Bach – Ond Difyr!

Cerdyn post unigol o Neuadd y Ddinas Caerdydd yn y 1950au oedd y 75ain derbynyn a dderbyniwyd gan Archifdy Morgannwg yn 1981.

Cerdyn post o Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Cerdyn post o Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Mae’n dra gwahanol o ran maint i rai o’r 75ain derbynion blynyddol eraill a dderbyniwyd ond gan nad oes cyfyngiad o ran maint ar gyfer adneuon, cafodd y cerdyn post ei dderbyn.

Roedd y cerdyn post yn rhan o gyfres o eitemau a drosglwyddwyd i Archifdy Morgannwg o Archifau Gwynedd yng Nghaernarfon.  Mae gwasanaethau archifo ledled y wlad yn aml yn ailddosbarthu cofnodion sy’n dod i law nad ydynt yn berthnasol i’r ardal y maen nhw’n ei gwasanaethu ac yn eu hanfon i’r archif leol briodol.

Dechreuwyd ar yr adeilad (‘neuadd y dref’ bryd hynny) yng Nghaerdydd yn 1901 gan ddylunwyr Messrs. Lanchester Stewart & Rickards.Cafodd y gwaith ei wneud gan gwmni adeiladu Caerdydd E. Turner & Sons Ltd. Gosodwyd carreg sylfaen ‘neuadd y dref’ mewn seremoni ar 23 Hydref 1901, a chedwir rhaglen swyddogol ar gyfer y digwyddiad yn Archifau Morgannwg (BC/X/9). Erbyn i’r adeilad gael ei gwblhau roedd Caerdydd wedi derbyn statws dinas, a daeth y neuadd dref yn ‘Neuadd y Ddinas’.

Rhaglen gosod carreg sylfaen

Rhaglen gosod carreg sylfaen

Drwy edrych yn ein catalog ar-lein Canfod am gofnodion yn ymwneud â ‘Neuadd y Ddinas / Dref Caerdydd’ ceir 30 eitem.  Nid yw ein casgliad o gynlluniau rheoleiddio adeiladu Dinas Caerdydd (BC/S/1) yn cynnwys cynlluniau gwreiddiol ar gyfer yr adeilad godidog hwn.  Ond eleni cawsom luniau yn ymwneud ag adeiladau a adeiladwyd gan E. Turner & Sons Ltd.; ac mae un yn dangos y broses o adeiladu Neuadd y Ddinas (D1079).

Adeiladu Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Adeiladu Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Llyfrgell Ystafell Ymchwil Archifau Morgannwg

Allan o’r 75fed eitem flynyddol a gafwyd bob blwyddyn ers 1939, mae pum eitem i’w gweld yn llyfrgell yr ystafell ymchwil. Yn y gorffennol, cafodd yr holl eitemau a gyflwynwyd i’r llyfrgell eu cofrestru yn yr un ffordd â’r dogfennau, gyda manylion yn cael eu cofnodi yng nghofrestrau eitemau swyddogol Swyddfa Cofnodion Morgannwg.

Dros amser, newidiodd y broses hon, gyda chofrestr eitemau ar wahân yn cael ei llunio ar gyfer y Llyfrgell i gofnodi eitemau argraffedig a dderbyniwyd – boed yn gyfeirlyfrau a brynwyd neu’n rhoddion gan awduron a’r cyhoedd.

Heddiw, nid yw eitemau sy’n cael eu derbyn gan y Llyfrgell yn cael eu cofrestru o gwbl. Yn lle hynny, rhoddir rhif cyfeirnod iddynt a chaiff y manylion eu hychwanegu at ein catalog, Canfod. Rydyn ni wedi ychwanegu manylion holl lyfrau ein Llyfrgell at Canfod. Roedd hyn yn dipyn o dasg oherwydd roedd yn cynnwys nid yn unig y llyfrau sydd ar gael i’w pori yn yr ystafell ymchwil ond hefyd ein casgliad o bamffledi sy’n cael eu cadw y tu ôl i’r llenni. Roedden ni’n lwcus o allu manteisio ar arbenigedd nifer o lyfrgellwyr cymwys, a oedd ymysg ein gwirfoddolwyr, i gwblhau’r gwaith.

Y Llyfrgell

Y Llyfrgell

 

Yma yn Archifau Morgannwg rydyn ni’n casglu a chadw dogfennau sy’n ymwneud â hanes Morgannwg a’i phobl, ac yn sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd. Nid ydym yn gwneud ymdrech fawr i gasglu gweithiau cyhoeddedig. Dros y blynyddoedd mae ein Llyfrgell wedi’i lleihau, gyda llawer o gyhoeddiadau’n cael eu trosglwyddo i gartrefi mwy priodol mewn llyfrgelloedd lleol. Serch hynny, mae’r Llyfrgell fechan sydd ar gael yma yn dal i fod yn bwysig i staff ac ymchwilwyr gan ei bod yn ategu casgliadau’r archifau; yn cynnig arweiniad i’r cyhoedd ar ddefnyddio’r archifau a chyflawni gwaith ymchwil penodol sy’n ymwneud â’n casgliad, ac yn cynnig gwybodaeth a chanllawiau proffesiynol cyfredol i’n staff ar reoli, diogelu a chadw archifau.

Cofnodion Cardiff District Super Aeration Ltd.

Awyriad yw’r broses o gymysgu ocsigen â hylif, a ddefnyddir yn aml i greu dŵr wedi’i awyru i’w yfed, yn aml fel dŵr mwynol pefriol neu bop! 

Gwnaeth cwmni Cardiff District Super Aeration waith o’r fath ac, yn 2010, ein 75ain eitem oedd llyfr llythyrau gan y cwmni o 1901-1914 (D687).

Llyfr Llythyrau

Llyfr Llythyrau

Mae’n cynnwys llythyrau a lofnodwyd gan ysgrifennydd y cwmni, Thomas Evans. Dengys yr ohebiaeth ym mis Rhagfyr 1902 fod cyfarfod cyffredinol eithriadol o’r cwmni, pan gytunwyd i gau’r cwmni’n wirfoddol er mwyn ei gyfuno â London Super-Aeration Ltd.

Daeth Thomas Evans yn glerc i Fwrdd Peilota Caerdydd a defnyddiodd ail ran y llyfr i wneud y gwaith hwn. Mae rhagor o gofnodion Bwrdd Peilota Caerdydd ac Awdurdod Peilota Caerdydd yn Archifau Morgannwg dan gyfeirnodau DPIL a DX914.

Llythyr David Morse

Llythyr David Morse

Mae llythyr olaf y llyfr, a ysgrifennwyd gan Evans fel Clerc Bwrdd Peilota Caerdydd, wedi’i gyfeirio at D. Morse o Benarth, un o berthnasau’r peilot David Morse, hefyd o Benarth, a roddodd dystiolaeth i’r Senedd i gefnogi Bil Doc Bute 1866. Mae cyfraniad Morse i’r broses Seneddol, a’r ymchwil a wnaed i’w stori gan Gymdeithas Hanes Lleol Grangetown, yn sail i Sea of Words, ffilm wedi’i hanimeiddio gan yr artist Trevor Woolery i’r Archifau Seneddol. Mae’r ffilm yn ystyried y cysylltiadau rhwng cymunedau Caerdydd a’r Senedd drwy ddatblygiad Dociau Caerdydd yn ystod y 19eg ganrif. Mae’n defnyddio deunydd archif unigryw a gedwir gan yr Archifau Seneddol ac Archifau Morgannwg ac mae ganddo gyfraniadau gan Gymdeithas Hanes Lleol Grangetown.

I weld y ffilm ewch i www.parliament.uk/communities

Archif Ymchwil Hughesovka

Roedd John Hughes yn Ddiwydiannwr o Gymru. Mae dylanwad ei waith yn para hyd heddiw.Fe’i ganed 200 mlynedd yn ôl ym Merthyr Tudful, a bu’n gweithio i nifer o gwmnïau diwydiannol yn ne Cymru a Llundain ac roedd yn berchen ar rai o’r cwmnïau hynny. Ym 1869 cafodd gonsesiwn gan Lywodraeth Ymerodrol Rwsia i ddatblygu gwaith metel yn ardal lled anghyfannedd Donbas, ar dir i’r gogledd o Fôr Azov ar lannau afon Kalmius.Gelwid yr ardal yn Novorossiya (sef yn llythrennol ‘Rwsia Newydd’) ac fe’i concrwyd gan Rwsia oddi ar y Zaporizhiaid, Tartariaid Crimea a’r Otomaniaid yn y ganrif flaenorol.Erbyn canol y 19 ganrif roedd nifer cynyddol o Rwsiaid yn gwladychu’r ardal gan adeiladu trefi a diwydiannau.

Sefydlwyd y ‘New Russia Company Ltd’ gan John Hughes, ac ym 1870 hwyliodd i Rwsia mewn fflyd o 8 o longau.Roedd yr holl offer a chyfarpar angenrheidiol ar gyfer sefydlu gwaith haearn ar fwrdd y llongau, yn ogystal â gweithwyr haearn a glowyr medrus o Gymru. Dechreuwyd codi’r gwaith haearn newydd ar unwaith, gan ddatblygu i fod yn gyfleuster o’r radd flaenaf gydag wyth ffwrnais chwyth er mwyn galluogi cylch cynhyrchu llawn.Cynhyrchwyd yr haearn bwrw cyntaf yno ym 1872. Yn ystod yr 1870au adeiladwyd pyllau glo, mwyngloddiau haearn a gwaith brics yn yr ardal, a daeth yn ganolfan ddiwydiannol hunangynhaliol.Gelwid y dref a ddatblygodd yn sgil hynny yn Hughesovka (Юзовка) er anrhydedd i’w sylfaenydd.

Ffwrnais chwyth, Hughesovka

Ffwrnais chwyth, Hughesovka

 Aeth y dref o nerth i nerth ac erbyn dechrau’r 20fed ganrif cynhyrchwyd bron dri chwarter holl haearn Rwsia yno.Ar ôl marwolaeth John Hughes ym 1889 rheolwyd y gwaith gan bedwar o’i feibion, ond daeth cysylltiad y teulu â’r gwaith i ben yn sgîl y chwyldro Bolsieficaidd.Fodd bynnag, roedd llawer o weithwyr o Gymru a Phrydain wedi allfudo yno yn y blynyddoedd cyn y chwyldro.Gadawodd y rhan fwyaf ohonynt ar ôl y chwyldro, er bod disgynyddion gweithwyr o Brydain yn dal i fyw yn yr ardal.

Ailenwyd yn ddinas yn Stalino ym 1924, a newidiwyd yr enw eto ym 1961 i’r enw presennol, sef Donetsk.Mae’r tîm pêl-droed lleol Shaktar Donestsk (ystyr Shaktar yw glowyr) yn chwarae yng nghwpanau Ewrop yn rheolaidd.  ‘Y tyrchod daear’ yw llysenw’r clwb oherwydd hanes glofaol yr ardal. Honnir bod cit y clwb yn seiliedig ar Newport County gan fod busnes cyntaf John Hughes wedi’i sefydlu yng Nghasnewydd.Mae Donetsk yn y newyddion eto oherwydd y gwrthdaro rhwng yr Wcráin a Rwsia dros y dalaith hon yn nwyrain yr Wcráin.

Mae dau o’r 75 o eitemau a dderbyniwyd yn ymwneud â Hughesovka.Maent yn rhan o gasgliad mawr o ddeunydd.I gael rhagor o wybodaeth am Hughesovka a’r dogfennau cysylltiedig a gedwir yma yn Archifau Morgannwg, ewch i dudalennau gwe Archif Ymchwil Hughesovka http://www.glamarchives.gov.uk/hughesovka/hka-index.html 

William Lethbridge, rheolwr, a merched

William Lethbridge, rheolwr, a merched