Dyma’r chweched mewn cyfres o erthyglau am adeiladu ac agor Ysbyty a Fferyllfa Sir Forgannwg a Sir Fynwy, ym mis Medi 1883. Mae’n seiliedig ar gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg.
Y Llawfeddyg Tŷ

Philip Rhys Griffiths (trwy garedigrwydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd)
Roedd Philip Rhys Griffiths yn 27 pan gafodd ei benodi’n Llawfeddyg Tŷ yn yr ysbyty ym mis Mehefin 1882. Yn fab i syrfëwr o Aberafan, roedd yn Faglor mewn Meddygaeth, wedi iddo gael ei hyfforddi yn Ysbyty Coleg y Brifysgol, Llundain. Llawfeddyg y Tŷ oedd yr unig feddyg cyflogedig llawn amser yn yr ysbyty ac roedd yn rôl anodd a llafurus. Byddai Philip wedi bod yn goruchwylio pob claf mewnol, fel arfer o leiaf 60 ar unrhyw adeg. Bu’n ymdrin â derbyniadau, yn cynnal rowndiau ward dyddiol ac roedd ar alw bob awr. Roedd hefyd ar alw’r 4 llawfeddyg a meddyg er anrhydedd, ac roedd yn ofynnol eu hysbysu o gynnydd eu cleifion a sicrhau bod unrhyw gyfleusterau ac offer yr oedd arnynt eu hangen ar gael ar y dyddiau yr oeddent yn ymweld â’r ysbyty.
Roedd y llawfeddyg tŷ yn mynychu pob achos brys a ddeuai i’r ysbyty. Bu llawer o achosion o anafiadau yn sgil y twf diwydiannol yng Nghaerdydd. Ymysg llawer o gleifion eraill, byddai Philip wedi trin William Bryant oedd yn 6 oed ac a gafodd ei redeg drosodd gan dram a dynnwyd gan geffyl, damwain a welwyd gan David Morgan, y dilledydd, o’r Aes. Bu hefyd yn trin John Cody oedd wedi cwympo o nenbont yn y Doc Sych Masnachol, gan anafu ei gefn a’i goesau’n ddifrifol.
I ychwanegu at ei lwyth roedd hefyd yn ymweld â chleifion allanol nad oedd yn gallu mynd i’r ysbyty. Roedd hyn yn ganlyniad i’r dyddiau pan mai dim ond gwasanaeth fferyllfa oedd ar gael. Roedd cynlluniau ar y gweill i annog teuluoedd i dalu’n wythnosol i gynllun yswiriant a fyddai’n darparu gofal cartref. Fodd bynnag, mae’r cofnodion yn dangos bod y llawfeddyg tŷ yn dal i ymweld â’r cartref yn ystod y cyfnod hwn.
Yn olaf, ganddo fe hefyd roedd yr allwedd i ‘dŷ’r meirw’ ac roedd yn gyfrifol am sicrhau bod cyrff y meirw yn cael eu casglu gan eu perthnasau. O ystyried gofynion y swydd, nid yw’n syndod bod gofyn i’r llawfeddyg tŷ fyw ar y safle a pheidio â chymryd gwaith preifat. Roedd yn rhaid i Bwyllgor Rheoli’r Ysbyty gytuno ar unrhyw absenoldebau, a dim ond ar ôl dod o hyd i locwm. Am hyn i gyd roedd Philip yn derbyn cyflog o £100 y flwyddyn a … bwyd, golch, a fflatiau wedi eu dodrefnu.
Roedd bron yn anochel, felly, bod y llawfeddyg tŷ yn ganolog i fywyd yn yr ysbyty. Yn sicr, ymrwymodd Philip Rhys Griffiths ei hun i bob agwedd ar y rôl. Yn ogystal â’i ddyletswyddau dyddiol roedd yn canu i’r cleifion fel rhan o’r adloniant a ddarparwyd ar noswyl Nadolig, ac fel ysgrifennydd trefnodd y ddawns elusennol flynyddol a oedd mor bwysig wrth godi arian i’r ysbyty. Bu hefyd yn agos iawn at y Fatron arswydus Pratt, yn cefnogi ei hymgyrch i wella’r hyfforddiant a’r llety a ddarparwyd i nyrsys. Mae’n rhaid ei bod yn siomedig, felly, pan gafodd ei achos dros benodi llawfeddyg Tŷ cynorthwyol ei ateb gyda’r awgrym y gellid darparu ar gyfer hyn pe bai’n diswyddo unig fferyllydd yr ysbyty, a oedd yn rheoli cyflenwi a darparu meddyginiaethau i’r cleifion.
Roedd llawfeddyg tŷ yn rôl a wnaed fel arfer gan feddygon ifanc newydd gymhwyso ac yn aml fel eu hapwyntiad cyntaf. Yn unol â’r patrwm hwn, ymddiswyddodd Philip Rhys Griffiths ym mis Mai 1884 a gadawodd yr ysbyty ym mis Awst ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Meddyg ifanc arall gymerodd ei le, Donald Paterson, Albanwr a oedd wedi cwblhau ei hyfforddiant yng Nghaeredin y flwyddyn flaenorol.

Donald Paterson (ch) (trwy garedigrwydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd)
Nid dyma ddiwedd ymwneud Philip â’r ysbyty fodd bynnag. Bu’n byw am y rhan fwyaf o’i oes yng Nghaerdydd a dychwelodd i’r ysbyty bedair mlynedd yn ddiweddarach, yn 1886, fel Swyddog Meddygol Cleifion Allanol. Yn y rôl hon, byddai wedi bod yn un o’r tri swyddog meddygol oedd yn trin y miloedd o gleifion allanol oedd yn cael eu gweld yn yr ysbyty bob blwyddyn. Wedi hynny fe’i penodwyd yn llawfeddyg, swydd a fu ganddo am flynyddoedd lawer.

Philip Rhys Griffiths (ch) (trwy garedigrwydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd)
Roedd Philip Rhys Griffiths yn ffigwr adnabyddus yng Nghaerdydd gyda’i lythyrau yn aml yn cael eu cyhoeddi yn y papurau lleol. Teithiodd yn helaeth a darlithiodd ar amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys hanes meddygaeth yng Nghymru. Bu hefyd yn rhoi cyngor ar ddiet ac roedd yn eiriolwr dros yfed dŵr gyda bwyd i osgoi … effeithiau gwael gwirodydd, hyd yn oed os cânt eu cymryd yn gymedrol, ar y system dreulio. Yn siaradwr Cymraeg ac yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion, mewn blynyddoedd diweddarach bu’n Llywydd Cymdeithas Feddygol Caerdydd a Chymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd.
Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar Adroddiadau Blynyddol Ysbyty a Fferyllfa Bro Morgannwg a Sir Fynwy, y gellir dod o hyd iddynt yn Archifau Morgannwg, dan rif cyfeirnod DHC50. Gellir dod o hyd i gofnodion y Pwyllgor Rheoli ar gyfer y cyfnod hwn yn DHC5-6.
Mae lluniau Philip Rhys Griffiths wedi eu darparu gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd. Maent yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth. Roedd yn un o sylfaenwyr Adran Ffotograffiaeth y Gymdeithas a gwasanaethodd fel ei Llywydd yn 1904-05. Gellir dod o hyd i fanylion ei gyfraniad i’r Gymdeithas yn http://www.cardiffnaturalists.org.uk/htmfiles/150th-35.htm
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg