Roedd dydd Llun 21 Gorffennaf 1919 yn ddiwrnod i’w gofio pan gafodd 40,000 o blant ysgol yng Nghaerdydd wahoddiad i barti te dathliadol fel rhan o’r Dathliadau Heddwch a gynhaliwyd ar draws y wlad dros 4 diwrnod. Er y llofnodwyd y Cadoediad ym mis Tachwedd 1918, ni chwblhawyd Cytundeb Versailles, a ddaeth â’r rhyfel i ben yn ffurfiol, tan fis Mehefin 1919. I nodi’r digwyddiad hwn penderfynwyd rhoi gŵyl banc ar 19 Gorffennaf a gofyn i awdurdodau lleol drefnu cyfres o ddathliadau ar draws y wlad.
Gellid bod wedi ystyried bod y dathliadau yn ysgolion Parc Ninian ychydig yn arbennig gan y daeth Syr J Herbert Cory yno, ac yntau’n AS lleol ac yn fab i un o farwniaid glo a llongau Caerdydd, John Cory o John Cory and Sons. Fodd bynnag, roedd gan y staff a’r disgyblion lawer mwy i’w ddathlu oherwydd bod 21 Gorffennaf yn nodi’r diwrnod cyntaf iddynt ddychwelyd i’w hysgol ers mis Mai 1915. Gellir olrhain hanes Ysgol Fechgyn ac Ysgol Ferched Ninian trwy gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg, yn benodol cofnodion Pwyllgor Addysg Dinas Caerdydd a’r llyfrau log a gedwid yno gan benaethiaid y ddwy ysgol.
Mae’r stori’n dechrau ar 13 Mai 1915 pan gofnododd W H Nettleton, pennaeth Ysgol Fechgyn Parc Ninian, y canlynol yn llyfr log yr ysgol:
Holiday in the afternoon, Thursday and Friday 14th to enable the men to remove the furniture and stock to Court Road School as this school, Ninian Park, has been requisitioned by the War Office for a temporary Military Hospital during the War [EC42/1/1, 13 Mai 1915, t122].
Pan sefydlwyd 3ydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin yng Nghaerdydd i dderbyn y clwyfedigion o Ffrainc, roedd angen dybryd am le ysbyty addas. Roedd Ysgol Parc Ninian, a oedd yn cynnwys ysgol y merched ac ysgol y bechgyn, yn un o saith adeilad ysgol y dewiswyd eu defnyddio fel ysbytai trwy gydol y rhyfel, o dan reolaeth y fyddin. Cafodd y ddwy ysgol eu hadleoli i Ysgol Court Road. Ni fyddai wedi bod yn beth hawdd i’r ddwy ysgol symud, gydag oddeutu 10 aelod o staff a 350 o ddisgyblion ym mhob un. Ac eto, er mawr syndod, roedd yr ysgolion yn gweithredu fel arfer y dydd Llun canlynol, sef 17 Mai. Dros y 4 blynedd nesaf, roedd ysgolion Parc Ninian yn rhannu safle ag Ysgol Court Road gyda phob ysgol yn gweithredu amserlen un sesiwn. Fel y nododd Margaret Ferguson, pennaeth Ysgol Ferched Parc Ninian, roedd hyn yn golygu y byddai ysgolion Parc Ninian yn defnyddio’r safle o 8.45 tan 12.30 yna Court Road o 1.30 tan 5.15. Yr wythnos ganlynol byddai’r trefniant yn cael ei wrthdroi gyda Court Road yn cael y sesiwn foreol (cyf. ED42/3/1, 17 Mai 1915, t 277).
Yn y cyfamser roedd y fyddin wedi dechrau addasu Ysgol Parc Ninian i ‘w newid yn ysbyty. Roedd hyn yn gofyn am waith sylweddol i addasu’r tu mewn i greu wardiau ysbyty ac ystafelloedd llawdriniaeth yn ogystal â gwelliannau i’r cyflenwad dŵr, y goleuadau a’r system wresogi. Rydym yn ffodus bod dau ffotograff o ysbyty milwrol Parc Ninian a dynnwyd ym 1917 yng nghofnodion Archifau Morgannwg. Mae un yn dangos ystafell ddosbarth wedi’i haddasu yn cael ei defnyddio fel ward ysbyty (cyf.: DX486/1/1). Mae’r llall yn ffotograff o’r ystafell lawdriniaeth (cyf.: DX486/1/2).
Byddai’n amser anodd iawn i’r staff a’r disgyblion ond bydden nhw, ynghyd ag eraill, wedi derbyn bod angen gwneud aberthau yn ystod y rhyfel. Fodd bynnag, gellid disgwyl y byddent yn dychwelyd i’r ysgol yn fuan ar ôl llofnodi’r Cadoediad ar 11 Tachwedd 1918. Fel y dengys cofnodion Pwyllgor Addysg Dinas Caerdydd, roedd yn amser hir cyn bod modd i’r fyddin drosglwyddo’r ysgolion yn ôl i’r awdurdod lleol. Roedd nifer sylweddol o glwyfedigion yng Nghaerdydd o hyd i ofalu amdanynt ac ni fu modd i’r oedd Cyrnol Hepburn, Pennaeth Milwrol 3 Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin, ddychwelyd Ysgol Parc Ninian i’r awdurdod lleol tan 11 Mai 1919, chwe mis ar ôl llofnodi’r Cadoediad. Parc Ninian oedd y drydedd o’r ysgolion ysbyty i gael eu dychwelyd i’r awdurdod addysgol. Ni wastraffwyd unrhyw amser wrth fynd ati i alluogi defnyddio’r safle fel ysgol eto a dechreuodd y gwaith hwnnw ar 19 Mai.
Roedd y rhestr waith er mwyn gwneud yr adeilad yn addas ei ddefnyddio fel ysgol yn heriol iawn. Mae cofnodion yr Is-bwyllgor Adeiladau a Safleoedd yn cadarnhau bod angen adnewyddu’r systemau gwresogi, goleuo a dŵr yn llwyr. Yn ogystal, rhoddwyd gorchymyn i lanhau a diheintio’r ysgolion yn drwyadl. Mewn rhai achosion croesawyd y newidiadau a wnaed gan y fyddin. Er enghraifft, cafodd y gwelliannau i’r cyflenwad dŵr eu cadw. Fodd bynnag, bu cryn drafodaeth ynghylch cadw’r goleuadau trydan dros dro a’r newidiadau a wnaed i system wresogi’r ysgol ai peidio. Ym Mharc Ninian cafodd y system gwresogi ager pwysedd isel ei gosod ym mis Medi 1915 gyda phibellau a rheiddiaduron i bob ystafell. Dyma’r hyn a nodwyd hyn am y system wresogi (yn Ysgol Parc Ninian ac Ysgol Lansdowne Road) yng nghofnodion y pwyllgor:
…is not one that we would have advocated for schools but as both installations have to be completed with all possible speed and all necessary structural damage avoided, it was the only system which could have been used (BC/E/1/19, 13 Mai 1919, t 165).
Felly, argymhellwyd y dylid ei chadw ar yr amod yr ychwanegid gwresogyddion lle’r oedd angen ym mhob ystafell ddosbarth a datgysylltu a gwasanaethu’r boeler: Fodd bynnag, ni chadwyd y system goleuadau trydan, gyda’r awdurdod lleol yn dewis adnewyddu’r goleuadau nwy presennol yn yr ysgol (ref.: BC/E/1/19, 17 Mehefin 1919, t 203).
Roedd tu allan yr adeilad mewn cyflwr gwael amlwg ac roedd angen atgyweirio a phaentio’r ffenestru a gosod arwyneb newydd ar y lle chwarae. Yn olaf, roedd rhaid dychwelyd y celfi. Unwaith eto nid oedd hyn yn hawdd ei wneud ac mae cofnodion y pwyllgor yn cofnodi:
The whole of the furniture has been returned after some difficulty as it was scattered in various part of the City, it having been loaned to other schools during the war period.
Aeth y gwaith yn Ysgol Parc Ninian ac yn Ysgol Lansdowne Road rhagddo bron ar y cyd, gan fanteisio ar gronfa o 80 o ddynion, gan gynnwys 25 o gyn-filwyr, a gyflogwyd gan y Cyngor i wneud gwaith ail-addasu. Amcangyfrifwyd mai’r gost ar gyfer y ddwy ysgol oedd £4000 i’w thalu gan y fyddin, gan roi ystyriaeth i gyfarpar a gadwyd at ddefnydd yr ysgolion. Er enghraifft, prisiwyd y system gwresogi ager yn Ysgol Parc Ninian yn £315 gyda’r swm hwn yn cael ei ddidynnu o’r bil a anfonwyd i’r fyddin. Ar y llaw arall, roedd yn amlwg bod yr awdurdod lleol yn awyddus i ddod o hyd i arian am ei gostau ac roedd y bil terfynol, yn ogystal â chynnwys gwaith adeileddol, hefyd yn cynnwys y costau am glirio deunydd milwrol diangen o’r ysgolion ac atgyweirio cyfarpar, gan gynnwys pianos, a adawyd yn yr ysgolion ac a ddifrodwyd.
Felly roedd 21 Gorffennaf 1919 yn ddiwrnod arbennig iawn. Er na ddisgwylid i’r ysgol ailagor tan ddechrau tymor yr hydref, penderfynodd penaethiaid ysgol y merched ac ysgol y bechgyn y dylid cynnal y parti te dathliadol ym Mharc Ninian yn hytrach nag yn Court Road. Roedd y gwaith o gynllunio’r diwrnod wedi bod ar y gweill ers peth amser gyda’r Pwyllgor Addysg yn dyrannu 1 swllt a 3 cheiniog y disgybl i ysgolion ddarparu te a phrynhawn o fabolgampau. Mi wnaeth yr awdurdod logi a dosbarthu 50 o foeler dŵr i ysgolion lle nad oedd cyfleusterau i wneud te (cyf.: BC/E/1/19, 3 Gorffennaf 1919, t 211).
Mor gynnar â 23 Mai 1918, nododd Margaret Ferguson yn ei llyfr log:
I sent my numbers to Ed Office for which tea was to be provided for Peace celebration – 360+12=372 [EC42/3/2, 13 Mai 1919, t 32].
Nid yw’n glir pryd cafodd y penderfyniad ei wneud i ddarparu’r parti te ym Mharc Ninian ond yn ddiau roedd y Pwyllgor Addysg yn awyddus i ddangos ei ysgolion wedi’u gweddnewid. Mae’n rhaid bod rheoli’r dathliad ar yr un amser â’r symud yn waith trefnu heriol. Ar 16 Gorffennaf nododd Margaret Ferguson:
School closes today in order to have Thursday 17th and 18th inst for removal of all stock to Ninian Park School. On Monday 21st inst the Peace tea will be given to the scholars in Ninian Park School. The building is not quite ready but we can have the tea in the hall. After the Peace Tea our summer vacation begins [Ysgol Ferched Ninian Park, llyfr log, EC/42/3/2, 16 Gorffennaf 1919, t 34].
Er bod glaw wedi cwtogi’r dathliadau awyr agored ar y dydd, doedd dim byd yn gallu torri ar frwdfrydedd y disgyblion, a nododd Margaret Ferguson:
The Peace Tea given to the scholars on 21 July passed off very successfully; sports could not be held owing to the rain; but there were games in the central hall. They all enjoyed themselves very much and I had some difficulty to get them home. Sir Herbert and Lady Cory visited this Department and each of them addressed the children who thanked them for their liberality [EC42/3/2, 29 Awst 1919, t 36].
Mae ffotograffau o’r dathliadau ar draws Caerdydd yn dangos plant wedi’u gwisgo fel milwyr, morwyr a nyrsys ar gyfer yr achlysur. Bu i rai ysgolion gynnal ‘Tablo Heddwch’ gyda disgyblion yng ngwisg ffigyrau gwladgarol, gan gynnwys Britannia. Yn amlwg roedd digon o bopeth ac adroddwyd bod y rhan fwyaf wedi dewis cwrw sinsir yn hytrach na the. Nododd Margaret Ferguson yn log yr ysgol ar 12 Medi ei bod hi’n dal yn dosbarthu …losin a oedd yn weddill o’r Te Heddwch… (cyf.: EC42/3/2, 12 Medi 1919, t 36). Cafodd y disgyblion un peth da olaf ar ddechrau’r tymor newydd ym mis Awst:
…mugs given by Councillor J C Gould MP in commemoration of the signing of the Armistice between the Allies and the Central Powers, 11 November 1918… [EC42/3/2, 26 Awst 1919, t 35].
Roedd yr ysgol ar waith unwaith eto ym Mharc Ninian. Roedd y rhyfel a’r alltudiaeth pedair blynedd wedi dod i ben.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Gellir gweld cofnodion Ysgol Fechgyn Parc Ninian ac Ysgol Ferched Parc Ninian ar gyfer y cyfnod hwn yn Archifau Morgannwg cyf. EC/42/1/1 ag EC/42/3/1-2. Ceir y ffotograffau o ysbyty Parc Ninian ym 1917 yn DX486/1/1-2. Ceir cofnodion Pwyllgor Addysg Dinas Caerdydd a’i is-bwyllgorau yn BC/E/1/19.