Gwobr o £250: Hanes Lladrad Gemau Caerdydd Ebrill 1920

Un o’r nifer o wrthrychau anarferol sydd i’w canfod yn Archifau Morgannwg yw poster tua 2 x 3 troedfedd, a gynhyrchwyd ym 1920, sy’n cynnig gwobr o £250 am wybodaeth sy’n arwain at arestio “…lleidr neu ladron…” oedd wedi torri mewn i siop gemwaith yng nghanol Caerdydd [DCON/UNL/333].  Wedi ei gyhoeddi gan yr yswirwyr, Messrs Cunningham and Gibaud, a’r Prif Gwnstabl, David Williams, roedd y poster yn gofyn i unrhyw un oedd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Dinas Caerdydd drwy ffonio Caerdydd 3213.

Reward-Poster---web

Digwyddodd y lladrad ar noson y 27ain o Ebrill 1920, pan ddygwyd gwerth miloedd o bunnoedd o emwaith o TW Long, Jeweller and Diamond Merchant, o 2  Heol y Santes Fair, Caerdydd. Mae hanes y lladrad a’r cyrch a ddilynodd i ddod o hyd i’r drwgweithredwyr yn cael ei adrodd yng nghofnodion Heddlu Dinas Caerdydd yn yr Archifau. Mae’r poster yn cynnig y wobr, a yrrwyd at heddluoedd ledled y wlad, yn rhestru’r eitemau gafodd eu dwyn. Yn eu plith roedd modrwyau gemwaith, breichledau aur, blychau sigarennau aur, crogdlysau a gyddfdlysau. Mae modd gweld maint y lladrad o’r manylion sydd ar y poster. Ar eu pennau eu hunain roedd dros 170 o fodrwyau gemwaith. Gwerth yr eiddo yn dilyn asesiad cychwynnol yr heddlu oedd £5000 yn ôl prisiau 1920, sef oddeutu hanner miliwn yn ôl prisiau heddiw. Cafodd y ffigwr hwn ei ddiwygio wedi hynny gan yr yswirwyr yn £2000 ond roedd yn lladrad o bwys o hyd. Fodd bynnag, cipiwyd dychymyg y cyhoedd nid yn gymaint gan faint y lladrad ond oherwydd y dull heriol a fabwysiadwyd gan y lladron wrth dorri mewn i’r siop emau. Mae’r manylion i’w canfod yn yr adroddiad trosedd a wnaed gan Heddlu Caerdydd ar 28 Ebrill 1920.

Mr Thomas William Long, Jeweller, 2 St Mary Street reported that his premises at the above address were entered sometime between 6.30pm on the 27th and 9am on the 28th instant and stolen therefrom a large quantity of Jewellery …of the value of about £5000.

The premises were examined by Chief Detective Inspector Harries, Detective Inspector Hodges, Detective Sergeants Little, Pugsley and Evans who found that entrance had been effected by climbing a wall about 25 ft high at the entrance to the Cardiff Market (Old Arcade entrance) Church Street, apparently with the aid of a knotted rope, 20 feet long, on the end of which was fastened an iron hook, then climbing on to the roof of Messrs Cross Bros premises, lowering themselves 10 feet on to the roof at the rear of Mr Long’s premises, then forcing a window on the same floor, with the aid of a jimmy and thereby gaining full access to the Shop.

The articles were taken from cases and shelves in the window. A jimmy, a pair of chamois leather gloves and electric torch were found in the shop and another jimmy of the roof of the Market.

Mr George Atkins of 18 Talygarn Street, Assistant Manager of the Central Market found the rope (referred to) hanging on the wall in the entrance to the Market at 8.30am on the 28th April 1920 also a gold ring which was returned to Mr Long.

Mae’r cofnodion yn nodi’r camau a gymerwyd gan yr heddlu ar ôl darganfod bod lladrad wedi bod yn y siop. Gyrrwyd swyddogion i westyau yng nghanol y ddinas, tai lletya a’r orsaf drenau yn y gobaith o adnabod unrhyw un a fu’n aros yng Nghaerdydd, neu a adawodd yn gynnar ar fore’r 28ain, fu efallai a rhan yn y lladrad. Archwiliwyd lleoliadau troseddwyr gwybyddus o ardal Caerdydd a hefyd dynion oedd wedi cwblhau gwaith ar y siop rai misoedd ynghynt. Cymerodd yr heddlu ddatganiadau gan nifer o rai basiodd y lle, gydag un yn adrodd iddo weld …two men in the doorway, looking through the peep holes in the shutter. One of them was 50 years of age, dressed in corduroy trousers and a cap… ac adroddiad arall yn nodi day ddyn …one of them appeared to turn his face from my view. He was about 5ft 8 medium build, very dark complexion and had the appearance of a Foreigner and wore a Light Rainproof Coat and Trilby Hat.

Bu Mr Long a’i staff wrthi am dros wythnos yn  creu rhestr gyflawn o’r gemwaith oedd wedi ei ddwyn, ond wrth i’r manylion ddod i’r wyneb fe’u trosglwyddwyd i heddluoedd ledled y wlad yn syth gyda chais iddynt holi siopau gemwaith a siopau gwystlwyr am y nwyddau a ladratwyd. Gofynnwyd i heddluoedd roi manylion hefyd am unrhyw ladron siopau gwybyddus a oedd wedi torri i mewn yn yr un modd. Trosglwyddwyd nifer syfrdanol o enwau a ffotograffau i Heddlu Caerdydd gan heddluoedd eraill, ac aed ar ôl pob enw i ganfod ble’r oeddent ar noson y 27ain o Ebrill.

Roedd yn ymddangos bod datblygiad pwysig wedi digwydd o fewn dyddiau. Adroddodd Sarjant Little, un o’r swyddogion a alwyd i’r safle, ei fod wedi derbyn gwybodaeth ‘o le da’ beth amser yn ôl bod tri lleidr adnabyddus o Birmingham yn targedu TW Long ac yn cynllunio i dorri mewn dros nos drwy ddringo dros do gerllaw.  Er i’r wybodaeth gael ei rhoi rhai blynyddoedd yn ôl gofynnodd Heddlu Caerdydd i’w cydweithwyr yn Birmingham i fynd ar drywydd y tri dyn. Yn ychwanegol, gyrrwyd yr offer a adawyd yn safle’r drosedd i Birmingham i’w archwilio gan dditectifs er mwyn canfod a oedd yn debyg i offer a ddefnyddiwyd gan ladron siopau yn y ddinas honno. Mae gohebiaeth yn y ffeiliau yn dangos sut y bu i Heddlu Caerdydd gydweithio gyda lluoedd Birmingham a Caerhirfryn i fynd ar drywydd y tri dyn ond cafodd y tri eu diystyru maes o law.

Fel y gellid disgwyl, ysgrifennodd perchennog y siop nifer o lythyrau yn cwyno, gan gynnwys un ar 7 Mehefin at yr Arglwydd Faer. Roedd Long yn amlwg yn disgwyl i’r heddlu alw heibio i’r safle bob awr yn ystod y nos a’i fod yn ystyried bod plismona yng nghanol y ddinas yn rhy lac o lawer. Wrth ymateb, yn ei adroddiad i’r Pwyllgor Watch, oedd wedi ei ddyddio ar 14 Gorffennaf 1920, cyfaddefodd y Prif Gwnstabl nad oedd yr heddlu dillad cyffredin oedd yn cadw golwg ar ganol y ddinas ar ddyletswydd y noson honno am eu bod i fod i sefyll arholiad dyrchafiad y bore canlynol. Fodd bynnag, tra bod hyn yn anffodus, roedd heddwas mewn iwnifform, y Cwnstabl Frank Biston PC11, wedi galw heibio i’r safle dair gwaith yn ystod y nos ond iddo gael ei alw at siop Messrs Pearse and Jenkins, Sadleriaid, yn Stryd y Cei am y canfuwyd bod hwnnw ar agor. Cyfeiriodd Williams at Biston fel: …a reliable man who has served in this district without complaint for 23 years. Serch hynny nododd …the failure to discover the hanging rope in the market entrance is admitted and regretted… but it …would be easily overlooked in a general inspection of the building.

Yn y misoedd a ddilynodd y lladrad, rhagdybiwyd y byddai eitemau gemwaith yn cael eu canfod wrth iddynt gael eu gwerthu a thrwy hynny yn cynhyrchu trywyddion newydd. Mae’r cofnodion yn dangos y cafwyd gwybodaeth am sawl eitem oedd yn debyg i’r rhai a restrwyd fel rhai a ladratwyd. Ym mis Medi, teithiodd y Prif Dditectif Harries a Mr Silver, aelod o staff Long, i Newcastle i adnabod ‘2 gadwyn aur platinwm’ a basiwyd i’r heddlu gan emydd lleol. Ond, fel gydag adroddiadau eraill, gan gynnwys modrwy a ganfuwyd yn Y Barri, doedd dim modd eu hadnabod cant y cant fel y gemau a ddygwyd ar noson y 27ain o Ebrill.

Am bron i flwyddyn, ni lwyddwyd i ddatrys y drosedd ac ni hawliwyd y wobr gan neb. Mae’n debyg bod Heddlu Dinas Caerdydd ar fin rhoi’r gorau iddi, tan yn gynnar ar fore’r 11eg o Fawrth 1921:

…Constable Frederick Pickett, No 32 ‘A’, observed a knotted rope attached to and hanging by an iron hook from the coping over the entrance to the Central Market in the Old Arcade.  He immediately reported the matter at the Central Police Station. Almost at the same time Messrs Long’s premises – No 2 St Mary Street – were opened and it was reported that they had been entered.

Roedd yn gopi carbon o’r lladrad gwreiddiol pan lwyddwyd i gael mynediad trwy ddringo ar do tŷ bach tafarn yr Old Arcade a cherdded ar hyd to’r farchnad i dorri mewn i gefn rhif 2 Heol y Santes Fair. Roedd adroddiad yr heddlu a gofnodwyd ar 11 Mawrth fodd bynnag, yn dweud ychydig mwy wrthym ni y tro hwn sut y bu i’r lladron, wedi iddynt ddringo ar do’r farchnad, dorri mewn i’r ail lawr ar 2 Heol y Santes Fair ac oddi yno i’r brif siop:

From the flat roof a descent of about 20ft to a sloping roof was made by means of a rope secured to holes bored in the woodwork under the lead covering of the flat roof. At the side of the skylight was a window of Messrs Long’s premises. This window was secured by an ordinary catch and was easily forced by means of a jemmy giving access to a workroom on the second floor. The door of the workroom was secured by a small padlock and was similarly forced. Outside the door was a staircase leading to the first floor on which is situated a show room and lavatory. On the staircase from the first floor to the shop is a heavily padlocked steel gate which is in the full view of observation holes in the shutters. To avoid observation here the thieves broke through the floor of the lavatory to the workroom below. From here ingress to the shop was barred by another steel gate which was however not so prominent as that on the staircase. The padlock of this gate was forced by means of a specially prepared jemmy. The stolen property was taken from the window and show cases. [Adroddiad Trosedd, Adran A, Heddlu Dinas Caerdydd].

Roedd y lladron wedi paratoi yn dda ac mae’r adroddiad yn cadarnhau iddynt adael y canlynol ar eu holau:

One jemmy, one brace and bits, a steel three wheel tube cutter (American make), two hack saw blades, a knotted rope with an iron hook attached. The hook is semi-circular and roughly fashioned.

Dygwyd gwerth £3000 o emau yn gyfan gwbl, gan gynnwys: …gold watches, watch bracelets, watch wristlets, alberts, signet rings, brooches, necklets, cigarette cases, cigarette boxes, links, bangle rings set with diamonds, vanity cases and one or two sets of pearl studs.  Unwaith eto roedd hwn yn lladrad beiddgar a oedd yn peri penbleth i Heddlu Caerdydd.  Ailadroddwyd llawer o weithredoedd y flwyddyn flaenorol y tro hwn, gan gynnwys ymchwilio i nifer o gymeriadau lliwgar yn ôl eu henwau gan gynnwys ‘American Frank’. Ond unwaith eto, ofer fu’r ymdrech. Ar yr achlysur hwn, adroddodd Long fod cloc wedi ei symud gan y lladron a bod gobaith y ceid olion bysedd er mwy cynnig cliw o ran pwy oedd y lladron. Fodd bynnag, mae adroddiad y Cyfarwyddwr Ymchwiliadau Troseddol yng Nghangen Olion Bysedd, New Scotland Yard yn cadarnhau taw’r unig olion a ganfuwyd oedd olion bysedd staff Mr Long.

Roedd yn ymddangos  fel bod datblygiad pwysig wedi digwydd pan dderbyniwyd llythyr gan yr heddlu oedd wedi ei deipio yn wael oedd yn enwi’r lleidr:

This is the second time he has done the same shop. If you make enquiries … he left London by the 5 train and got to Cardiff about 9 and before 9 the next day he was back in London again. Ex pal of his.

Ar achlysur arall, holodd ditectifs o Gaerdydd garcharor yn Dartmoor a honnai y gwyddai pwy oedd y lladron. Ar y ddau achlysur canfuwyd bod y wybodaeth yn ffug. Roedd gobaith o weld yr achos yn symud yn ei flaen pan, ym mis Medi 1921, y canfuwyd oriawr â breichled aur 18 carat arni yn Llundain a’i dychwelyd at Mr Long. Yn anffodus doedd gan y gemydd o Lundain a dalodd £7 10s am yr oriawr, ddim cofnod o bwy oedd y gwerthwr ac ni allai ddweud mwy na bod: …a man age about 35/40, height 5ft 9 or 10, complexion sallow, hair and moustache dark, dress; dark clothes believed bowler hat, carrying a brief bag.

Mae’n bosib ei fod yn enghraifft o gau drws y stabl ar ôl i’r ceffyl ffoi pan adroddodd TW Long and Co, ym mis Mehefin 1921, eu bod wedi gwella eu diogelwch drwy gyflwyno system farrau yng nghefn yr eiddo. Roedden nhw hefyd wedi rhoi goriad i’r heddlu at ddrws ochr y siop. O’u rhan hwy, cytunodd Heddlu Caerdydd ar y camau canlynol, a gofnodwyd mewn llythyr gan y Dirprwy Brif Gwnstabl at Uwch-arolygydd dros dro’r ‘A’ Division ar 4 Mehefin 1921:

Elaborate precautionary measures have been taken by Messrs Long and Company to protect their premises against shop breakers….The Night Plain Clothes Patrol Constable within whose patrol the premises are situated, will be handed nightly by the Officer in Charge of the Plain Clothes Patrol a key which will enable him to gain access by the side door in Church Street. This door will be always locked after entering and leaving. Upon satisfying himself that everything is in order the Plain Clothes Constable will record his visit in the book provided (sent herewith) and which will be found on a desk in the passage and left there as a record.

Ar y pwynt hwn fodd bynnag mae’r trywydd yn mynd yn oer. Bron dwy flynedd yn ddiweddarach, mae un o’r llythyrau olaf ar yr achos, ar 26 Mawrth 1923, yn cadarnhau bod y ddau drosedd yn para heb eu datrys. Efallai bod hwn yn achos i Poirot neu Holmes?

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg