A nawr mae’r pedwar ohonom yn un: Ffurfio Cwnstablaeth De Cymru, 1 Mehefin 1969

Fis Mehefin bydd hi’n hanner canrif ers ffurfio Cwnstablaeth De Cymru. Dyma’r cyntaf o dair erthygl yn edrych nôl ar hanes ffurfio’r gwnstablaeth a’i dyddiau cynnar. Mae’n tynnu ar gofnodion a gaiff eu cadw yn Archifau Morgannwg gan gynnwys copïau o’r adroddiadau blynyddol a luniwyd gan y Prif Gwnstabl.

Yn ôl unrhyw fesur roedd 1969 yn flwyddyn heriol i fynd ati i ad-drefnu’n sylweddol a chreu cwnstablaeth newydd allan o luoedd Morgannwg, Merthyr, Abertawe a Chaerdydd. Fel y noda adroddiad y Prif Arolygydd ar gyfer 1969-70, roedd 1969 yn flwyddyn heriol gyda’r angen i gyfrannu at blismona arwisgiad y Tywysog Charles a sawl ymweliad brenhinol â De Cymru. Ar ben hynny, roedd yr heddlu’n wynebu nifer o heriau difrifol gan gynnwys …ysgwyddo baich trwm y gwaith a’r ymchwiliadau i eithafiaeth Gymreig… law yn llaw â phlismona gweithgareddau gwrth-apartheid a gemau rygbi’r Springbok.

Roedd symud at luoedd mwy yn fenter a welwyd ar hyd Gwledydd Prydain yn dilyn argymhellion y Comisiwn Brenhinol ar Blismona ym 1960. Roedd y newidiadau yn Ne Cymru yn un rhan o’r jig-so â’r nod o leihau nifer y lluoedd ar draws y wlad o 117 i 43. Roedd y paratoadau ar gyfer Cwnstablaeth De Cymru wedi eu gwneud gan 13 gweithgor a grëwyd i edrych ar bob agwedd ar redeg y llu newydd. Mae cofnodion y gweithgorau wedi eu cadw yn Archifau Morgannwg ac o’r dechrau deg roedd Prif Gwnstabliaid y pedwar llu yn cyfaddef, mewn llythyr ar y cyd a gyhoeddwyd ar 26 Gorffennaf 1967, na fyddai’r uniad yn boblogaidd mewn sawl cwr.

It is acknowledged that the process of amalgamation does not commend itself to all members of the regular forces and civilian staff affected. This we understand.

Serch hynny, byddai’r llu newydd, a oedd i wasanaethu bron i hanner cant y cant o boblogaeth Cymru, yn fwy effeithiol:

…providing greater resources and more modern equipment, transport and communication.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar 1 Mai 1969, fis cyn lansio’r Gwnstablaeth, ysgrifennodd y darpar Brif Gwnstabl, Melbourne Thomas, at ei staff unwaith yn rhagor gan gyfaddef:

…there will undoubtedly be many initial problems and difficulties, but with the co-operation and combined effort of all members we can overcome them… In the whole of Great Britain there are only six provincial forces with responsibility for a greater number of people and the merger is taking place in an atmosphere of economic restraint with restrictions on manpower, and at a time when the structure of the police service is subject to tremendous change in both the administrative and operational fields.

 

Chief Constable Melbourne Thomas

Prif Gwnstabl Melbourne Thomas

 

Fel modd o esmwytháu y pontio fe geisiodd roi sicrwydd i swyddogion na fyddai gofyn iddynt symud fel rhan o’r ad-drefnu, ac:

there will be a substantial number of promotions in the new force and I want to stress that these will be on merit with no regard being paid to which of the constituent forces the officers belonged.

Ni wnaeth y llythyr grybwyll yr anghytuno a fu’n amgylchynu pen llanw’r trefniadau ar gyfer y llu newydd ac, ar brydiau, a fu’n fygythiad i’r broses gyfan. Yn naturiol, gyda sefydliad a fyddai’n cynnwys bron i 3,000 o swyddogion heddlu a staff sifil ledled De Cymru, roedd cwestiynau yn codi yn ymwneud â sicrwydd swyddi, adleoli a rhagolygon dyrchafiad. Ar ben hynny, fel y dangosodd dadleuon yn y Senedd yn ystod mis Mawrth 1969, roedd y frwydr hefyd yn cynnwys pryderon am golli heddluoedd fel Merthyr oedd a hunaniaeth leol gref ac ymrafael nôl a blaen dros leoliad pencadlys yr heddlu newydd. Er bod llawer, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cartref, Jim Callaghan, wedi dadlau’r achos dros Gaerdydd a’i bencadlys newydd modern ym Mharc Cathays, yn y pen draw, Pen-y-bont oedd y dewis, sef cartref heddlu Morgannwg a’r mwyaf o’r 4 llu.

DSWP-PH-TRA-19

Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr

Does dim syndod felly fod lansiad Cwnstablaeth De Cymru ar 1 Mehefin 1969, i’r rhan fwyaf o bobl, yn ddigwyddiad tawel. Cyfyngwyd adroddiad yn y Western Mail i erthygl fer ar y tudalennau mewnol. Dywedodd y Prif Gwnstabl, Melbourne Thomas, yn syml:

I have taken the view that there is no funeral and that the good spirit existing in the four forces will be carried forward into the new force (Western Mail, 1 Mehefin 1969).

Ac felly profwyd. Yn yr adroddiad blynyddol a gynhyrchwyd ym mis Ionawr 1970, dadleuodd y Prif Gwnstabl fod llawer o’r heriau a wynebwyd ym 1969 wedi helpu i ddod a’r llu newydd ynghyd:

The early jointure of the members of the forces in duties for Investiture of HRH The Prince of Wales and the Royal Progress precipitated the business of working together for the whole force. Demonstrations at football matches continued the acceleration of getting to know one another. Social exchanges added to the integration the amalgamation must gain if the desired benefits are to be secured.

Tra bod anawsterau yn parhau gyda diffyg niferoedd a’r gallu i symud staff wedi ei gyfyngu, daeth Melbourne Thomas i’r casgliad:

…the new force was launched and is progressing daily towards the integration and efficiency desired from amalgamation. Twelve months from now it will be possible to look at the progress made from a much better perspective point.

Y prawf pennaf mae’n debyg oedd agwedd aelodau Cwnstablaeth newydd De Cymru. Gwelwyd tua 350 yn ymddeol neu’n ymddiswyddo yn ystod 1968 a 1969 – lawer yn uwch na’r cyfartaledd. Un o’r datblygiadau cyntaf oedd cynhyrchu’r Police Magazine ar gyfer y gwnstablaeth. Nid yn unig ei fod yn cynnig newyddion am newidiadau staff a digwyddiadau cymdeithasol, ond roedd hefyd yn fforwm i gyfnewid ystod o farn am yr uno.  Roedd rhifyn ym 1970 yn cynnwys y gerdd ganlynol, a ysgrifennwyd gan ‘152G’, sydd efallai yn crynhoi’r agwedd ‘bwrw iddi’ ar draws y llu.

Poem

To some it brought promotion

A move they did not want?

For others, no commotion

But don’t give up and daunt

 

We’ve had it now for many a day

And things are settling down

For those who sighed are heard to say

“I was too quick to frown”

 

And now we four are joined as one

To form a brand new force

A good beginning has begun

We are the best, of course.

 

So let us make our motto

“Forever we are best”

Until the day we have got to

Amalgamate with the rest

[Cymerwyd o South Wales Police Magazine, Hydref 1970, t73 (DSWP/52/1)].

Nid oedd casgliad Melbourne Thomas felly ar ddiwedd 1969, bod …y teimlad cyffredinol o gynnydd bellach yn galonogol… , yn bell o’r nod. Roedd Cwnstablaeth De Cymru, er yr heriau o sawl cyfeiriad, bellach a’i draed danno.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gellir dod o hyd i gofnodion ar ffurfio Heddlu De Cymru yn Archifau Morgannwg, gan gynnwys adroddiad y Prif Gwnstabl ar gyfer 1969-1970 (DSWP/16/2). Mae’r llythyron o’r Prif Gwnstabliaid yn DSWP/29/7 (26 Mehefin 1967) a DSWP/29/7 (1 Mai 1969). Ceir copïau cynnar o Gylchgrawn Heddlu De Cymru yn DSWP/52/1. Mae copïau o’r Western Mail ar gyfer y cyfnod, gan gynnwys yr erthygl ar ffurfio Heddlu De Cymru ar 1 Mehefin 1969, ar gael yn Llyfrgell Treftadaeth Cathays.

 

Castell Coch, Tongwynlais

Tybir fod y Castell Coch gwreiddiol yn dyddio o’r 12fed neu’r 13fed ganrif.  Daw ei enw o liw y garreg dywodfaen leol yr adeiladwyd y castell ohoni.  Gadawyd y castell i fynd â’i ben iddo yn weddol gynnar, roedd yn rhan or ystadau a gysylltwyd â Chastell Caerdydd.  Erbyn y 19eg ganrif dim ond y sylfaeni oedd yn weddill.

D1093-1-2 p26

Ym 1871, comisiynwyd William Burges gan yr Ardalydd Bute i ail-godi’r castell fel preswylfa wledig i’w ddefnyddio’n achlysurol ym misoedd yr haf, gan ddefnyddio’r olion canoloesol fel sylfaen i’r dyluniad.  Ailgodwyd muriau allanol y castell rhwng 1875 a 1879, ond bu farw ym 1881 cyn cwblhau y gwaith ar y tu mewn.  Cwblhawyd hyn gan aelodau eraill ei dîm ym 1891. Ystyrir fod y tu allan yn adlewyrchiad gweddol gywir o gastell o’r Oesoedd Canol, er bod gan arbenigwyr amheuaeth am ddilysrwydd y tyrrau conigol.  Fodd bynnag, mae’r tu mewn yn ffantasi o symbolaeth ac addurno lliwgar y mae’n rhaid i chi ei weld drosoch eich hun er i’w werthfawrogi.

Go anymarferol yw’r adeilad fel gofod i fyw ynddo ac ychydig iawn o ddefnydd felly a fu arno.  Ers 1950, mae Castell Coch wedi bod yn nwylo’r wladwriaeth ac ar hyn o bryd fe’i rheolir gan CADW fel atyniad i dwristiaid ac fel lleoliad ar gyfer priodasau a digwyddiadau eraill.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Capel Heol y Crwys (Mosg a Chanolfan Ddiwylliannol Islamaidd Shah Jalal), Heol y Crwys, Caerdydd

Cafodd cynlluniau yr adeilad eu cymeradwyo ym mis Mai 1884 ar gyfer codi Capel Fethodistaidd Galfinaidd ar May Street, Cathays.  Mae’r adeilad hwnnw, a ddyluniwyd gan J P Jones, bellach yn cael ei ddefnyddio gan Fyddin yr Iachawdwriaeth.

Wedi tyfu’n rhy fawr i’w lleoliad ar May Street, derbyniodd yr eglwys gymeradwyaeth ym mis Mai 1899 i godi capel newydd ar Heol y Crwys.  Wedi ei ddylunio gan bensaer lleol, John H Phillips, roedd i’r adeilad fan addoli mawr ar lefel y stryd, gydag oriel uwchlaw ac ysgoldy a festri ar y llawr gwaelod is.  Roedd y driniaeth i’r wedd flaen yn eithaf addurnedig gyda llinellau to bwaog a grisiau tyredog.  Y tu mewn i’r capel sydd i’w weld ym mraslun Mary Traynor.

D1093-1-1 p17

Yn ystod y 1930au, daeth y Methodistiaid Calfinaidd yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru.  Ym 1975, chwyddwyd cynulleidfa Heol y Crwys yn dilyn cau’r ‘fam eglwys’ wreiddiol ar ffordd Churchill, ac rai blynyddoedd yn ddiweddarach, fe symudon nhw i gyn-eglwys o eiddo’r Gwyddonwyr Cristnogol ar Heol Richmond, a gaiff ei adnabod bellach fel Eglwys y Crwys.  Yn dilyn hynny, troswyd adeilad Heol y Crwys i wasanaethu fel Mosg a Chanolfan Ddiwylliannol Islamaidd Shah Jalal.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/1)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynllun ar gyfer capel Fethodistaidd newydd, May Street, 1884 (cyf.: BC/S/1/4307)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynllun ar gyfer capel Fethodistaidd Calfinaidd Cymraeg, Heol y Crwys, 1899 (cyf.: BC/S/1/13732)
  • Bowen, Parch Thomas:  Dinas Caerdydd a’i Methodistiaeth Galfinaidd
  • Rose, Jean: Cardiff Churches through time

 

Brynderwen, 49 Fairwater Road, Caerdydd

Ar 8 Mai 1878, cymeradwyodd Awdurdod Glanweithdra Gwledig Caerdydd gynlluniau a luniwyd gan John Pritchard, Pensaer Esgobaethol Llandaf, ar gyfer adeiladu tŷ ar ddarn mawr o dir ger Cwrt Insole.  Cleient Pritchard oedd Evan Lewis, perchennog pyllau glo yn ardal Aberdâr.  Erbyn cyfrifiad 1881, roedd Lewis, a oedd yn 58 oed ar y pryd, yn byw ym Mrynderwen gyda’i wraig a’u hwyth o blant.  Roedd yr aelwyd hefyd yn cynnwys mam Mrs Lewis a saith gwas.  Er nad oedd ganddo rôl flaenllaw mewn materion cyhoeddus, roedd Evan Lewis yn ynad lleol a gwasanaethodd am sawl blwyddyn fel warden eglwys yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

D1093-1-2 p10

Bu farw Evan Lewis ym 1901 ac aeth Brynderwen wedyn i feddiant John Llewellyn Morgan, unig blentyn David Morgan, sylfaenydd y siop adrannol a oedd yn masnachu yng nghanol Caerdydd tan 2005. Mae cyfrifiad 1911 yn ei restru ef ynghyd â’i wraig Edith, dau o’u meibion, a thri gwas.    Bu farw John Llewellyn Morgan ym 1941 ond roedd Edith wedi’i rhestru ym Mrynderwen o hyd yn Nghyfeirlyfr Caerdydd 1949.  Ond erbyn 1952, roedd y tŷ ym meddiant yr Uwch-gapten Evan John Carne David, aelod o’r teulu David a oedd yn berchen ar ystadau Plas Fairwater a Radyr Court gynt.  Wedi’i eni ym 1888, roedd yn gwasanaethu fel Ynad Heddwch a Dirprwy Raglaw Morgannwg ac roedd yn Uchel Siryf y sir ym 1930. Ar ôl marwolaeth yr Uwch-gapten David ym 1982, cafodd y tai eu dymchwel ac adeiladwyd datblygiad o ryw 26 tŷ ar wahân yn eu lle, o’r enw Hardwicke Court.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/2)
  • Cofnodion Cyngor Dosbarth Gwledig Caerdudd, cynlluniau ar gyfer ty yn Llandaf ar gyfer Mr Evan Lewis, Llandaf, 1878 (cyf.: RDC/S/2/1878/8)
  • Hanes y Teulu David o’r Tyllgoed (cyf.: DDAV/1)
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • Morgan, Aubrey Niel: David Morgan 1833-1919 The Life and Times of a Master Draper in South Wales
  • Cyfrifiad 1881 – 1911
  • The Cardiff Times, 10 Chwefror 1883
  • Weekly Mail, 14 Chwefror 1885
  • Weekly Mail, 16 Ebrill 1887
  • The Cardiff Times, 31 Mawrth 1894
  • Evening Express, 17 Ebrill 1900
  • Evening Express, 11 & 14 Tachwedd 1901
  • The Times, 27 Mawrth 1982

Adeiladau Boston, 68-72 Stryd James, Caerdydd

Ar 21 Mawrth 1900, rhoddwyd caniatâd i’r awdurdod lleol i adeiladu adeilad ar ochr ogleddol Stryd James, wrth y gyffordd â’r llwybr oedd yn rhedeg ar hyd Camlas Sir Morgannwg.  Roedd ynddo ddwy siop ar y llawr gwaelod â’u hisloriau eu hunain ac roedd mynedfa ganolog at swyddfeydd ar y llawer cyntaf a’r ail lawr.  Wedi ail-rifo sawl blwyddyn yn hwyrach, daeth y siopau’n 68 a 72 Stryd James a rhif 70 oedd y swyddfeydd.

D1093-1-4 p4

Codwyd y safle, a ddyluniwyd gan y pensaer o Gaerdydd, Edgar Down, i Rose & Co., Engineers, oedd yn Adeiladau Royal Stuart ar ochr arall Stryd James.  Ganwyd y perchennog, Joseph Rose, yn Leake, ger Boston, Lincolnshire, felly mae o bosibl yn rhesymol cymryd mai dyma darddiad yr enw Adeiladau Boston, sydd yn dal i ymddangos mewn haearn gwaith uwchben y llinell doeau.  Mae arfau Bwrdeistref Boston cyn 1974 wedi’u cerfio yn y gwaith carreg yn un cornel.

Perchenogion llongau a brocwyr oedd meddianwyr cynharaf y lle swyddfa, ond wrth i bwysigrwydd Caerdydd fel porthladd ddirywio’n raddol, roedd tenantiaid ar ôl hynny’n amrywio’n ehangach i gynnwys busnesau argraffu, broceriaid stoc ac yswiriant, ynghyd â gweithwyr proffesiynol megis cyfreithwyr, cyfrifwyr a pheirianyddion ymgynghorol.

Trwy chwarter cyntaf yr 20fed ganrif, roedd cigydd, Thomas Morgan, yn y siop yn 68 Stryd James (T Morgan & Sons yn hwyrach).  Ond erbyn 1929, roedd yr uned wedi’i chymryd gan Kristensen & Due, masnachwyr llongau, oedd yno tan o leiaf y 1970au; yn ystod llawer o’r amser hwn, roedd Mr Kristensen yn gwasanaethu fel Conswl Danaidd yng Nghaerdydd.  Mae’n llai hawdd olrhain deiliadaeth yr ail siop; ond rhwng y 1950au a’r 1970au, gwerthwr baco, Anthony Nethercott, oedd y tenant.  Er bod braslun Mary Traynor yn ei nodi fel siop bob peth a bar byrbrydau, roedd sigaréts tra hysbys yn dal i gael ei hysbysebu’n amlwg.

Yn ddiweddarach, roedd rhif 68 yn gwasanaethu’n Ganolfan Cyngor a Gwybodaeth Somaliaidd, tra roedd 72 yn swyddfa i’r rhaglen cymorth i deuluoedd Dechrau’n Deg.  Heddiw mae asiant tai a chwmni rheoli eiddo’n meddiannu’r unedau siop.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/4)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer adeilad newydd, Stryd James, 1900 (cyf.: BC/S/1/14110)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, Glamorganshire Canal Navigation, Memorandwm Cytundeb, 1904 (cyf.: BC/GCA/4/162)
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • Cyfrifiad 1881 – 1901
  • Google Streetview

Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd

Mae Tŷ Baltig yn dyddio o tua 1915, pan gymerodd le 17, 18 a 19 Sgwâr Mount Stuart mewn safle amlwg gyferbyn â phrif fynedfa’r Gyfnewidfa Lo.  Y penseiri oedd Teacher & Wilson a’r cleient oedd Claude P Hailey, cyfrifydd lleol a roddodd dir ar gyfer Parc Hailey yn Ystum Taf yn ddiweddarach.

D1093-1-6-18

Mae’r adeilad, sydd â phum llawr ac islawr, yn anarferol o anghymesur, gyda bae mwy addurniadol yn y pen dwyreiniol.  Mae’r cynllun adeiladu a gymeradwywyd yn dangos y dylai fod estyniad gorllewinol cyfatebol, ond ni chafodd ei adeiladu, yn amlwg.

Roedd y meddianwyr cynharaf yn cynnwys partneriaeth gyfrifyddiaeth Mr Hailey gyda Syr Joseph Davies, a Mount Stuart Square Office Co Ltd, sef cwmni rheoli’r adeilad yn ôl y tebyg.  Roedd Business Statistics Publishing Co Ltd a’r Incorporated South Wales and Monmouthshire Coal Freighters Association – yr oedd y ddau yn gysylltiedig â Davies a Hailey – hefyd wedi’u lleoli yma.  Roedd y tenantiaid eraill yn dueddol o fod yn allforwyr glo neu’n gwmnïau cludo.  O’r cychwyn cyntaf tan o leiaf ganol y 1950au, roedd caffi ar y llawr daear.  Tra bod patrymau busnes wedi arwain at newid mewn meddiannaeth dros y blynyddoedd, parhaodd Tŷ Baltig i gartrefu nifer o gwmnïau môr-gludo a theithio ymhell i mewn i’r 1960au.

Yn ystod y 1990au, Tŷ Baltig oedd prif swyddfa Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd a feistrolodd adfywiad dociau a glannau digalon y ddinas.  Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn gartref i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ynghyd â nifer o sefydliadau trydydd sector.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/6)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer swyddfeydd, Sgwâr Mount Stuart, 1913 (cyf.: BC/S/1/18776)
  • Cofnodion Evan Thomas, Radcliffe and Company, Caerdydd, prydles am 21 o flynyddoedd, 1916 (cyf.: DETR/92/1-3)
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • Cardiff Year Book 1921
  • Wales Yearbook 2000
  • http://www.friendsofhaileypark.org.uk/claude-hailey.html
  • http://www.wcva.org.uk/