Mae’r Syrcas yn dod i’r Dref: Y Syrcas Haearn ar Heol Penarth, 1890

Ar 28 Chwefror 1889, cyhoeddodd y South Wales Daily News adroddiad o dan y pennawd ‘Interesting Sale’.  Disgrifiodd y papur newydd werthiant mawr o gyfarpar syrcas yng Nghaerdydd a oedd yn perthyn i Mr J Tayleure, yr impresario syrcas enwog.  Roedd Tayleure, ynghyd â’i bartner busnes Hutchison, wedi bod yn rhedeg syrcasau yng nghanol dinas Caerdydd yn Heol Eglwys Fair yn y lle cyntaf ac, o 1876, yn Heol y Porth.  Roedd Tayleure yn bwriadu ymddeol ac mae’n debyg bod y gwerthiant yn nodi diwedd y syrcas yn Heol y Porth, a adeiladwyd ar dir ym mherchenogaeth y teulu Bute a oedd wedi’i glustnodi fel safle addas i adeiladu swyddfa bost newydd. [South Wales Daily News, 28 Chwefror 1889]

Ymhlith y rhai a oedd yn cynnig y diwrnod hwnnw roedd mab Tayleure, David, a brynodd babell syrcas am £70. Yn y blynyddoedd canlynol parhaodd David Tayleure i redeg y busnes teuluol fel syrcas deithiol, o bosib oherwydd nad oedd cost safle parhaol yng nghanol tref ffyniannus yn dwyn elw rhesymol.  Fodd bynnag, nododd y papur y bu rhyw Mr J Sanger yn y gwerthiant.  Roedd John Sanger yn ben ar deulu syrcas mawr ac adnabyddus o Lundain, John Sanger and Sons, a oedd yn enwog am gynyrchiadau syrcas ysblennydd a deithiai ledled y wlad.   Mae’n bosib bod Sanger, ar ôl sylwi ar ddiwedd syrcas Heol y Porth, wedi gweld cyfle.  Y flwyddyn ganlynol, 1890, cyflwynodd yntau gynlluniau i Syrfëwr Bwrdeistref Caerdydd ar gyfer syrcas i’w hadeiladu yng nghanol y dref yn Heol Penarth, ar dir a ddefnyddir heddiw ar gyfer maes parcio Gorsaf Caerdydd Canolog.

Cedwir y cynlluniau ar gyfer y syrcas hon yn Archifau Morgannwg ynghyd â llythyr gan y cwmni a fu’n gyfrifol am ei dylunio a’i hadeiladu (cyf: BC/S/1/7869).

BC-S-1-7869-1a-web

BC-S-1-7869-1b-web

BC-S-1-7869-2-web

Maent yn dangos syrcas o faint na welwyd ei fath erioed yn y ddinas.  Mae’n ddyluniad trawiadol mewn sawl ffordd.  Er bod syrcas Heol y Porth wedi syfrdanu’r cyhoedd gydag arena â digon o le ar gyfer hyd at 2000 o bobl, roedd gan syrcas Heol Penarth le ar gyfer hyd at 4500. Er mwyn galluogi hyn, defnyddiwyd dyluniad cwbl newydd, a oedd yn cynnwys haearn rhychog yn lle pren.  Roedd Sanger wedi hurio cwmni o Nottingham, Thomas Woodhouse, i ymgymryd â’r gwaith dylunio ac adeiladu.  Roedd llythyr y cwmni at Syrfëwr Bwrdeistref Caerdydd yn cynnwys geirdaon gan 5 awdurdod lleol a oedd yn cadarnhau safon ei waith a’r honiad bod y cwmni wedi adeiladu dros 40 adeilad o’r fath dros y blynyddoedd diweddar.

BC-S-1-7869-3a-web

BC-S-1-7869-3b-web

Mae’r cynlluniau’n dangos adeilad hirsgwar di-nod, 124tr x 131tr.  Fel arfer, roedd yr ysblander a’r ceinder i’w gweld y tu mewn i’r adeilad a nodweddid gan y fformat syrcas arferol.  Roedd y cylch 44tr fymryn yn fwy na’r arfer, gan alluogi Sanger i honni mai hwn oedd y mwyaf o’i fath erioed yng Nghymru.  Roedd cwpola canolog rhyw 50 droedfedd uwchben canol cylch yn rhoi golau ac aer i amrywiaeth o seddi rhesog, gan gynnwys bocsys, seddi blaen, seddi ôl, oriel a phromenâd.  O dan y seddi roedd ystafelloedd gwisgo ar wahân i’r perfformwyr, adran wardrob a swyddfeydd.  Bwriedid i’r syrcas gael ei goleuo gan 4 siandelïer fawr, y byddai gan bob un 32 o losgwyr nwy, a byddai rhagor o arc-oleuadau o gwmpas yr arena.  Mae’n amlwg y bu pryderon am ddiogelwch a thynnwyd sylw mawr at y ffaith y byddai’r gwaith coed yn cael ei orchuddio gan baent anllosgadwy ac y byddai sawl allanfa ar gael.  Pe bai tân, amcangyfrifwyd y gellid gwagio’r arena mewn llai na dwy funud.  Mae’n amlwg na fyddai unrhyw gost yn cael ei harbed ar gyfleusterau i’r staff a’r cyhoedd.  Fodd bynnag, mewn un agwedd roedd gwahaniaeth mawr i’r adeileddau a oedd wedi’u defnyddio yn syrcas Heol y Porth.  Roedd syrcasau Hutchison a Tayleure wedi dilyn y fformiwla traddodiadol o berfformiadau marchogaeth gydag acrobatiaid, mabolgampwyr a chlowniaid rhyngddynt.  Fodd bynnag, yn ogystal â chynnwys ardal fawr ar gyfer stablau ceffylau, roedd y dyluniad ar gyfer syrcas Heol Penarth hefyd yn cynnwys lle ar gyfer milodfa.  Roedd y syrcas wedi datblygu gan gyflwyno anifeiliaid egsotig a gwyllt ac roedd Sanger ac eraill yn gwneud defnydd cynyddol o lewod, eirth ac eliffantod fel prif atyniadau’r syrcas.

Yn destament i sgiliau a menter y dylunwyr a’r adeiladwyr, cafodd y cynlluniau eu cyflwyno ar 7 Hydref a’u cymeradwyo ar 23 Hydref 1890. Mewn llai na 5 wythnos roedd yr adeilad wedi’i gwblhau ac roedd Sanger’s Royal Circus and Menagerie ar agor i’r cyhoedd.  Nododd y Western Mail ar 28 Rhagfyr 1890:

For some weeks past a considerable body of workmen have been employed night and day in erecting a huge circus or hippodrome on the Penarth Road, Cardiff….With regard to the adornments, something may also be said. They consist of innumerable shields, flags bannerets and other devices representative of every nation. This work has been carried out by Mr Dominic Hand the well-known London art worker.

The menagerie is situated on the west side of the circus, and it is a beautifully lighted building, 80ft long by 40ft wide with accommodation for six dens of beasts, ten elephants, six or eight camels, dromedaries, llamas, yaks, beside “side shows” in the shape of illusions, freaks of nature &c….The whole of the artistes engaged, as well as the elephants, camels, carnivores and stud will be conveyed from London by three special trains….

Fel a nodwyd yn y Western Mail, agorwyd y syrcas ar 1 Rhagfyr i awditoriwm dan ei sang ac roedd yn “…undoubtedly one of the best circus performances seen in Cardiff”.

Messrs Sanger have an excellent stud of horses, including some well known thoroughbreds, a good zoological collection, a fine troupe of educated elephants and a staff of clever artistes. Just to mention a few items in the programme, Tarro, the Japanese wire and rope walker performs some marvellous feats. Miss Lavina Sanger introduces a fine horse “Black Eagle” in a unique performance and the Romah troupe of horizontal bar performers are very good gymnasts. Lieutenant Hartley exhibits his troupe of trained elephants which appeared at Sandringham on the occasion of the coming of age of His Royal Highness, Prince Albert Victor. The programme is replete with equestrienne, bicycle acrobatic and jockey performances. The circus is open each evening and on Wednesday and Saturday afternoons.

Er y dechreuodd yn dda, roedd gan Sanger rywbeth arall i’r cyhoedd ryfeddu ato dros y Nadolig.  Roedd yr adeiladwyr wedi cael cais i gynnwys newid munud olaf i’r gwaith adeiladu.  Trwy ddefnyddio dyluniad gan ddyn o Gaerdydd, Charles Elms, adeiladwyd y syrcas yn fath ffordd i alluogi lenwi’r arena â 40,000 galwyn o ddŵr hyd at ddyfnder o 2 i 3.  Y bwriad oedd i’r perfformiad Nadolig gynnwys ‘pantomeim morol’ ar sail set a welwyd gyntaf mewn syrcas ym Mharis.

the arena is filled with water forming a, by no means, miniature lake, dotted with islands, spanned by bridges and with boats, canoes and a steam launch, each with a freight of pleasure seekers floating thereon….This has been seen and enjoyed by thousands; many more thousands will see and enjoy it, too, for the whole thing is so excruciatingly funny that is it bound to have a long run [Western Mail, 31 December 1891]<}0{>the arena is filled with water forming a, by no means, miniature lake, dotted with islands, spanned by bridges and with boats, canoes and a steam launch, each with a freight of pleasure seekers floating thereon….This has been seen and enjoyed by thousands; many more thousands will see and enjoy it, too, for the whole thing is so excruciatingly funny that is it bound to have a long run [Western Mail, 31 Rhagfyr 1891]

Byddai’r rhai a welodd y sioe Nadolig wedi gweld perfformiad a oedd, yn ogystal â’r pantomeim, yn cynnwys ceffylau, eirth, llewod ac eliffantod gyda chast ategol o acrobatiaid, mabolgampwyr a chlowniaid.  Roedd pris y tocynnau’n amrywio rhwng 1 swllt a chwe cheiniog i 3 swllt.  Fodd bynnag, nid aeth pob perfformiad yn ôl y bwriad.  Roedd y dŵr yn cael ei wresogi gan rwydwaith o bibellau ager a fethodd un noson.  Fel a nodwyd y diwrnod canlynol, roedd y perfformwyr wedi dangos cryn dipyn o ruddin i fynd i mewn i’r dŵr oer [South Wales Echo, 30 Rhagfyr 1891].  Heb os fe cafwyd mwynhad yn y pantomeim gan blant o Drelai a chafodd tocynnau am ddim i’r berfformiad prynhawn Fercher:

At the conclusion of the performance, which was hugely enjoyed, the youngsters were treated to buns and oranges. They were conveyed to and fro by brake [South Wales Daily Echo, 22 Ionawr 1891]

Y mis canlynol parhâi’r syrcas i ddenu cynulleidfaoedd mawr gan fod Sanger yn newid y perfformwyr yn rheolaidd.  Ym mis Chwefror yr uchafbwynt oedd ‘Y Rhyfel yng Ngwlad y Swlw’  …employing over 200 men and horses and assisted by a detachment of the 41st Regimental District.  Arweiniodd hyn at adroddiad rhyfedd yn y papurau newydd.  Roedd docwyr a fu’n streicio, wrth weld milwyr yn cael eu symud o gwmpas canol y ddinas, yn tybio mai ymdrech i dorri’r streic ydoedd.  Wedyn esboniwyd bod y milwyr yn cael eu cludo i berfformiad yn y syrcas [South Wales Echo, 10 Chwefror 1891]. Bu ond y dim i drasiedi ddigwydd yn y syrcas hefyd.  Adroddwyd ar 20 Rhagfyr yr aethpwyd ag un o geidwaid y syrcas i’r ysbyty gyda chleisiau difrifol ar ôl cael ei ddihuno gan eliffant yn ei lusgo o’i wely [Cardiff Times, 20 Rhagfyr 1890].

Ond, er gwaethaf ei boblogrwydd, byddai unrhyw un yn ymweld â’r safle yn Heol Penarth dim ond ychydig fisoedd yn ddiweddarach ym mis Ebrill 1891 wedi dod ar draws safle gwag gyda’r syrcas wedi gadael, yr adeilad wedi’i ddadosod a llawer o’r ffitiadau a oedd yn weddill yn cael eu hysbysebu ar werth.  Fel y cadarnhaodd y llythyr gan Thomas Woodhouse yn Archifau Morgannwg, roedd yn un o amodau cymeradwyo’r cynlluniau y byddai’r syrcas yn cael ei ddadosod a’i symud erbyn 31 Mawrth 1891. I raddau, roedd hyn yn dilyn y fformat traddodiadol, gyda syrcas yng nghanol dinas yn ystod misoedd y gaeaf a syrcas deithiol yn ystod yr haf.  Fodd bynnag, mae cynlluniau’r syrcas a gedwir yn Archifau Morgannwg yn dod i ben ar yr adeg hon.

Mae’n debygol mai’r syrcas haearn yn Heol Penarth oedd y syrcas olaf i’w hadeiladu yng nghanol tref Caerdydd.  Yn ddiamau, roedd tir yng nghanol Caerdydd yn werthfawr iawn ac felly roedd yn anodd dod o hyd i safleoedd a oedd yn addas i adeiladu syrcas barhaol.  Er bod Tayleure a Hutchison ym 1870 yn wynebu cystadleuaeth gan un theatr yn unig yng nghanol y dref, roedd Sanger yn cystadlu â’r Philharmonic, y Theatr Frenhinol, yr Empire a Theatr y Grand.  Yn ogystal, awgrymir i gynulleidfaoedd leihau ym mis Chwefror a mis Mawrth oherwydd bod streic hirfaith gan ddocwyr yn ei gwneud yn anodd i lawer o deuluoedd fforddio mynd i’r syrcas.

Mae’n debyg bod costau syrcas bwrpasol am gyfnod cyfyngedig yn y gaeaf yn unig rhy uchel i’w cyfiawnhau.  Er i’r adeilad syrcas ddiflannu o ganol dinas Caerdydd, roedd y syrcas ei hun yn parhau ac yn ffynnu.  Oherwydd maint nifer o neuaddau a theatrau canol y dref, roedd modd eu defnyddio i gynnal syrcasau.  Er enghraifft, cynhaliodd Neuadd Sant Andrew yn Heol y Frenhines gyfres o dymhorau syrcas yn negawd cyntaf y ganrif newydd, wedi’u perfformio gan y Royal Italian Circus.  Fodd bynnag, i’r rhan fwyaf o bobl, roedd y syrcas yn cael ei chysylltu’n fwyfwy â’r babell fawr.  Parhâi cwmni syrcas Sanger a llawer o gwmnïau syrcas eraill i ymweld â Chaerdydd, ond byddent yn defnyddio pebyll mawr mwy sylweddol a gwell, yn aml wedi’u gosod yng Ngerddi Sophia.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Y Syrcas yn dod i’r Dref: Y Neuadd Syrcas Newydd yng Nghaerdydd, Heol y Porth, 1876

Erbyn 1876 roedd Caerdydd yn dref brysur, fywiog a ffyniannus. Oherwydd y cynnydd mewn masnach a chyflogaeth a sbardunwyd gan y diwydiannau glo, haearn a llongau, roedd poblogaeth y dref wedi cynyddu’n aruthrol. Wrth i’r Nadolig nesáu, roedd teuluoedd yn edrych ymlaen at y dathliadau a’r adloniant arferol. Roedd yr adroddiadau yn y Western Mail yn awgrymu na fyddent yn cael eu siomi gyda’r ‘Grand Christmas pantomime of Dick Whittington and his Cat’ yn y Theatr Frenhinol a Signor Boz, y consuriwr, yn perfformio yn Neuadd Stuart. Ac eto, y galw mwyaf yn y dref ar noson Gŵyl San Steffan oedd am docynnau i Syrcas Heol y Porth. Yn ogystal â’r amrywiaeth arferol o berfformiadau syrcas, roedd y Meistri Hutchison a Tayleure yn addo ailgread dramatig ac ysblennydd o hanes San Siôr a’r ddraig. Nododd y Western Mail ar 27 Rhagfyr 1876:

The Circus at Cardiff was crowded to overflowing in every part on Boxing Night for which occasion the proprietors Messrs Hutchinson and Tayleure had prepared a splendid programme.

The principal portion of the evening’s performance was, however, the enactment of the old story of “St George and the Dragon” which was produced on a greater scale of splendour than on any previous occasion. The dresses were exceedingly brilliant and costly and the whole performance was greatly admired. The “make up” of the Dragon was wonderfully good and created roars of laughter. The circus was nicely decorated with wreaths of coloured muslin which had a very pretty effect.  

Roedd Hutchison a Tayleure yn awyddus i greu argraff oherwydd bod Syrcas Heol y Porth yn fenter newydd ac afradlon a oedd newydd agor fis ynghynt. O 1870 tan 1875 roedd Hutchison a Tayleure wedi cynnal ‘Circus and Grand Palace of Variety’ ar Heol Eglwys Fair. Bu’r fenter yn llwyddiant ysgubol ac roedd torfeydd wedi heidio i weld y perfformiadau gan acrobatiaid a chlowniaid ynghyd ag arddangosiadau marchogaeth. Erbyn gaeaf 1875 roedd y papurau newydd yn adrodd bod cannoedd o bobl yn cael eu troi i ffwrdd bob nos gan fod y syrcas dan ei sang.

Yn sgil eu llwyddiant cychwynnol, penderfynodd Hutchison a Tayleure adeiladu syrcas newydd o faint na welwyd erioed y tu allan i Lundain. Mae cofnodion Archifau Morgannwg yn cynnwys cynlluniau a gyflwynwyd ym mis Mehefin 1876 ac a gymeradwywyd ym mis Gorffennaf i godi adeilad ar dir wedi’i brydlesu gan Ardalydd Bute ar gornel Heol y Porth a Heol y Parc ac, ar yr adeg honno, ran o Barc yr Arfau Caerdydd (cyf: BC/S/1/90507).

BC-S-1-90507-web

Fel gyda’r syrcas ar Heol Eglwys Fair, roedd y dyluniad gan y pensaer lleol, J P Jones, yn seiliedig ar adeilad pren. Fodd bynnag, roedd syrcas Heol Eglwys Fair wedi cael ei wasgu i mewn i ddarn hirsgwar o dir gwastraff ond roedd cyfle ar Barc yr Arfau Caerdydd i adeiladu adeilad wythonglog â chwpola canolog. Ond er bod y tu allan yn parhau’n gymharol ddi-nod, doedd dim terfyn ar yr arian a wariwyd y tu mewn o ran y dyluniad a’r dodrefnu, gyda Jones yn cael ei ysbrydoli gan y tu mewn i’r Grand Cirque de l’Impératrice ar y Champs-Élysées ym Mharis. Dechreuwyd gweithio ar yr adeilad newydd yn gyflym er mwyn sicrhau ei fod yn barod ar gyfer tymor y syrcas ym mis Tachwedd. Rhaid ei fod yn dipyn o her ond, ar 14 Hydref 1876, adroddodd y Cardiff Times fod y gwaith mwy neu lai wedi’i gwblhau ar yr arena newydd gyda digon o seddi ar gyfer 2000 o bobl.

The decorations of the building are of a costly character and bear a close resemblance to those of the grand Paris cirque. The prevailing tint is maroon. The stall seats are upholstered with maroon coloured velvet, the floor being covered with Brussels carpet of similar colour and of elegant design. The massive pillars supporting the roof are of the same colour, the sides being embellished with large oval mirrors in gold frames. Statues of various kinds support the canopy over the promenade and trophies formed with the flags of all nations surmount it. The roof internally is covered with 8,000 square feet of French glazed calico, extending alternately from a small circle in the centre, and expanding gradually, like the upper portion of a balloon, until the whole dome is covered by it. The interior of the building is principally lighted by a large gas chandelier, composed of hundreds of jets of lights. The seats in the pit are neatly covered and every effort had been made to ensure their comfort of those who attend. The brilliant appearance of the interior when lighted by gas far surpasses anything of the kind ever seen in Cardiff; and the building is larger and more elaborate than any other equestrian establishment out of London.      

Prif ddiben y syrcas oedd perfformiadau marchogaeth o hyd ac roedd gan y syrcas newydd stablau ar gyfer hyd at 40 o geffylau ynghyd â dewis o ystafelloedd newid i berfformwyr y syrcas. Mae’r cynllun yn dangos bod y brif fynedfa ar gornel Heol y Porth a Heol y Parc, er bod mynedfa ochr lai ar Heol y Porth yn rhoi mynediad i’r oriel. Yn ogystal â moethusrwydd yr addurniadau, rhoddwyd sylw hefyd i’r cyfleusterau a oedd ar gael i’r cwsmeriaid, gyda blociau toiledau wedi’u cysylltu â’r brif garthffos ar Heol y Porth a Heol y Parc.

Agorwyd y syrcas newydd ar noson 6 Tachwedd 1876. Adroddodd y South Wales Daily Echo fod yr awditoriwm dan ei sang awr cyn yr amser dechrau gyda chynulleidfa a oedd wedi dod i weld y perfformiad a’r adeilad newydd godidog.  Mae’n amlwg na chawsant eu siomi gan y naill na’r llall:

The performance commenced by an equestrian representation of a sailor in a storm at sea, which was given with great skill and dexterity by Mr Wells. The daring feats of the Brothers Etherdo with a long pole followed, these being succeeded by the “Poses Gracieux” by Miss Johnson, a graceful and athletic equestrienne. Mr Morelli, the “musical momus” gave a series of performances on the concertina which elicited rounds of enthusiastic applause… [South Wales Daily Echo, 7 Tachwedd 1876]

Ni aeth popeth yn ôl y bwriad, fodd bynnag. Fel gyda’r syrcas ar Heol Eglwys Fair, bu bron i’r noson gyntaf gael ei difetha gan drasiedi pan gwympodd Miss Laura oddi ar ei cheffyl wrth neidio trwy gyfres o gylchynnau. Yn ffodus, ‘She sprang up without a moment’s hesitation …and despite the remonstrances of the men in charge of the ring, resumed her place on the back of steed and carried out her performance to a successful conclusion.’  Bu’r noson yn llwyddiant mawr a daeth y papur newydd i’r casgliad hwn:

Messrs Hutchinson and Tayleure have brought together a collection of professional talent so superior and so varied as to well merit a further continuance of that liberal support which their circus has ever received from the Cardiff public [South Wales Daily Echo, 7 Tachwedd 1876]

Roedd y fenter yn risg ariannol anferthol i Hutchison a Tayleure, ond mae’n amlwg yr aeth y syrcas ar Heol y Porth o nerth i nerth. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach cafodd perfformiadau’r Nadolig eu disgrifio gan y Western Mail fel ‘trît’ y dylai pob plentyn yng Nghaerdydd gael y cyfle i’w weld.  Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1879, i ateb y galw cynyddol am hyd yn oed mwy o ysblander a chyffro, cafodd yr adeilad ei ailaddurno, cafodd y stablau eu hehangu i gadw 70 o geffylau ac roedd perfformwyr yn cael eu mewnforio o Baris a Madrid. Y brif act ym mis Tachwedd 1879 oedd gan y perfformwyr trapîs, y Silbons, a oedd wedi perfformio yn yr Arddangosfa Fawr ym Mharis ym 1878. Adroddodd y papur newydd eu bod wedi creu ‘…a great sensation by their astounding mid-air feats’ [Weekly Mail, 15 Tachwedd 1879].

Gellir gweld adeilad wythonglog y syrcas gyda’r tŵr canolog yn glir mewn ffotograff o Heol y Porth yn 1880au a gedwir yn Archifau Morgannwg (cyf: DX254/24/1).

DX-254-24-1-web

Eto i gyd, er gwaethaf ei boblogrwydd, mae’n debyg nad oedd Grand Circus a Palace of Varieties Hutchison a Tayleure yn bodoli rhagor erbyn diwedd y 1880au. Ceir cliw i’r hyn a ddigwyddodd nesaf yn y trydydd set o gynlluniau ar gyfer syrcas yng Nghaerdydd, a gyflwynwyd ym 1890, a fydd yn destun erthygl olaf y gyfres hon.

Tony Peters, Gwirfoddolwr gydag Archifau Morgannwg

Mae’r Syrcas ar ei Ffordd! Y Syrcas a Phalas Crand Amryfath, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, 1870

Daw’r term ‘syrcas’ o’r Rhufain gynt. Yn wreiddiol, roedd yn cyfeirio at yr arenâu hirsgwar a godwyd mewn trefi a dinasoedd at ddibenion adloniant ac, yn benodol, ar gyfer rasys cerbydau rhyfel, ail-greu brwydrau enwog a gornestau rhwng gladiatoriaid. Mae’r syrcas fodern, sy’n cael ei chynnal ar gylch canolog mewn adeilad neu babell gron yn ffenomenon fwy diweddar, sy’n 250 blwydd oed yn 2018. Philip Astley a gydnabyddir am greu’r syrcas fodern; agorodd amffitheatr yn Lambeth, Llundain, ym 1768 er mwyn cynnal perfformiadau marchogaeth. Trefnodd Astley adloniant amrywiol gan gynnwys jyglwyr, acrobatiaid a chlowns i ddiddanu’r gynulleidfa rhwng y sioeau marchogaeth. Gan mai prif adloniant y sioe oedd y ceffylau, roedd diamedr y cylch yn 42 troedfedd o leiaf er mwyn rhoi digon o le iddynt droi yn eu cylch, a dyma faint safonol cylch syrcas hyd heddiw. Strwythur o bren fyddai’r syrcas gan amlaf bryd hynny, ac mae perfformiadau cyntaf y ‘Babell Fawr’ dan gynfas yn dyddio o’r 1820au.

Roedd y syniad o arena fach gron yn dod â nifer o berfformiadau amrywiol ynghyd yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn adloniant mawreddog a phoblogaidd dros ben a oedd yn apelio at bobl o bob oed, ac yn fuan iawn roedd gan nifer o ddinasoedd a threfi ledled Prydain o leiaf un syrcas. A ninnau yn 250fed blwydd y syrcas, mae’r cofnodion a gedwir gan Archifau Morgannwg yn rhoi manylion i ni ynghylch y syrcasau a godwyd yn y 19eg ganrif yng nghanol Caerdydd.

Wrth gymharu â threfi eraill, mae’n debyg bod y syrcas wedi cyrraedd Caerdydd yn hwyr, o ystyried bod y twf poblogaeth a oedd yn gysylltiedig â’r dociau a’r diwydiant glo yn dyddio o tua 1840 ymlaen.

Mae gan Archifau Morgannwg gynlluniau dwy syrcas a godwyd yng Nghaerdydd yn y 1870au. Adeiladwyd ac agorwyd y gyntaf ym mis Tachwedd 1870 ar ddarn o nas defnyddid ar gornel Heol Eglwys Fair a Stryd Wood. Newidiwyd y safle yn Theatr Tywysog Cymru yn ddiweddarach. Yng nghanol y 19eg ganrif, roedd Heol Eglwys Fair ym mhell o fod yn stryd fawreddog, fel y gwelir mewn adroddiadau papurau newydd o’r cyfnod:

In 1854 Cardiff was a very different place to Cardiff today. The rateable value of St Mary Street was not a tenth of what it is now. The site of the present post office was occupied as a “dead house”. On the opposite side to the Town Hall was the old police station and below it a number of cottages let at 2s 6d a week when tenants could be obtained. The southern front of the London and Provincial Bank was an old fish shop and house let at £10 a year….The corner of Wood Street and St Mary Street was a waste piece of ground on which Signor Quagliani’s circus was afterwards placed. At the bottom of the Street was “the bog”…. [Evening Express, 28 Mai 1895].

Gwyddom o’r adroddiadau papur newydd hyn fod Signor Quagliani a’i Gwmni wedi gadael Caerdydd erbyn 1863, er ei bod yn debygol bod syrcasau eraill, gan gynnwys syrcas Holbrook wedi parhau i ddefnyddio’r tir fel syrcas drwy ail hanner y 1860au. Byddai’r syrcas wedi bod yn adeilad pren lled-barhaol a oedd yn defnyddio fformat Astley o gylch canolog a haenau o eisteddleoedd ar gyfer hyd at 500 o bobl yn ôl pob tebyg.  Erbyn 1870 roedd tymor penodol ar gyfer y Syrcas yng Nghaerdydd, o fis Tachwedd tan y Pasg, sy’n awgrymu bod cwmnïau syrcas yn cyfuno teithiau Pabell Fawr o amgylch Cymru yn yr haf â syrcasau yn y trefi yn ystod y gaeaf.

Roedd y cynlluniau ar gyfer Syrcas Heol Eglwys Fair a gyflwynwyd gan yr  impresarios syrcas, Hutchinson a Tayleure, ym mis Hydref 1870 yn cynrychioli newid mawr yng ngraddfa ac addurniad y Syrcas yng Nghaerdydd. Erbyn 1870, roedd y dref yn tyfu’n gyflym iawn ac roedd y twf yn arwain at alw am adloniant poblogaidd. Roedd yr awdurdodau lleol, gyda chefnogaeth yr Heddlu, o blaid mentrau fel y syrcas am eu bod yn darparu adloniant i deuluoedd ac yn helpu i gadw pobl allan o dafarndai’r dref.

Fel darparwyr syrcas sefydledig, gwelodd Hutchinson a Tayleure botensial yng Nghaerdydd a chynllunio i ddyblu maint yr adeilad blaenorol er mwyn dal hyd at 1,000 o bobl bob nos. Mewn ymgais i ddenu cynulleidfa fwyaf bosibl, roedd gan y strwythur newydd wahanol gategorïau o eisteddleoedd. Codwyd tâl o 2s 6d y pen i wylio o’r bocs, 1s i wylio o’r balconi a 6d i wylio o seddau ôl y llawr. Roedd y fynedfa i’r Balconi ar Heol Eglwys Fair gyferbyn â Stryd Caroline ac roedd y mynedfeydd i’r Bocsys a’r seddi ôl ar Stryd Wood gyferbyn â Temperance Town.

Er nad oes gennym luniau o’r adeilad, mae’r cynlluniau sydd gan Archifau Morgannwg yn rhoi syniad da o sut yr oedd (cyf.: BC/S/1/90484).

rsz_bc-s-1-90484-1

rsz_bc-s-1-90484-2

rsz_bc-s-1-90484-3

Roedd siâp yr adeilad cyffredinol yn hirsgwar er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r tir a oedd ar gael, ac roedd swyddfeydd tocynnau ar Heol Eglwys Fair a Stryd Wood. Fodd bynnag, roedd y tu mewn yn cydymffurfio â chynllun traddodiadol y syrcas ac roedd haenau o eisteddleoedd yn amgylchynu cylch canolog â diamedr o 42 troedfedd. Roedd dau dwnnel gyferbyn â’i gilydd, er mwyn i bobl a cheffylau fynd a dod o’r cylch ac roedd llwyfannau ar ben y twneli ar gyfer band pres. Mae’r ffaith fod lle o dan yr eisteddle fel ystafelloedd newid i berfformwyr ac, yn bwysicach fyth, fel stablau i’r ceffylau, yn cadarnhau bod y Syrcas yn dilyn y fformat poblogaidd o gymysgu o berfformiadau marchogol ag amrywiaeth o acrobatiaid a chlowns. Yn ogystal, byddai’r syrcas wedi cynnwys nifer o berfformiadau arbenigol, gan gynnwys canu ac adrodd a ddaeth yn gysylltiedig â’r neuadd gerdd blynyddoedd yn ddiweddarach. Daeth anifeiliaid dieithr ac anifeiliaid mewn cewyll yn elfen gyffredin o syrcasau yn hwyrach.

Roedd hi’n amlwg na fu Hutchinson a Tayleure yn dynn eu cod wrth addurno …eu Syrcas a’u Palas Crand Amryfath newydd godidog. Adroddodd y papurau newydd lleol fod y gwaith adeiladu a’r celfi wedi costio mil o bunnoedd. Cafwyd disgrifiad o’r adeilad newydd yn adroddiad y Cardiff and Merthyr Guardian ar 12 Tachwedd 1870:

This really fine building will be opened to the public on Monday. As a place of public amusement it promises to be the best of the kind ever opened in Cardiff.

The timber roof is entirely concealed by a complete ceiling of red and white cloth suspended in festoons from the centre with flags and banners of various colours from points along the roof and the pillars supporting the front of the promenade.…The floor of the boxes is covered with Brussels carpet, the back being richly papered and decorated with curtains.

The interior will be lighted by a number of large gas stars giving out hundreds of jets of light… It is more commodious, more comfortable and more elegant that any circus that has been erected in the town.

Ni adawodd Hutchinson na Tayleure unrhyw beth heb ei gynllunio ac roeddynt wedi ymdrechu’n ddiwyd i gael cymeradwyaeth pob rhan o’r gymdeithas. Yn yr wythnos gyntaf, gwahoddont y Maer i gynnal ‘grande soirée équestre’ gyda’r elw i gyd yn mynd i Ysbyty Caerdydd. Rhoesant hefyd docynnau i Fwrdd y Gwarcheidwaid Caerdydd er mwyn i’r bobl dlawd o Dloty Undeb Caerdydd ddod i weld perfformiad. Ar noson gyntaf Tymor y Gaeaf, cyhoeddodd Hutchinson a Tayleure, a oedd o hyd yn rhoi gwerth am arian:

The Entertainments will be varied nightly and include brilliant equestrian achievement, daring gymnastic exploits, great entrees and cavalcades, brilliant spectacle, historical pageants and a host of novel scenes new to the public of this town [Western Mail, 14 Tachwedd 1870].

Heidiodd trigolion Caerdydd i’r Syrcas yn eu miloedd gan lenwi’r arena noson ar ôl noson. Doedd Hutchinson a Tayleure byth yn siomi. Ar 19 Tachwedd 1870, ysgrifennodd y Cardiff Times fod y gynulleidfa:

…crowded every part of the spacious building… The entertainment was of a varied and most entertaining description. The agility of the acrobats, the extraordinary feats of the other performers, both human and animal, and the buffoonery of the clever clowns afforded a treat to the frequenters such as Cardiff seldom affords.

Fis yn ddiweddarach, datganodd y Western Mail fod torfeydd y Syrcas yn dal i fod yn …anferth… Bu bron i drychineb ddigwydd hyd yn oed (pan gwympodd y byrddau trestl a’r matresi a osodwyd i ddal y trapiswr, Niblo, wrth iddo ddod â’i berfformiad i ben â throsben dwbl), a osgowyd trwy ...ystwythder cath… y trapiswr. Yn ôl y papur newydd:

His wonderful escape was loudly cheered from all parts of the Circus [Western Mail, 14 Rhagfyr 1879].

Serch hynny, daeth syrcas drawiadol Hutchinson a Tayleure ar Heol Eglwys Fair i ben mewn llai na 6 mlynedd. Adroddir hanes canlynol y syrcas drwy set arall o gynlluniau sydd gan Archifau Morgannwg, a chyfeirir at y rhain yn ail ran y gyfres fer o erthyglau am y syrcas yng Nghaerdydd.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ydych chi’n nabod y bobl hyn? 100 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Caerdydd

Er bod cofnodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd a gedwir yn Archifau Morgannwg yn ymwneud yn bennaf â rheoli’r Gymdeithas a’r llu o ddarlithoedd a digwyddiadau a noddwyd ers ei chreu ym 1867. Mae hefyd adran sy’n cyfuno nifer o ffotograffau sy’n gysylltiedig â’r prif gasgliad. Mae’n gyfres o luniau cymysg a diddorol iawn. O fewn y casgliad mae ffotograff o tua 150 o bobl yn sefyll ar risiau’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd er mwyn cael llun grŵp. Maent oll yn drwsiadus iawn ac mae cliwiau i’w bwriad yn nifer yr ymbarelau a’r cotiau glaw sy’n cael eu cario neu eu gwisgo gan lawer o’r rhai sy’n bresennol.

Museum steps

Mae’r ffotograff yn un o dros 60 sydd wedi eu gosod mewn albwm, yn ddyddiedig mis Medi 1967, a luniwyd i ddathlu canmlwyddiant sefydlu Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd. Mae’r albwm hefyd yn cynnwys rhaglen o’r digwyddiadau a drefnwyd dros dri diwrnod i nodi’r canmlwyddiant. O’r manylion yn y rhaglen mae bron yn sicr i’r llun gael ei dynnu ar ddydd Sadwrn 23ain Medi 1967 tua 9.30am, wrth i aelodau’r Gymdeithas ymgasglu i gwrdd â’r coetsis a fyddai’n mynd â nhw ar ddiwrnod llawn gweithgareddau. Roedd hyn yn cynnwys ymweliad â Hen Gastell y Bewpyr yn y bore ac yna cinio, a gynhaliwyd gan Gadeirydd Cyngor Sir Morgannwg, yn Nhŷ Dyffryn a thaith o amgylch yr ardd.

Programme

Wrth iddynt sefyll ar risiau’r Amgueddfa mae’n ymddangos bod y grŵp mewn hwyliau da iawn. Byddai llawer wedi cael noson hwyr ar ôl mynychu’r derbyniad dinesig a’r cinio canmlwyddiant a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas y noson flaenorol. Roedd y rhaglen ar gyfer y derbyniad, a gynhaliwyd yn Ystafell y Cynulliad, yn cynnig bwydlen 5 cwrs gan gynnwys lleden bonne femme, cefnddryll oen a phwdin melba, gyda cherddoriaeth a ddarparwyd gan yr Eddie Graves Trio. Cynigiwyd y llwncdestun i’r Frenhines gan Arlywydd y Gymdeithas, y Cyrnol Syr Cennydd Traherne, Arglwydd Raglaw Morgannwg.

Er bod llawer wedi cymryd camau rhag ofn bod tywydd gwael ar y dydd Sadwrn, mae’r ffotograffau o Hen Gastell y Bewpyr a Dyffryn yn awgrymu eu bod wedi cael diwrnod gwych. Ar ben hynny, roedd mwy o ddathliadau i ddod. Bu disgwyl i’r coetsis ddychwelyd i Gaerdydd am 5.15pm er mwyn rhoi digon o amser i’r rheiny a oedd yn mynychu’r derbyniad am 8.00pm yn yr Amgueddfa Genedlaethol, a gynhaliwyd gan lywydd a chyngor yr amgueddfa. Mae’r albwm yn cynnwys nifer o ffotograffau o’r dderbyniad dinesig ar y nos Wener a’r derbyniad yn yr Amgueddfa Genedlaethol ar y dydd Sadwrn.

Dinner 1

Dinner 2

Ar y diwrnod canlynol, ddydd Sul 24 Medi, roedd diwrnod llawn arall gyda thri chyfarfod gwahanol yn y maes, gan orffen gyda chinio picnic. Yn anffodus nid yw’r albwm yn cynnwys ffotograffau o’r cyfarfodydd maes ar y dydd Sul. O’r rhaglen, fodd bynnag, gwyddom fod yr Adrannau Bioleg a Daeareg wedi ymweld â Merthyr Mawr a bod yr Adran Adareg wedi ymweld â Phwll Cynffig. Yn ogystal, daeth yr adrannau Archaeoleg, Ffotograffig ac Iau at ei gilydd i ymweld â Chastell Caerffili. Ym mhob achos daeth y cyfarfodydd i ben ar ôl cinio fel y gallai’r aelodau ddychwelyd i Gaerdydd ar gyfer hwyrol weddi yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Outing 1

Outing 2

Roedd yn daith lawn ac amrywiol i nodi digwyddiad arbennig iawn yn hanes y Gymdeithas. Os oeddech chi, neu eich ffrindiau a’ch aelodau teulu, ymhlith y 150 o bobl oedd yn sefyll ar risiau’r amgueddfa ar ddydd Sadwrn 23 Medi 1967, neu ymysg y rhai a fynychodd y derbyniadau a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas a’r Amgueddfa Genedlaethol, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gweld yr albwm ffotograffau (ref.: DCNS/PH/8/16). Yn ogystal, ceir nifer o ffotograffau o’r arddangosfa a gynhaliwyd gan y Gymdeithas ym mis Medi 1967 i nodi’r canmlwyddiant (ref.: DCNS/PH/8/1-15). Gellir gweld y ffotograffau yn Archifau Morgannwg yn ogystal ag ystod eang o gofnodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd sy’n dyddio yn ol at 1867.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg