Mae’r Syrcas ar ei Ffordd! Y Syrcas a Phalas Crand Amryfath, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, 1870

Daw’r term ‘syrcas’ o’r Rhufain gynt. Yn wreiddiol, roedd yn cyfeirio at yr arenâu hirsgwar a godwyd mewn trefi a dinasoedd at ddibenion adloniant ac, yn benodol, ar gyfer rasys cerbydau rhyfel, ail-greu brwydrau enwog a gornestau rhwng gladiatoriaid. Mae’r syrcas fodern, sy’n cael ei chynnal ar gylch canolog mewn adeilad neu babell gron yn ffenomenon fwy diweddar, sy’n 250 blwydd oed yn 2018. Philip Astley a gydnabyddir am greu’r syrcas fodern; agorodd amffitheatr yn Lambeth, Llundain, ym 1768 er mwyn cynnal perfformiadau marchogaeth. Trefnodd Astley adloniant amrywiol gan gynnwys jyglwyr, acrobatiaid a chlowns i ddiddanu’r gynulleidfa rhwng y sioeau marchogaeth. Gan mai prif adloniant y sioe oedd y ceffylau, roedd diamedr y cylch yn 42 troedfedd o leiaf er mwyn rhoi digon o le iddynt droi yn eu cylch, a dyma faint safonol cylch syrcas hyd heddiw. Strwythur o bren fyddai’r syrcas gan amlaf bryd hynny, ac mae perfformiadau cyntaf y ‘Babell Fawr’ dan gynfas yn dyddio o’r 1820au.

Roedd y syniad o arena fach gron yn dod â nifer o berfformiadau amrywiol ynghyd yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn adloniant mawreddog a phoblogaidd dros ben a oedd yn apelio at bobl o bob oed, ac yn fuan iawn roedd gan nifer o ddinasoedd a threfi ledled Prydain o leiaf un syrcas. A ninnau yn 250fed blwydd y syrcas, mae’r cofnodion a gedwir gan Archifau Morgannwg yn rhoi manylion i ni ynghylch y syrcasau a godwyd yn y 19eg ganrif yng nghanol Caerdydd.

Wrth gymharu â threfi eraill, mae’n debyg bod y syrcas wedi cyrraedd Caerdydd yn hwyr, o ystyried bod y twf poblogaeth a oedd yn gysylltiedig â’r dociau a’r diwydiant glo yn dyddio o tua 1840 ymlaen.

Mae gan Archifau Morgannwg gynlluniau dwy syrcas a godwyd yng Nghaerdydd yn y 1870au. Adeiladwyd ac agorwyd y gyntaf ym mis Tachwedd 1870 ar ddarn o nas defnyddid ar gornel Heol Eglwys Fair a Stryd Wood. Newidiwyd y safle yn Theatr Tywysog Cymru yn ddiweddarach. Yng nghanol y 19eg ganrif, roedd Heol Eglwys Fair ym mhell o fod yn stryd fawreddog, fel y gwelir mewn adroddiadau papurau newydd o’r cyfnod:

In 1854 Cardiff was a very different place to Cardiff today. The rateable value of St Mary Street was not a tenth of what it is now. The site of the present post office was occupied as a “dead house”. On the opposite side to the Town Hall was the old police station and below it a number of cottages let at 2s 6d a week when tenants could be obtained. The southern front of the London and Provincial Bank was an old fish shop and house let at £10 a year….The corner of Wood Street and St Mary Street was a waste piece of ground on which Signor Quagliani’s circus was afterwards placed. At the bottom of the Street was “the bog”…. [Evening Express, 28 Mai 1895].

Gwyddom o’r adroddiadau papur newydd hyn fod Signor Quagliani a’i Gwmni wedi gadael Caerdydd erbyn 1863, er ei bod yn debygol bod syrcasau eraill, gan gynnwys syrcas Holbrook wedi parhau i ddefnyddio’r tir fel syrcas drwy ail hanner y 1860au. Byddai’r syrcas wedi bod yn adeilad pren lled-barhaol a oedd yn defnyddio fformat Astley o gylch canolog a haenau o eisteddleoedd ar gyfer hyd at 500 o bobl yn ôl pob tebyg.  Erbyn 1870 roedd tymor penodol ar gyfer y Syrcas yng Nghaerdydd, o fis Tachwedd tan y Pasg, sy’n awgrymu bod cwmnïau syrcas yn cyfuno teithiau Pabell Fawr o amgylch Cymru yn yr haf â syrcasau yn y trefi yn ystod y gaeaf.

Roedd y cynlluniau ar gyfer Syrcas Heol Eglwys Fair a gyflwynwyd gan yr  impresarios syrcas, Hutchinson a Tayleure, ym mis Hydref 1870 yn cynrychioli newid mawr yng ngraddfa ac addurniad y Syrcas yng Nghaerdydd. Erbyn 1870, roedd y dref yn tyfu’n gyflym iawn ac roedd y twf yn arwain at alw am adloniant poblogaidd. Roedd yr awdurdodau lleol, gyda chefnogaeth yr Heddlu, o blaid mentrau fel y syrcas am eu bod yn darparu adloniant i deuluoedd ac yn helpu i gadw pobl allan o dafarndai’r dref.

Fel darparwyr syrcas sefydledig, gwelodd Hutchinson a Tayleure botensial yng Nghaerdydd a chynllunio i ddyblu maint yr adeilad blaenorol er mwyn dal hyd at 1,000 o bobl bob nos. Mewn ymgais i ddenu cynulleidfa fwyaf bosibl, roedd gan y strwythur newydd wahanol gategorïau o eisteddleoedd. Codwyd tâl o 2s 6d y pen i wylio o’r bocs, 1s i wylio o’r balconi a 6d i wylio o seddau ôl y llawr. Roedd y fynedfa i’r Balconi ar Heol Eglwys Fair gyferbyn â Stryd Caroline ac roedd y mynedfeydd i’r Bocsys a’r seddi ôl ar Stryd Wood gyferbyn â Temperance Town.

