsia roedd yno griw o  gyflogeion Prydeinig drwy gydol yr adeg, gan gynnwys llawer o Gymru.

DX587-21-David-Waters-and-f

Mae ffotograffau a phapurau’r teulu wedi’u cyflwyno gan ddisgynyddion John Hughes a’i weithwyr Prydeinig i Archif Ymchwil Hughesovka yn Archifau Morgannwg. Mae’r archif yn cynnwys copïau o ddeunydd cysylltiedig a gedwir mewn mannau eraill, sy’n esbonio’r teitl, ac yn eu plith mae rhai eitemau o Archif Ranbarthol Donetsk, ac Archif Gwladwriaeth Rwsia yn St Petersburg a gasglwyd ar deithiau ymchwil yn y 1990s yn sgil y gwaith cyfnewid academaidd a anogwyd yn y cyfnod ôl-gomiwnyddol. Teithiais i Donetsk ddwywaith. Roedd yr ymweliad cyntaf ym 1990, dan nawdd Y Cyngor Prydeinig, yng nghwmni disgynyddion John Hughes a rhai o’i weithwyr Prydeinig. Roedd hon yn daith fythgofiadwy, gan i ni gyrraedd yno yn union yn yr un modd â’n rhagflaenwyr, yn y brif orsaf reilffordd yn Donetsk dim ond i gerdded i freichiau’r Athro Gwyn Alf Williams a’i griw oedd yn ffilmio dwy raglen am stori Hughesovka. Dychwelais gyda grŵp llai yn 1992 fel buddiolwr Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill, yn teithio rhan o’r ffordd gyda’r daith efeillio olaf o Gaerdydd i Luhansk, hefyd yn yr Wcráin, tua 128 km i’r dwyrain.

Donetsk002 crop

Roeddwn yn cludo arddangosfa, a luniwyd gydag Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, a fu ar daith yn ne Cymru ac a oedd nawr yn cael ei chyflwyno i’r Amgueddfa yn Donetsk. Roedd y byrddau yn fwy na mi ond roeddent wedi’u pacio’n gelfydd gan ein gwarchodwr gan gyrraedd yn gyflawn yn dilyn taith ar fws, awyren, tacsi a thrên. Pan aeth fy ngrŵp adref arhosais yn St Petersburg i wneud gwaith ymchwil i ohebiaeth Hughes yn yr Archifau ac Amgueddfa, gan letya gyda theulu lleol, ac ategu fy ngwybodaeth sylfaenol o Rwsieg gyda Ffrangeg Lefel O go rydlyd. Roedd y cofnodion yn Saesneg.

Hughesovka book cover

Mae llyfryn darluniadol ar stori’r Cymry yn yr Wcrain dal ar gael ac mae’r catalog o’r casgliad ar gael ar ein gwefan. Dros y blynyddoedd bu llawer o gyfnodau o gydweithio i fanteisio ar y casgliad a’i hyrwyddo. Ar hyn o bryd rydym yn cynorthwyo Amgueddfa Donetsk gyda chopïau digidol o rai o’r delweddau ffotograffig i adfer rhan o’u casgliad a gafodd ei difrodi gan ffrwydron yn ystod y gwrthdaro milwrol sy’n mynd rhagddo yn y rhanbarth.

Susan Edwards, Archifydd Morgannwg

Streic y Glowyr 1984-1985: Cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol

Ar 6 Mawrth 1984, cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol ei fwriad i dorri capasiti cynhyrchu 4 miliwn o dunelli o lo a 20,000 o swyddi o fewn blwyddyn. Aeth glowyr ledled y DU ar streic i achub y diwydiant a’u cymunedau. Bron flwyddyn yn ddiweddarach, daeth y streic i ben, a dychwelodd y glowyr i’r gwaith, a dechreuodd pennod olaf diwydiant glo Cymru.  O fewn naw mis o adeg y streic, roedd naw o lofeydd de Cymru wedi eu cau.

 

Mae papurau’r Bwrdd Glo Cenedlaethol, sy’n cael eu cadw yn Archifau Morgannwg, yn dangos sut delion nhw gyda’r streic a’r tactegau a ddefnyddiwyd ganddynt i annog y glowyr i ddychwelyd i’w gwaith.

Mae ffeiliau yng nghyfres cofnodion Cyfarwyddwr yr Ardal yn cynnwys gohebiaeth, cofnodion cyfarfodydd, pamffledi, adroddiadau, ystadegau, memorandau, toriadau papur newydd ac erthyglau o gyfnodolion.

Mae un ffeil benodol, sydd â’r teitl ‘Mail Shots’ (DNCB/12/1/18) yn cynnwys copïau o lythyrau a anfonwyd at weithwyr glo ers cychwyn y streic, ar lefel genedlaethol, ranbarth a glofeydd unigol. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o Coal News, Mawrth 1985, gydag ystadegau dychwelyd i’r gwaith i annog y rhai oedd eisoes ar streic yn ôl i’r gwaith, yn enwedig yng Nghymru, lle’r oedd 6% yn unig nôl wrth eu gwaith.

Bydd astudio cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol, ynghyd â deunyddiau eraill yn Archifau Morgannwg, yn galluogi ymchwil i bob agwedd ar y streic.  Ymhlith y deunyddiau hynny, er bod yna fyw hefyd, mae papurau grwpiau Cefnogi Menywod de Cymru (DWSG); papurau’r Cynghorydd Ray T Davies, trysorydd Grŵp Cymorth Glowyr Cwm Rhymni (D316); dyddiadur 1984/5 William Croad, Uwch Reolwr, yn gweithio dan y Rheolwr ac Is-reolwr Glofa Lady Windsor, Ynysybwl (D1174/1); Cofnodion Cronfa Gymorth Glowyr Aberdâr (D1432), a thoriadau o’r wasg ar y streic o Gofnodion Heddlu De Cymru (DSWP/49/7)

Llun 1: Your Future in Danger, A letter from Ian MacGregor, DNCB/12/1/18 p.3

Llun 2: A Message from Philip Weekes, 5th November 1984, DNCB/12/1/18 p.9

Llun 3: Mardy Newsletter, DNCB/12/1/18 p.35

Llun 4: Coal News, Mar 1985