Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Archif y Traffyrdd o dan Ddatganiad o Ymddiriedolaeth ym 1999 a’i chofrestru fel elusen ym mis Ionawr 2000. Datblygwyd yr ymddiriedolaeth o ganlyniad I awgrym Syr Peter Baldwin, Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Drafnidiaeth y dylai archif yn ymwneud â chyflawniad traffyrdd yn y DU gael ei chreu gan y rhai sy’n ymwneud â’r gwaith, er mwyn diogelu’r cofnodion ar gyfer ymchwil bresennol ac yn y dyfodol. Yng Nghymru, ffurfiwyd pwyllgor rhanbarthol i gario’r gwaith hwn yn ei flaen ac adneuwyd y cofnodion o Archif Traffyrdd Cymru yn Archifau Morgannwg. Daeth yr ymddiriedolaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2014 a throsglwyddwyd perchnogaeth y deunydd archif i Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru.
Nid yn unig y mae’r cofnodion yn darparu mewnwelediad hynod ddiddorol i selogion trafnidiaeth a pheirianneg sifil, maent hefyd yn dogfennu cyflawniad traffyrdd mwyaf Cymru; adeiladu’r M4, yr unig draffordd yng Nghymru. O’r 123 milltir o draffordd yr M4, mae 76 milltir yng Nghymru ac yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Mae’r cofnodion yn cwmpasu’r prosiect o gynlluniau cynnar fel Ffordd Osgoi Port Talbot ym 1966 hyd at gwblhau Ail Groesfan Hafren ym 1996.
Roedd y 1970au yn gyfnod prysur o adeiladu ar gyffyrdd traffordd allweddol ym Morgannwg, gyda 1977 yn gweld y gwaith ffordd mwyaf gorffenedig yn ystod y broses o gwblhau’r M4. Cwblhawyd cyffyrdd 28-29 Tredegar i Laneirwg, 32-35 Coryton i Bencoed, 37-39 Stormy Down i Groes, a 46-49 Llangyfelach i Bont Abraham (Ffordd Osgoi Pontarddulais) i gyd yn y flwyddyn hon; cyfanswm o 31 milltir mewn wyth mis am gost o £130 miliwn. Adeiladwyd 115 o strwythurau, cloddiwyd 12 miliwn metr ciwbig o ddeunydd a defnyddiwyd 10 miliwn metr ciwbig mewn argloddiau. Plannwyd cyfanswm o dros filiwn o goed o amgylch yr M4 yng Nghymru. Ym 1976, ar anterth adeiladu traffyrdd yng Nghymru, roedd tystysgrifau misol yn dod i gyfanswm o oddeutu £ 4 miliwn, ac ar gyfnodau brig, cyflogwyd bron i 4,000 o bobl.

Adeiladu traphont Stormy Down
Fodd bynnag, ni ddaeth y gwaith adeiladu heb ei anawsterau, yn enwedig yn achos adeiladu’r ffordd rhwng Stormy Down a’r Groes rhwng cyffyrdd 37-39. Cafodd Ewart Wheeler, rheolwr prosiect y cynllun, y profiad anarferol o roi tystiolaeth yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus wrth hyrwyddo’r aliniad ar ran Swyddfa Cymru, ac ar yr un pryd yn gwrthwynebu rhai agweddau ar y llwybr ar ran Cyngor Sir Morgannwg. Roedd y cynllun hwn yn cynnwys toriad sylweddol mewn marl, ac roedd sawl hawl tramwy yn croesi llwybr cynlluniedig y draffordd, gan arwain at newidiadau syfrdanol i’r dirwedd. Er gwaethaf awgrymiadau o lwybrau amgen gan Ddirprwy Beiriannydd Port Talbot, ym 1974 penderfynwyd bod yn rhaid dymchwel pentref y Groes er mwyn gwneud lle i Gyffordd 39. Er i bob un o’r 21 teulu gael eu hailgartrefu ym 1976, cafodd Capel Calfinaidd wythonglog hanesyddol Beulah ei ddatgymalu a’i ailadeiladu ym Mharc Tollgate.

Llun staff Margam i Stormy Down
Yn ddiweddar, mae Archifau Morgannwg wedi cwblhau prosiect i gatalogio’r Archif Traffyrdd (cyf.: DMAW), a ariennir gan Wobr John Armstrong y Cyngor Archifau Busnes ar gyfer Archifau Trafnidiaeth. Mae’r catalog bellach ar gael i’w ddarllen ar wefan Canfod:
http://calmview.cardiff.gov.uk/Record.aspx?src=CalmView.Catalog&id=DMAW&pos=1