Erbyn 1876 roedd Caerdydd yn dref brysur, fywiog a ffyniannus. Oherwydd y cynnydd mewn masnach a chyflogaeth a sbardunwyd gan y diwydiannau glo, haearn a llongau, roedd poblogaeth y dref wedi cynyddu’n aruthrol. Wrth i’r Nadolig nesáu, roedd teuluoedd yn edrych ymlaen at y dathliadau a’r adloniant arferol. Roedd yr adroddiadau yn y Western Mail yn awgrymu na fyddent yn cael eu siomi gyda’r ‘Grand Christmas pantomime of Dick Whittington and his Cat’ yn y Theatr Frenhinol a Signor Boz, y consuriwr, yn perfformio yn Neuadd Stuart. Ac eto, y galw mwyaf yn y dref ar noson Gŵyl San Steffan oedd am docynnau i Syrcas Heol y Porth. Yn ogystal â’r amrywiaeth arferol o berfformiadau syrcas, roedd y Meistri Hutchison a Tayleure yn addo ailgread dramatig ac ysblennydd o hanes San Siôr a’r ddraig. Nododd y Western Mail ar 27 Rhagfyr 1876:
The Circus at Cardiff was crowded to overflowing in every part on Boxing Night for which occasion the proprietors Messrs Hutchinson and Tayleure had prepared a splendid programme.
The principal portion of the evening’s performance was, however, the enactment of the old story of “St George and the Dragon” which was produced on a greater scale of splendour than on any previous occasion. The dresses were exceedingly brilliant and costly and the whole performance was greatly admired. The “make up” of the Dragon was wonderfully good and created roars of laughter. The circus was nicely decorated with wreaths of coloured muslin which had a very pretty effect.
Roedd Hutchison a Tayleure yn awyddus i greu argraff oherwydd bod Syrcas Heol y Porth yn fenter newydd ac afradlon a oedd newydd agor fis ynghynt. O 1870 tan 1875 roedd Hutchison a Tayleure wedi cynnal ‘Circus and Grand Palace of Variety’ ar Heol Eglwys Fair. Bu’r fenter yn llwyddiant ysgubol ac roedd torfeydd wedi heidio i weld y perfformiadau gan acrobatiaid a chlowniaid ynghyd ag arddangosiadau marchogaeth. Erbyn gaeaf 1875 roedd y papurau newydd yn adrodd bod cannoedd o bobl yn cael eu troi i ffwrdd bob nos gan fod y syrcas dan ei sang.
Yn sgil eu llwyddiant cychwynnol, penderfynodd Hutchison a Tayleure adeiladu syrcas newydd o faint na welwyd erioed y tu allan i Lundain. Mae cofnodion Archifau Morgannwg yn cynnwys cynlluniau a gyflwynwyd ym mis Mehefin 1876 ac a gymeradwywyd ym mis Gorffennaf i godi adeilad ar dir wedi’i brydlesu gan Ardalydd Bute ar gornel Heol y Porth a Heol y Parc ac, ar yr adeg honno, ran o Barc yr Arfau Caerdydd (cyf: BC/S/1/90507).
Fel gyda’r syrcas ar Heol Eglwys Fair, roedd y dyluniad gan y pensaer lleol, J P Jones, yn seiliedig ar adeilad pren. Fodd bynnag, roedd syrcas Heol Eglwys Fair wedi cael ei wasgu i mewn i ddarn hirsgwar o dir gwastraff ond roedd cyfle ar Barc yr Arfau Caerdydd i adeiladu adeilad wythonglog â chwpola canolog. Ond er bod y tu allan yn parhau’n gymharol ddi-nod, doedd dim terfyn ar yr arian a wariwyd y tu mewn o ran y dyluniad a’r dodrefnu, gyda Jones yn cael ei ysbrydoli gan y tu mewn i’r Grand Cirque de l’Impératrice ar y Champs-Élysées ym Mharis. Dechreuwyd gweithio ar yr adeilad newydd yn gyflym er mwyn sicrhau ei fod yn barod ar gyfer tymor y syrcas ym mis Tachwedd. Rhaid ei fod yn dipyn o her ond, ar 14 Hydref 1876, adroddodd y Cardiff Times fod y gwaith mwy neu lai wedi’i gwblhau ar yr arena newydd gyda digon o seddi ar gyfer 2000 o bobl.
The decorations of the building are of a costly character and bear a close resemblance to those of the grand Paris cirque. The prevailing tint is maroon. The stall seats are upholstered with maroon coloured velvet, the floor being covered with Brussels carpet of similar colour and of elegant design. The massive pillars supporting the roof are of the same colour, the sides being embellished with large oval mirrors in gold frames. Statues of various kinds support the canopy over the promenade and trophies formed with the flags of all nations surmount it. The roof internally is covered with 8,000 square feet of French glazed calico, extending alternately from a small circle in the centre, and expanding gradually, like the upper portion of a balloon, until the whole dome is covered by it. The interior of the building is principally lighted by a large gas chandelier, composed of hundreds of jets of lights. The seats in the pit are neatly covered and every effort had been made to ensure their comfort of those who attend. The brilliant appearance of the interior when lighted by gas far surpasses anything of the kind ever seen in Cardiff; and the building is larger and more elaborate than any other equestrian establishment out of London.
Prif ddiben y syrcas oedd perfformiadau marchogaeth o hyd ac roedd gan y syrcas newydd stablau ar gyfer hyd at 40 o geffylau ynghyd â dewis o ystafelloedd newid i berfformwyr y syrcas. Mae’r cynllun yn dangos bod y brif fynedfa ar gornel Heol y Porth a Heol y Parc, er bod mynedfa ochr lai ar Heol y Porth yn rhoi mynediad i’r oriel. Yn ogystal â moethusrwydd yr addurniadau, rhoddwyd sylw hefyd i’r cyfleusterau a oedd ar gael i’r cwsmeriaid, gyda blociau toiledau wedi’u cysylltu â’r brif garthffos ar Heol y Porth a Heol y Parc.
Agorwyd y syrcas newydd ar noson 6 Tachwedd 1876. Adroddodd y South Wales Daily Echo fod yr awditoriwm dan ei sang awr cyn yr amser dechrau gyda chynulleidfa a oedd wedi dod i weld y perfformiad a’r adeilad newydd godidog. Mae’n amlwg na chawsant eu siomi gan y naill na’r llall:
The performance commenced by an equestrian representation of a sailor in a storm at sea, which was given with great skill and dexterity by Mr Wells. The daring feats of the Brothers Etherdo with a long pole followed, these being succeeded by the “Poses Gracieux” by Miss Johnson, a graceful and athletic equestrienne. Mr Morelli, the “musical momus” gave a series of performances on the concertina which elicited rounds of enthusiastic applause… [South Wales Daily Echo, 7 Tachwedd 1876]
Ni aeth popeth yn ôl y bwriad, fodd bynnag. Fel gyda’r syrcas ar Heol Eglwys Fair, bu bron i’r noson gyntaf gael ei difetha gan drasiedi pan gwympodd Miss Laura oddi ar ei cheffyl wrth neidio trwy gyfres o gylchynnau. Yn ffodus, ‘She sprang up without a moment’s hesitation …and despite the remonstrances of the men in charge of the ring, resumed her place on the back of steed and carried out her performance to a successful conclusion.’ Bu’r noson yn llwyddiant mawr a daeth y papur newydd i’r casgliad hwn:
Messrs Hutchinson and Tayleure have brought together a collection of professional talent so superior and so varied as to well merit a further continuance of that liberal support which their circus has ever received from the Cardiff public [South Wales Daily Echo, 7 Tachwedd 1876]
Roedd y fenter yn risg ariannol anferthol i Hutchison a Tayleure, ond mae’n amlwg yr aeth y syrcas ar Heol y Porth o nerth i nerth. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach cafodd perfformiadau’r Nadolig eu disgrifio gan y Western Mail fel ‘trît’ y dylai pob plentyn yng Nghaerdydd gael y cyfle i’w weld. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1879, i ateb y galw cynyddol am hyd yn oed mwy o ysblander a chyffro, cafodd yr adeilad ei ailaddurno, cafodd y stablau eu hehangu i gadw 70 o geffylau ac roedd perfformwyr yn cael eu mewnforio o Baris a Madrid. Y brif act ym mis Tachwedd 1879 oedd gan y perfformwyr trapîs, y Silbons, a oedd wedi perfformio yn yr Arddangosfa Fawr ym Mharis ym 1878. Adroddodd y papur newydd eu bod wedi creu ‘…a great sensation by their astounding mid-air feats’ [Weekly Mail, 15 Tachwedd 1879].
Gellir gweld adeilad wythonglog y syrcas gyda’r tŵr canolog yn glir mewn ffotograff o Heol y Porth yn 1880au a gedwir yn Archifau Morgannwg (cyf: DX254/24/1).
Eto i gyd, er gwaethaf ei boblogrwydd, mae’n debyg nad oedd Grand Circus a Palace of Varieties Hutchison a Tayleure yn bodoli rhagor erbyn diwedd y 1880au. Ceir cliw i’r hyn a ddigwyddodd nesaf yn y trydydd set o gynlluniau ar gyfer syrcas yng Nghaerdydd, a gyflwynwyd ym 1890, a fydd yn destun erthygl olaf y gyfres hon.
Tony Peters, Gwirfoddolwr gydag Archifau Morgannwg
Y Syrcas yn dod i’r Dref: Y Neuadd Syrcas Newydd yng Nghaerdydd, Heol y Porth, 1876 - Archifau Morgannwg