O’r cofnodion yn Archifau Morgannwg gwyddom i berchnogion Rookwood yn Llandaf roi’r tŷ a’r ystâd ar werth ym 1917. Ond pwy oedd y perchnogion a pham y penderfynon nhw adael Caerdydd? Mae cofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg, gan gynnwys cyfres o lyfrau lloffion teuluol a luniwyd gan deulu’r Hill dros gyfnod o bron i 40 o flynyddoedd yn cynnig esboniad (cyf. D1372).
Pa well cyfle i gwrdd â pherchnogion Rookwood nag yn y briodas fawr gyntaf a gynhaliwyd yn y tŷ, pan briododd Constance Hill, ail ferch Syr Edward Stock Hill, â Walter Robertson Hoare. Mae llyfr lloffion teulu’r Hill yn adlewyrchu’r digwyddiad mewn cyfres o ffotograffau ac adroddiadau papur newydd o Hydref 1897.
Tad y Briodferch

Syr Edward Stock Hill
Ar y pryd roedd Syr Edward Stock Hill, perchennog Rookwood, yn un o ffigyrau mwyaf adnabyddus de Cymru a gorllewin Lloegr. Roedd yn bartner, gyda’i frawd, yn Charles Hill a’i Feibion, adeiladwyr llongau a pherchnogion llongau ym Mryste, ac roedd Edward wedi dod i Gaerdydd i oruchwylio’r broses o gaffael a gwella doc sych ac iard adeiladu llongau ar ochr orllewinol Dociau dwyreiniol Bute. Adeiladodd Rookwood ym 1866, y flwyddyn y priododd Fanny Ellen Tickel. Er iddynt gadw ystâd yng Ngwlad yr Haf, roedd Edward, Fanny a’u 7 o blant yn byw yn Rookwood yn bennaf. Ym 1897 roedd gan Syr Edward nifer o bethau ar waith. Law yn llaw â gyrfa fusnes lwyddiannus fe oedd Aelod Seneddol De Bryste, yn Is-gyrnol Corfflu Gwirfoddol Gynnau Mawrion Morgannwg ac yn Uchel Siryf Morgannwg.
Constance oedd y gyntaf o’i dair merch i briodi ac roedd yn ddigwyddiad moethus. Cynhaliwyd y seremoni ar ddydd Iau 28 Hydref 1897, ond dechreuodd yr ŵyl ddeuddydd cyn hynny wrth i’r teulu agor tŷ a thiroedd Rookwood i bobl Llandaf ar gyfer parti te mawreddog a gynhaliwyd yn y parlwr haul. Y noson ganlynol bu parti o 50 aelod teulu a ffrindiau yn bwyta ac yn cael eu diddanu gan yr Hills yn y tŷ. Mae’n bosibl y gallai’r deg gwas a gyflogwyd yn y tŷ yn Rookwood fod wedi gallu ymdopi â’r trefniadau ar gyfer y te parti a swper. Fodd bynnag, yn sicr bu’n rhaid ychwanegu’n sylweddol at y staffio ar ddiwrnod y briodas pan wahoddwyd 250 o westeion i’r gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Llandaf a’r derbyniad a ddilynodd hynny yn Rookwood.
Y Rhestr Gwesteion
Ar frig y rhestr gwesteion roedd yr Arglwydd Halsbury, yr Arglwydd Ganghellor a’i wraig. Mae’r rhestr o’r rhai sy’n mynychu yn cynnwys llwyth o enwogion de Cymru gydag enwau teuluoedd fel Bruce, Cory, Brain, Crawshay, Insole, Lindsay, Mackintosh, Vachell, Windsor a Turbervill yn eu plith Er nad oeddent yn bresennol ar y diwrnod anfonwyd anrhegion gan deulu pwerus a dylanwadol y Buteiaid.
Y Briodferch

Y brodyr a chwiorydd Hill
Nid oedd Constance yn ferch ifanc swil pan briododd yn 29 oed. Chwaraeodd ran weithredol wrth ochr ei rhieni mewn gwleidyddiaeth leol, gan adeiladu aelodaeth Primrose League yng Nghaerdydd, cangen o’r Blaid Geidwadol. Yn ogystal, roedd yn ffigwr a threfnydd allweddol yn ne Cymru ar gyfer nifer o elusennau mawr, yr NSPCC yn enwedig. Roedd hefyd wedi teithio’n helaeth yn Ewrop a gogledd Affrica ac wedi cael ei chyflwyno i’r Frenhines Victoria yn y Llys.
Fel ei chwiorydd, roedd Constance yn gerddor talentog ac yn actores. Cyhoeddodd y papurau newydd adolygiadau o’i pherfformiadau mewn cynyrchiadau amatur mewn theatrau yn Lloegr ac Iwerddon. Roedd ei thad a’i phedwar brawd yn gricedwyr adnabyddus. Roedd Constance hithau yn dalentog gyda bat a phêl, a bu’n gapten timau criced merched y Tyllgoed a Morgannwg, ar un achlysur wedi cael y sgôr uchaf ar gyfer y Sir gyda 56 o rediadau yn erbyn Dwyrain Swydd Gaerloyw.
Y Wisg Briodas

Y briodferch a’r morwynion
Ar y diwrnod, fodd bynnag, fe’i gwelwn mewn gwisg fwy traddodiadol. Disgrifiodd y papurau newydd wisg y briodferch fel:
White satin with long brocaded train. Down one side of the skirt and across the front was draped a handsome flounce of Honiton lace (the gift of the bride’s mother) some more of which formed a fichu on the bodice, edging the pouched front of chiffon.
Roedd 12 o forwynion priodas, yn cynnwys chwiorydd Constance, Mabel a Gladys. Gwisgodd y morynion priodas:
…white striped silk, Eton blue sashes and chiffon fichus held in place by pink heath and carnations and wore blue enamel and pearl hearts, the gift of the bridegroom.
Mam y Briodferch
Roedd y Fonesig Hill yn ferch i’r Is-Gadfridog Richard Tickell. Fel ei gŵr roedd hi’n ffigwr adnabyddus yng Nghaerdydd, yn aml yn y newyddion am ei gwaith gydag elusennau lleol a’r Primrose League. Fel mam y briodferch, roedd hi am ddisgleirio ac adroddodd y papurau newydd ei bod hi’n gwisgo:
…a handsome gown of pale mauve brocade with white moire stripes. The bodice was trimmed with straps of mauve velvet and cream lace fell in soft cascades on either side of the embroidered moire full fronted. The bonnet was of mauve velvet and orchids and had a pale heliotrope poplin osprey in front.
Y Gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Llandaf
Gweithiodd gwas y briodas a brodyr Constance, Eustace, Vernon, Roderick a Percy, yn ddiflino wrth gyfeirio’r gwesteion i’w llefydd yn y Gadeirlan. Nid oedd dim wedi’i adael i siawns. Rhag ofn bod glaw roedd arcedau wedi’u codi o’r ffordd i ddrws yr Eglwys, pob un wedi’i addurno â choed bytholwyrdd a blodau gwyn. Cyrhaeddodd y briodferch a’i thad ddrws gorllewinol y Gadeirlan yn ‘brydlon’ am 2:30 a cherdded at yr allor ar garped rhuddgoch a osodwyd ar gyfer yr achlysur. Cafodd y gwasanaeth ei gynnal gan Arglwydd Esgob Llandaf a gefnogwyd gan y Parchedig Arthur Hoare, tad y priodfab. Byddai wedi bod yn olygfa drawiadol, gyda’r Gadeirlan wedi ei haddurno â lili’r maes, grug gwyn, rhedyn a phalmwydd. Yn ogystal, roedd rhan helaeth o’r Gadeirlan wedi’i neilltuo ar gyfer y cyhoedd ac roedd pob sedd a lle sefyll yn llawn awr cyn y seremoni, a channoedd yn sefyll y tu allan wrth y drws gorllewinol.
Teithiodd y gŵr a gwraig newydd yn ôl i Rookwood mewn coets agored

Porth gorfoledd
Wrth i Constance a Walter yrru yn ôl i Rookwood roedd y strydoedd o’r Gadeirlan wedi eu haddurno â baneri a rhubanau. O bryd i’w gilydd ar hyd y llwybr, roedd ‘pyrth gorfoledd’ wedi cael eu codi ar draws y ffordd, pob un wedi’i blethu â choed bytholwyrdd a blodau ac wedi addurno â stribynnau. Yr oedd pob porth ag arwyddair, gan gynnwys ‘Happy May They Be’ a ‘God Bless You Both’. I ychwanegu at yr effaith ac, yn briodol ar gyfer teulu milwrol, cafodd canonau eu tanio ar ysbeidiau, mwy na thebyg gan Gorfflu Gwirfoddol Gynnau Mawrion Morgannwg.
Y Derbyniad yn Rookwood
Daeth y cwpl i mewn i ystâd Rookwood drwy fwa a godwyd wrth y porthdy ar Heol y Tyllgoed wedi’i frodio â dwy galon gyda’r llythrennau cyntaf C a W. Eu dyletswydd gyntaf oedd derbyn eu gwesteion ac ar gyfer hyn roedd y cwpl yn sefyll yn yr Ystafell Groeso dan gloch flodau artiffisial, symbol o lwc, ac yn cynnwys blodau Mihangel gwyn wedi’i leinio gyda sidan gwyn. Nid oes cofnodion o’r bwyd a weinwyd y diwrnod hwnnw ond roedd Rookwood yn adnabyddus am gynnal partïon gardd a chinio moethus. Mae manylion, fodd bynnag, am y gacen briodas. Paratowyd gan y Meistri Stevens o’r Dorothy, Caerdydd ac roedd yn debyg i gacen a baratôdd y cwmni ar gyfer ei Huchelder y Dywysoges Henry o Bless.

Braslun o’r gacen priodas
Cadarnhaodd braslun yn y Western Mail ei bod yn gacen gywrain iawn a oedd wedi’i haddurno â blodau naturiol a phaneli a oedd yn cynrychioli Eglwys Gadeiriol Llandaf ac ystadau Syr Edward yn Rookwood a Maenordy Hazel. Nid oes fawr o amheuaeth bod yr arlwyo yn wych wrth ddarparu ar gyfer y gwesteion yn Rookwood ar ddiwrnod y briodas.

Y gwesteion
Mae ffotograff ar gael o lawer o’r gwesteion yn sefyll wrth ddrws y tŷ. Mae’n cynnwys tua 100 o bobl ac mae’n bosibl, felly, ei fod wedi cyfyngu i westeion teuluol ac anrhydeddus yn unig. Mae Syr Edward Stock Hill yn eistedd wrth ymyl y priodfab ac mae ei wraig yn eistedd bedair sedd i’r dde i’r priodfab. Mae’r Arglwydd a’r Arglwyddes Halsbury, fel y gellid disgwyl, yn y blaen yn eistedd rhwng Syr Edward a’r Foneddiges Hill. Er i wisgoedd y menywod gael eu disgrifio’n yn fanwl yn y wasg, ychydig a ddywedwyd am y dynion. O’r ffotograff gallwn weld mai ffrog-cotiau hir oedd y dewis wisg i ddynion mewn digwyddiadau fel hyn.
Y Mis Mêl
Mae’n siŵr bod y derbyniad wedi gorffen yn rhy fuan o lawer i lawer o’r gwesteion, gyda Walter a Constance Hoare yn gadael Rookwood am 4.30 i ddal y trên o Gaerdydd i Gernyw. Erbyn hyn roedd Constance wedi newid ac adroddwyd ei bod yn gwisgo sgert o frethyn gwyrdd, blows Rwsia, ‘broche’ pinc a gwyrdd a ‘toque’ felfed gwyrdd wedi’i addurno â felfed pinc.
Yr Anrhegion Priodas
Fel yr oedd yr arfer ar y pryd roedd y papurau newydd yn cynnwys rhestr lawn o’r anrhegion priodas. Ar frig y rhestr roedd y mwclis diemwnt a’r oriawr aur a roddwyd gan Syr Edward a Foneddiges Hill i’r briodferch a’r priodfab. Mae’n rhestr hynod ddiddorol sy’n cynnwys llawer o eitemau sy’n annhebygol o gael eu rhoi ar restri priodas y dyddiau hyn, gan gynnwys peiriant pwyso llythyron, blotydd wedi’i frodio a dwy set o ysgeintwyr siwgr. Gobeithiwn fod y cwpl yn adaregwyr brwd gan iddynt gael tair set o lyfrau ar Adar Prydain. Yn olaf, ni anghofiwyd neb o’r rhestr ac adroddwyd bod gweision Rookwood wedi cyflwyno hambwrdd a rhesel dost arian i’r cwpl.
Beth ddigwyddodd nesaf?
Rdym yn gwybod ychydig mwy am deulu’r Hill, y teulu a adeiladodd ac a fu’n byw yn Rookwood, nawr. Fodd bynnag, mae’r llyfrau lloffion yn dweud cymaint mwy wrthym! I’w barhau…
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Dyma un mewn cyfres o erthyglau am ddigwyddiadau yn Rookwood o’r cyfnod pan adeiladwyd y tŷ ym 1866 hyd at heddiw sydd wedi eu seilio ar gofnodion yn Archifau Morgannwg. Lluniwyd y llyfrau lloffion gan y teulu Hill o Rookwood a gallwch eu gweld yn Archifau Morgannwg dan y cyfeirnod D1372.