Er nad oes gennym luniau o’r adeilad, mae’r cynlluniau sydd gan Archifau Morgannwg yn rhoi syniad da o sut yr oedd (cyf.: BC/S/1/90484).

rsz_bc-s-1-90484-1

rsz_bc-s-1-90484-2

rsz_bc-s-1-90484-3

Roedd siâp yr adeilad cyffredinol yn hirsgwar er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r tir a oedd ar gael, ac roedd swyddfeydd tocynnau ar Heol Eglwys Fair a Stryd Wood. Fodd bynnag, roedd y tu mewn yn cydymffurfio â chynllun traddodiadol y syrcas ac roedd haenau o eisteddleoedd yn amgylchynu cylch canolog â diamedr o 42 troedfedd. Roedd dau dwnnel gyferbyn â’i gilydd, er mwyn i bobl a cheffylau fynd a dod o’r cylch ac roedd llwyfannau ar ben y twneli ar gyfer band pres. Mae’r ffaith fod lle o dan yr eisteddle fel ystafelloedd newid i berfformwyr ac, yn bwysicach fyth, fel stablau i’r ceffylau, yn cadarnhau bod y Syrcas yn dilyn y fformat poblogaidd o gymysgu o berfformiadau marchogol ag amrywiaeth o acrobatiaid a chlowns. Yn ogystal, byddai’r syrcas wedi cynnwys nifer o berfformiadau arbenigol, gan gynnwys canu ac adrodd a ddaeth yn gysylltiedig â’r neuadd gerdd blynyddoedd yn ddiweddarach. Daeth anifeiliaid dieithr ac anifeiliaid mewn cewyll yn elfen gyffredin o syrcasau yn hwyrach.

Roedd hi’n amlwg na fu Hutchinson a Tayleure yn dynn eu cod wrth addurno …eu Syrcas a’u Palas Crand Amryfath newydd godidog. Adroddodd y papurau newydd lleol fod y gwaith adeiladu a’r celfi wedi costio mil o bunnoedd. Cafwyd disgrifiad o’r adeilad newydd yn adroddiad y Cardiff and Merthyr Guardian ar 12 Tachwedd 1870:

This really fine building will be opened to the public on Monday. As a place of public amusement it promises to be the best of the kind ever opened in Cardiff.

The timber roof is entirely concealed by a complete ceiling of red and white cloth suspended in festoons from the centre with flags and banners of various colours from points along the roof and the pillars supporting the front of the promenade.…The floor of the boxes is covered with Brussels carpet, the back being richly papered and decorated with curtains.

The interior will be lighted by a number of large gas stars giving out hundreds of jets of light… It is more commodious, more comfortable and more elegant that any circus that has been erected in the town.

Ni adawodd Hutchinson na Tayleure unrhyw beth heb ei gynllunio ac roeddynt wedi ymdrechu’n ddiwyd i gael cymeradwyaeth pob rhan o’r gymdeithas. Yn yr wythnos gyntaf, gwahoddont y Maer i gynnal ‘grande soirée équestre’ gyda’r elw i gyd yn mynd i Ysbyty Caerdydd. Rhoesant hefyd docynnau i Fwrdd y Gwarcheidwaid Caerdydd er mwyn i’r bobl dlawd o Dloty Undeb Caerdydd ddod i weld perfformiad. Ar noson gyntaf Tymor y Gaeaf, cyhoeddodd Hutchinson a Tayleure, a oedd o hyd yn rhoi gwerth am arian:

The Entertainments will be varied nightly and include brilliant equestrian achievement, daring gymnastic exploits, great entrees and cavalcades, brilliant spectacle, historical pageants and a host of novel scenes new to the public of this town [Western Mail, 14 Tachwedd 1870].

Heidiodd trigolion Caerdydd i’r Syrcas yn eu miloedd gan lenwi’r arena noson ar ôl noson. Doedd Hutchinson a Tayleure byth yn siomi. Ar 19 Tachwedd 1870, ysgrifennodd y Cardiff Times fod y gynulleidfa:

…crowded every part of the spacious building… The entertainment was of a varied and most entertaining description. The agility of the acrobats, the extraordinary feats of the other performers, both human and animal, and the buffoonery of the clever clowns afforded a treat to the frequenters such as Cardiff seldom affords.

Fis yn ddiweddarach, datganodd y Western Mail fod torfeydd y Syrcas yn dal i fod yn …anferth… Bu bron i drychineb ddigwydd hyd yn oed (pan gwympodd y byrddau trestl a’r matresi a osodwyd i ddal y trapiswr, Niblo, wrth iddo ddod â’i berfformiad i ben â throsben dwbl), a osgowyd trwy ...ystwythder cath… y trapiswr. Yn ôl y papur newydd:

His wonderful escape was loudly cheered from all parts of the Circus [Western Mail, 14 Rhagfyr 1879].

Serch hynny, daeth syrcas drawiadol Hutchinson a Tayleure ar Heol Eglwys Fair i ben mewn llai na 6 mlynedd. Adroddir hanes canlynol y syrcas drwy set arall o gynlluniau sydd gan Archifau Morgannwg, a chyfeirir at y rhain yn ail ran y gyfres fer o erthyglau am y syrcas yng Nghaerdydd.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

One thought on “Mae’r Syrcas ar ei Ffordd! Y Syrcas a Phalas Crand Amryfath, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, 1870

  1. Mae’r Syrcas ar ei Ffordd! Y Syrcas a Phalas Crand Amryfath, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, 1870 - Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s