Y Cwch Pysgota ‘Ann Hewett’

Mae papurau J J Neale, cyd-berchennog masnachwyr pysgod Caerdydd, Neale and West, yn cynnwys casgliad helaeth o ddelweddau morwrol sy’n dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Ynghyd â ffotograffau o fflyd bysgota Neale and West mae hefyd nifer o ffotograffau o gychod a oedd heb rhyw lawer o gysylltiad â Neale and West neu Gaerdydd. Ymddengys y cawsant eu dethol a’u hychwanegu i’r casgliad oherwydd, ym mhob achos, yr oeddent yn cael eu hystyried yn ‘rhywbeth arbennig’.

DX194-8-17

Llong bysgota LO77 ar lawn hwyl (DX194/8/17)

Ar yr olwg gyntaf efallai byddwch yn gofyn pam cafodd y ffotograff o gwch pysgota ei gynnwys yn y casgliad, o ystyried, ar ddechrau’r 19eg ganrif, bod miloedd o gychod pysgota bach mewn porthladdoedd o amgylch arfordir Prydain. O’r rhif cofrestru ar yr hwyl, fodd bynnag mae bron yn sicr bod y ffotograff o’r Ann Hewett. Wedi’i adeiladu yn Gravesend ar gyfer teulu Hewett, perchnogion y fflyd Short Blue, ar gost o £1,200, roedd gan yr Ann Hewett y marc cofrestru LO77 am dros 50 o flynyddoedd.

DX194-8-14

Llwytho’r ddalfa o fwrdd y llong bysgota i gwch rhwyfo (DX194/8/14)

Wedi’i lansio ym mis Tachwedd 1836, ymunodd yr Ann Hewett â fflyd a oedd, erbyn canol y 19eg ganrif yn fflyd pysgota fwyaf y byd. Lleolwyd y fflyd Short Blue yn Barking, porthladd cartref dros gant o gychod pysgota yn y 1830au. Mae’n anodd credu nawr ond, bryd hynny, hwyliodd cychod pysgota i fyny afon Tafwys, bron i ganol Llundain, a dadlwytho’r hyn a ddalwyd ganddynt yn Barking i’w werthu ym marchnad pysgod Billingsgate.

DX194-8-73

Gwagio’r rhwyd (DX194/8/73)

Y broblem fwyaf a wynebodd fflyd Short Blue a’i chystadleuwyr oedd, oni bai bod y pysgod yn cael eu halltu, bod rhaid i gychod ddychwelyd i Barking bob ychydig o ddyddiau er mwyn i’r hyn a ddalwyd ganddynt gael ei gludo’n ffres i Billingsgate. Adeiladwyd yr Ann Hewett yn ôl dyluniad, fwy na thebyg a ddatblygwyd gan yr Iseldirwyr yn yr 18fed ganrif, i fynd i’r afael â’r broblem hon. Mewn sawl ffordd roedd yn debyg i lawer o gychod hwylio eraill, yn 60 troedfedd o hyd, yn pwyso tua 50 tunnell a chyda chriw o 8. Fodd bynnag, roedd yn wahanol mewn un ffordd bwysig, sef y cafodd ei adeiladu gyda chafn mawr yn rhan ganol y cwch lle y gellid cadw pysgod yn fyw nes iddo ddychwelyd i’r porthladd. Rhwng y 2 hwylbren ac wedi’i selio oddi wrth weddill y cwch gan adrannau dwrglos, cafodd y cafn ei lenwi gyda dŵr y môr a aeth i mewn trwy dyllau bach wedi’u drilio i mewn i gorff y cwch o dan linell y dŵr.

Roedd yn ddyluniad a oedd, ar y pryd, wedi chwyldroi pysgota dwfn yn y môr ledled y byd. Adwaenwyd y cychod newydd fel ‘cychod cafn’; roeddent yn ddrud eu hadeiladu ac yn anodd eu symud wrth eu hwylio. Fodd bynnag, roedd y gost yn talu ar ei ganfed, gan fod y cafn yn galluogi cychod i deithio ymhellach allan i’r môr a physgota am nifer o wythnosau cyn dychwelyd gyda physgod ffres wedi’i cadw yn y cafn. Ond yn eironig, bu’n rhaid i’r Ann Hewett drosglwyddo ei bysgod i gychod hatsh yn Gravesend i’w cludo i Billingsgate. Hyd yn oed yn hanner cyntaf y 19eg ganrif roedd y Tafwys yn llygredig a byddai caniatáu i ddŵr yr afon ddod i mewn i’r cafn wedi difetha’r pysgod.

DX194-8-77

Dangos cath fôr mawr (DX194/8/77)

Ond eto, hyd yn oed cyn dyfodiad y treill-longau stêm, yn ail hanner y 19eg ganrif, roedd mantais gystadleuol y cwch cafn yn cael ei herydu. Roedd datblygu ‘pysgota fflyd’ gyda niferoedd mawr o gychod pysgota yn cael eu gwasanaethu gan wennol gyson o gychod llai yn mynd â’r pysgod i’r lan yn golygu bod y cafn o lai o werth. Yn ogystal, darparodd defnyddio iâ, a arloeswyd gan fflyd Short Blue yn Lloegr ffyrdd eraill o gadw’r pysgod yn ffres allan yn y môr.

Ar y dechrau cafodd iâ ei fewnforio, a oedd yn weddol gostus, o Norwy, a’i storio am hyd at flwyddyn mewn tai iâ dwfn â waliau trwchus a adeiladwyd yn y porthladdoedd. Yn fuan, fodd bynnag, cafwyd cyflenwadau gan ffermwyr lleol ar hyd arfordir dwyreiniol Prydain a sylweddolodd bod modd gwneud arian trwy greu llifogydd ar eu tir ym misoedd y gaeaf a gwerthu’r iâ i’r masnachwyr pysgod.

Gwerthwyd yr Ann Hewett ar ôl tuag ugain mlynedd o wasanaeth ond parhaodd i weithio fel cwch pysgota tan ddiwedd yr 1880au. Mae’n debygol y cafodd ein ffotograff ei dynnu pan oedd mewn perchnogaeth newydd oherwydd nad oes unrhyw arwydd o’r faner fach sgwâr – y ‘short blue’ – a oedd yn arfer hedfan ar frig yr hwylbren gan y fflyd Short Blue.

Nid oes unrhyw gofnodion o’r Ann Hewett yn ymweld â de Cymru, ond roedd un cysylltiad. Ym mis Mawrth 1872 roedd yn rhan o wrthdrawiad ym Môr y Gogledd gyda’r llong fawr o Norwy, y Septentrio. Collwyd un o’i chriw dros ochr y llong ond cafodd ei godi gan y Septentrio. Mewn moroedd trwm roedd yn amhosibl dychwelyd i’r Ann Hewett, felly nid oedd llawer o ddewis ond iddo aros ar y llong. Digwyddodd bod y Septentrio yn cludo coed o Norwy i Gaerdydd. Mae’n rhaid ei fod wedi bod yn brofiad rhyfedd i bysgotwr o arfordir dwyreiniol Lloegr, yn treulio pythefnos gyda chriw o Norwy ac wedyn cael ei ddadlwytho yn Noc Dwyrain Bute pan gyrhaeddodd y Septentrio yng Nghaerdydd ar 2 Ebrill 1872. Gadewch i ni obeithio bod Caerdydd wedi rhoi croeso cynnes iddo cyn iddo gychwyn ar y daith hir yn ôl i arfordir y dwyrain ac i’r Ann Hewett.

Mae’r ffotograff o’r Ann Hewett yn un o gasgliad a ddelir gyda phapurau J J Neale yn Archifau Morgannwg dan gyfeirnod DX194. Gellir ei weld ar-lein ar http://calmview.cardiff.gov.uk/.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ystafell Fahogani Fulton Dunlop, Heol Sant Ioan, Caerdydd

Tafarn ar gornel Heol y Dug a Heol Sant Ioan, Caerdydd oedd y ‘New Green Dragon’.  Mae rhai ffynonellau’n awgrymu ei fod yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 18fed ganrif; fe’i rhestrwyd yn sicr mewn cyfeirlyfr o 1813, pan nodwyd mai’r perchennog oedd David Harris.  Roedd ei enw yn ei wahaniaethu oddi wrth yr ‘Old Green Dragon’, oedd hefyd yn Heol y Dug.

Ym 1859, caffaelwyd y New Green Dragon gan Fulton Dunlop & Company, a oedd yn werthwyr gwin a gwirodydd cyfanwerthu a manwerthu wrth barhau i gadw bar cyhoeddus.  Ym mis Chwefror 1906, rhoddwyd cymeradwyaeth adeiladu i gynigion y cwmni – a luniwyd gan y pensaer Edward Bruton – ar gyfer newidiadau mawr i’r safle.  Yn allanol, ymddengys nad yw adeilad Bruton wedi newid rhyw lawer, ac erbyn hyn mae’n cael ei feddiannu gan gangen o Burger King.

D1093-1-4 p27

Y tu mewn, roedd y llawr gwaelod yn cynnwys adran gyfanwerthu ar un pen gyda’i mynedfa yn Heol y Dug; roedd mynedfa’r bar manwerthu yn Heol Sant Ioan.  Rhwng y ddau, a hefyd yn Heol Sant Ioan, roedd mynedfa ar wahân oedd yn agor i risiau a arweiniai i’r llawr cyntaf.  Ar y lefel hon, creodd Bruton un ystafell fwyta grand ag uchder dwbl.  Mae adroddiadau’n awgrymu bod rhai o ddinasyddion amlycaf Caerdydd yn mynychu’r ystafell hon. Dywedir bod deliau busnes a hyd yn oed penderfyniadau’r Cyngor wedi’u gwneud yno.

Parhaodd Fulton Dunlop i fasnachu tan y 1960au, pan ddaeth y llawr gwaelod yn ystafell arddangos ar gyfer Bwrdd Nwy Cymru.  Yn ddiweddarach, bu’n gartref i arddangosfa gwyddoniaeth ymarferol Techniquest, cyn dod yn siop bwyd cyflym.  Trwy’r holl newidiadau hyn, mae’r ystafell fahogani – y mae un gornel ohoni’n ymddangos yn fraslun Mary Traynor –wedi goroesi.  A hithau’n 28 troedfedd o hyd a 17 troedfedd o led, mae’r ystafell fwyta wedi’i leinio â phaneli mahogani, wedi’u haddurno’n helaeth yn y dull canoloesol, ac mae’n cynnwys gwydr lliw yn ei ffenestri.  Yn rhestredig gradd II, mae bellach yn  rhan o swyddfeydd Burger King.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

 

Fairwater House, Llandaf, Caerdydd

Saif Fairwater House ger pen gorllewinol Heol y Tyllgoed, Caerdydd, mwy neu lai’n gyferbyn â’r Ganolfan Sgïo ac Eirfyrddio bresennol.

D1093-1-5 p31

Wedi’i gynllunio gan David Vaughan, fe’i codwyd ym 1844 ar gyfer Evan David, perchennog tiroedd sylweddol ym Morgannwg ac mewn mannau eraill.  Fel yr adeiladwyd yn wreiddiol, roedd gan y tŷ deulawr ddwy brif ystafell fyw, sef ystafell fwyta a pharlwr, gyda’r ddwy ar ochr ddeheuol y llawr gwaelod.  Lan lofft roedd naw ystafell wely o wahanol feintiau, ac ‘ystafell fach’.  Nid oes unrhyw ystafell ymolchi yn ymddangos ar y cynllun.  Roedd yr adeiladau allan yn cynnwys cerbyty a stabl gyda 4 côr.

Bu farw Evan David ym 1862 a’i wraig, Anne, ym 1867.  Yna symudodd eu mab, Evan Williams David, i Fairwater House a dywedir ei fod wedi ehangu a gwella’r adeilad ar gost sylweddol, er mai dim ond am gyfnod cymharol fyr roedd yn gallu mwynhau’r tŷ cyn iddo ef farw ym 1872.

Roedd gan Evan Williams David dri o blant, gan gynnwys gefeilliaid Evan Edgar a Jessie Anne, a aned ym 1853.  Priododd Jessie George Frederick Insole ym 1878 a buont yn byw yn Fairwater House am rai blynyddoedd.  Fodd bynnag, trosglwyddwyd yr eiddo yn ddiweddarach i fab Evan Edgar, Uwchgapten Evan John Carne David, a wasanaethodd fel Uchel Siryf Morgannwg ym 1930.  Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, symudodd yr Uwchgapten David allan a daeth Fairwood House yn hostel yr awdurdod lleol ar gyfer dynion oedrannus.  Fe’i caewyd yn y 1980au a’i ddymchwel yn ddiweddarach.  Mae datblygiad tai modern bellach ar y safle.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/5)
  • Papurau David Vaughan, Pensaer o Dresimwn, Llandaf Fairwater House: cynllun a gweddlun ar gyfer Mr. E. David, 1844 (cyf.: DV/31/1-3)
  • Hanes y Teulu David o’r Tyllgoed (cyf.: DDAV/1)
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • Who’s Who in Wales 1933
  • Williams, George: A List of the Names and Residences of the High Sheriffs of the County of Glamorgan from 1541 to 1966
  • Cyfrifiad 1851 – 1891
  • Calendrau Profeb Cenedlaethol Lloegr a Cymru 1863, 1868, 1872 & 1927
  • Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caergrawnt, 1261-1900

 

Y Dreill-long Tamura

Mae’r ffotograffau a gedwir yn Archifau Morgannwg yn cynnwys nifer o fflyd llongau pysgota Neale and West a oedd yn gweithredu o Gaerdydd ac Aberdaugleddau o 1888. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys lluniau o’r fflyd o dreill-longau ager a gyflwynwyd i Gaerdydd gan y cwmni newydd. Gyda’u cyrff dur a thanwydd glo lleol rhad, buan y disodlodd y treill-longau’r badau hwyl bychain a fyddai’n pysgota ar Fôr Hafren.  Gyda phŵer ager a rhew i gadw’r pysgod yn ffres, daeth y cyfle i fflyd o Gaerdydd allu mynd i’r môr dwfn i bysgota. Yn ogystal, gyda diwydiant a masnach yn dod â niferoedd mawr o bobl i dde Cymru, roedd marchnad barod ar gyfer y pysgod a ddeuai treill-longau Neale and West i Ddoc Gorllewinol Bute.

DX194-8-76

Y Tamura wedi docio (DX194/8/76)

Mae’r ffotograff uchod o’r dreill-long Tamura. Gellid adnabod llawer o fflyd Neale and West drwy ddefnyddio enwau Siapaneg. Credir bod yr arfer hwn wedi datblygu o ganlyniad i gysylltiadau â chwmnïau pysgota o Siapan ac mewn ambell ffordd, mae hyn yn swnio’n wir. Ar droad y ganrif roedd y Japaneaid yn ceisio moderneiddio eu fflyd bysgota ac roedd parch mawr at ddyluniad a dulliau fflyd longau Prydain, a chânt eu hefelychu yn eang.

Gall adnabod treill-longau penodol fod yn anodd gan fod enwau’n cael eu hailddefnyddio’n aml, ac roedd dwy dreill-long yng Nghaerdydd o’r enw Tamura. Yn rhan o raglen adnewyddu fflyd bysgota Caerdydd gyda threill-longau ager diweddarach a mwy, adeiladwyd y Tamura gyntaf ar gyfer Neale and west ym 1917 yn yr iardiau llongau yn Selby yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.  Fodd bynnag, cafodd y dreill-long fwyaf newydd ei hawlio ar unwaith gan y Llynges Frenhinol a gwasanaethodd tan ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf fel llong glirio ffrwydrynnau.

Collwyd nifer o dreill-longau Neale and West a ddefnyddiodd y Llynges naill ai oherwydd ffrwydrynnau neu ymosodiadau gan gychod U. Nid dyma fu tynged y Tamura ond byr fu ei hamser gyda fflyd Caerdydd. Erbyn 1919 roedd yn ôl yng Nghaerdydd a chofnodwyd hi, yn ddadleuol, yn codi dalfa yn Pier Head, mewn dociau a oedd ar glo yn ystod streic. Bedair blynedd yn ddiweddarach, fodd bynnag, drylliodd ar greigiau mewn niwl, yn agos i Benrhyn y Santes Ann yn Sir Benfro. Er i’r capten a’r criw lwyddo i gyrraedd y lan yn ddiogel, collwyd y dreill-long.

DX194-8-68

Treill-long anhysbys wedi taro creigiau (DX194/8/68)

O fewn blwyddyn roedd y Tamura wedi ei disodli gan dreill-long newydd o’r un enw a honno hefyd wedi’i hadeiladu yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, ym Middlesbrough y tro hwn. Ymddengys, ar adegau, y bu’r busnes yn dda.  Cofnododd un adroddiad fod y Tamura, gyda thair treill-long arall gan Neale and West, wedi dal 1600 o flychau o bysgod mewn un diwrnod yng Nghaerdydd. Deuai fflyd Caerdydd â chegddu adref yn bennaf, ond y diwrnod hwnnw roedd y ddalfa yn cynnwys penfreision, mecryll, lledod, cathod môr a draenogiaid y môr.  Roedd yn amlwg, fodd bynnag, bod y fflyd eisoes yn gorfod mynd llawer ymhellach, a byddai’r Tamura yn aml yn gweithredu ym Môr yr Iwerydd, tua’r gorllewin o Iwerddon.

DX194-8-5

Treillwyr yn gollwng rhwydau (DX194/8/5)

Fel bob amser roedd y peryglon yn arwyddocaol i’w chriw o 12, a fyddai’n aml i ffwrdd am bythefnos neu fwy, yn agored i holl rymoedd yr Iwerydd.  Ym mis Tachwedd 1927 taflwyd prif swyddog y Tamura i’r môr gan don anferth a boddodd yn y dymestl. Yn yr un storm collodd un o’r criw, hefyd o Gaerdydd, dri bys ar ôl i’w law gael ei dal mewn winsh.

DX194-8-6

Treillwyr yn glanio pysgod (DX194/8/6)

Er bod Neale and West yn parhau i weithredu o Gaerdydd tan 1956, bu’r Tamura yn un o nifer o dreill-longau a werthwyd i gwmni yn Aberdaugleddau ym 1931. Bu’n gweithio o Aberdaugleddau tan 1939 pan, fel ei rhagflaenydd, hawliwyd hi gan y Llynges Frenhinol. Fel yr HMT Comet, ar un adeg; cafodd y dasg anodd o weithredu fel magl i ddenu cychod U yr Almaen i’r wyneb er mwyn i’r Llynges Frenhinol allu ymosod arnynt. Yn anffodus, blwyddyn yn unig y bu hi yn y llu morol, oherwydd suddodd ar ôl taro ffrwydryn oddi ar arfordir Falmouth ym mis Medi 1940.

Mae dirgelwch o gylch ein ffotograff o’r Tamura.  Mae’r cofnodion rydym wedi cael gafael arnynt yn dweud bod y treill-long wedi ei chofrestru yng Nghaerdydd dan CF47 ym 1917. Credwn fod yr ail dreill-long yn defnyddio CF12, tan ei throsglwyddo i Aberdaugleddau. Ac eto mae ein ffotograff yn dangos CF13 yn glir. A gafodd ei newid ar ryw bwynt oherwydd amharodrwydd i hwylio treill-long a gofrestrwyd dan rif 13? Os oes unrhyw un a all ein helpu i egluro’r dirgelwch hwn, yna cysylltwch â ni.

Mae’r ffotograff o’r Tamura yn un o gasgliad a ddelir gyda phapurau J J Neale yn Archifau Morgannwg dan gyfeirnod DX194. Gellir mynd atynt ar-lein ar http://calmview.cardiff.gov.uk/.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Y Barque Favell – “Fy Llong Dlos o Fryste”

Ymhlith y nifer o ffotograffau a gedwir yn Archifau Morgannwg, mae casgliad o luniau morol a roddwyd gyda phapurau J.J Neale, cydberchennog Neale and West, masnachwyr pysgod cyfanwerthol yng Nghaerdydd. Mae nifer yn cynnwys eu fflyd o dreillongau a arferai weithio o Gaerdydd ac Aberdaugleddau. Mae casgliad bychan o ffotograffau o longau a welid bryd hynny fel ‘rhywbeth arbennig’, ac roedd y Barque Favell yn sicr yn deilwng o’r disgrifiad hwnnw.

DX194-7-5

Y barque Favell yn cyrraedd Bae Falmouth, Mehefin 1930 (DX194/7/5)

Favell oedd y llong hwylio’r dyfnfor olaf a adeiladwyd ym Mryste gan Charles Hill and Sons, a chafodd ei henwi ar ôl gorwyres sefydlwr y cwmni.  Roedd y llong, a lansiwyd ym 1895, gyda’i thri mast, ei chorff dur a’i hadeiladwaith llyfn, yn berffaith ar gyfer masnachu rhwng Prydain ac Awstralia yn cario grawn. Mae’r tri ffotograff hyn i gyd o 1930 pan aeth y Favell a hyd at 20 llong arall a elwid y ‘windjammers’ ar ras flynyddol o Awstralia yn cludo grawn. Hi oedd yr ail ‘windjammer’ i gyrraedd Falmouth y flwyddyn honno, wedi gwneud y daith mewn 115 diwrnod. Gellid bod wedi ystyried y buasai morio llong hwylio rownd yr Horn yn dipyn o orchwyl i’w chriw o 26 ond ar y daith allan, chwythodd cylchwynt o Ynysoedd Cabo Verde bob hwyl ond un oddi arni.

DX194-7-4

Y barque Favell ‘ger yr horn’, 1930 (DX194/7/4)

Bu’n dipyn o achlysur pan gyrhaeddodd Favell ddociau Caerdydd ar 11 Medi 1934 yn cludo dwy fil tunnell o grawn ar gyfer melinau Spillers. Roedd ffotograffau o’r Favell yn y papurau lleol, ynghyd â chyfweliad ag un o’i chriw a oedd wedi gweithio i gwmni Hain Steamship.  Roedd y daith o Awstralia y flwyddyn honno wedi cymryd 149 diwrnod a disgrifiodd y ‘moroedd anferthol’ a wynebont ar ôl ‘hedfan’ rownd yr Horn.  Ar un adeg cafodd aelod o’r criw ei drosglwyddo i long Monowai yn sling y llong i gael triniaeth feddygol, ond eto daeth i’r casgliad bod …bywyd morol yn wych a hoffwn ei weld yn cael ei adfywio yn ein gwlad ni.

Y gwir amdani oedd nad oedd bellach yn gwneud synnwyr busnes cadarn i ddefnyddio llongau hwylio i fewnforio grawn o Awstralia. Cafodd y Favell ei chynnal yn ei blynyddoedd olaf gan y cyfleoedd a gynigai i’r rhai roedd angen profiad hwylio arnynt fel rhan o sicrhau eu tystysgrifau is-gapten. O Gaerdydd gadawodd am Helsingfors yn y Ffindir a’r iard dorri. Wrth iddi hwylio heibio i Lands End ar ei thaith olaf, adroddodd y papurau lleol eu bod wedi gweld y llong …â’i holl hwyliau wedi codi, gan roi golygfa hardd i’r rhai a oedd yn ddigon ffodus i’w gweld.

Mae’r ffotograff o Favell yn cyrraedd Falmouth yn 1930 yn debyg iawn i ffotograff a gafodd sylw yng nghylchgrawn cwmni hwylio Pacific Steam, Sea Breezes ym 1931. Mewn erthygl ategol y disgrifiodd ei chapten, Sten Lille, hi fel ‘Fy Llong Dlos o Fryste’.  Mae cymuned forol ym Mryste’n dal i gofio’n annwyl am y Favell ac mae hi ar arwyddlun Bristol Shiplovers’ Society. Ceir hefyd darlun a model o’r Favell yn amgueddfa’r ddinas. Mae model arall i’w gweld yn Llundain yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol. Mae tri ffotograff o’r Barque Favell yn rhan o’r casgliad a gedwir yn Archifau Morgannwg dan gyfeirnod DX194/7/3-5.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg