I mi, un o’r pethau mwyaf braf am drawsgrifio dyddiaduron Henry oedd ymchwilio i gefndiroedd y bobl mae’n eu henwi – ei deulu, ei ffrindiau a’i gysylltiadau busnes. Wedi dod i wybod am hanes y teulu Fothergill, rhoddodd hynny fywyd i eiriau Henry a hefyd i fy nychymyg innau. Dechreuais i ystyried y teulu fel cymeriadau mewn nofel yn hytrach na phobl go iawn yn byw profiadau bywyd go iawn (mae’n rhaid fy mod wedi darllen gormod o waith Alexander Cordell!) Felly pwy yn union oedd y teulu Fothergill a beth oedd eu rôl yn natblygiad diwydiannol Bro Morgannwg?
Cychwynnodd cysylltiad y teulu â masnach haearn de Cymru gyda thaid Henry, Richard (1758-1821). Gadawodd ei swydd deuluol yn Lowbridge, Westmorland i ddod yn adeiladwr yn Clapham, de Llundain. Ar ôl priodi Elizabeth Rowland yn 1788, symudodd ei deulu i Gaerllion, gan fyw yn Back Hall am gyfnod. Yn dilyn ei lwyddiant yn y diwydiant haearn ym Mhont Hir, daeth yn bartner mewn llawer o leoliadau gwaith haearn eraill megis Tredegar, Sirhowy a Phenydarren.
Roedd gan Richard ac Elizabeth 3 mab; Richard II, Thomas a Rowland. Yn 1846 ar ôl achos llys chwerw, daeth Rowland, ei fab, yn berchennog-reolwr ar Waith Haearn Abernant a Llwydcoed (a elwid hefyd yn Upper Works) yn Aberdâr. Moderneiddiodd y ddau leoliad gwaith haearn a chynyddu allbwn nes i Gwmni Haearn Aberdâr ddod yn un o brif gyflenwyr rheiliau a chadeiriau haearn gyr ar gyfer y rhwydwaith reilffyrdd a oedd yn ehangu’n gyflun.
Yn y cyfamser, etifeddodd Richard II, a briododd â Charlotte Elderton yn Lambeth, Llundain yn 1822, Dŷ Lowbridge, Westmorland. Cawson nhw 11 o blant – 4 bachgen a 7 merch: Richard III (1822-1903), Charlotte Elizabeth (1824-1907), Elizabeth (1825-1859), Mary Anne (1826-1851), Harriet (1828-1873), Martha Isabella (1830-34), Emma (1831-1914), George (1833-1915), Agnes (1834-1850 neu 52), Henry, awdur y dyddiadur, (1836-1914) a Thomas Rowland (1839-1909).
Gweithiodd Richard III, y mab hynaf, fel prentis i’w Ewythr Rowland er mwyn dysgu popeth y gallai am agweddau technegol a busnes y diwydiant haearn. Pan ymddeolodd Richard i Gastell Hensol yn 1848, penododd Richard III yn rheolwr cyffredinol gyda’i dri brawd iau yn gweithio gydag ef – Tom a George yng Ngwaith Haearn Bro Taf a Henry yn Llwydcoed ac Abernant.
Dechreua dyddiaduron Henry yn 1860 pan oedd yn 24 oed a symudodd o Venallt yn Nyffryn Castell-nedd (y teulu Fothergill oedd yn berchen ar Waith Haearn Venallt yn Cwmgwrach) i’r prif Dŷ Canal. Ceir disgrifiadau manwl am y gwaith adfer y mae’n ei wneud ar ei gartref newydd, a oedd yn cynnwys ychwanegu tŷ adar lle cafodd gyfle i ymddiddori yn un o’i hoff ddiddordebau hyd oes, sef casglu adar egsotig. Er iddo symud oddi yno, cadwodd gysylltiadau agos iawn â’i gydweithwyr a’i ffrindiau yn Nyffryn Castell-nedd, megis y teulu Miers o Aberdulais Forge.
Erbyn 1860, roedd Richard III, sef brawd hŷn Henry, wedi priodi ddwywaith. Elizabeth Lewis, merch i Edward Lewis, asiant camlesi, a chwaer i James Lewis o Blas-draw, oedd ei wraig gyntaf. Daeth James Lewis a’i frawd Evan yn ffrindiau da iawn â Henry. Prynodd James, y meistr glo, Gwmni Haearn Aberdâr ar ôl iddo fynd yn fethdaliad yn 1875, ond cyn bo hir caeodd yr holl waith haearn er mwyn canolbwyntio ar y pyllau glo cysylltiedig. Cymerodd awenau Tŷ Abernant hefyd ar ôl i Richard III ymddeol i Dŷ Sion, Dinbych-y-pysgod.
Bu farw Elizabeth yn 1849, yn fuan ar ôl genedigaeth eu merch, Elizabeth, a ddaeth yn drydedd wraig i Charles Kemys-Tynte (1822-1891) o Gefn Mably yn hwyrach.
Yn 1850, priododd Richard III â Mary Roden (1833-1909), chwaer William Sargeant Roden, meistr haearn o Swydd Stafford, a Richard Brown Roden o waith haearn Pont-y-pŵl ac Abersychan. Cafodd y cwpl 6 o blant: Richard Thomas Fothergill (1852-1877); Mary Roden Fothergill (1853-1889); Helen Constance F. Fothergill (1855-1907); Ada Francis Fothergill (1858-1939); Sydney Roden Fothergill (1864-1943) a Theodore Roden Fothergill (1869-1895). Roeddent yn byw yn Nhŷ Abernant, a byddai Henry’n arfer mynd yno’n aml. Daeth Tŷ Abernant, a’i hadeiladwyd yn wreiddiol gan un o sefydlwyr Gwaith Haearn Abernant, James Birch, ac yna ei ehangu a’i foderneiddio gan Richard, yn Ysbyty Cyffredinol Aberdâr mewn blynyddoedd i ddod.
Roedd Mary Roden yn dod o deulu adnabyddus o feistri haearn Swydd Stafford. Roedd ei mam, Ann Brown, yn chwaer i Thomas Brown, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Ebbw Vale, ac yn ferch i Richard Brown. Creodd Richard Brown y mecanwaith ar gyfer locomotif Trevithick yn 1803, a hefyd sefydlodd y melinau bar haearn llwyddiannus yn Nantyglo.
Roedd brodyr Mary Roden hefyd yn feistri haearn dylanwadol. Daeth William Sergeant Roden (1829-1882) yn bartner yn y Cwmni Bar Haearn Shelton, Stoke-on Trent yn 1857 a symudodd gyda’i deulu i Etruria Hall, cyn-gartref Josiah Wedgewood.
Priododd Richard Brown Roden (RBR) ag Emma Fothergill, chwaer Henry, yn 1855 yn Westmorland. Cawson nhw un plentyn, Emmeline Roden Fothergill, a anwyd yn 1856. Cyflwynodd Emma ddeiseb gwahanu gyfreithiol i RBR ym mis Ebrill 1869, gan gofnodi godineb RBR gyda Mary Pritchard, y forwyn barlwr. Dilëwyd yr achos ym mis Mai 1872. Roedd yn ymddangos bod brodyr Emma yn gefnogol iawn ohoni, gan fynd gyda hi i’r llys yn San Steffan. Yn ddiweddarach, symudodd RBR i Corsica i oruchwylio gwaith y Mwyngloddiau Arian a Phlwm yn Calvi pan fu farw ei reolwr gwaith. Diswyddodd rai o’r gweithwyr oherwydd ei fod yn credu bod y mwyngloddiau’n gorgyflogi. Efallai mai dyma un o resymau dros ei lofruddiaeth; saethwyd ef yn ei gefn wrth iddo adael ei gartref ym mis Mawrth 1887, gan gyn-bensaer mwynglawdd a oedd yn dal dig yn ôl bob sôn.
Roedd y teulu Fothergill hefyd yn ffrindiau agos ac yn gyswllt busnes â’r teulu Crawshay yng Nghyfarthfa. Mae dyddiadur Henry [D553-2, t.93-94] yn cynnwys disgrifiad o ddathliadau priodas ddwbl brodyr Henry, George a Tom, gydag Isabel a Laura Crawshay (merched Francis Crawshay):
Thurs 10 April The Wedding Day!! Crowds of people about & lots of flags flying triumphal arches etc. We drove over to the Forest after an early breakfast, found Uncle Roland arrived we all started for Llantwit church, a mile and half off amid immense cheering, 6 carriages altogether, 4 horses in some, 6 bridesmaids in one including Helen Crawshay, she looked a perfect little angel so beautiful and fair in her white dress etc. everything passed off well at the church. I shook hands with Laura & gave Isabel a kiss of congratulations. Then back to the Forest amid tremendous cheering, splendid breakfast & 2 magnificent wedding cakes. No speeches, only Uncle Roland proposed health of brides & bridegrooms to which George responded in short but telling words. They all four left amid a shower of old shoes. I raffled my musical box 10/- per share & got #17.10 for it. Mr C took 10 shares & won the prize….
Roedd gan George ac Isabel 7 o blant. Yn anffodus, bu farw Isabel o’r clefyd coch ddeuddydd ar ôl geni eu mab, John Rowland, ym 1876. Roedd eu mab hynaf, George Algernon Fothergill (1869-1945) yn artist enwog, ac mae ei waith ar ddangos yn Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol.
Roedd Tom, Laura a’u teulu yn treulio llawer o amser yn Ewrop, gan setlo yn y Swistir yn y pendraw, lle bu farw Tom o drawiad ar y galon wrth gerdded yn Nyffryn Roseg, Pontresina, 1909.
Treuliodd Henry lawer o amser gyda Francis Crawshay a’i deulu, yn cyfathrebu â’i gilydd yn aml ac yn ymweld â Threfforest, Ynys y Barri (lle cadwai Francis ei gwch) a Bradbourne Hall, Kent (a brynodd Francis yn 1870 a lle bu yntau farw yn 1878). Mae’n ymddangos bod Francis yn hoff iawn o Henry. Ddeng diwrnod wedi’r briodas ddwbl, ysgrifennodd Henry:
D553/2, t.102, Sat. 26 April 1862, letter from Mr. Crawshay from London stating he had had his likeness taken for me purposely (very kind) and suggesting a wife for me, I don’t however want one for some six years..
Efallai bod gan Henry eisoes ei gynlluniau priodas ei hun, yn cynnwys merch 12 oed Francis, Helen Christine Crawshay. Ysgrifennodd Henry:
D553/2, t.120-121, Wednesday 28th May 1862, With George and Isabel to call at The Forest about 11 o’clock. Mr C come back from Barry, he not very well. Thinks of going down again on Saturday and asks me to accompany him he most kind to me…
Isabel a long lecture upon to me a most thrilling subject. I gave my best attention to it and intend profiting thereby for the next few years, when I look forward with hope and pleasure unutterable to a perfectly and truly heavenly reward and pray God that I may be so blessed
t.133, Friday 20th June 1862, Found a letter here last night on our arrival to me from Laura of a nature that has completely crushed me down. I feel low, dispirited and perfectly miserable. It was about dear H. and gave me little if any hope of ever being owner of such a precious treasure as she is. Still I will live on hopes. I wrote a long letter in reply to Laura dwelling strongly upon the whole matter and now anxiously await a half expected and half promised letter from Mrs C (as to her C.d.V)[Carte de visite].
t.181, Wednesday 9th July 1862, Gresham Hotel Dublin, Fine & warm, breakfast with strawberries & cream at 8.30.,walked to Post Office found a splendid lot of letters from, dear Mother, Hall, Mrs Crawshay, Stella, De Barry, Adams, half a dozen tradespeople, and a precious one from my own little darling H.C.C. Mrs. C’s from London very long interesting & touching most kindly on “the point” I live for..
D553/3, t.46, Thurs 11th Sept 1862, …Last train to Woodlands. I found Mr Crawshay was coming over to talk to me a bit about Her. He and William did come over to tea but the subject was not touched upon after all. I was on pins all the time.
t.74, Wed 12th Nov 1862, …by last train to The Forrest found George, Isabel, Tom there, we all sat waiting till about 9 o clock, when the coach of 4 horses arrived with Mr and Mrs Crawshay, Francis, Tudor, Helen, Stella and De Barri and all the servants. We welcomed them at the door steps , I had not seen her for more than five months, she looks more perfection than ever, and has grown an inch and a quarter.
t.139, Thurs 15th Jan 1863, Fine-by first train to Woodlands and up again by return train. Tom and Laura well – baby not quite well – had breakfast and returned with a pill stuck tight in my throat, that Laura gave me, about Her , that Mr C had put his veto upon it, there is however plenty of time and in so good a cause with plenty of perseverance and patience I’m sanguine still.
t.154, Wed 4th Feb 1863, …A long and kind letter from Mrs Crawshay The Forest about Her, wanting promise etc etc I replied by Bag to Mrs Crawshay and promised everything she wished, though very hard to do so, indeed terribly hard, how shall I feel next time I see her?
Mae’n ymddangos bod Francis Crawshay wedi gwrthod cynnig Henry ac wedi ceisio sicrwydd y byddai Henry’n parchu ei benderfyniad. Efallai bod arno ofn y buasai tri mab-yng-nghyfraith Fothergill yn bygwth llinach Crawshay.
A gyfrannodd siom Henry at ei benderfyniad i adael Aberdâr? Ynteu a oedd e’n flin, yn gweithio oriau hir heb lawer o ddiolch gan ei frawd, Richard? A fu iddo ragweld dirywiad y fasnach haearn, oherwydd y diwydiant cynhyrchu dur, a arweiniodd at dranc y Cwmni yn 1875? Pwy oedd y ‘Jones’ dirgel a sut y bu ef yn ddrwg yn y caws rhwng y brodyr, gan adael Richard yn unig berchennog y Cwmni yn 1864? Ai ‘Jones’ oedd ffugenw Henry ar gyfer Richard ei hun?
Mae’n amlwg o ddarllen ei ddyddiaduron bod Henry’n mwynhau gemau geirio a datrys posau – cymerodd ychydig i mi ddatgelu’r geiriau ‘gnittis sliob’, nes imi ddeall mai ‘sitting boils’ yn groes ydoedd! Mae’n sicr wedi’m gadael innau â llawer o gwestiynau. Rwy’n dwli ar ddod o hyd i’r atebion!
Corinne Evans, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg