Ydych chi’n nabod y bobl hyn? 100 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Caerdydd

Er bod cofnodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd a gedwir yn Archifau Morgannwg yn ymwneud yn bennaf â rheoli’r Gymdeithas a’r llu o ddarlithoedd a digwyddiadau a noddwyd ers ei chreu ym 1867. Mae hefyd adran sy’n cyfuno nifer o ffotograffau sy’n gysylltiedig â’r prif gasgliad. Mae’n gyfres o luniau cymysg a diddorol iawn. O fewn y casgliad mae ffotograff o tua 150 o bobl yn sefyll ar risiau’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd er mwyn cael llun grŵp. Maent oll yn drwsiadus iawn ac mae cliwiau i’w bwriad yn nifer yr ymbarelau a’r cotiau glaw sy’n cael eu cario neu eu gwisgo gan lawer o’r rhai sy’n bresennol.

Museum steps

Mae’r ffotograff yn un o dros 60 sydd wedi eu gosod mewn albwm, yn ddyddiedig mis Medi 1967, a luniwyd i ddathlu canmlwyddiant sefydlu Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd. Mae’r albwm hefyd yn cynnwys rhaglen o’r digwyddiadau a drefnwyd dros dri diwrnod i nodi’r canmlwyddiant. O’r manylion yn y rhaglen mae bron yn sicr i’r llun gael ei dynnu ar ddydd Sadwrn 23ain Medi 1967 tua 9.30am, wrth i aelodau’r Gymdeithas ymgasglu i gwrdd â’r coetsis a fyddai’n mynd â nhw ar ddiwrnod llawn gweithgareddau. Roedd hyn yn cynnwys ymweliad â Hen Gastell y Bewpyr yn y bore ac yna cinio, a gynhaliwyd gan Gadeirydd Cyngor Sir Morgannwg, yn Nhŷ Dyffryn a thaith o amgylch yr ardd.

Programme

Wrth iddynt sefyll ar risiau’r Amgueddfa mae’n ymddangos bod y grŵp mewn hwyliau da iawn. Byddai llawer wedi cael noson hwyr ar ôl mynychu’r derbyniad dinesig a’r cinio canmlwyddiant a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas y noson flaenorol. Roedd y rhaglen ar gyfer y derbyniad, a gynhaliwyd yn Ystafell y Cynulliad, yn cynnig bwydlen 5 cwrs gan gynnwys lleden bonne femme, cefnddryll oen a phwdin melba, gyda cherddoriaeth a ddarparwyd gan yr Eddie Graves Trio. Cynigiwyd y llwncdestun i’r Frenhines gan Arlywydd y Gymdeithas, y Cyrnol Syr Cennydd Traherne, Arglwydd Raglaw Morgannwg.

Er bod llawer wedi cymryd camau rhag ofn bod tywydd gwael ar y dydd Sadwrn, mae’r ffotograffau o Hen Gastell y Bewpyr a Dyffryn yn awgrymu eu bod wedi cael diwrnod gwych. Ar ben hynny, roedd mwy o ddathliadau i ddod. Bu disgwyl i’r coetsis ddychwelyd i Gaerdydd am 5.15pm er mwyn rhoi digon o amser i’r rheiny a oedd yn mynychu’r derbyniad am 8.00pm yn yr Amgueddfa Genedlaethol, a gynhaliwyd gan lywydd a chyngor yr amgueddfa. Mae’r albwm yn cynnwys nifer o ffotograffau o’r dderbyniad dinesig ar y nos Wener a’r derbyniad yn yr Amgueddfa Genedlaethol ar y dydd Sadwrn.

Dinner 1

Dinner 2

Ar y diwrnod canlynol, ddydd Sul 24 Medi, roedd diwrnod llawn arall gyda thri chyfarfod gwahanol yn y maes, gan orffen gyda chinio picnic. Yn anffodus nid yw’r albwm yn cynnwys ffotograffau o’r cyfarfodydd maes ar y dydd Sul. O’r rhaglen, fodd bynnag, gwyddom fod yr Adrannau Bioleg a Daeareg wedi ymweld â Merthyr Mawr a bod yr Adran Adareg wedi ymweld â Phwll Cynffig. Yn ogystal, daeth yr adrannau Archaeoleg, Ffotograffig ac Iau at ei gilydd i ymweld â Chastell Caerffili. Ym mhob achos daeth y cyfarfodydd i ben ar ôl cinio fel y gallai’r aelodau ddychwelyd i Gaerdydd ar gyfer hwyrol weddi yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Outing 1

Outing 2

Roedd yn daith lawn ac amrywiol i nodi digwyddiad arbennig iawn yn hanes y Gymdeithas. Os oeddech chi, neu eich ffrindiau a’ch aelodau teulu, ymhlith y 150 o bobl oedd yn sefyll ar risiau’r amgueddfa ar ddydd Sadwrn 23 Medi 1967, neu ymysg y rhai a fynychodd y derbyniadau a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas a’r Amgueddfa Genedlaethol, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gweld yr albwm ffotograffau (ref.: DCNS/PH/8/16). Yn ogystal, ceir nifer o ffotograffau o’r arddangosfa a gynhaliwyd gan y Gymdeithas ym mis Medi 1967 i nodi’r canmlwyddiant (ref.: DCNS/PH/8/1-15). Gellir gweld y ffotograffau yn Archifau Morgannwg yn ogystal ag ystod eang o gofnodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd sy’n dyddio yn ol at 1867.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg